I ystyried yr adroddiad.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol a Phennaeth y Gwasanaeth Cyfreithiol.
Tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:
Atgoffwyd bod y Tim
Arweinyddiaeth a’r Gwasanaethau Corfforaethol yn cydweithio gyda holl adrannau’r
Cyngor a phartneriaid er mwyn cyfrannu at bolisïau, cynlluniau, prosiectau a
ffrydiau gwaith sydd yn gwireddu amcanion y strategaeth iaith. Rhannwyd
enghraifft o hyn wrth fanylu ar brosiect ‘Mwy Na Geiriau’ gan gadarnhau bod y
Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhan o fwrdd y prosiect ac
wedi cael ei ethol yn Gadeirydd y bwrdd ar gyfer rhanbarth y gogledd yn
ddiweddar.
Adroddwyd bod y
Prif Weithredwr yn cynrychioli Cyngor Gwynedd ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
Gwynedd a Môn gyda chymorth y Cyfarwyddwr Corfforaethol. Adroddwyd y gwelir
newid amlwg mewn nifer o gyfarfodydd y Bwrdd sydd yn cael eu cynnal yn Gymraeg,
gyda’r mwyafrif helaeth o gyfarfodydd yn cael eu cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg
gyda gwasanaeth cyfieithu ar gael. Cadarnhawyd mai dyma’r unig Fwrdd o’i fath
yng Nghymru sydd yn cynnal cyfarfodydd yn Gymraeg a dwyieithog.
Tynnwyd sylw bod
Cyngor Gwynedd yn awdurdod lletya ar nifer o bartneriaethau rhanbarthol megis
Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd. Mynegwyd balchder bod y Cyngor yn llwyddo i
gynnal pob agwedd o’r cyfrifoldeb hwn yn ddwyieithog gyda phwyslais yn cael ei roi
ar yr iaith Gymraeg. Ymhelaethodd Pennaeth y Gwasanaeth Cyfreithiol bod gwaith
wedi mynd rhagddo i symud staff o Gynllun Twf Gogledd Cymru i’r gorfforaeth
newydd ym mis Ebrill eleni. Eglurwyd bod y Gwasanaeth Cyfreithiol yn cydweithio
gyda Cyd-bwyllgor Corfforedig er mwyn datblygu ystod o gytundebau lefel
gwasanaeth hir dymor. Pwysleisiwyd bydd hyn yn golygu bydd y Gwasanaeth
Cyfreithiol yn symud i ffwrdd o drefniant presennol o benodi cyfreithwyr locwm,
sydd ddim yn meddu a sgiliau’r Gymraeg ond yn cael eu penodi yn sgil eu
harbenigedd penodol, er mwyn datblygu timau yng Ngwynedd a all gefnogi’r
Cyd-bwyllgor Corfforedig tra hefyd yn ymrwymo i ofynion Polisi Iaith y Cyngor.
Esboniwyd bod y
Cyfarwyddwr Corfforaethol yn Gadeirydd y Bwrdd Trawsnewid Digidol sydd yn
sicrhau bod y Gymraeg yn ganolog i unrhyw ddatblygiadau systemau digidol yn y
dyfodol, fel rhan o Gynllun Cyngor Gwynedd. Ymhelaethwyd bod Asesiad Addasrwydd
Digidol yn gorfod cael ei gwblhau cyn ymgymryd â systemau digidol newydd, gan
gadarnhau bod ystyriaeth i’r iaith yn rhan o’r asesiad hwn.
Mynegwyd balchder
bod y Tîm Arweinyddiaeth a’r Gwasanaeth Cyfreithiol wedi bod yn cydweithio gyda
CISCO / Webex ar gyfer datblygu system ffôn newydd i staff y Cyngor. Eglurwyd
bod y system hon yn gyrru galwadau ymlaen i aelodau eraill o staff os bydd y derbynnydd
mewn galwad neu gyfarfod rhithiol. Tynnwyd sylw bod y cwmni rhyngwladol hwn
wedi cydweithio gyda’r Cyngor er mwyn datblygu darpariaeth Gymraeg o’r newydd
ar gyfer defnydd staff y Cyngor. Pwysleisiwyd bydd y ddarpariaeth Gymraeg yma
ar gael i sefydliadau a chwmnïau eraill sydd yn dymuno ymgymryd â’r system
oherwydd cydweithrediad y cwmni gyda’r Cyngor.
Cadarnhawyd bod y
Tîm Arweinyddiaeth yn cymryd rhan yng nghyfarfodydd Fforwm Iaith a ddatblygwyd
gan Uned Iaith y Cyngor yn ogystal â’r Grŵp Llywio a sefydlwyd gan
Gomisiynydd y Gymraeg. Mynegwyd balchder bod aelodaeth y Cyngor ar y Grŵp
Llywio yn cael ei weld fel ymgynghorydd arfer dda ymysg y sefydliadau eraill.
Adroddwyd bod
niferoedd staff y Tîm Arweinyddiaeth a’r Gwasanaeth Cyfreithiol gynyddu yn
sylweddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wrth i swyddogion y tîm Busnes a
Chomisiynu a oedd yn rhan o wasanaethau Oedolion drosglwyddo i fod dan ofal y
Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol. Fodd bynnag, pwysleisiwyd
bod 95.6% o staff wedi llwyddo i gwblhau’r hunanasesiad iaith. Cadarnhawyd mai
dim ond 5 aelod o’r staff sydd wedi cwblhau’r hunanasesiad sydd ddim yn cyfarch
anghenion iaith eu swyddi ond bod pob ymdrech yn cael ei wneud i ddysgu’r iaith
drwy hyfforddiant iaith a’r cynllun Cyfeillion Cymraeg.
Amlygwyd bod y
Gwasanaeth Etholiadol wedi ehangu cynrychiolaeth y Cyngor ar gyrff cenedlaethol
megis Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru. Eglurwyd bod cynrychiolaeth Cyngor
Gwynedd ar gyrff eraill yn gatalydd i ddatblygiadau ieithyddol y tu hwnt i’r
Cyngor gan arwain at newid cenedlaethol. Mynegwyd balchder bod newid yn cael ei
weld ar systemau etholiadol megis ffurflenni allweddol a meddalwedd prosesau,
wrth iddynt drosi i fod yn ddwyieithog. Cadarnhawyd bod sefydliadau eraill
gyda’r hyder i ddefnyddio fwy ar yr iaith Gymraeg wrth i’r datblygiadau hyn
gael eu gweithredu gan gyflymu’r raddfa bod y Gymraeg yn derbyn sylw o fewn y
maes hwn.
Rhannwyd
enghreifftiau o rwystrau sydd yn wynebu’r Tîm Arweinyddiaeth megis derbyn
gohebiaeth uniaith Saesneg. Cydnabuwyd bod y sefyllfa hon wedi gwella yn y
blynyddoedd diwethaf ond mae’r Tîm yn derbyn gohebiaeth gyson yn uniaith
Saesneg gan rhai sefydliadau gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Yn yr un modd,
cyfeiriwyd at her wrth gynnal cyfarfodydd gyda’r Bwrdd Iechyd ble mae tueddiad
i sgyrsiau droi i’r Saesneg yn hytrach na sicrhau bod cyfieithydd ar gael i
ganiatáu trafodaethau Cymraeg. Ymhelaethodd Pennaeth y Gwasanaeth Cyfreithiol
bod heriau recriwtio yn y gorffennol wrth i’r Gwasanaeth geisio canfod
unigolion cymwysedig ac arbenigol ac nid oedd y rhain o reidrwydd yn siarad
Cymraeg wrth i’r Gwasanaeth benodi cyfreithwyr locwm i gyflawni gwaith
byrdymor. Fodd bynnag, pwysleisiwyd bod y Gwasanaeth wedi llwyddo i benodi
unigolion arbenigol ac sy’n meddu a’r sgiliau ieithyddol priodol erbyn hyn.
Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-
Mewn ymateb i
ddiweddariadau bod yr Adran Tai ac Eiddo yn derbyn cyngor cyfreithiol wrth
ystyried cyflwyno amod ieithyddol i’r Polisi Gosod Tai, cadarnhaodd Pennaeth y
Gwasanaeth Cyfreithiol bod y gwasanaeth yn gefnogol o’r addasiad hwn. Fodd
bynnag, pwysleisiwyd bod ymchwil cyfreithiol yn cael ei wneud ar hyn o bryd er
mwyn ystyried os oes modd ychwanegu’r amod hwn i’r prosesau. Ymhelaethwyd bod y
Prif Weithredwr a’r Adran Tai ac Eiddo yn ystyried Polisi Gosod Tai yn ei
gyfanrwydd er mwyn cryfhau’r elfen ieithyddol os yn bosib.
Tynnwyd sylw bod
Is-grŵp Iaith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn yn mynd i’r
afael â herio mythau ieithyddol. Mewn ymateb i ymholiad am fanylder,
cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol bod mythau ieithyddol pob sefydliad y
Bwrdd yn amrywiol. Rhannwyd myth enghreifftiol bod angen sgiliau Cymraeg o
safon academaidd uchel er mwyn bod yn gyflogedig gyda Chyngor Gwynedd.
Pwysleisiwyd bod angen herio’r myth hwn er mwyn sicrhau bod unigolion yn cael
eu penodi i rolau a bod dealltwriaeth yn cael ei rannu bod sgiliau ieithyddol
yn amrywio yn unol â gofyniad y rôl benodol mae unigolion yn ymgeisio amdanynt.
Ymhelaethwyd bod myth cyffredin arall ymysg y sefydliadau megis dirywiad mewn
hyder gweithlu i siarad Cymraeg yn y gweithle o’i gymharu â Chymraeg anffurfiol.
Pwysleisiwyd mai nod y prosiect hwn yw amlygu bod cyfleoedd i bobl ddefnyddio a
datblygu sgiliau ieithyddol yn y gweithle.
Mewn ymateb i
ymholiad am yr her a gyflwynir drwy ddatblygiadau deallusrwydd artiffisial,
cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ei fod yn un o flaenoriaethau anorfod y
Cynllun Digidol. Eglurwyd bydd Rhwydwaith Rheolwr y Cyngor yn derbyn
diweddariad ar esblygiad deallusrwydd artiffisial a’r defnydd posib gall ei
gael ar weithrediad gwasanaethau. Sicrhawyd bod y Gymraeg yn ganolog i holl
drafodaethau ar ddefnydd deallusrwydd artiffisial wrth iddo gael ei gyflwyno
i’r Cyngor yn y dyfodol.
Diolchwyd am yr
adroddiad.
PENDERFYNWYD
Derbyn yr
adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
Dogfennau ategol: