I ystyried
yr adroddiad.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
Cofnod:
Manylwyd ar raglen
ARFOR a ariennir gan Lywodraeth Cymru ers 2019 er mwyn datblygu’r economi i
gefnogi cadarnleoedd y Gymrraeg, ar draws gorllewin Cymru yng Ngwynedd, Môn, Ceredigion a Sir Gâr. Eglurwyd
mai nod y prosiect yw cynnal a chreu gwaith sydd yn galluogi pobl ifanc i
ddychwelyd ac aros yn y rhanbarth i weithio tra hefyd yn hyrwyddo defnydd o’r
iaith Gymraeg. Cadarnhawyd mai Gwasanaeth Datblygu’r Economi Cyngor Gwynedd
sydd yn arwain ar y gwaith ar ran y 4 sir gan gadarnhau bod buddsoddiad o
£11miliwn wedi cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru dros y 2 flynedd
ddiwethaf.
Eglurwyd bod
Cytundeb Egwyddorion wedi cael ei ddatblygu ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru fel
rhan o’r broses o ymgeisio am arian drwy raglen ARFOR. Manylwyd y golyga hyn y
disgwylir i fusnesau ymgymryd ag asesiad iaith gan Gomisiynydd y Gymraeg a’u
bod yn gweithio tuag at y Cynnig Cymraeg. Cadarnhawyd bod hyn wedi bod yn
llwyddiannus ar draws y rhanbarth a bod perthynas gref wedi ei ddatblygu gyda’r
Comisiynydd. Ychwanegwyd bod Comisiynydd y Gymraeg wedi cynnal nifer o sesiynau
codi ymwybyddiaeth o gynyddu gwelededd y Gymraeg a mynegwyd balchder bod nifer
o gwmnïau wedi cymryd rhan yn y sesiynau hyn.
Tynnwyd sylw bod
sesiynau ‘Hac Iaith’ wedi cael eu cynnal ym mhob sir sydd yn disgyn o fewn
rhanbarth gorllewin Cymru rhaglen ARFOR. Nodwyd bod y sesiynau hyn yn amlygu
sut gall busnesau di-gymraeg ddefnyddio’r iaith o fewn ei weithrediad a’r
buddion ynghlwm o wneud hynny. Yn yr un modd, adroddwyd y cynhaliwyd gwobrau
Mwyaf Cymraeg y Byd ble roedd trigolion yn enwebu a gwobrwyo busnesau yr
oeddent yn ystyried i fod yn Gymreig, er mwyn marchnata’r busnesau hynny sydd
yn gweithredu yn Gymraeg a dwyieithog o fewn y rhanbarth.
Diweddarwyd y
gobeithir cydweithio gyda Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg er mwyn
datblygu Addewid Busnes yr iaith Gymraeg. Eglurwyd nad oes gan y Comisiynydd y
capasiti i gynnig y Cynnig Cymraeg i fusnesau bychain, gan eu bod yn ceisio
dylanwadu ar fusnesau mwy. Atgoffwyd yr aelodau bod y Cynnig Cymraeg yn
achrediad a ddarperir gan y Comisiynydd ar gyfer busnesau sy’n ymgeisio amdano
drwy lunio polisi iaith ac yn gweithredu rhannau o’u busnes yn Gymraeg.
Ymfalchïwyd bod
rhaglen ARFOR wedi llwyddo i gynnal cyfarfod rhwng swyddogion Polisi Iaith pob
sir o fewn y rhanbarth,er mwyn rhannu arferion da a chynnal trafodaethau
parhaus am rôl y polisïau iaith wrth gysidro’r economi a’r iaith Gymraeg.
Manylwyd ar y
cynnydd a welir o’r defnydd o Gymraeg o fewn busnesau yng Ngwynedd yn sgil
rhaglen ARFOR, megis Llwyddo’n Lleol a Ffrwd Mentro. Ymhelaethwyd ar gynllun
grant Cymunedau Mentrus. Nodwyd bod 21 o fusnesau wedi derbyn arian o’r cynllun
hwn, ac yn cwblhau’r achrediad Cynnig Cymraeg sydd yn amodol i dderbyn yr arian
hwnnw. Diweddarwyd bod 11 o’r cwmnïau hynny eisoes wedi derbyn yr achrediad,
gyda 5 cwmni arall yn debygol iawn o’i dderbyn yn fuan. Pwysleisiwyd bod
defnydd cynyddol o’r Gymraeg i’w weld yn y busnesau sydd heb lwyddo i gyrraedd
yr achrediad, megis newid enwau busnesau i fod yn uniaith Gymraeg a chyflwyno
mwy o bosteri a gwybodaeth ddwyieithog.
Tynnwyd sylw bod 6
busnes wedi derbyn cyllid drwy Gronfa Her rhaglen ARFOR, sydd yn annog
datblygiadau arloesol y Gymraeg yn y maes economi. Manylwyd bod rhai o’r rhain
yn cynnwys Cymen a oedd yn datblygu systemau lleferydd digidol Cymraeg,
Prifysgol Bangor yn ymchwilio i brosesau recriwtio dwyieithog a datblygu ap
Arfer i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle.
Diweddarwyd yr
Aelodau ar weithrediadau gwasanaethau eraill o fewn yr Adran sydd yn cyfrannu
at amcanion strategaeth iaith y Cyngor, megis:
Adroddwyd bod 86.8%
o staff yr Adran wedi cwblhau’r hunanasesiad ieithyddol. Fodd bynnag, eglurwyd
nad yw rhai o swyddogion tymhorol a chyfnodau penodol wedi cael y cyfle i
lenwi’r hunanasesiad hyd yma. Cadarnhawyd bod 95.8% yn cyrraedd dynodiadau
iaith eu swyddi, gan nodi bod unrhyw aelod o staff sydd ddim yn cyrraedd y
dynodiad iaith eu swyddi yn derbyn hyfforddiant i ddatblygu eu sgiliau
ieithyddol.
Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-
Mewn ymateb i
ymholiad am ddyfodol rhaglen ARFOR, nododd y Pennaeth Adran nad oes cadarnhad
ffurfiol o ddyfodol y prosiect hyd yma. Fodd bynnag, eglurwyd ei fod yn debygol
y bydd y rhaglen yn cael ei weithredu am y flwyddyn ariannol gyfredol ond ar
gyllideb sylweddol is – oddeutu £500,000. Ymhelaethwyd bod yr Adran yn edrych i
brif-ffrydio elfennau o’r rhaglen i brosiectau eraill er mwyn sicrhau bod y
gefnogaeth yn parhau ar gyfer busnesau Gwynedd. Cadarnhawyd bod asesiad o
ddatblygiadau a wnaed drwy’r cynllun yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd ac fe
fydd ar gael i’r cyhoedd yn fuan.
Mewn ymateb i
ymholiad am gynnig grantiau bychan i fusnesau allu datblygu arwyddion Cymraeg a
dwyieithog, cadarnhawyd na fyddai hyn wedi bodloni gofynion y rhaglen ARFOR.
Eglurwyd mai prif nod y rhaglen oedd i gynorthwyo’r economi i ffynnu, a bod
elfennau’r iaith Gymraeg wedi cael ei ychwanegu ato. Cadarnhawyd nad oedd modd
dyrannu ariannu arian i fusnesau i ddatblygu’r iaith heb sicrhau bod cyswllt
cryf gyda chynlluniau i gryfhau’r economi. Mewn ymateb i sylwadau pellach bod
Mentrau Iaith Cymru yn gallu bod o gymorth gyda hyn, cadarnhaodd yr Uwch
Ymgynghorydd Iaith a Chraffu bod eu cyllideb ar gyfer grantiau penodol o’r fath
wedi dod i ben erbyn hyn.
Mewn ymateb i
ymholiad am ystadegau, cadarnhaodd Arweinydd Tîm Datblygu Busnesau Gwynedd bod
72% o’r unigolion ifanc sydd derbyn cymorth gan raglen ARFOR yn nodi bod y
rhaglen wedi dylanwadu ar eu penderfyniad i aros yn eu hardaloedd. Ymhelaethwyd
ei bod yn anodd iawn canfod ystadegau o effaith y rhaglen yn benodol ar
niferoedd pobl ifanc sydd wedi dod yn ôl i’r rhanbarth i fyw a gweithio,
oherwydd mae’r penderfyniad hynny yn ddibynnol ar ystod o ffactorau ac nid oes
modd cadarnhau os mai’r rhaglen ARFOR, neu ffactor arall yw’r brif resymeg am
ddod yn ôl i’r ardal. Eglurwyd bod cwmni Wavehill yn creu adolygiad o’r rhaglen
ar hyn o bryd gan obeithio bydd mwy o ystadegau yn cael eu cyflwyno wedi i’r
adolygiad gael ei chyhoeddi.
Diolchwyd i’r
Aelodau am syniadau ar sut i hyrwyddo sgiliau Cymraeg ymysg gwirfoddolwyr.
Mewn ymateb i
ymholiad am sut mae’r Adran yn monitro’r busnesau hynny sydd yn derbyn
achrediad Cynnig Cymraeg, er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni’r gofynion,
cadarnhaodd Rheolwr Rhanbarth y Rhaglen ARFOR bod Comisiynydd y Gymraeg yn
ymgymryd â’r gwaith hwn. Pwysleisiwyd y gall busnesau golli’r achrediad os nad
ydynt yn parhau i ddilyn yr egwyddorion Cynnig Cymraeg. Cadarnhawyd bod yr
Adran yn cynnig pob anogaeth a chefnogaeth i fusnesau er mwyn sicrhau eu bod yn
cydymffurfio gyda’r achrediad ac yn cynnig cymorth gyda’r iaith Gymraeg ar bob
cyfle.
Gofynnwyd i’r Adran
gyflwyno adroddiad pellach am y rhaglen ARFOR yn dilyn cyhoeddi gwerthusiad y
rhaglen. Mewn ymateb, croesawyd y cais gan y Pennaeth Adran gan nodi bydd y
gwerthusiad yn cael ei gyhoeddi ym mis Mai. Ymhelaethwyd y disgwylir derbyn
penderfyniad gan Lywodraeth Cymru ar gyllideb y rhaglen ar gyfer 2025/26
oddeutu’r un cyfnod.
Diolchwyd am yr
adroddiad.
PENDERFYNWYD
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
Dogfennau ategol: