I ystyried
yr adroddiad.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Swyddog Dysgu a Datblygu’r Iaith
Gymraeg a thynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:
Atgoffwyd yr Aelodau y bu i’r prosiect Dynodiadau Iaith gael
ei chomisiynu gan y Pwyllgor hwn yn 2015 ac yr oedd yn weithredol hyd at 2023.
Eglurwyd mai diben y prosiect oedd sicrhau cysondeb a phriodoldeb gofynion
ieithyddol swyddi’r Cyngor, tra bod y Cyngor yn paratoi at ofyniad statudol y
Safonau Iaith a gyflwynwyd yn 2016, i gadw cofnod o lefelau iaith ei staff.
Ychwanegwyd mai diben arall y prosiect oedd sicrhau bod cefnogaeth ar gael i
aelodau staff er mwyn defnyddio’r iaith Gymraeg a pharhau i’w dysgu, gan
leihau’r risg na fyddai staff y Cyngor yn llwyddo i ddarparu gwasanaethau
dwyieithog i bobl Gwynedd.
Nodwyd bod pob swydd a hysbysebir cyn i’r prosiect hwn fod
yn weithredol yn nodi gofynion iaith ‘rhugl’ ac nid oedd cofnod manwl a
pharhaus o allu ieithyddol staff y Cyngor yn cael ei gadw’n swyddogol.
Ychwanegwyd bod geiriad y lefelau sgiliau iaith yn wahanol i’r hyn oedd yn cael
eu defnyddio’n genedlaethol a oedd yn achosi heriau wrth ymchwilio am
hyfforddiant addas ar gyfer lefelau iaith gyffelyb.
Eglurwyd bod rhan gyntaf y prosiect wedi cael ei gwblhau gan
y gwasanaeth Adnoddau Dynol yn 2016, ble addaswyd lefelau sgiliau Cymraeg fel
eu bod y geiriad a ddefnyddir yn genedlaethol (Mynediad, Canolradd, Sylfaenol
ac Uwch). Ychwanegwyd bod y gwasanaeth hefyd wedi addasu pob swydd o fewn y
Cyngor er mwyn addasu’r gofyniad iaith ar eu cyfer yn unol â gofynion y swydd.
Adroddwyd bod ail ran y prosiect wedi cymryd lle yn 2017 ble
roedd ymchwil wedi cael ei wneud ar sut i gasglu asesiadau iaith manwl a chywir
ar gyfer staff, gan sicrhau bod cymorth ar gyfer cynnal lefelau sgiliau iaith
neu hyfforddiant er mwyn galluogi unrhyw aelod o staff i gyrraedd y lefelau
iaith briodol ar gyfer eu swyddi. Nodwyd bod y rhan hwn o’r prosiect wedi cael
ei beilota gydag adran Ymgynghoriaeth Gwynedd y Cyngor cyn ei ymestyn allan i
holl adrannau eraill. Mynegwyd balchder bod hyn wedi arwain at yr Hunanasesiad
Ieithyddol y gall aelodau staff ei ganfod ar yr Hunanwasanaeth mewnol, sydd yn
eu hysbysu o’u lefel sgiliau iaith yn dilyn ei gwblhau ac yn rhoi cyfle i
aelodau staff nodi os ydynt angen unrhyw gymorth neu datblygu hyder i
ddefnyddio’r iaith Gymraeg. Tynnwyd sylw bod system dechnolegol bellach wedi
cael ei ddatblygu er mwyn storio’r holl ymatebion i’r hunanasesiad iaith gan
ddarparu data allweddol i swyddogion.
Cadarnhawyd bod y data hwn a oedd yn cynnwys lefelau iaith
staff a niferoedd unigolion a oedd yn mynychu hyfforddiant iaith yn cael ei
rannu gyda phenaethiaid yn chwarterol, ac yn cael ei ddefnyddio’n rheolaidd
wrth i’r adrannau baratoi at gyflwyno adroddiadau i’r Pwyllgor hwn.
Ymhelaethwyd bod aelod o staff o brif adrannau’r Cyngor a Byw’n Iach yn eistedd
ar Fforwm Dynodiadau Iaith sydd yn cyfarfod yn chwarterol er mwyn rhannu arfer
dda a thrafod unrhyw heriau sydd yn codi.
Tynnwyd sylw at gynllun Cyfeillion Cymraeg sydd wedi cael ei
ddatblygu yn dilyn sylwadau gan aelodau staff a oedd wedi mynychu hyfforddiant
iaith y Cyngor. Eglurwyd bod y cynllun hwn yn paru aelodau staff sydd yn dymuno
derbyn cyfleoedd ychwanegol i ymarfer eu sgiliau ieithyddol gydag aelod o staff
sydd yn hyderus y gallent gefnogi. Yn debyg, sefydlwyd ‘Tip Cymraeg y Mis’ sydd
yn rhannu cymorth gramadegol neu dechnolegol am yr iaith Gymraeg gyda staff,
gan fynegi balchder bod Nant Gwrtheyrn yn cydweithio gyda’r Cyngor i’w datblygu
a’u rhannu gyda dysgwyr sydd yn mynychu’r ganolfan. Sicrhawyd bod y ddau
gynllun yma yn parhau’n weithredol.
Cadarnhawyd bod Hwb Hyfforddiant Iaith wedi cael ei sefydlu
yn ddigidol ar gyfer staff y Cyngor er mwyn rhannu gwybodaeth am yr ystod o
hyfforddiant sydd ar gael yn fewnol a thu hwnt.
Rhannwyd diweddariad y gobeithir cydweithio gyda chynllun
Cymraeg Gwaith a ddarperir gan Lywodraeth Cymru er mwyn datblygu cynllun
hyfforddiant fwy eang. Gobeithir
datblygu hyfforddiant penodol ar gyfer sectorau gwaith penodol, megis
gofal. Ymhelaethwyd bod systemau newydd ar y gweill er mwyn sicrhau bod
swyddogion y Cyngor yn derbyn mynediad cyflym i ddata.
Cadarnhawyd bod nifer o ddatblygiadau a wnaed dros gyfnod y
prosiect yn parhau’n weithredol a bod hyfforddiant newydd yn parhau i gael ei
ddatblygu, megis hyfforddiant Cymraeg Clir a fydd ar gael i aelodau staff yn
fuan.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-
Mewn ymateb i ymholiad am wybodaeth bellach am gynllun
Cyfeillion Cymraeg, cadarnhaodd Swyddog Dysgu a Datblygu’r Iaith Gymraeg bod 10
pâr o aelodau staff yn cyfarfod yn gyson ar ffurf anffurfiol. Ymhelaethwyd bod
unigolion sydd yn mynychu hyfforddiant iaith yn teimlo’n fwy cyfforddus i
ymarfer eu sgiliau ieithyddol gydag aelodau eraill o’u tîm. Cadarnhawyd bod y
cynllun wedi arwain at gefnogaeth i ddatblygu sgiliau llafar ac ysgrifenedig
sydd wedi bod yn werthfawr iawn. Ymhelaethwyd y gobeithir bydd y cynllun hwn yn
parhau i’r dyfodol gan geisio canfod aelodau staff sydd yn awyddus i gymryd rhan
a darparu cefnogaeth i eraill sydd llai hyderus yn defnyddio’r iaith.
Mewn ymateb i ymholiad ar y cais a wnaed i gynllun Cymraeg
Gwaith Llywodraeth Cymru am ariannu tiwtor Cymraeg yn fewnol i’r Cyngor,
cadarnhaodd Swyddog Dysgu a Datblygu’r Iaith Gymraeg bod sgyrsiau pellach wedi
arwain at y penderfyniad i beidio ariannu’r rôl ar hyn o bryd. Fodd bynnag,
mae’r ddarpariaeth a gynigir gan Gymraeg Gwaith wedi ehangu dros y blynyddoedd
diwethaf ac mae’r Cyngor yn gobeithio cymryd mantais o’r cyfleoedd hynny cyn
creu cynllun hyfforddiant hir dymor. Tynnwyd sylw bod y sefyllfa hon yn cael ei
adolygu’n rheolaidd a bydd ystyriaeth yn cael ei roi ar gyfer cyflogi tiwtor
Cymraeg mewnol os bydd yr angen yn codi.
Tynnwyd sylw bod ymdrechu i gyflogi gweithwyr dwyieithog yn
y maes gofal er mwyn sicrhau bod gofal
yn cael ei ddarparu yn iaith y sawl sydd yn derbyn y gwasanaeth. Mewn ymateb i
ymholiad ar sut gall y Cyngor gynorthwyo gofalwyr i ddysgu a meithrin y
Gymraeg, cadarnhaodd y Swyddog Dysgu a Datblygu’r Iaith Gymraeg, bod Cynllun
Camau yn gwrs hunan astudio sydd ar gael i weithwyr gofal am ddim yn eu hamser
eu hunain er mwyn dysgu mwy am eirfa berthnasol Cymraeg sydd yn allweddol i’w
swyddi. Pwysleisiwyd bod gwaith parhaus yn cael ei wneud er mwyn hyrwyddo
cyfleoedd sgiliau iaith gyda gweithwyr gofal. Ymhelaethwyd bod ystyriaeth yn
cael ei roi i gynlluniau ychwanegol megis rhyddhau staff ar gyfer mynychu
hyfforddiant iaith neu gynnal sesiynau mewn cartrefi preswyl fel bod yr
unigolion yn y cartref preswyl yn mynychu’r hyfforddiant gyda’r aelodau staff
er mwyn eu cefnogi os ydynt yn dymuno.
Yn dilyn ystyriaethau am hyfforddiant iaith ar gyfer staff
ategol ysgolion Gwynedd, cadarnhaodd y Swyddog Dysgu a Datblygu’r Iaith Gymraeg
nad oes trafodaethau mewn lle ar hyn o bryd ond cydnabuwyd bod hwn yn fwlch yn
y trefniadau presennol. Nodwyd bydd swyddogion yn trafod gyda Chymraeg Gwaith
er mwyn canfod os oes cwrs hunan astudio ar gael i staff ategol ysgolion ei
gwblhau yn eu hamser eu hunain. Ychwanegodd yr Uwch Ymgynghorydd Iaith a
Chraffu bod yr Adran Addysg wedi cadarnhau eu bod yn dymuno targedu staff
ategol er mwyn sicrhau datblygiad sgiliau Cymraeg gan gydnabod bod trosiant
staff uchel o fewn y maes hwn.
Diolchwyd am yr adroddiad.
PENDERFYNWYD
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
Dogfennau ategol: