MICKEY’S BEACH CAFE, THE BOATYARD AND SHIPWAY, BWLCHTOCYN, ABERSOCH
I ystyried
y cais
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Caniatáu y cais
Oriau Agor:
Dydd Sul 10:00 - 18:00
Dydd Llun 10:00 -18:00
Dydd Mawrth 10:00 -18:00
Dydd Mercher 10:00 -18:00
Dydd Iau 10:00 - 18:00
Dydd Gwener 10:00
-18:00
Dydd Sadwrn 10:00 -18:00
Gweithgareddau Trwyddedadwy
Cyflenwi Alcohol ar
ac oddi ar yr Eiddo
Dydd Sul 10:00 - 17:00
Dydd Llun 10:00 17:00
Dydd Mawrth 10:00 - 17:00
Dydd Mercher 10:00 - 17:00
Dydd Iau 10:00 - 17:00
Dydd Gwener 10:00 - 17:00
Dydd Sadwrn 10:00 - 17:00
Y mesurau ychwanegol, fel y nodir yn rhan M y cais, i'w
cynnwys fel amodau ar y drwydded:
Mesurau ychwanegol a gytunwyd gyda Heddlu Gogledd Cymru
·
Daw'r cyflenwadau alcohol gan gyflenwyr bwyd
presennol - ni ragwelir cyflenwadau ychwanegol fydd yn arwain at gynnydd mewn
traffig
·
Mae sbwriel yn rhan o gasgliad cytundeb
masnachol ar ddydd Mawrth a dydd Gwener, ac ni fydd yn digwydd y tu allan i'r
oriau 17:00 – 08:00 fel sy'n arferol
Cofnod:
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
a)
Adroddiad yr Adran
Trwyddedu
Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod
Trwyddedu dystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion
Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr
oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y
byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded.
Adroddwyd nad oedd yr Awdurdodau Cyfrifol wedi
cyflwyno sylwadau ac er i Heddlu Gogledd Cymru amlygu pryderon cychwynnol, bod yr ymgeisydd
bellach wedi cytuno i’r mesurau i ymateb i’r pryderon hynny ac felly'r Heddlu
wedi eu tynnu yn ôl.
Tynnwyd sylw at ymatebion a dderbyniwyd gan
Aelodau o’r Cyhoedd a Chyngor Cymuned Llanengan. Roedd y cyhoedd, yn pryderu
nad oedd toiledau ar y safle, ac er bod cwsmeriaid yn defnyddio toiledau
cyhoeddus gerllaw, nid oedd gan y caffi reolaeth dros y toiledau hyn ac y
gallent gau ar unrhyw adeg. Ystyriwyd y gall hyn arwain at y posibilrwydd o
achosi trafferthion gwastraff dynol yn yr ardal. Amlygwyd pryder hefyd,
·
bod yr ardal wedi gweld
cynnydd mewn gwastraff yn cael ei wasgaru wrth y caffi ac y bydd potensial i
hyn waethygu os daw mwy o bobl i yfed yno
·
pryder o gynnydd mewn gwydr
wedi malu a phlastig ar y traeth ger y caffi
·
gyda’r traeth o flaen y
caffi yn un poblogaidd iawn hefo teuluoedd, ystyriwyd y gall gwerthu alcohol
gynyddu’r potensial i bobl yfed a gweithredu cychod pŵer yn yr ardal sydd
yn beryglus i unrhyw un sydd yn nofio yn y môr.
Roedd sylwadau Cyngor Cymuned Llanengan yn
pryderu am
·
yfed ar y traeth gan nodi
nad yw peiriannau
(e.e. cychod cyflym/badau dwr personol) ac alcohol yn cyd-fynd
·
pryder am ddiffyg toiledau ar y safle - mater a gododd y Cyngor
sawl gwaith ers pan sefydlwyd caffi ar y safle
·
gall gwerthu alcohol gynyddu poblogrwydd Traeth
Marchros fydd o ganlyniad yn creu traffig ychwanegol ar ffordd gul, droellog
sydd heb le digonol i ddau gar basio’i gilydd.
Roedd y swyddogion yn nodi, yn unol â Deddf
Drwyddedu 2003, argymhellir fod y Pwyllgor yn ystyried sylwadau'r ymatebwyr, ac
ymateb yr ymgeisydd i’r pryderon - ac yn caniatáu’r cais. Adroddwyd bod alcohol wedi ei werthu ar y
safle ar nifer o achlysuron yr haf diwethaf drwy ddefnyddio Hysbysiadau
Digwyddiadau Dros Dro. Ni dderbyniwyd cwynion gan yr Awdurdod Trwyddedu nac
Uned Gwarchod y Cyhoedd yn dilyn sawl digwyddiad a ganiateir yn defnyddio
Hysbysiadau Digwyddiadau Dros Dro.
b)
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:
·
Cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i
gynrychiolydd y Cyngor.
·
Ar ddisgresiwn y Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei
gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.
·
Rhoi cyfle i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd
ymhelaethu ar y cais a galw tystion
·
Rhoi cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau
i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd
·
Ar ddisgresiwn y Cadeirydd gall cynrychiolydd y
Cyngor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd
·
Rhoi gwahoddiad i bob Ymgynghorai gefnogi unrhyw
sylwadau ysgrifenedig
·
Rhoi cyfle i gynrychiolydd y Cyngor a’r ymgeisydd
neu ei gynrychiolydd grynhoi eu hachos.
·
Swyddog cyfreithiol i grynhoi gofynion y cais
c)
Mewn
ymateb i gwestiwn ynglŷn â diffyg toiledau ar y safle a’r pryder y bydd y
toiledau cyhoeddus yn cau, nodwyd yr angen i drafod y cais yn unol â’r sefyllfa
bresennol.
ch) Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd
cynrychiolydd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:
·
Bod toiled ar y safle
·
Bod cais am drwydded wedi ei gyflwyno yn 2024, ond
yn dilyn nifer o gyfarfodydd gyda swyddogion Iechyd yr Amgylchedd a Heddlu
Gogledd Cymru i drafod cwynion a phryderon, tynnwyd y cais yn ôl a
phenderfynwyd defnyddio Hysbysiadau
Digwyddiadau Dros Dro. Gwerthwyd alcohol ar y safle ar 21 achlysur dros yr Haf
ac ni dderbyniwyd cwynion yn dilyn y digwyddiadau hyn.
·
Bod cytundeb masnachol ar gyfer gwaredu gwastraff
yn ei le
·
Nid oes bwriad defnyddio gwydr
·
Bod cydweithio da wedi bod gyda’r Awdurdod Lleol i
geisio lliniaru pryderon
·
Bod yr ymgeisydd yn cynnig addasu’r amser cau i
1700 – hyn yn amlygu parodrwydd i gyfarch pryderon
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â sut bydd yr ymgeisydd yn cyfarch yr egwyddor o rwystro
niwsans cyhoeddus, nodwyd nad oedd bwriad chwarae cerddoriaeth uchel, bod yr
oriau agor wedi eu cyfyngu, ac yn y cyfnod 21 diwrnod o ddefnydd Hysbysiadau
Digwyddiadau Dros Dro ni fu i’r Adran Iechyd yr Amgylchedd na’r Awdurdod Lleol
dderbyn cwynion. Ategwyd y bydd staff yn derbyn hyfforddiant dogfennol
rheolaidd ac er nad yw’r caffi yn agor gyda’r nos, bydd staff ar y safle hyd
1900 yn glanhau yn unig. Bydd y fenter yn un cyfrifol.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r nifer pobl
fydd ar y safle, nodwyd bod lle ar gyfer 20 - 25 o bobl i eistedd o gwmpas y
byrddau, ond bod llawer o fynd a dod gyda phobl yn symud ymlaen.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r casgliadau
sbwriel / gwastraff, nodwyd bod casgliad gwastraff yn cael ei wneud i gyd mewn
un ymweliad a hynny ar ôl 8am. Mewn ymateb i bryder preswylydd agos oedd yn
nodi nad oedd gan y caffi ganiatâd i adael bin ar ei dir, nodwyd bod y biniau
yn cael eu storio ar dir ac yn cael eu rhoi allan am gasgliad gerllaw'r maes
parcio. Ategodd yr ymgeisydd nad oedd yn ymwybodol o’r hawliau tir, ond y
byddai yn barod i symud y biniau i leoliad arall a chynnal trafodaeth gyda’r
tirfeddiannwr.
d)
Manteisiodd yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y
cyfle i ymhelaethu ar sylwadau a gyflwynwyd yn ysgrifenedig ganddynt:
Mr Jeremy Beddows
·
Mai ef oedd perchennog y tir gerllaw'r caffi a’i
eiddo wedi ei leoli rhyw 1metr i ffwrdd o’r safle
·
Bod ardal y biniau ar ei gwrtil
·
Bod y loriau bin yn gorfod teithio ar hyd ffordd
gul iawn sydd hefyd yn arwain at fynediad i’r traeth
·
Byddai cynnal sgwrs yn addas fel modd o ddatrys y
sefyllfa
·
Yn croesawu bod toiled ar y safle - y toiledau
cyhoeddus yn bell o’r traeth ac felly'r tir gerllaw a’i ardd yn cael ei faeddu
·
Bod y traeth yn un poblogaidd – ei fod yn gweld
cynnydd mewn defnydd badau dwr a nifer ceir ar y safle ac felly angen ystyried
pryderon o yfed a gyrru
·
Croesawu na fydd gwydr yn cael ei ddefnyddio –
hapus gyda defnydd polycarbonadau
·
Bod wal uchel iawn tu ôl i’r caffi a phobl yn mynd
i eistedd yno gyda diodydd – angen arwydd i amlygu perygl
Mr Peter Baines
·
Mai ef oedd y preswylydd lleol agosaf i’r caffi
·
Bod cynnydd mewn lefel sŵn symud biniau dros
gyfnod y Digwyddiadau Dros Dro
·
Bydd newid i naws yr ardal yn dilyn cyflwyniad
alcohol
·
Nid yw yfed a gyrru badau dwr yn cael ei blismona
·
Nid yw gwerthiant alcohol oddi ar y safle yn cael
ei reoli yn dda
·
Byddai mwy o loriau yn dod i’r ardal os bydd mwy o
ddarparwyr cynnyrch. Yr holl ddanfoniadau yn cael eu dadlwytho yn y maes parcio
·
Bod y traeth o fewn AHNE
·
Bod y busnes yn dueddol o gymryd mantais o sefyllfa
·
Er nad oedd trafferthion yn ystod y digwyddiadau
dros dro, bod ymdeimlad y bydd pethau yn mynd allan o reolaeth
·
Nad oedd unrhyw drafodaethau wedi eu cynnal cyn y
gwrandawiad
Manteisiodd y
Rheolwr Trwyddedu ar y cyfle i grynhoi ei
hachos, gan nodi bod yr ymgeisydd wedi cytuno i amodau ychwanegol ac wedi rhoi
sicrwydd na fydd cerddoriaeth uchel yn cael ei chwarae. Nodwyd hefyd y byddai
yn annog i’r ymgeisydd gydweithio gyda chymdogion
Manteisiodd cynrychiolydd yr ymgeisydd ar y
cyfle i grynhoi ei hachos, gan nodi eu bod wedi ymgysylltu gyda’r Awdurdod
Lleol a’r Heddlu ac nad oedd unrhyw ymgais gan yr ymgeisydd i geisio cymryd
mantais o’r sefyllfa. Ategodd nad oedd bwriad i redeg y safle fel tafarn ac na
ddylai’r fenter gael effaith negyddol ar ymwelwyr. Nododd bod yr ymgeisydd yn
barod iawn i gydweithio gyda thrigolion lleol a bod mesurau wedi cael eu cynnig
i liniaru’r pryderon. Nododd hefyd nad oedd gwrthwynebiadau wedi eu derbyn gan yr
Awdurdodau Cyfrifol.
dd)
Cymerodd y Swyddog Cyfreithiol y cyfle i grynhoi
gofynion y cais
-
Cais i gyflawni alcohol ar ac oddi ar yr eiddo
-
Bod cynnig i gytuno i oriau trwyddedig 1000 - 17000
Dydd Llun i Ddydd Sul (oriau agor 1000 - 1800
-
Bod amodau yn cynnwys dim gwydr, hyfforddiant
priodol i staff, gweithredu Her 25, dim cerddoriaeth i’w chwarae yn uchel, cais
i gwsmeriaid ymadael yn ddistaw a pharchu cymdogion, bod TCC ar y safle a bod
defnydd toiledau ar yr eiddo.
-
Nododd bod sefyllfa'r wal i gefn yr eiddo, a'r
awgrym am arwydd diogelwch yn fater i’r Adran Amgylchedd neu Cyngor Cymuned
ee)
Ymneilltuodd
cynrychiolydd yr ymgeisydd a’r Rheolwr Trwyddedu o’r cyfarfod tra bu i
aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.
Wrth gyrraedd y
penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor ffurflen gais yr ymgeisydd, sylwadau
ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb, adroddiad y Swyddog
Trwyddedu ynghyd â sylwadau
llafar pob parti yn bresennol yn y gwrandawiad.
Ystyriwyd Polisi Trwyddedu’r
Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth briodol i’r holl sylwadau gan eu
pwyso a’u mesur yn erbyn yr amcanion
trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu 2003, sef:
i.
Atal trosedd ac anhrefn
ii.
Atal niwsans cyhoeddus
iii.
Sicrhau diogelwch
cyhoeddus
iv.
Gwarchod plant rhag
niwed
Diystyrwyd y sylwadau a
ddaeth i law i’r graddau eu bod yn amherthnasol i’r amcanion uchod.
PENDERFYNIAD: Caniatáu y cais
Oriau Agor:
Dydd Sul 10:00 - 18:00
Dydd Llun 10:00 -18:00
Dydd Mawrth 10:00 -18:00
Dydd Mercher 10:00
-18:00
Dydd Iau 10:00 - 18:00
Dydd Gwener 10:00 -18:00
Dydd Sadwrn 10:00 -18:00
Gweithgareddau Trwyddedig
Cyflenwi Alcohol ar ac oddi ar yr Eiddo
Dydd Sul 10:00 -
17:00
Dydd Llun 10:00 17:00
Dydd Mawrth 10:00
- 17:00
Dydd Mercher 10:00
- 17:00
Dydd Iau 10:00 –
17:00
Dydd Gwener 10:00
- 17:00
Dydd Sadwrn 10:00 - 17:00
Y
mesurau ychwanegol, fel y nodir yn rhan M y cais, i'w cynnwys fel amodau ar y
drwydded:
·
Hyfforddiant
Staff
·
Her 25
·
Bydd y
safle yn gweithredu polisi dim gwydr, gyda’r holl alcohol a werthir yn cael ei
wneud mewn defnydd polycarbonadau
·
Dim
cerddoriaeth uchel i’w chwarae ar y safle
·
Staff i
ofyn i gwsmeriaid adael yn dawel a pharchu trigolion lleol
·
TCC yn
weithredol ar y safle
Mesurau
ychwanegol a gytunwyd gyda Heddlu Gogledd Cymru
Yng nghyd-destun Rhwystro
Trosedd ac Anrhefn, ni chyflwynwyd sylwadau na thystiolaeth oedd yn
berthnasol i'r egwyddor hon.
Yng nghyd-destun
materion Diogelwch Cyhoeddus ni chyflwynwyd sylwadau na thystiolaeth
oedd yn berthnasol i'r egwyddor hon.
Yng nghyd-destun Atal
niwsans cyhoeddus, derbyniwyd sylwadau a gwrthwynebiadau gan gymdogion yr
eiddo oedd yn mynegi pryderon am y potensial o ymddygiad gwrthgymdeithasol a
materion niwsans cyhoeddus yn deillio o ganiatáu’r cais. Fodd bynnag, ni
dderbyniwyd unrhyw sylwadau na gwrthwynebiadau gan Adran Gwarchod y Cyhoedd ac
ni chyflwynwyd tystiolaeth o ymddygiad gwrthgymdeithasol na chynnydd mewn
lefelau sŵn.
Wrth nodi'r
pryderon dilys a fynegwyd gan y cymdogion a thrigolion lleol, nid oedd yr
Is-bwyllgor o'r farn bod tystiolaeth yn dangos bod niwsans cyhoeddus yn cael ei
gyflawni. Roedd yr Is-bwyllgor yn annog yr ymgeisydd i drafod materion gyda'r
trigolion lleol yn arbennig i ddatrys materion yn ymwneud â chasglu gwastraff
a'r pryderon cysylltiedig â lorïau bin a darparwyr. Nododd yr is-bwyllgor fod
yr ymgeisydd yn fodlon lleihau ei oriau trwyddedig i 1700 yn hytrach na 1730 er
mwyn cyfyngu ar effeithiau posib eiddo cyfagos. Rhoddwyd sylw yn y gwrandawiad
i faterion eraill megis argaeledd toiledau a gweithredu polisi dim gwydr. Fel gyda phob trwydded sydd yn cael ei ganiatáu, os
bydd unrhyw broblemau'n codi mewn cysylltiad â'r egwyddorion trwyddedu yna bydd
y Ddeddf yn caniatáu i unrhyw drwydded gael ei chyfeirio am adolygiad.
Yng nghyd-destun Gwarchod
Plant Rhag Niwed, amlygwyd bod yr ymgeisydd wedi darparu manylion o'r camau
i'w cymryd i sicrhau na fyddai alcohol yn cael ei werthu i rai dan oed a bydd y
rhain yn cael eu cynnwys fel amodau ar y drwydded. Nododd yr Is-bwyllgor hefyd
fod y safle wedi elwa o nifer o Hysbysiadau Digwyddiadau Dros Dro dros y 12 mis
diwethaf ac ni dderbyniwyd unrhyw gwynion ac ni adroddwyd arnynt o dan
benawdau'r amcanion trwyddedu yn ystod y digwyddiadau hyn.
Adroddodd y Cyfreithiwr y
byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd
wedi cyflwyno sylwadau ysgrifenedig. Ategwyd bod gan bob parti i’r cais yr hawl
i gyflwyno apêl yn Llys Ynadon Caernarfon yn erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor.
Dylid cyfeirio unrhyw apêl o’r fath drwy roi rhybudd o apêl i’r Prif
Weithredwr, Llys Ynadon Llandudno, Llandudno, o fewn cyfnod o 21 diwrnod gan
gychwyn â’r dyddiad y bydd yr apelydd yn derbyn llythyr (neu gopi ohono) yn
cadarnhau’r penderfyniad.
Dogfennau ategol: