Agenda item

Rhoi cyflwyniad i'r Is-bwyllgor Cynllunio Strategol ar y cynnydd o baratoi Cytundeb Cyflawni (DA) ar gyfer Cynllun Datblygu Strategol (SDP) Gogledd Cymru, yn ogystal â thynnu sylw at y rhaglen eang ar gyfer datblygu'r SDP, a rhai o'r materion allweddol y mae angen iddo eu hystyried.

Penderfyniad:

I derbyn yr adroddiad.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Brif Weithredwr Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd a'r Swyddog Cynllunio Datblygu Strategol Rhanbarthol.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad.

 

Y RHESYMAU AM Y PENDERFYNIAD

 

Sicrhau bod yr Is-bwyllgor Cynllunio Strategol yn gwbl ymwybodol o'r dull i'w gymryd gyda'r SDP a'r prif gamau sy'n gysylltiedig â'r broses o ddrafftio cynlluniau.

 

TRAFODAETH

 

Eglurwyd mai pwrpas yr adroddiad oedd rhoi trosolwg cychwynnol i'r Is-bwyllgor o'r broses, gan amlinellu'r sefyllfa bresennol a'r rhesymau pam fod cynnydd eisoes wedi'i wneud cyn y cyfarfod cyntaf hwn. Y gobaith oedd y byddai'r aelodau'n gweld y gwerth o wneud hynny, yn enwedig gan fod y CBC hwn yn un o ddim ond pedwar ledled Cymru, gyda dim ond rhanbarth Caerdydd wedi symud ymlaen yn ddigon pell i ddatblygu ac ymgynghori ar Gytundeb Cyflawni drafft. Nodwyd, felly, fod y rhanbarth hwn tua 9 i 10 mis y tu ôl i Gaerdydd, ond cydnabuwyd serch hynny bod y cynnydd mewn ardaloedd CBC eraill wedi bod hyd yn oed yn fwy heriol.

 

Nodwyd bod yr adroddiad yn cynnwys y cefndir deddfwriaethol yn ogystal â'r cyd-destun ehangach ar gyfer cynhyrchu SDP, sy'n dyddio'n ôl i Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 ond na chafodd ei ddeddfu trwy reoleiddiad tan 2021 o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru). Pwysleisiwyd mai'r prif sbardun ar gyfer dechrau gwaith ar Gytundeb Cyflawni drafft oedd y gofyniad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru i bob CBC gyflwyno cytundeb o'r fath erbyn diwedd 2024.

 

Nodwyd bod amserlen saith pwynt yn bodoli ar gyfer cynhyrchu, cytuno a chyflwyno'r Cytundeb Cyflawni, a bod y cam roeddem ni arno yn disgyn rhwng pwyntiau dau a phedwar. Cadarnhawyd bod hyn yn parhau i fod yn unol â'r amserlen ddangosol, fwy neu lai. Eglurwyd bod y Cytundeb Cyflawni drafft eisoes wedi'i gynhyrchu a'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru, ac y byddai'n cael ei gylchredeg i randdeiliaid allweddol yn ystod yr wythnosau nesaf. Yn dilyn hynny, byddai ymgynghoriad ehangach yn ystod mis Mai a Mehefin, gyda'r bwriad o geisio cymeradwyaeth i gyflwyno'r cytundeb, yn amodol ar ystyriaethau cyllid ac adnoddau, erbyn mis Gorffennaf. Nodwyd ymhellach fod yr amserlen arfaethedig yn nodi y byddem yn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Awst.

 

Nodwyd bod dau gyfarfod allweddol wedi'u nodi yn y flaen raglen waith: y cyntaf ddiwedd mis Mehefin neu ddechrau mis Gorffennaf, i gyd-fynd â'r adborth a geir o'r ymgynghoriad ar y Cytundeb Cyflawni; a'r ail ym mis Hydref neu Dachwedd, pan fyddai diweddariad pellach yn cael ei ddarparu ynglŷn â chymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a chychwyn y broses o gynhyrchu'r SDP.

 

Tynnwyd sylw at y ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys trosolwg eang o'r rhaglen wyth cam ar gyfer datblygu'r cynllun, a gafodd ei siapio gan y rheoliadau perthnasol sy'n llywodraethu cynhyrchu SDPs. Nodwyd hefyd fod yr adroddiad yn adnabod nifer o agweddau cadarnhaol a chyfleoedd sydd ar gael i'r Is-bwyllgor trwy gynhyrchu'r SDP ar y cyd fel rhanbarth, dros amserlen hirach ac ar lefel strategol uwch.

 

Gofynnwyd, mewn perthynas â'r archwiliad ffurfiol o gadernid yr SDP, a fyddai'r broses hon yn gyhoeddus ei natur, yn debyg i'r CDLl. Mewn ymateb, cadarnhawyd bod hyn yn gywir. Eglurwyd y byddai'r broses yn dilyn yr un gweithdrefnau â'r rheini a ddefnyddir ar gyfer CDLl.

 

Dogfennau ategol: