Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Menna Trenholme

Penderfyniad:

1.    Derbyn cynnig grant i ehangu Rhaglen Dechrau’n Deg yn y sir drwy

o   ymestyn y cynllun llawn i weddill ardal Penygroes yn sgil gostyngiad yn y niferoedd cymwys i’r rhaglen bresennol

o   ymestyn yr elfen ofal plant i ardaloedd ychwanegol – Cam 3

 

2.    Cymeradwyo’r Pennaeth Plant, mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Cyllid i gyflwyno achosion busnes a derbyn cynigion grant ar gyfer y Rhaglen Gyfalaf Gofal plant a’r blynyddoedd cynnar.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Menna Trenholme. 

 

PENDERFYNIAD 

 

  1. Derbyn cynnig grant i ehangu Rhaglen Dechrau’n Deg yn y sir drwy   
  • ymestyn y cynllun llawn i weddill ardal Penygroes yn sgil gostyngiad yn y niferoedd cymwys i’r rhaglen bresennol   
  • ymestyn yr elfen ofal plant i ardaloedd ychwanegol – Cam 3   

  

  1. Cymeradwyo’r Pennaeth Plant, mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Cyllid i gyflwyno achosion busnes a derbyn cynigion grant ar gyfer y Rhaglen Gyfalaf Gofal plant a’r blynyddoedd cynnar.  

 

TRAFODAETH 

 

Cyflwynwyd adroddiad gan yr aelod Cabinet Plant a Chefnogi Teuluoedd a oedd yn rhoi trosolwg ar y cynnig i ymestyn y Cynllun Dechrau’n Deg. Nodwyd fod yr adroddiad yn cynnwys ymestyn y cynllun Dechrau’n Deg yn llawn i weddill ardal Penygroes yn sgil gostyngiad yn y niferoedd cymwys i’r rhaglen bresennol ac i ymestyn yr elfen ofal plant i ardaloedd ychwanegol. 

 

Esboniwyd fod y rhaglen Dechrau’n Deg eisoes ar gael mewn saith cymuned yng Ngwynedd. Nodwyd fod y gwasanaeth wedi rhoi cam cyntaf ehangu ar y gwaith mewn rhannau o Dregarth, Bethesda a Blaenau Ffestiniog. Adroddwyd fod ardal newydd wedi’i ychwanegu yn 2023, sef Deiniolen. Mynegwyd fod y prosiect yn dal i wynebu gostyngiad ac yn dilyn gwaith dadansoddi o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig esboniwyd mai ymestyn y gwasanaeth i weddill Penygroes byddai’r cam gorau. 

 

O ran camau 2 a 3, adroddwyd bod cam 2 wedi bod yn weithredol ers 2023 ac yn gwasanaethu wyth ardal LSOA. Tynnwyd sylw at yr heriau o fewn y sector megis diffyg darpariaeth mewn ardaloedd gwledig, cynaladwyedd y Sector Gofal Plant a chynnydd mewn costau staffio. Nodwyd y byddai llwyddiant y camau nesaf yn ddibynnol ar gydweithio agos rhwng y gwasanaethau blynyddoedd cynnar, darparwyr lleol a chyllid gan Lywodraeth Cymru. 

 

Nodwyd fod y Llywodraeth wedi cyhoeddi’r trydydd cam o ehangu Dechrau’n Deg, gan eto ei gyfyngu i ariannu’r elfen gofal plant yn unig. Eglurwyd y bydd y cynllun yn targedu 147 o blant 2 oed ychwanegol yn ystod 2025 mewn mwy o ardaloedd yng Ngwynedd. Eglurwyd fod ardaloedd ar gyfer  2025 wedi’i adnabod.  

 

Esboniwyd fod Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar yn cydweithio gyda’r adan Dai ac Addysg ar brosiectau cyfalaf mawr yn Nhywyn, Penygroes, Deiniolen, Bangor a Cricieth (cyfanswm gwariant cyfalaf o oddeutu £3.5miliwn) sy’n fuddsoddiad gwych i blant yr ardaloedd hynny. Adroddwyd y byddai manteisio ar y ddwy raglen blynyddoedd cynnar yma yn cyfrannu tuag at feysydd Blaenoriaeth “Gwynedd Yfory” a “Gwynedd Gymraeg” yng Nghynllun y Cyngor drwy roi’r cychwyn gorau posibl mewn bywyd i blant. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth: 

  • Diolchwyd a chymeradwywyd y gwaith pwysig sydd yn cael ei wneud ond mynegwyd pryder am yr heriau sydd yn wynebu darparu’r gwasanaeth yma. Amlygwyd ei fod yn fwy nag gwasanaeth gwarchod plant ac yn rhan bwysig o addysg y plant. Pwysleisiwyd ei fod yn bwysig fod y Cyngor a’r Cabinet yn rhoi cymaint o gymorth a phosib i sicrhau fod y gwaith yn parhau. 
  • Croesawyd y cynllun gan esbonio fod yr Aelod wedi dod ar draws enghreifftiau yn ei ardal ei hun gyda rhai plant yn cael darpariaeth a rhai eraill ddim. Mynegwyd ei siomedigaeth gyda hyn a nodwyd ei fod eisiau gweld y rhaglen yn parhau i dyfu fel y bod y Cyngor medru cynnig gofal plant am ddim i holl blant y sir. Tynnwyd sylw at ardaloedd ble argymhellir ehangu yn ystod 2025-26 a gofynnwyd a oes amserlen i’r cynllun yma. Nodwyd nad oed modd rhoi llawer o eglurdeb ar hyn o bryd gan ei bod yn disgwyl am ymateb gan y Llywodraeth. 

 

Awdur:Sioned Owen: Rheolwr Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar, Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd

Dogfennau ategol: