Cyflwynwyd gan:Cyng. Huw Wyn Jones
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD Derbyn yr adroddiad ac ystyried y sefyllfa
ariannol derfynol adrannau’r Cyngor am 2024/25:
Gan nodi bod gorwariant sylweddol gan yr Adran
Oedolion, Iechyd a Llesiant, Adran Plant a Theuluoedd, Adran Priffyrdd,
Peirianneg ac YGC, a’r Adran Amgylchedd yn 2024/25 (Gweler colofn A yn y tabl
uchod). Cymeradwywyd trosglwyddiadau ariannol canlynol (a eglurwyd yn Atodiad
2 yr adroddiad) - ·
Yn unol â phenderfyniad Cabinet 21 Ionawr 2025,
peidio caniatáu i adrannau gario unrhyw danwariant i’r flwyddyn ariannol
nesaf drwy eithrio cymal 16.3.1.(C) o’r Rheoliadau Ariannol (Gweler colofn B
yn y tabl uchod). ·
Cadarnhau'r cymorth ariannol o £281k uwchlaw’r
taliad cytundebol i Gwmni Byw’n Iach, a defnyddio £1.1 miliwn o gronfa
Adennill Enillion Cyfrannol Parc Adfer i gyllido'r gorwariant yn y maes
Gwastraff (Gweler colofn C yn y tabl uchod). ·
Yr adrannau sydd yn gorwario i dderbyn cymorth
ariannol un tro gan gyfyngu lefel y gorwariant sydd i’w gario ymlaen gan yr
Adran i £100k (Gweler colofn CH yn y tabl uchod). ·
Ar gyllidebau Corfforaethol: -
defnyddio (£5.144 miliwn) o’r tanwariant ar
gyllidebau corfforaethol i gynorthwyo'r adrannau sydd wedi gorwario yn
2024/25. -
gweddill y tanwariant o (£1.548 miliwn) ar
gyllidebau Corfforaethol i’w drosglwyddo i’r Gronfa Trawsffurfio, i'w
ddefnyddio ar gyfer blaenoriaethau'r Cyngor. Cymeradwywyd symiau i’w cario ’mlaen (y
golofn “Gor/(Tan) Wariant Addasedig” yng ngholofn D uchod ac yn Atodiad 1). Cymeradwywyd trosglwyddiadau ariannol o
gronfeydd penodol fel yr amlinellir yn Atodiad 3 yn dilyn adolygiad o’r
cronfeydd: - cynaeafu £1.275
miliwn o amrywiol gronfeydd a’i drosglwyddo i'r Gronfa Trawsffurfio. - Dad-ymrwymo
£375k o gynlluniau hanesyddol neu rai heb ymrwymiadau yn y Gronfa
Trawsffurfio. - Symud £2.5
miliwn o gronfa Cynorthwyo’r Strategaeth Ariannol i’r Gronfa Trawsffurfio fel
eu bod ar gael ar gyfer blaenoriaethau’r Cyngor a chyllido bidiau un tro i'r
dyfodol. |
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Huw Wyn
Jones.
PENDERFYNIAD
Derbyn yr adroddiad ac ystyried y sefyllfa ariannol
derfynol adrannau’r Cyngor am 2024/25:
|
Colofn A |
Colofn B |
Colofn C |
Colofn CH |
Colofn D |
|
Gor/(Tan) Wariant Gros 2024/25 |
Addasiadau a Argymhellir |
Gor / (Tan) Wariant Addasedig 2024/25 |
||
|
£ ‘000 |
£ ‘000 |
£ ‘000 |
£ ‘000 |
£ ‘000 |
Oedolion, Iechyd a Llesiant |
857 |
|
|
(757) |
100 |
Plant a Theuluoedd |
3,805 |
|
|
(3,705) |
100 |
Gwasanaeth Busnes a Chomisiynu Gofal |
(15) |
15 |
|
|
0 |
Addysg |
(191) |
191 |
|
|
0 |
Economi a Chymuned |
281 |
|
(281) |
|
0 |
Priffyrdd, Peirianneg ac YGC |
656 |
|
|
(556) |
100 |
Amgylchedd |
1,349 |
|
(1,100) |
(149) |
100 |
Tai ac Eiddo |
(3) |
3 |
|
|
0 |
Tîm Rheoli Corfforaethol a Chyfreithiol |
(48) |
48 |
|
|
0 |
Gwasanaethau Corfforaethol |
(42) |
42 |
|
|
0 |
Cyllid |
(5) |
5 |
|
|
0 |
Gan nodi bod gorwariant sylweddol gan yr Adran
Oedolion, Iechyd a Llesiant, Adran Plant a Theuluoedd, Adran Priffyrdd,
Peirianneg ac YGC, a’r Adran Amgylchedd yn 2024/25 (Gweler colofn A yn y tabl
uchod). Cymeradwywyd trosglwyddiadau ariannol canlynol (a eglurwyd yn Atodiad 2
yr adroddiad) -
Cymeradwywyd symiau i’w cario ’mlaen (y golofn
“Gor/(Tan) Wariant Addasedig” yng ngholofn D uchod ac yn Atodiad
1).
Cymeradwywyd trosglwyddiadau ariannol o gronfeydd
penodol fel yr amlinellir yn Atodiad 3 yn dilyn adolygiad o’r
cronfeydd:
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad a oedd yn manylu ar
sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r Cyngor gan nodi’r rhesymau dros y
gorwariant neu danwariant. Amlygwyd fod y sefyllfa wedi gwella ers adolygiad
Awst a Tachwedd. Nodwyd fod gorwariant yn parhau ym meysydd gofal all sirol yr
Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd, Gwasanaeth Derwen, Gwasanaeth Gofal Cartref
a’r maes Gwastraff. Eglurwyd fod derbyniadau grant sylweddol a sefyllfa
ffafriol ar nifer o gyllidebau corfforaethol yn cynorthwyo i leddfu'r sefyllfa
ariannol ar gyfer y Cyngor yn ei gyfanrwydd erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.
Tynnwyd sylw at rhai adrannau yn unigol i roi
rhesymeg dros y cyllidebau.
Amlygwyd fod gorwariant o £857k gan yr Adran
Oedolion yn leihad o’r rhagolygon o £3m yn gynharach yn y flwyddyn. Eglurwyd
fod hyn o ganlyniad i’r adran yn derbyn grantiau ac incwm sylweddol yn agos i
ddiwedd y flwyddyn ariannol. Pwysleisiwyd fod pwysau amlwg yn parhau yn y maes
Gofal Cartref, gyda chostau staffio uwch a lefelau salwch a chyfraddau oriau
digyswllt yn uchel, tra bod pwysau sylweddol hefyd ar y gyllideb darparwyr
gofal cartref preifat. Mynegwyd fod defnydd o staff asiantaeth yn un o’r materion
yng ngofal preswyl mewnol.
Eglurwyd fod gorwariant yr Adran Plant a Chefnogi
Teuluoedd yn uwch na’r hyn oedd wedi ei ragweld a’i fod bellach yn £3.8m.
Eglurwyd fod hyn o ganlyniad i gynnydd yng nghostau lleoliadau all-sirol
oherwydd cymhlethdodau pecynnau a defnydd cynyddol ddiweddar o leoliadau heb eu
cofrestru, sy’n fwy costus. Mynegwyd fod pwysau hefyd i’w weld ar gyllideb y
Gwasanaeth Derwen ac ar gefnogaeth cynlluniau cefnogol a gweithwyr maes.
O ran yr Adran Addysg nodwyd fod y maes cludiant
ysgolion wedi derbyn dyraniad cyllideb ychwanegol eleni, ac o ganlyniad i hyn,
derbyn grantiau ychwanegol ynghyd a chwtogi gwariant mae’r adran yn tanwario
(£191k) ar ddiwedd y flwyddyn.
Eglurwyd dros y blynyddoedd diwethaf fod Cwmni
Byw’n Iach wedi derbyn cefnogaeth ariannol gan y Cyngor oedd uwchlaw taliad
cytundebol y contract ddarparu, i'w galluogi i gynnal eu gwasanaethau. Mynegwyd
fod yr angen am gefnogaeth ariannol yn parhau yn 2024/25 gyda’r swm gofynnol
wedi cynyddu i £281k erbyn diwedd y flwyddyn.
Amlygwyd gorwariant yn yr Adran Priffyrdd,
Peirianneg ac YGC gan egluro o ran y maes bwrdeistrefol fod cyfuniad o
ffactorau yn rheswm dros hyn, gan gynnwys pwysau ychwanegol ar gyllidebau staff
glanhau strydoedd a glanhau toiledau cyhoeddus.
Pwysleisiwyd fod tueddiad blynyddol o orwariant yn
y maes casglu gwastraff yn parhau ac yn gyfrifol am orwariant yr Adran
Amgylchedd. Eglurwyd yn ogystal fod diffyg incwm parcio hefyd yn amlwg eleni ac
wedi cynyddu erbyn diwedd y flwyddyn.
Er fod pwysau sylweddol ar y gwasanaeth llety
argyfwng o fewn yr Adran Tai ac Eiddo yn parhau, mae cyllideb ychwanegol wedi
ei ddyrannu o bremiwm treth cyngor, cyllideb un tro ychwanegol a grant
ychwanegol gan Lywodraeth Cymru wedi cynorthwyo gyda’r pwysau ychwanegol.
Roedd ragolygon ar sefyllfa cyllidebau ysgolion yn
amlygu lleihad sylweddol ym malansau ysgolion, ond yn
dilyn derbyn grant gan Lywodraeth Cymru ar ddiwedd y flwyddyn, nodwyd fod
lefelau’r balansau wedi eu cynnal.
Adolygwyd digonolrwydd cronfeydd penodol y Cyngor
gan y Pennaeth Cyllid unwaith eto wrth gau’r cyfrifon eleni, yn unol â’r polisi
a gymeradwywyd rhai blynyddoedd yn ôl. Llwyddodd yr adolygiad yma i gynaeafu
£1.275 miliwn o adnoddau sydd wedi ei drosglwyddo i’r gronfa Trawsffurfio i’w
ddefnyddio ar gyfer blaenoriaethau’r Cyngor.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:
Awdur:Ffion Madog Evans: Assistant Head of Finance Department - Accountancy and Pensions
Dogfennau ategol: