I ystyried yr adroddiad
a nodi’r wybodaeth
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth
Cofnod:
Amlygodd y Rheolwr Buddsoddi bod yr adroddiad bellach yn un rheolaidd
sy’n cael ei gyflwyno i’r
Aelodau yn nodi’r wybodaeth ddiweddaraf ar waith PPC ynghyd
a’r hyn a benderfynwyd ynn nghyfarfod mis Mawrth o’r Cydbwyllgor Llywodraethu (corff sydd yn
gwneud penderfyniadau dros y Bartneriaeth ble mae Cadeirydd
pob cronfa yn eistedd arno).
Tynnwyd sylw at y ffaith bod y Bartneriaeth wedi ail benodi Hymans Robertson fel cynghorydd goruchwylio (oversight advisor) a Robeco fel darparwr pleidleisio
ac ymgysylltu.
Cyflwynwyd hefyd ddiweddariad ar y cynllun hyfforddi, y cynllun busnes a’r gofrestr risg
ynghyd a diweddariad y gweithredwr oedd yn amlygu’r holl
gronfeydd sydd gan y Bartneriaeth wedi’i sefydlu. Cyfeiriwyd at fanylder gwaith y gweithredwr dros y cyfnod ac at unrhyw amodau’r farchnad sydd wedi
cael eu monitro
ganddynt. Tynnwyd sylw at ddadansoddiad fesul is-gronfeydd o’r perfformiad gan nodi bod perfformiad y cronfeydd ecwiti byd-eang wedi bod yn gryf ar
marchnadoedd incwm sefydlog wedi llusgo.
Cyfeiriwyd at y gwaith ‘Addas i’r Dyfodol’ lle
atgoffwyd yr Aelodau iddynt
gymeradwyo gofyniad i greu cwmni
buddsoddiad IMCo a symud y prosiect ymlaen. Ategwyd bod y Cyngor
Llawn hefyd wedi ei gymeradwyo ar
y 3ydd o Orffennaf 2025, gyda
disgwyliad y bydd wyth Cyngor y Bartneriaeth wedi cymeradwyo’r gofyn erbyn diwedd
y mis. Bydd y gwaith o sefydlu’r cwmni yn digwydd dros
yr Haf er mwyn cyrraedd y dyddiad targed o 31 Mawrth 2026.
Diolchwyd am yr adroddiad
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn
â beth fydd yn digwydd i
bortffolio eiddo Gwynedd wedi i’r cwmni
buddsoddi IMCo gael ei sefydlu,
nodwyd bod proses tendr wedi digwydd ac y byddai’r buddsoddiadau eiddo yn rhan
o gronfeydd newydd eiddo Partneriaeth Pensiwn Cymru, gyda cronfa eiddo’r Deyrnas Unedig, a cronfa eiddo ‘impact’.
Mewn ymateb i
sylw ynglŷn â chais i’r sesiynau
hyfforddiant gael eu recordio fel
bod modd cyfeirio’n ôl atynt os
byddai problem mynychu, nodwyd y byddai’r sylw yn cael
ei gyfeirio at yr Awdurdod Lletyol i sicrhau bod dolennau
i’r recordiadau ar gael i’r
Aelodau.
Mewn ymateb i
sylw am swyddogaethau a chyfrifoldebau'r Pwyllgor yn newid o ganlyniad
i sefydlu cwmni buddsoddi IMCo erbyn Mawrth 2026, awgrymwyd cynnal sesiwn penodol i rannu gwybodaeth
am y sefyllfa erbyn cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor
PENDERFYNWYD
Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth
Dogfennau ategol: