Agenda item

Datblygiad llety gwyliau (cynllun diwygiedig) sy'n golygu:-

·        Gosod sylfeini ar gyfer cabannau gyda decio cysylltiedig.

·        Gosod sylfeini ar gyfer podiau glampio.

·        Seilwaith cysylltiedig i gynnwys ffyrdd mewnol, mannau parcio, systemau draenio cynaliadwy ynghyd a draenio dwr aflan.

·        Tirlunio meddal a chaled gan gynnwys torri rhai coed, cadw coed ac ymgymryd a gwelliannau i'r goedlan presennol.

·        Codi derbynfa/adeilad gwerthiant ynghyd ac ail-orchuddio'r adeilad presennol a'i ddefnyddio fel hwb e-beicio gyda  pwyntiau gwefru trydan.

 

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Beca Roberts

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gwrthod yn groes i’r argymhelliad

 

Rhesymau:

Gwrthod ar sail Polisi TWR 3 Rhan 1 maen prawf i, y byddai’r safle yn arwain at ormodedd o safleoedd carafanau sefydlog neu safleoedd siale neu safleoedd gwersylla amgen parhaol yn yr ardal leol a fyddai yn achosi effaith weledol andwyol ac effaith andwyol ar fwynderau’r ardal a thrigolion lleol oherwydd aflonyddwch.

 

Cofnod:

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

Roedd rhai o’r Aeldoau wedi ymweld ar safle 12-05-25

 

Datblygiad llety gwyliau (cynllun diwygiedig) sy'n golygu:-

·        Gosod sylfeini ar gyfer cabannau gyda decio cysylltiedig.

·        Gosod sylfeini ar gyfer podiau glampio.

·        Seilwaith cysylltiedig i gynnwys ffyrdd mewnol, mannau parcio, systemau draenio cynaliadwy ynghyd a draenio dŵr aflan.

·        Tirlunio meddal a chaled gan gynnwys torri rhai coed, cadw coed ac ymgymryd â gwelliannau i'r goedlan bresennol.

·        Codi derbynfa/adeilad gwerthiant ynghyd ac ail-orchuddio'r adeilad presennol a'i ddefnyddio fel hwb e-beicio gyda  phwyntiau gwefru trydan.

 

a)           Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd ar gyfer darparu llety gwyliau a gwaith cysylltiedig o fewn coedlan bresennol i’r de-ddwyrain o bentref Glasinfryn. Mynegwyd, ers cyflwyno’r cais yn wreiddiol yn 2018, bod y datblygiad wedi ei ddiwygio a’i leihau nifer o weithiau a bellach y nifer o unedau wedi eu lleihau i 25 caban gwyliau a 4 pod glampio.

 

Nodwyd bod y goedlan, sy’n ffurfio’r ffin gyda’r ffordd Dosbarth III tuag at Glasinfryn, yn destun Gorchymyn Gwarchod Coed gyda gweddill y safle yn Safle Bywyd Gwyllt ymgeisiol.

 

Cyfeiriwyd at Polisi TWR 3 sy’n caniatáu cynigion i ddatblygu safleoedd carafanau neu siale sefydlog newydd, neu lety gwersylla amgen parhaol y tu allan i Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol ac Ardaloedd Tirwedd Arbennig, yn ddarostyngedig i feini prawf perthnasol.

 

Adroddwyd bod y maen prawf cyntaf yn cyfeirio’n benodol at ormodedd o ddatblygiadau newydd, ac ‘Astudiaeth Capasiti a Sensitifrwydd y Dirwedd yn Ynys Môn, Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri’ er mwyn diffinio gormodedd ar gyfer y safle yma. Ategwyd bod yr Astudiaeth yn nodi fod rhywfaint o gapasiti ar gyfer datblygiadau bach i bach iawn y tu allan i’r safleoedd sy’n cyfrannu tuag at osodiad Parc Cenedlaethol Eryri o fewn yr Ardal Cymeriad Tirwedd penodol yma, gyda’r Astudiaeth yn diffinio datblygiadau ‘bach iawn’ fel rhai hyd at 10 uned a datblygiadau ‘bach’ fel rhwng 10 - 25 uned. Er bod nifer unedau sy’n destun y cais yma yn 29 a gan gydnabod bod y ffigwr yma yn uwch na’r hyn a ddiffinnir fel datblygiad bychan yn yr Astudiaeth, rhoddwyd ystyriaeth i gapasiti ardaloedd ar gyfartaledd yn hytrach na lleoliadau unigol, ac ystyriaeth i’r safle fel un cuddiedig. I’r perwyl hyn, ystyriwyd bod capasiti digonol i’r safle yn yr ardal benodol yma, a gan ei fod yn safle anymwthiol sydd eisoes wedi ei sgrinio’n dda roedd hefyd yn cydymffurfio gyda’r ail faen prawf.

 

Yng nghyd-destun y maen prawf sy’n cyfeirio at ddarparu mynediad digonol heb amharu’n sylweddol ar nodweddion a chymeriad y dirwedd, ynghyd a sicrhau fod y safle yn agos at brif rwydwaith ffyrdd, nodwyd bod mynedfa i’r safle yn bodoli’n bresennol gyda bwriad i’w wella a darparu llain welededd i foddhad yr Uned Drafnidiaeth yn ogystal â gwarchod y gwrych sydd yn destun Gorchymyn Gwarchod Coed.

 

Cyfeiriwyd at gynnwys yr asesiad manwl ar effaith ar fwynderau trigolion cyfagos, ond yn y pen draw ac ar sail y pellter a natur guddiedig y safle, ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn cael effaith andwyol sylweddol ar drigolion cyfagos. Cadarnhawyd hefyd bod trafodaeth sylweddol wedi bod ynglŷn â phryderon ac effaith ar goed a bioamrywiaeth, a bod nifer o asesiadau ac arolygon wedi eu cyflwyno ynghyd ag ymrwymiad i ddarparu cynllun i reoli’r safle a fyddai yn cynnwys gwelliannau. Ystyriwyd bod yr arolygon a gyflwynwyd yn cyfleu sefyllfa bresennol y safle ac yn amlygu’r angen i reoli’r goedlan er mwyn sicrhau dyfodol y cynefin a’i fioamrywiaeth o’i fewn. Adroddwyd nad oedd y safle wedi ei ddynodi fel safle o bwysigrwydd Cenedlaethol. Cydnabuwyd ei fod yn safle bywyd gwyllt, ond ystyriwyd fod yr ymgeisydd wedi mynd i’r afael ag anghenion y safle ac o ganlyniad bydd y datblygiad yn cael ei reoli a’i wella yn ddarostyngedig i amodau cynllunio. Ystyriwyd felly fod y bwriad yn dderbyniol yng nghyd-destun effaith ar fwynderau a hynny yn ddarostyngedig i amodau priodol fyddai’n sicrhau mesurau rheoli, lliniaru a gwella priodol.

 

Cyfeiriwyd at faterion cynaliadwyedd, llifogydd, isadeiledd ac ieithyddol gan nodi eu bod wedi derbyn sylw priodol a’r bwriad yn dderbyniol o ran y materion hynny.

 

Roedd y swyddogion yn argymell caniatáu y cais gydag amodau.

 

b)             Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol;

·        Ei bod yn annog i’r Pwyllgor wrthod y cais ar y sail ei fod yn or-ddatblygiad

·        Bod cyfeiriad at y safle fel un ‘bach addas’ ond bod hwn ar gyfer 29 uned sydd tu hwnt i ‘bach’

·        Bod y cais yn adlewyrchu hygyrchedd da gyda rhwydwaith dda o ffyrdd a chludiant cyhoeddus - hyn yn anghywir - dim ond tair gwaith yr wythnos mae’r bws yn rhedeg heibio’r safle

·        Bod y safle yn agos at ffordd brysur a pheryglus – byddai cynnydd mewn cerbydau yn gwaethygu’r sefyllfa ynghyd â chynnydd mewn lefelau sŵn. Nid yw’r amodau hyn yn addas i lety gwyliau

·        Bod yr adroddiad yn nodi ‘dim carafanau statig yn yr ardal’ - hyn yn anghywir: o fewn 3km i’r safle ceir nifer o safleoedd carafanau / llety gwyliau

·        Er sôn am ddwy swydd fydd yn cael eu creu, nid oes gwarant y bydd y swyddi hyn yn rhai parhaol neu lefel cyflog uchel.

·        Er yn nodi budd yn lleol, bod y pecyn croeso sydd yn cael ei adael i ymwelwyr yn annog iddynt siopa ar-lein fydd yn lleihau'r angen iddynt deithio oddi ar y safle; Cwmnïau mawr fydd yn elwa o hyn ac nid siopau lleol.

·        Prif amcan yw sicrhau economi cyflog uchel drwy greu budd net i gymunedau’r Sir. Anodd gweld beth fydd y budd net yma

 

c)        Cynigiwyd ac eiliwyd gwrthod y cais yn groes i’r argymhellaid

 

Rhesymau: Yn groes i Bolisi TWR 3.1 – gormodedd o ddarpariaeth yn yr ardal  fyddai’n arwain at aflonyddwch ac effaith mwynderol a gweledol ar drigolion cyfagos.

Astudiaeth capasiti  ‘bach’ a ‘bach iawn’ – dim sôn am gyfartaledd maint - rhain yn unedau mawr, moethus

 

ch)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan yr aelodau:

·        Bod yr ymweliad safle wedi bod yn werthfawr

·        Bod yr unedau yn fawr – yn ddigonol ar gyfer dau deulu. Yn faint byngalo!

·        Bod y Cyngor Cymuned yn pryderu am breifatrwydd a mwynderau trigolion Maes Infryn

·        Pryder yn y nifer o goed fydd angen eu torri i lawr

·        Bod nifer o wrthwynebiadau wedi eu derbyn drwy e-bost

·        Bod angen gwrando ar lais y gymuned

 

·        Bod y cwmni yn gwmni mawr – bydd y datblygiad yn dod a budd i’r economi leol

·        Bod gan y cwmni safle yn Ceredigion

·        Bod amodau yn cael eu gosod ar gyfer ffyrdd a mynediad

·        Y safle yn anweladwy, yn safle bendigedig

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd y Pennaeth Cynorthwyol bod y bwriad yn cydymffurfio gyda’r polisïau perthnasol, a phe byddai’r Pwyllgor yn penderfynu gwrthod y cais, yna bydd rhaid i’r cynigydd a’r eilydd amddiffyn y penderfyniad os daw apêl.

 

PENDERFYNWYD: Gwrthod yn groes i’r argymhelliad

 

Rhesymau:

Gwrthod ar sail Polisi TWR 3 Rhan 1 maen prawf i, y byddai’r safle yn arwain at ormodedd o safleoedd carafanau sefydlog neu safleoedd siale neu safleoedd gwersylla amgen parhaol yn yr ardal leol a fyddai yn achosi effaith weledol andwyol ac effaith andwyol ar fwynderau’r ardal a thrigolion lleol oherwydd aflonyddwch.

 

Dogfennau ategol: