Cynllun
arallgyfeirio fferm ar gyfer gosod 5 uned llety gwyliau ar y tir
AELOD
LLEOL: Cynghorydd John Pughe Roberts
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Gwrthod yn unol
ar argymhelliad
Rhesymau:
Cofnod:
Cynllun
arallgyfeirio fferm ar gyfer gosod 5 uned llety gwyliau ar y tir
Roedd
rhai o’r Aelodau wedi ymweld ar safle 12-05-25
a)
Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu mai cais
ydoedd ar gyfer newid defnydd
tir a datblygu llety gwyliau newydd
ar ffurf 5 pod glampio parhaol, parcio cysylltiedig, addasiadau i’r fynedfa, draenio a thirlunio. Ategwyd bod y safle wedi ei
leoli yng nghefn gwlad ac o fewn Ardal Tirwedd
Arbennig. I’r de o’r safle mae
Afon Dulas a gyda thopograffi’r safle yn goleddu lawr
o’r ffordd tuag at yr afon, byddai’r unedau wedi eu lleoli
ar y llethr uwchben yr afon. Aroddwyd bod eiddo preswyl yn ffinio
gyda’r safle ac un adeilad allanol
nad yw ym
mherchnogaeth yr ymgeisydd
ger y fynedfa bresennol.
Eglurwyd bod y podiau o’r
math sy’n golygu mai polisi TWR 3 oedd yn berthnasol.
Tynnwyd sylw at bwynt 1 polisi TWR 3 sy’n cadarnhau y gwrthodir cynigion i ddatblygu safleoedd
carafanau sefydlog newydd, safleoedd sialé gwyliau newydd
neu lety gwersylla amgen parhaol o fewn Ardal o Harddwch
Naturiol Eithriadol Môn neu
Llyn ac yn yr Ardaloedd Tirwedd Arbennig. Yn sgil hyn mae’r
bwriad yn sylfaenol groes i bwynt 1 o bolisi
TWR 3 a pholisi PCYFF 1 gan
y byddai’n sefydlu safle gwersylla amgen parhaol newydd
oddi fewn i’r Ardal Tirwedd
Arbennig.
Amlygwyd bod y tŷ annedd
agosaf i’r safle wedi ei
leoli ar waelod y trac a fyddai’n cael ei ddefnyddio
gan ddefnyddwyr yr unedau gwyliau arfaethedig.Yn bresennol, caeau amaethyddol a’r afon sydd
o amgylch y tŷ annedd yma sydd
mewn lleoliad gymharol breifat, llonydd a thawel a lle nad oes
llawer o weithgareddau ac aflonyddwch i ddeiliaid
yr eiddo. Byddai cyflwyno safle gwersylla amgen yn y lleoliad hwn
gyda’r potensial i achosi effaith
andwyol annerbyniol ar yr eiddo cyfagos
oherwydd mwy o weithgaredd, sŵn ac aflonyddwch gan ymwelwyr. Mae natur defnydd gwyliau yn golygu symudiadau
gwahanol i unedau preswyl parhaol, ac nid yw’r ymgeisydd yn byw ar
y safle o ran gallu goruchwylio a rheoli’r safle ac ymateb i unrhyw faterion
neu broblemau allai godi ar y pryd.
Ystyriwyd fod y bwriad felly yn groes i ofynion
maen prawf 7 o Bolisi PCYFF 2 ar sail effaith ar mwynderau’r
cymdogion.
Yng nghyd-destun
materion priffyrdd, bioamrywiaeth, archeolegol, cynaliadwyedd, llifogydd, draenio ac ieithyddol nodwyd eu bod wedi
derbyn sylw priodol ac ystyriwyd fod y bwriad yn
dderbyniol o ran y materion
hynny, ond nodwyd nad oedd
hynny yn goresgyn gwrthwynebiad sylfaenol i’r bwriad
ar sail yr egwyddor ei fod wedi
ei leoli o fewn Ardal Tirwedd
Arbennig
Roedd y swyddogion yn argymell gwrthod y cais
b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd gwrthwynebydd i’r cais y
sylwadau canlynol;
·
Bod eu cartref Pandy,
gerllaw'r safle, yn hen felin, llawn cymeriad
·
Yr eiddo wedi ei brynu
gyda’r sicrwydd ei fod wedi ei warchod rhag datblygiad
·
Bod yr eiddo mewn safle
neilltuedig gan fod y ddau ohonynt yn mwynhau byd natur ac awyr dywyll
·
Bod yr ymgeisydd wedi
prynu’r cae yn 2023 a bod sylwadau o bryder wedi eu cyflwyno yr adeg hynny
·
Bydd dim modd rheoli
defnyddwyr y podiau gan nad yw’r ymgeisydd yn byw ar
y safle
·
Bydd yr ardal tu allan
i’w tŷ yn cael ei ddefnyddio fel ardal troi cerbyd - bydd hyn, gyda’r nos
yn llenwi'r tŷ gyda golau
·
Bydd cerddwyr ar hyd
llwybr y rheilffordd yn edrych i lawr i’w heiddo
·
Bydd sŵn yn debygol
·
Os bydd problemau, bydd
pobl sy’n aros yn y podiau yn mynd i Pandy
·
Bydd pobl diarth yn yr
ardal, yn creu aflonyddwch
·
Yn gofyn i’r Pwyllgor
gadw at y polisi a gwrthod y cais
c)
Yn manteisio ar yr hawl i
siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol;
·
Mai llwybr cyhoeddus sydd
uwchben ac islaw Pandy
·
Bydd coed yn cael eu
plannu i liniaru effaith weledol
·
Nad oedd ymgynghoriad
llawn wedi bod wrth sefydlu’r ATA - hyn yn codi pryder ynglŷn â
datblygiadau i’r dyfodol
·
Yn cefnogi’r cais – y teulu
yn deulu Cymraeg, lleol
·
Yr ymgeisydd yn byw yn
agos i’r safle
ch) Cynigwyd ac eiliwyd
caniatáu y cais yn groes i’r argymhelliad
d)
Yn ystod y drafodaeth
ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan yr aelodau:
·
Pump pod
sydd yma ac felly dim tyrfaoedd mawr
·
Bod ffarmio yn rhan o
gefn gwlad a bod rhaid i ffermwyr arallgyfeirio ychydig
·
Bod y llwybrau gerllaw
yn rhai cyhoeddus
·
Bod twristiaeth yn
hanfodol i’r economi leol
·
Bod twristiaeth
gynaliadwy yn rhoi dyfodol i ffermwyr
·
Na fydd effaith andwyol
sylweddol ar breifatrwydd Pandy
·
Os caniatáu, bydd angen
amodau i reoli sgil effeithiau sŵn a goleuo
·
Un polisi yn unig sydd
ddim yn cael ei gyfarch yma, y datblygiad yn cyfarch nifer o bolisïau eraill
·
Bod y lleoliad yn
anweladwy – nid yn weladwy o’r brif-ffordd
·
Nid yw yn orddatblygiad
·
Bod Cyngor Cymuned wedi
cyfarfod pedair gwaith i drafod y cynnig ac yn cefnogi’r datblygiad
·
Peryg y gall caniatáu
osod cynsail
·
Bod polisi TWR3 yn
greiddiol i egwyddorion gwarchod tiroedd arbennig
dd) Mewn
ymateb i gwestiwn petai’r podiau yn rhai symudol ac a
fyddai hynny yn dderbyniol o ran dynodiad tir, nodwyd nad hynny oedd gofynion y
cais a gyflwynwyd, ond gyda hyblygrwydd Polisi TWR 2 byddai modd ystyried
hynny.
Mewn
ymateb i’r sylwadau uchod a’r ystyriaethau cynllunio, nododd y Pennaeth
Cynorthwyol bod pob cais yn cael ei ystyried ar ei rinweddau ei hun ac o fewn
polisïau lleol a chenedlaethol. Pwysleisiwyd, er y gallu i fod yn hyblyg gan
bwyso a mesur rhai penderfyniadau cynllunio, byddai’n sefydlu safle gwersylla
amgen parhaol newydd oddi fewn i’r ATA yn hollol groes i bolisi TWR 3. O ran statws yr
ATA yn Corris, adnabuwyd ansawdd y dirwedd fel ATA a bod yr ardal yma, fel
ardaloedd AHNE, gyda gormodedd o garafanau a llety parhaol ac felly polisi wedi
ei lunio i warchod sensitifrwydd yr ardaloedd hynny. Ategodd bod rhaid i’r
Pwyllgor fod yn gyson wrth wneud penderfyniadau ac os byddai’r cais yn cael ei
ganiatáu byddai rhaid ei gyfeirio i gyfnod o gnoi cil.
e)
Pleidleisiwyd ar y cynnig i ganiatáu y cais.
Disgynnodd y cynnig
f)
Cynigiwyd ac eiliwyd gwrthod y cais
PENDERFYNWYD: Gwrthod yn unol ar argymhelliad
Rhesymau:
·
Byddai’r bwriad yn
creu safle llety gwersylla amgen parhaol newydd o fewn Ardal Tirwedd Arbennig
ac felly yn groes i bwynt 1 o bolisi TWR 3 a PCYFF 1 o’r Cynllun Datblygu Lleol
ar y Cyd Gwynedd a Môn (2011-2026) sy'n diogelu'r Ardal Tirwedd Arbennig rhag y
math yma o ddatblygiad.
·
Mae’r bwriad yn
groes i faen prawf 7 o bolisi PCYFF 2 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a
Môn gan y byddai’n debygol o gael effaith andwyol sylweddol ar fwynderau
meddianwyr eiddo lleol o ran mwy o weithgareddau, aflonyddwch a sŵn.
Dogfennau ategol: