Agenda item

Cais llawn i godi hyd at 14 o dai fforddiadwy (dosbarth defnydd C3) ynghyd a datblygiadau cysylltiol gan gynnwys creu mynedfa gerbydol a ffordd stad newydd, gofod mwynderol, tirlunio a gwelliannau bioamrywiaeth

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gruffydd Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Amgylchedd ganiatáu’r cais gyda’r amodau canlynol :

 

1.         Amser

2.         Datblygiad yn cydymffurfio gyda chynlluniau a gymeradwywyd

3.         Rhaid cyflwyno a chytuno ar raglen ddarparu tai fforddiadwy

4.         Rhaid cytuno’r deunyddiau allanol gan gynnwys y llechi to

5.         Tynnu’r Hawliau Datblygu a Ganiateir

6.         Amod Dŵr Cymru

7.         Amodau Priffyrdd

8.         Amodau Bioamrywiaeth

9.         Cynllun Rheolaeth Adeiladu

10.       Rhaid rhoi enw Cymraeg i’r stad a’r tai unigol.

11.       Cyfyngu’r defnydd i ddosbarth defnydd C3 yn unig

12.       Cwblhau tirlunio

13.       Cytuno manylion cyfarpar chwarae

 

 

Cofnod:

Tir Ger  Helyg, Tai Lôn, Nefyn, Pwllheli, LL53 6LG

 

Cais llawn i godi hyd at 14 o dai fforddiadwy (dosbarth defnydd C3) ynghyd a datblygiadau cysylltiol gan gynnwys creu mynedfa gerbydol a ffordd stad newydd, gofod mwynderol, tirlunio a gwelliannau bioamrywiaeth

            Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

             

a)           Amlygodd yr Uwch Swyddog Cynllunio mai cais llawn ydoedd i godi 14 uned byw newydd ynghyd a gwaith cysylltiol ar safle tu mewn i ffin ddatblygu gyfredol tref Nefyn sydd wedi ei ddynodi yn benodol ar gyfer codi tai yn y CDLl. Bydd y datblygiad yn cynnig 4 fflat un ystafell wely, 5 tŷ dwy ystafell wely, 4 tŷ tair ystafell wely ac 1 tŷ 4 ystafell wely. Nodwyd bod yr ymgeisydd yn cadarnhau mai ar ffurf cynllun niwtral o ran deiliadaeth y cyflwynwyd y datblygiad sef cynllun fyddai’n darparu 100% o dai fforddiadwy gyda chymysgedd o ran deiliadaeth yn cael ei ddarparu (e.e. tai rhent cymdeithasol, tai rhent fforddiadwy canolradd, rhan berchnogaeth) i ddiwallu’r angen ac i ganiatáu ar gyfer newid yn amgylchiadau aelwydydd unwaith y bydd y cynllun wedi’i adeiladu.

 

Eglurwyd bod y safle’n bresennol yn dir amaethyddol agored gyda chloddiau a gwrychoedd yn ei amgylchynu gyda’r brif ffordd B4437 yn gyfochrog a ffin gogleddol y safle; y safle a’r ardal ehangach o fewn dynodiad Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli.

 

Adroddwyd, yn unol â threfniadau cynllun dirprwyo Gwasanaeth Cynllunio Gwynedd,  cyflwynwyd y cais i’r pwyllgor gan fod nifer o dai sydd yn cael eu darparu yn 5 neu fwy. Yn unol â’r drefn briodol fe dderbyniwyd Adroddiad Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio fel rhan o’r cais a bod y datblygwr wedi hysbysebu’r bwriad i’r cyhoedd ac ymgynghorwr statudol cyn cyflwyno cais cynllunio ffurfiol. Cwblhawyd asesiad llawn o’r holl faterion perthnasol gan gynnwys cydymffurfiaeth gyda pholisïau a chanllawiau mabwysiedig yn ogystal ag ystyriaeth lawn o’r holl sylwadau a gwrthwynebiadau a dderbyniwyd. O ganlyniad, ystyriwyd fod y bwriad fel a gyflwynwyd yn dderbyniol ar sail:

 

·        Bod polisïau mabwysiedig yr Awdurdod yn datgan y bydd y cynghorau’n ceisio sicrhau lefel briodol o dai fforddiadwy yn ardal y cynllun. Mae’r bwriad yn paratoi datblygiad fyddai’n cynnwys 100% o unedau fforddiadwy gyda’r Uned Strategol Tai yn cadarnhau fod tystiolaeth am yr angen er mwyn cyfiawnhau’r ddarpariaeth fel y bwriedir er mwyn cyfarch anghenion y gymuned leol.

·        Bod y safle wedi ei ddynodi yn benodol ar gyfer codi tai gyda amcangyfrif y safle yn dangos y gellir darparu 19 uned ar y safle.

 

Gyda’r cynnig fel y cyflwynwyd yn dderbyniol ag yn bodloni gofynion y polisïau perthnasol, roedd y swyddogion yn argymell caniatáu’r cais.

 

b)           Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol;

·     Bod y datblygiad am 14 uned byw fforddiadwy wedi ei baratoi i ddiwallu'r angen am dai yn lleol

·     Er bod y safle wedi ei ddyrannu ar gyfer 19 uned gyda’r angen am 10% ohonynt yn fforddiadwy, y bwriad yma yn cynnig 14 uned fyddai’n darparu 100% o dai fforddiadwy yn cwrdd â’r angen yn lleol

·     Bod y datblygiad yn cael ei arwain gan Grŵp Cynefin gyda chefnogaeth grant tai gan Llywodraeth Cymru dan reolaeth Cyngor Gwynedd drwy’r Adran Datblygu

·     Bod y cynllun yn cyfarch Strategaeth Tai Cyngor Gwynedd drwy ymateb i’r argyfwng tai yn y Sir gan sicrhau bod tai fforddiadwy ar gael i bobl leol

·     Bod ymgynghori gyda’r cyhoedd ac ymgynghorwr statudol wedi ei weithredu ynghyd a thrafod cynlluniau gyda Chyngor Tref Nefyn

·     Bod y bwriad yn cydymffurfio gyda pholisïau perthnasol

·     Bod y datganiad iaith Gymraeg, er nad yn ofynnol gan fod y safle eisoes wedi ei ddyrannu, yn nodi effaith gadarnhaol ar yr iaith

·     Bod ystadegau tenantiaid Cynefin yn amlygu canran uwch yn siarad Cymraeg na chanran y wardiau. Ffyddiog felly bydd y polisi gosod yn gosod y tai i bobl leol a phobl sy’n siarad Cymraeg

·     Bod nifer uchel ar restr aros opsiynau tai Tai Teg yn dymuno byw yn yr ardal

·     Datblygiad yn un sydd yn ceisio rhoi blaenoriaeth i bobl sydd â chysylltiad lleol i’r gymuned ac ymateb i’r galw

 

c)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol;

·     Bod Cyngor Tref Nefyn yn gwrthwynebu’r cais yn gryf am nad oes eu hangen

·     byddai’r tai yn cael eu gosod o dan bolisi gosod tai cyffredin Gwynedd ac felly byddai’r datblygiad yn debygol o gael effaith niweidiol ar y Gymraeg - hyn yn groes i nod strategol Cyngor Tref Nefyn o warchod a chynyddu defnydd y Gymraeg

·     Cynefin wedi cael cynnig gan yr Aelod Lleol i gydweithio gyda’r gymuned a’r Cyngor Tref i sefydlu polisi gosodiadau lleol fyddai’n gwarchod y Gymraeg a thrigolion Nefyn - dim cymryd y cyfle a dewis anwybyddu pryderon gwirioneddol trigolion Nefyn a’r Cyngor Tref a chyflwyno’r cais yn groes i ddymuniadau’r gymuned

·     Y polisi gosod presennol yn dod a mwy a mwy o bobl ddiarth o ardaloedd  di Gymraeg tu allan i’r Sir a hyd yn oed rhai o Loegr i fyw i Nefyn ac felly yn arwain at glywed llai o Gymraeg ar y stryd

·     Dywed Owain Wyn, am ddatganiad iaith y datblygwr, o fewn y sector rhentu cymdeithasol bod bron i 4 o bob 5 yn symud i mewn o rannau eraill, a bod y rhai a symudodd i ardal Nefyn (boed o’r sector rhentu cymdeithasol neu symud i’r ardal), 18 uned, gwelwyd bod 77.8% wedi symud o rannau eraill o Wynedd a 22.2% o du allan i’r Sir. Golygai hyn bod 22.2% heb gyswllt a’r ardal sy’n ganran uchel a gyda 4 o bob 5  wedi dod i dai cymdeithasol o tu allan i’r ardal, yn rhoi'r argraff na fydda’r datblygiad yma yn cael effaith gadarnhaol ar yr iaith Gymraeg

·     Bod y Pwyllgor, mewn cais tebyg am dai fforddiadwy ym Motwnnog, wedi gwrthod cais Adra am yr union run rheswm, ac felly yn gofyn i’r Pwyllgor gefnogi’r gwrthwynebiad

·     Cyngor Cymunedau Botwnnog, Aberdaron a Thudweiliog yn cydweithio i sicrhau parhad i’r Gymraeg, a bellach 18 o gynghorau cymuned/tref eraill o Wynedd wedi ymuno â hwy – yn gytûn i gefnogi eu gilydd a galw am fwy o reolaeth ac adnoddau i warchod y Gymraeg a sefydlu polisïau gosod lleol fydd yn sicrhau ffyniant y Gymraeg yn ein cymunedau.

·     Bod Polisi Gosodiadau Lleol yn bolisi cyffredin gyda chyswllt gyda chytundeb 106 (sydd yn dod o dan y drefn Cynllunio i sicrhau sicrwydd nad oes effaith niweidiol ar yr iaith - dim polisi gosod lleol na chytundeb 106 yn rhan o’r cais fyddai’n rhoi'r sicrwydd yma

·     Cyngor Cymuned Tudweiliog yn datgan cefnogaeth Cyngor Tref Nefyn i wrthwynebu’r cais ac am roi gwybod bod swyddogion polisi Comisiynydd y Gymraeg yn cyflwyno sylwadau ar ddogfen drafft o bolisïau gosodiadau lleol fydd yn cael ei gyflwyno i Cyngor Gwynedd, cyn ymgynghori gyda’r gymuned. Y ddogfen yn sail i sefydlu polisi gosodiadau lleol yng ngoleuni cyngor cyfreithlon Comisiynydd y Gymraeg

·     Bod Cyngor Gwynedd hefyd yn disgwyl am gyngor cyfreithlon fydd yn rhoi arweiniad pellach ar sut gall y Cyngor cefnogi Cynghorau Tref a Chymuned i ddod i gytundeb gyda chymdeithasu tai i roi ystyriaeth briodol i sgiliau ieithyddol mewn polisïau gosodiadau lleol.

·     Bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ymateb i adroddiad Comisiwn Cymunedau Gymraeg cyn diwedd y mis fydd yn rhoi arweiniad pendant ar osod y Gymraeg fel ystyriaeth mewn polisi gosodiadau lleol a chytundeb 106 - bydd caniatáu y cais cyn derbyn arweiniad yn gam gwag

·     Cais i’r Pwyllgor gefnogi gwrthwynebiad trigolion Nefyn a’r Cyngor Tref.

·     Bod angen gwarchod yr iaith. Nid oes polisi gosod lleol na chytundeb106 yn ei le yma.

·     Byddai’r datblygiad yn debygol o achosi niwed arwyddocaol i’r iaith Gymraeg ac yn groes i bolisi PS1

 

ch)    Cynigwyd ac eiliwyd caniatáu y cais.

 

d)           Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan yr aelodau:

·        Bod y cais yn groes i bolisi PS1 – byddai’n creu niwed arwyddocaol ar yr iaith Gymraeg. Nid oedd tystiolaeth nac ystyriaeth ddigonol yn y datganiad iaith i warchod y Gymraeg

·        Bod Cymry Cymraeg angen tai!

·        Bod y safle wedi ei gynnwys yn y CDLl ac felly datganiad iaith eisoes wedi ei dystiolaethu

·        Bod y cais yn un mawr – creu effaith posib ar fwynderau tai cyfagos

·        Bod y cais yn un deniadol, cryf ond bod gormod o dai yma - tref fechan yw Nefyn

·        Dim data am siaradwyr Cymraeg sydd ar y rhestr aros, felly anodd pwyso a mesur hyd nes bydd data ar gael

·        Nid oedd mesurau lliniaru yma i warchod yr iaith Gymraeg

·         

·        Bod y polisi yn cwrdd ag anghenion tai pobl Gwynedd. Nefyn yn dref gyda rôl berthnasol o fewn yr ardal

·        Derbyn bod y polisi yn cyfleu at yr elfen ‘lleol i Wynedd’ ond blaenoriaeth i bobl Nefyn, yn unol â pholisi gosod sydd yn cyfarch anghenion yr ardal

·        Bod ymgyrch Hawl i Fyw Adre wedi dechrau yn Nefyn sydd yn adlewyrchu bod angen tai yn Nefyn!

 

Mewn ymateb i gwestiwn a fyddai modd gosod amod i sicrhau bod siaradwyr Cymraeg Nefyn yn cael blaenoriaeth, amlygodd y Pennaeth Cynorthwyol nad oedd modd rheoli iaith meddianwyr tai na newid polisïau i gyfateb i gais penodol.

 

PENDERFYNWYD: Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Amgylchedd ganiatáu’r cais gyda’r amodau canlynol :

 

1.         Amser

2.         Datblygiad yn cydymffurfio gyda chynlluniau a gymeradwywyd

3.         Rhaid cyflwyno a chytuno ar raglen ddarparu tai fforddiadwy

4.         Rhaid cytuno’r deunyddiau allanol gan gynnwys y llechi to

5.         Tynnu’r Hawliau Datblygu a Ganiateir

6.         Amod Dŵr Cymru

7.         Amodau Priffyrdd

8.         Amodau Bioamrywiaeth

9.         Cynllun Rheolaeth Adeiladu

10.       Rhaid rhoi enw Cymraeg i’r stad a’r tai unigol.

11.       Cyfyngu’r defnydd i ddosbarth defnydd C3 yn unig

12.       Cwblhau tirlunio

13.       Cytuno manylion cyfarpar chwarae

 

 

Dogfennau ategol: