Cais o dan Adran 73 o'r Ddeddf Cynllunio Gwlad
a Thref i Amrywio Amod 2 ar Ganiatad Cynllunio C04A/0771/12/MW (Symud Deunydd o
Ddyddodion Gweithio Mwynau) er mwyn Caniatau Estyniad o 2-Flynedd i Gwblhau'r
Gwaith Mwynau hyd at 31/12/2022, Gydag Adfer Terfynnol i'w Gwblhau Erbyn
31/12/2023
AELOD LLEOL: Cynghorydd Edgar Owen
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Dirprwyo'r hawl i Bennaeth yr Adran
Amgylchedd wrthod y cais
Rhesymau:
Cofnod:
PENDERFYNIAD: Dirprwyo'r hawl i Bennaeth yr Adran
Amgylchedd wrthod y cais
Rhesymau:
Hafod Y Wern, Waunfawr, Caernarfon, Gwynedd, LL54 7AQ
Cais o dan Adran 73 o'r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref i Amrywio Amod 2
ar Ganiatâd Cynllunio C04A/0771/12/MW (Symud Deunydd o Ddyddodion Gweithio
Mwynau) er mwyn Caniatáu Estyniad o 2-Flynedd i Gwblhau'r Gwaith Mwynau hyd at
31/12/2022, Gydag Adfer Terfynol i'w Gwblhau Erbyn 31/12/2023
a) Amlygodd yr Uwch Swyddog
Cynllunio Mwynau a Gwastraff bod y caniatâd presennol ar gyfer tynnu
gwastraff llechi o ddyddodion gwaith mwynau yn chwarel Hafod y Wern, Betws
Garmon ger pentref Waunfawr.
Yng nghyd-destun egwyddor y bwriad, nodwyd
bod Polisi MWYN 3 yn cefnogi datblygiad mwynau yn amodol ar gydymffurfio â
chyfres o feini prawf gyda maen prawf 10 yn gofyn bod "Y bwriad yn cynnwys
cynllun ôl-ddefnydd ar gyfer y safle a manylion y gwaith adfer ac ôl-ofal sy'n
ofynnol er mwyn cyflawni hynny yn unol â Pholisi MWYN 9". Dywed Polisi
Mwyn 9 bod ceisiadau ar gyfer gwaith mwynau yn cael eu gwrthod oni bai bod
cynllun adfer, ôl-ofal ac ôl-ddefnydd yn cael ei gyflwyno. Ategwyd, yn ogystal â gofynion y
polisi yma, mae'r caniatâd cynllunio cyfredol yn destun amod sy'n gofyn am
gyflwyno strategaeth adfer ac ôl-ofal o fewn blwyddyn o'r caniatâd. Er i’r
awdurdod ofyn lawer gwaith am y wybodaeth, nid yw’r ymgeisydd wedi darparu
cynllun adfer ac ôl-ofal ac o ganlyniad
mae’r cais yn groes i feini prawf 10 o bolisi MWYN 3 a pholisi MWYN 9.
Wrth ystyried mwynderau gweledol a’r dirwedd
cyfeiriwyd at bolisïau PCYFF 3, AMG 2, MWYN 3 a MWYN 9 o'r CDLl
sy’n bolisïau perthnasol yn nhermau effaith gweledol a'r dirwedd. Nodwyd, heb
gynigion adfer ac ôl-ofal digonol ar gyfer y safle yn dilyn rhoi'r gorau i
waredu gwastraff mwynau, nid oedd modd i'r Awdurdod Cynllunio Mwynau fod yn
sicr na fyddai ymddangosiad y safle yn cael effaith andwyol ar fwynderau
gweledol a'r Ardal Tirwedd Arbennig ac, yn dilyn hynny, nid yw'n cydymffurfio â
pholisïau PCYFF 3, AMG 2, MWYN 3 a MWYN 9 o'r CDLl.
Yng nghyd-destun mwynderau preswyl, nid yw'r
bwriad yn cynnwys unrhyw newidiadau i'r trefniadau gweithio a ganiatawyd ar
gyfer y safle ac ni ystyriwyd y bydd ymestyn hyd y datblygiad yn cael effaith
niweidiol ar fwynderau'r ardal ac felly, mae'n cydymffurfio ag anghenion
polisïau PCYFF 2. Fodd bynnag, nid yw hyn yn goresgyn y rhesymau dros wrthod
sy'n ymwneud ag egwyddor y datblygiad.
Yng nghyd-destun priffyrdd, ni fydd y bwriad
yn newid trefniadau mynediad cerbydol neu draffig yn deillio o'r datblygiad ac
roedd yr awdurdod priffyrdd lleol wedi cadarnhau nad oedd ganddynt wrthwynebiad
i ymestyn y datblygiad; ystyriwyd felly ei fod yn cydymffurfio â pholisi TRA 4,
ond pwysleisiwyd nad oedd hyn yn goresgyn y rhesymau gwrthod ar sail egwyddor y
bwriad.
Wrth ystyried materion Ecoleg adroddwyd bod
ecolegydd yr Awdurdod Lleol wedi cadarnhau nad oedd gwrthwynebiad llwyr i
ymestyn y datblygiad, ond amlygwyd pryderon am ddiffyg cynllun adfer a monitro
ar gyfer rhywogaethau ymwthiol anfrodorol. Ategwyd y gellir sicrhau'r diffyg
cynllun monitro ar gyfer rhywogaethau ymwthiol anfrodorol drwy amod pe byddai'r
cais yn cael ei ganiatáu, ond nid yw hyn eto yn ddigon i oresgyn y materion
egwyddor.
Yng nghyd-destun yr Iaith Gymraeg, nodwyd nad
oedd yr ymgeisydd wedi darparu Datganiad Iaith Gymraeg er gwaethaf ceisiadau
niferus yr Awdurdod ac felly, nid yw'n cydymffurfio â pholisi PS 1 o'r CDLl
Roedd y swyddogion yn argymell gwrthod y cais
oherwydd diffyg cynigion adfer ac ôl-ofal digonol sydd eu hangen dan bolisïau
MWYN 3 a MWYN 9 ar gyfer unrhyw ddatblygiad mwynau.
b)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol;
·
Ei fod yn cydweld a
chynnwys yr adroddiad
·
Ei fod yn cytuno gyda’r
argymhelliad
c)
Cynigwyd ac eiliwyd
caniatáu y cais.
ch) Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd
sylw gan aelod oedd yn cwestiynu pam bod yr argymhelliad i wrthod o ystyried
bod y diwydiant chwareli wedi cynnal gweithlu ac y dylid ymfalchïo bod rhai
safleoedd yn parhau. Mewn ymateb nododd Aelod arall bod angen mwy o wybodaeth
cyn i’r egwyddor gael symud yn ei flaen.
PENDERFYNWYD: Dirprwyo'r hawl i Bennaeth yr Adran
Amgylchedd wrthod y cais
Rhesymau:
Dogfennau ategol: