Agenda item

Uwchraddio ac ail-adeiladu cae stadiwm presennol

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Coj Parry

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau isod a derbyn gwybodaeth ychwanegol i ddod dros sylwadau’r Heneb a Dŵr Cymru.

 

Amodau:

 

  1. Dechrau'r gwaith o fewn 5 mlynedd
  2. Unol a'r cynlluniau
  3. Cyfyngu oriau gweithio 08:00 i 18:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener a 08:00 i 13:00 ar ddydd Sadwrn
  4. Cyflwyno gwelliannau bioamrywiaeth.
  5. Amodau perthnasol i sylwadau Dwr Cymru
  6. Amodau perthnasol i sylwadau Heneb.

 

 

 

Cofnod:

Uwchraddio ac ail-adeiladu cae stadiwm presennol

 

            Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)     Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd fyddai’n golygu lefelu ac ail greu’r cae gwreiddiol gan osod haenau o ddefnyddiau gwahanol i gynnwys tywod a graean er mwyn sicrhau draenio digonol. Bydd gwaith draenio yn cynnwys pibelli draenio a wal gynnal gyda ffens o reiliau ysgafn yn cael ei osod o amgylch y cae newydd. Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn safle cae pêl droed presennol Tref Caernarfon sydd o fewn ardal breswyl a ffin ddatblygu'r dref.

 

Yn y bôn ailwampio ac uwchraddio’r cyfleusterau presennol sydd ar y safle yw’r bwriad gyda chyfleusterau hamdden a chymunedol lleol yn bwysig i anghenion iechyd, cymdeithasol, addysgol, ieithyddol a diwylliannol Gwynedd, yn ogystal â’i les economaidd. Ystyriwyd fod y bwriad a’i raddfa yn y lleoliad yma yn addas ac yn dderbyniol yn nhermau polisïau PCYFF 1 ac ISA 2.

 

Cydnabuwyd fod lleoliad y bwriad o fewn ardal preswyl, ond mae hefyd yn gae pêl-droed presennol. Ni ystyriwyd y byddai’r bwriad, gan gynnwys y ffens ar wal gynnal, yn creu nodwedd estronol o ystyried yr adeiladau a strwythurau sy’n bodoli eisoes. Ategwyd bod y cae yn rhannol weledol o fannau cyhoeddus, ond nid yw’r datblygiad yn cynnig elfennau gwbl newydd i’r hyn sydd yn bodoli eisoes ar y safle; Ni fydd defnydd y safle yn newid ac felly bydd effaith ar gymdogion o ran prysurdeb ac aflonyddwch yn parhau yn yr un modd. Ategwyd y bydd amod yn cael ei osod yn dilyn sylwadau Gwarchod Y Cyhoedd i reoli oriau adeiladu ar y safle er mwyn lleihau lefel sŵn ac effeithiau bosib ar gymdogion cyfagos. I’r perwyl hyn felly ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol o ran effaith ar yr ardal a’r gymdogaeth leol; ynghyd ag amodau cynllunio priodol i sicrhau gwelliannau bioamrywiaeth o ganlyniad i’r bwriad.

 

Tynnwyd sylw fod sylwadau Heneb yn cadarnhau bod angen ymgymryd ag arolwg geoffisegol o safle'r cais er mwyn gallu asesu’r potensial ar gyfer archeoleg a sut mae angen mynd i’r afael a’r hyn a ganfyddir ar y safle cyn i benderfyniad gael ei rhyddhau.. Yn dilyn cwblhau’r gwaith yma byddai posib gosod amodau penodol ar gyfer gofynion archeolegol pellach, ac felly ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol o ran polisi AT 4.

 

Yn yr un modd, roedd Dwr Cymru wedi cadarnhau gwrthwynebiad sy’n sefyll ar sail lleoliad y garthfos gyhoeddus o’i gymharu â'r gwaith arfaethedig. Nodwyd bod yr asiant yn gweithio gyda Dŵr Cymru er mwyn canfod datrysiad. Ategwyd bod ymateb Dŵr Cymru hefyd yn cyfeirio at y posibilrwydd o ddod i gytundeb ar gyfer symud y garthffos ac felly, yn y pen draw ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol unwaith bydd datrysiad wedi ei gytuno rhwng yr ymgeisydd a Dŵr Cymru.

 

Ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol yn ddarostyngedig i ddelio gyda’r materion archeoleg a Dŵr Cymru ac roedd y swyddogion yn argymell dirprwyo’r hawl i ganiatáu’r cais unwaith bydd y materion hynny wedi eu datrys ac yn unol gyda’r amodau priodol.

 

b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol;

·        Ei fod yn gefnogol i’r cais

·        Bod y datblygiad yn un da i’r Dre

·        Y tîm yn haeddu cefnogaeth

 

      c)   Cynigwyd ac eiliwyd caniatáu y cais.

 

    ch)   Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan yr aelodau:

·        Yn cefnogi’r cais

·        Bod y bwriad o fewn ffin safle presennol

·        Dim effaith sylweddol ar fwynderau trigolion cyfagos

·        Croesawu amod rheoli amser gwaith

·        Dim gwrthwynebiadau wedi dod i alw

·        Y tim yn haeddu cefnogaeth

·        Pwysig codi safonau clybiau chwaraeon

·        Bod angen cae o ansawdd da

 

PENDERFYNWYD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau isod a derbyn gwybodaeth ychwanegol i ddod dros sylwadau’r Heneb a Dŵr Cymru.

 

Amodau:

 

  1. Dechrau'r gwaith o fewn 5 mlynedd
  2. Unol a'r cynlluniau
  3. Cyfyngu oriau gweithio 08:00 i 18:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener a 08:00 i 13:00 ar ddydd Sadwrn
  4. Cyflwyno gwelliannau bioamrywiaeth.
  5. Amodau perthnasol i sylwadau Dwr Cymru
  6. Amodau perthnasol i sylwadau Heneb.

 

 

 

Dogfennau ategol: