I ystyried a ddylai'r Awdurdod lunio Gorchymyn Addasu Map Swyddogol
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Menna Baines
Nodyn: Atodiadau 1 -19 wedi eu cynnwys
Atodiad 20 – Llinell Amser Treborth
ar gael drwy
gais
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Caniatáu i’r Cyngor wneud gorchymyn dan
Adran 53 (3)(c)(i), Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, i gofrestru llwybr
A-B-C-D-E-F, fel llwybr troed cyhoeddus ar y map a’r Datganiad Swyddogol.
Nodyn: Gan mai'r Cyngor ei
hun oedd y tirfeddiannwr am y mwyafrif helaeth o’r cyfnod perthnasol (1995 -
2015), ni fyddai’n briodol i’r Cyngor gefnogi a hyrwyddo Gorchymyn o’r fath pe
byddai gwrthwynebiad i’r Gorchymyn. Bydd y mater felly yn cael ei gyfeirio at Lywodraeth
Cymru i’w benderfynu gyda’r Gorchymyn yn cael ei bennu drwy gynrychiolaeth
ysgrifenedig, gwrandawiad neu Ymchwiliad Cyhoeddus.
Cofnod:
a)
Adroddwyd, ym mis Awst 2021, derbyniodd y Cyngor
gais gyda thystiolaeth gefnogol gan Gyngor Cymuned Pentir o dan adran 53 Deddf
Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 i gofrestru llwybr troed cyhoeddus ar y Map a'r
Datganiad Swyddogol yn yr ardal Treborth.
Gwnaed y cais ar y sail fod y cyhoedd wedi cerdded ar y llwybr hwn yn
ddirwystr ac yn gyson fel petai ganddynt yr hawl (hynny yw, heb ganiatâd y
tirfeddiannwr, heb fod yn gyfrinachol a heb rym) dros gyfnod o ugain mlynedd
neu fwy. Nodwyd bod y cais wedi ei gefnogi
gan 197 o ddatganiadau tystiolaeth gan bobl oedd yn honni eu bod wedi
defnyddio’r llwybr. Eglurwyd bod y dystiolaeth yn dangos defnydd cyhoeddus
rhwng 1940 a 2021, y dyddiad pan gafodd y cais ei wneud. Ategwyd bod pedwar
llythyr o gefnogaeth a lluniau cefnogol hefyd wedi eu cyflwyno gyda’r cais.
Trafodwyd cyfeiriad y llwybr mewn manyler (o’i ddechrau ar
Lwybr Cyhoeddus Rhif 12 yng Nghymuned Pentir hyd cyffordd â Llwybr Cyhoeddus
Rhif 22 yng Nghymuned Pentir.
Yng nghyd-destun perchnogaeth tir, nodwyd bod y llwybr yn
croesi tir Neuadd Treborth (yr hen ysgol) sydd yn berchen i Mr a Mrs Margetson
ers mis Gorffennaf 2014. Nodwyd bod y llwybr hefyd yn croesi tir y Cyngor, sef
y bont rheilffordd, drwy Gerddi Botaneg Treborth (sef tir Prifysgol Bangor), ac
yna drwy Barc Busnes Treborth, lle mae’r llwybr yn rhedeg ar dir heb gofrestru.
Ategwyd bod sawl tirfeddiannwr cyfagos hefyd yn cael ei heffeithio gan y
llwybr. Amlygwyd bod Cyngor Gwynedd wedi bod yn berchen ar yr hen ysgol ac y
tir rhwng 1950 a 2014.
Cynhaliwyd ymgynghoriad gyda’r holl dirfeddianwyr sydd yn
cael ei heffeithio gan y llwybr.
Tynnwyd sylw at sylwadau’r tirfeddianwyr Mr a Mrs Margetson,
oedd yn datgan ar ôl iddynt brynu Neuadd Treborth yn ôl yn mis Gorffennaf 2014,
heriwyd pobl oedd yn cerdded y llwybr, gan gynnwys gosod ambell arwydd yn nodi
bod y tir yn breifat ac arwyddion yn dweud Dim Hawl Tramwy Cyhoeddus. Amlygwyd bod y teulu yn gwrthwynebu’r cais
gyda thystiolaeth yn nodi bod pobl oedd yn defnyddio’r llwybr wedi ei ddefnyddio
gyda chaniatâd yr hen Ysgol Treborth a Chlwb Pêl-droed Penrhosgarnedd. Ategwyd
bod y Cyngor yn ymwybodol bod rhaid defnyddwyr gydag awdurdod i ddefnyddio rhan
o’r llwybr a hawlir gyda chytundeb gyda’r Cyngor a Chlwb Pêl-droed
Penrhosgarnedd (ni all y defnyddwyr yma gael eu hystyried fel hir
ddefnydd).
Amlygwyd, wrth ymchwilio’r cais, bod tystiolaeth yn awgrymu
bod defnyddwyr hefyd wedi cerdded y rhan sydd rhwng gerddi botanegol, Parc
Busnes Treborth tuag at Bont Borth. Er
nad oedd unrhyw hawliau mynediad cyhoeddus yn bodoli rhwng y ddau safle yma,
ymddengys bod defnyddwyr wedi ei ddefnyddio fel parhad i lwybr y cais i
gyrraedd llefydd fel yr Antelope Inn,
Bont y Borth neu fel rhan o gylchdaith o’u cartref sydd yn cychwyn o Dreborth, Penrhosgarnedd neu dopiau Bangor. Yn dilyn hyn a
chyngor cyfreithiol, diwygiwyd y cynllun.
Yng nghyd-destun dyddiad Codi Cwestiwn, yn unol â threfn
cyflwyno achos o dan Adran 31 o Ddeddf Priffyrdd 1980, nodwyd bod angen sefydlu
dyddiad pan gafodd hawl y cyhoedd i ddefnyddio'r llwybr ei gwestiynu. Ystyriwyd sawl dyddiad, ond ymddengys bod yr
heriau wedi cyrraedd lefel benodol erbyn dechrau 2015 gyda thrigolion wedi
cysylltu â'r Cyngor Cymuned i godi eu pryderon. (Cyfeiriwyd at e-bost a
dderbyniwyd gan Clerc Dros Dro Cyngor Cymuned Pentir (dyddiedig 22/03/2015 oedd
yn cyfeirio at drigolion ardal Treborth yn cael eu hatal rhag cerdded llwybr yr
oeddent wedi'i ddefnyddio ers blynyddoedd). Ystyriwyd bod y dystiolaeth yn
dangos, ar gydbwysedd tebygolrwydd, bod y cyhoedd wedi defnyddio'r llwybr yn
barhaus ac fel hawl rhwng y cyfnod perthnasol o 20 mlynedd - rhwng Mawrth 1995
ac Mawrth 2015.
Roedd y swyddogion yn argymell y dylai'r Cyngor wneud
Gorchymyn dan Adran 53(3)(c)(i), Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, i
gofrestru’r llwybr, fel llwybr troed cyhoeddus ar y Map a'r Datganiad
Swyddogol.
b)
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ar broses, a
phe byddai’r Pwyllgor yn caniatáu’r Gorchymyn a’r Gorchymyn hwnnw yn derbyn
gwrthwynebiadau, nodwyd y byddai’r mater yn cael ei gyfeirio at Lywodraeth
Cymru i'w benderfynu. O dan yr amgylchiadau, bydd y Gorchymyn yn cael ei bennu
drwy gynrychiolaeth ysgrifenedig, gwrandawiad neu Ymchwiliad Cyhoeddus. Os
felly, ystyriwyd y dylai'r Cyngor gymryd safbwynt niwtral. Ymhellach i hyn,
ystyriwyd mai'r ymgeisydd a'r gwrthwynebydd ddylai fod yn gyfrifol am gyflwyno'r
achos o blaid ac yn erbyn unrhyw orchymyn.
c)
Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu’r Gorchymyn
ch) Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y
sylwadau canlynol gan yr aelodau
·
Bod y llwybr yn gyswllt perffaith o un pen i’r
llall
·
Bod defnydd cyhoeddus i’r llwybr
·
Bod manylder y cais wedi ei gyflwyno yn dda
PENDERFYNIAD: Caniatáu i’r Cyngor wneud gorchymyn dan
Adran 53 (3)(c)(i), Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, i gofrestru llwybr
A-B-C-D-E-F, fel llwybr troed cyhoeddus ar y map a’r Datganiad Swyddogol.
Nodyn: Gan mai'r Cyngor ei hun oedd y tirfeddiannwr am y
mwyafrif helaeth o’r cyfnod perthnasol (1995 - 2015), ni fyddai’n briodol i’r
Cyngor gefnogi a hyrwyddo Gorchymyn o’r fath pe byddai gwrthwynebiad i’r
Gorchymyn. Bydd y mater felly yn cael ei gyfeirio at Lywodraeth Cymru i’w
benderfynu gyda’r Gorchymyn yn cael ei bennu drwy gynrychiolaeth ysgrifenedig,
gwrandawiad neu Ymchwiliad Cyhoeddus.
Dogfennau ategol: