Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Richard Medwyn Hughes

Penderfyniad:

Cytunwyd i ddechrau proses ar gyfer gwneud gorchymyn parcio oddi ar y stryd barhaol ym Maes Parcio Dinas Dinlle a dirprwyo awdurdod i Bennaeth Economi a Chymuned mewn ymgynghoriad a’r aelod Cabinet a’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i baratoi gorchymyn fydd yn gwneud y gorchymyn arbrofol yn barhaol, ac yna rhoi rhybudd o hyn yn y wasg yn unol â’r Rheoliad 22 a 23 o’r Rheoliadau.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. R. Medwyn Hughes.

 

PENDERFYNIAD

 

Cytunwyd i ddechrau proses ar gyfer gwneud gorchymyn parcio oddi ar y stryd barhaol ym Maes Parcio Dinas Dinlle a dirprwyo awdurdod i Bennaeth Economi a Chymuned mewn ymgynghoriad a’r aelod Cabinet a’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i baratoi gorchymyn a fydd yn gwneud y gorchymyn arbrofol yn barhaol, ac yna rhoi rhybudd o hyn yn y wasg yn unol â’r Rheoliad 22 a 23 o’r Rheoliadau.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd adroddiad gan nodi ei fod ar gyfer sefydlu trefniadau newydd ar gyfer talu am barcio yn barhaol ym Maes Parcio Dinas Dinlle. Eglurwyd fod y Cabinet wedi cymeradwyo symud ymlaen i weithredu cynlluniau arbedion a oedd yn cynnwys sefydlu ffioedd parcio ar draeth Dinas Dinlle.

 

Mynegwyd yn ôl yn 2022/23 fod yr adran wedi adnabod adnoddau er mwyn gwneud gwaith i uwchraddio’r maes parcio a llwyddwyd i ddenu grant o raglen Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru. Nodwyd fod gwaith wedi ei wneud i ail-wynebu, addasu mynedfeydd, marcio mannau parcio, darparu llecyn bws, tirweddu ac uwchraddio cyfleusterau. Pwysleisiwyd fod y gwaith o fuddsoddi yn holl bwysig gan fod y traeth yn un poblogaidd iawn ac yn denu nifer o ymwelwyr yn lleol ac yn dwristiaid.

 

Eglurwyd fod cyfnod arbrofol wedi ei gynnal yn ystod haf 2024 ble roedd ffioedd parcio i’w dalu dros dro, ac yn dilyn yr arbrawf trefnwyd ymgynghoriad cyhoeddus i wahodd adborth gan drigolion, busnesau lleol, defnyddwyr, sefydliadau statudol a grwpiau lleol. Diolchwyd i Gyngor Cymuned Llandwrog am eu mewnbwn drwy gydol y cyfnod. Amlygwyd y prif bwyntiau yn dilyn y cyfnod hwn a’r argymhellion ar gyfer datblygu trefniadau gwell a oedd yn cynnwys

·         Cyflwyno ffioedd tymhorol rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref

·         Cyflwyno tocyn tymor am ffi resymol

·         Cyflwyno awr gyntaf am ddim fel rhan o’r strwythur ffioedd arfaethedig.

Amlygwyd y camau nesaf ar y daith sef i gychwyn camau cyfreithiol o gyflwyno Gorchymyn Parcio Oddi ar y Stryd, ac fel rhan o’r broses bydd ymgynghoriadau gyda sefydliadau statudol a lleol ynghyd â chyfnod ymgynghori cyhoeddus yn cael eu cynnal.

 

Bu i’r Aelod Lleol nodi fod y traeth yn un poblogaidd tu hwnt, a diolchwyd i Gyngor Cymuned Llandwrog am ymateb i bob ymgynghoriad. Diolchwyd fod yr argymhellion yn dilyn y cyfnod arbrofol yn cynnwys tocyn tymor fforddiadwy a bod ffioedd yn cael eu codi rhwng 9:00 a 17:00. Amlygwyd y gwaith uwchraddio sydd wedi ei wneud gan bwysleisio fod cyfleusterau yn llawer gwell. Nodwyd yr angen i sicrhau fod arian yn cael ei glustnodi i gadw safon y maes parcio. Mynegwyd yr angen am lwybr beicio a fuasai yn ddefnyddiol a saff i bobl allu mynd i Dinas Dinlle ar feic neu ar droed.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

·         Cefnogwyd y penderfyniad gan nodi’r angen i gadw safon y safle gan sicrhau fod arian yn cael ei glustnodi i wneud hyn.

·         Mynegwyd nad oedd y penderfyniad yn un hawdd ond yn rhan o nifer o benderfyniadau anodd i sicrhau gwasanaethau ar draws y sir. Croesawyd fod safon y maes parcio yn llawer uwch ac yn sicrhau fod y lleoliad yn fwy hygyrch i ddefnyddiwr. Diolchwyd am sicrhau fod yr awr gyntaf am ddim, sydd yn rhoi cyfle i bobl allu mynd am ychydig o awyr iach ar y traeth heb orfod talu.

 

Awdur:Llyr B Jones, Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned

Dogfennau ategol: