I ystyried
yr adroddiad.
Penderfyniad:
1. Nodi adroddiad alldro y BUEGC ar gyfer
2024/25 sy’n cynnwys defnyddio £714,395 o grant Bargen Twf Gogledd Cymru i
ddangos sefyllfa niwtral ar gyfer y flwyddyn.
2. Nodi sefyllfa cronfeydd BUEGC.
3. Nodi adolygiad cyfalaf diwedd blwyddyn
BUEGC ar 31 Mawrth 2025.
COFNODION:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Swyddog Cyllid
Statudol.
PENDERFYNWYD
1. Nodi adroddiad alldro y
BUEGC ar gyfer 2024/25 sy’n cynnwys defnyddio £714,395 o grant Cynllun Twf
Gogledd Cymru i ddangos sefyllfa niwtral ar gyfer y flwyddyn.
2. Nodi sefyllfa cronfeydd
BUEGC.
3. Nodi adolygiad cyfalaf
diwedd blwyddyn BUEGC ar 31 Mawrth 2025.
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
Hysbysu’r Is-bwyllgor Lles Economaidd am
sefyllfa ariannol y BUEGC ar gyfer refeniw a chyfalaf yn 2024/25.
Trosglwyddwyd rôl a swyddogaeth y BUEGC i’r
CBC ar 1 Ebrill 2025, a oedd yn cynnwys staff, adnoddau, ymrwymiadau ac asedau
ariannol, gan gynnwys y Cynllun Twf a’r cyllid.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd
yr Adroddiad er gwybodaeth i’r Is-bwyllgor gan gadarnhau y byddai’n cael ei
gyflwyno i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn ei gyfarfod
ar 13 Mehefin 2025 er cymeradwyaeth.
Adroddwyd
bod sefyllfa refeniw alldro terfynol ar gyfer y flwyddyn 2024/25 yn danwariant oddeutu
£386,000. Eglurwyd bod y tanwariant
hwn yn gynnydd
o’r tanwariant a ragwelwyd wrth adrodd ar y sefyllfa ym mis Rhagfyr 2024, sef oddeutu £205,000. Manylwyd ar brif pennawdau’r gyllideb fel a ganlyn:
· Swyddfa Rheoli Portffolio - Eglurwyd
mai’r tanwariant net terfynol ar y pennawd hwn yw £75,140 yn sgil tanwariant
ar wariant gweithwyr. Ymhelaethwyd bod chwyddiant cyflog gwirioneddol 2024/25 yn 3%, ble cyllidebwyd
ar gyfer cynnydd o 6%. Tynnwyd sylw bod estyniad ar gyllideb y Gronfa Ffyniant Gyffredin hyd ddiwedd
Mawrth 2025 wedi galluogi ariannu tri swyddog o fewn y pennawd UKSPF yn hytrach na’r
gyllideb graidd fel a gyllidebwyd.
· Gwariant Gweithwyr – Nodwyd bod rhan o’r
tanwariant o fewn y pennawd hwn wedi cael ei ddefnyddio i ariannu staff
ymgynghorol dros dro tra bod gwaith yn mynd rhagddo i benodi Rheolwr Rhaglen
wedi i’r swydd ddod yn wag.
· Gwasanaethau Cefnogol gan y Corff Atebol – Cyfeiriwyd bod tanwariant o £41,730 yma sy’n deillio yn bennaf o
danwariant ar gymorth y Gwasanaeth Cyllid.
· Cyd-bwyllgor - Adroddwyd
bod tanwariant o £48,935 yn
y pennawd hwn, gyda tanwariant i weld ar bob llinell berthnasol o’r gyllideb o fewn y pennawd.
· Prosiectau – Esboniwyd bod tanwariant net o £65,034 ar
y pennawd hwn yn sgil cyfalafu costau a
ystyriwyd yn flaenorol o fewn llinell gyllideb ‘Datblygu Achosion Busnes
Prosiect’. Er hyn, cydnabuwyd bod galw uchel am gymorth cyfreithiol allanol ar
nifer o brosiectau wedi arwain at orwariant o fewn y llinell ‘Datblygu Achosion
Busnes Prosiect’.
· Grantiau - Nodwyd
bod gorwariant i’w weld ym mhrosiectau Ynni Ardal Leol a’r Gronfa Ffyniant
Gyffredin. Ymhelaethwyd bod
estyniad ar y ddau brosiect hyd at ddiwedd Mawrth 2025 wedi arwain at orwariant net o
£96,820. Eglurwyd bod y gorwariant
sydd ynghlwm a’r prosiect Ynni
Ardal Leol yn cael ei ariannu
gan yr arian sydd yn weddill
yn y grant. Ymhelaethwyd
bod y tanwariant sydd i’w weld yn rhai
o gynlluniau
sydd ynghlwm â’r Gronfa Ffyniant
Gyffredin yn cael eu defnyddio
i ariannu’r gorwariant ar gostau gweithwyr y Gronfa yn ogystal â chyfrannu
tuag at gostau gorbenion Swyddfa Rheoli Portffolio.
· Trosglwyddiadau i Gronfeydd Wrth Gefn – Nodwyd
gwariant heb ei gyllidebu o £2.8miliwn o fewn y maes hwn. Eglurwyd bod Bwrdd
Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru wedi cymeradwyo’r defnydd o’r llog a
gronnwyd ar Falansau’r Cynllun Twf yn 2024/25 i
ariannu rolau ychwanegol yn unol â gofynion y llywodraethau yn ogystal â
chostau datblygu prosiectau o 2025/26 ac i gadw adnoddau cyfredol y Swyddfa
Rheoli Portffolio am ddwy flynedd ychwanegol y tu hwnt i Fawrth 2026. Tynnwyd sylw
bod y pennawd hwn yn cadarnhau bod y llog a dderbyniwyd ar falensau yn ystod
2024/25 yn cael ei drosglwyddo i Gronfa Adnoddau penodol er mwyn ariannu’r
costau hyn.
Rhestrwyd y prif ffrydiau incwm ar gyfer
2024/25 sef cyfraniadau partneriaid, dyraniad refeniw grant Cynllun Twf Gogledd
Cymru, cyfraniad gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig ar gyfer secondiad staff, grant
ynni Llywodraeth Cymru, Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU a’r gronfa wrth gefn
wedi’i glustnodi.
Eglurwyd bod £1.1miliwn wedi cael ei
gyllidebu i’w dynnu i lawr o Grant Cynllun Twf Gogledd Cymru ar gyfer costau
refeniw, sef y 2.15% mae’r llywodraethau wedi cytuno y gall cael ei ddefnyddio.
Fodd bynnag, er mwyn gadael sefyllfa niwtral am y flwyddyn, argymhellwyd tynnu
£714,000 o’r Grant Cynllun Twf yn hytrach na’r £1.1miliwn a gyllidebwyd.
Adroddwyd
bod £211,000 yn y Gronfa wrth Gefn ar 31 Mawrth 2025 gan atgoffa’r Aelodau bod Bwrdd
Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru wedi cymeradwyo defnyddio £61,000 o’r gronfa hon fel rhan o gyllideb
2025/26, yn ystod ei gyfarfod ar 14 Chwefror eleni.
Tynnwyd sylw bod cyfanswm o £29,000 yn y
Gronfa Prosiectau ar ddiwedd Mawrth 2025 ac bod swyddogion wedi derbyn
cymeradwyaeth y bwrdd i ddefnyddio’r gronfa hon i ariannu costau prosiect Ynni
Lleol (‘Datblygu Achos Busnes Prosiect’). Cadarnhawyd bod y costau hyn wedi’u
cyfalafu ond bod y costau hyn wedi’u talu o’r Gronfa Prosiectau wrth gefn gan
nad yw’r Achos Busnes Llawn wedi cael ei gymeradwyo ar hyn o bryd.
Cadarnhawyd mai balans y Gronfa Llog ar 31
Mawrth 2025 oedd £4.7miliwn. Ymhellach, cadarnhawyd bod £2.8miliwn yn y Gronfa
Adnoddau ar ddiwedd y flwyddyn ariannol yn dilyn trosglwyddo’r llog a
dderbyniwyd ar y Grant Cynllun Twf yn ystod y flwyddyn.
Cyfeiriwyd
at adolygiad diwedd blwyddyn y rhaglen Gyfalaf 2024/25 gan gadarnhau bod gostyngiad net o
£13.3miliwn yn y gwariant oherwydd llithriad ar bedwar prosiect. Manylwyd mai’r prosiectau hyn yw’r Canolfan Prosesu
Signal Digidol, Ynni Lleol Blaengar, Porth Caergybi a Safle cyn-Ysbyty Gogledd Cymru. Nodwyd hefyd bod diddymu prosiect Canolfan Anaerobig Glannau Dyfrdwy hefyd wedi cyfrannu
at y gostyngiad hwn. Cadarnhawyd bod gwaith ar brosiectau Canolfan Biotechnoleg Amgylcheddol, Canolfan Opteg a Pheirianneg Menter a’r Rhwydwaith Talent Twristiaeth wedi gwthio cyfran
o’u gwariant proffil ymlaen.
Mewn
ymateb i ymholiad ar gymharu’r ystadegau a gyflwynwyd yn yr adroddiad gyda’r blynyddoedd diwethaf, cadarnhaodd y Swyddog Cyllid Statudol bod adrodd ar faterion refeniw yn digwydd ar sail blwyddyn ariannol. Fodd bynnag, cadarnhawyd
bydd modd i swyddogion gymharu
sefyllfa ariannol gyda’r blynyddoedd diwethaf er cymhariaeth wrth gyflwyno datganiadau
o gyfrifon draft i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig. Tynnwyd sylw bod materion cyfalaf eisoes yn dangos
cymariaethau dros ystod eang o flynyddoedd.
Dogfennau ategol: