Agenda item

I ystyried yr adroddiad.

Penderfyniad:

  1. Nodi Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi’i diweddaru.

 

  1. Cymeradwyo cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol.

 

COFNODION:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Gweithrediadau.

 

PENDERFYNWYD

 

  1. Nodi Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi’i diweddaru.

 

  1. Cymeradwyo cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

I gyflwyno adroddiad Chwarter 4 (Ionawr i Mawrth) y Cynllun Twf a Chofrestr Risg y Portffolio wedi’i diweddaru.

 

Mae adrodd chwarterol ar gynnydd yn erbyn Cynllun Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf. Yn dilyn ystyriaeth gan yr Is-bwyllgor, caiff yr adroddiadau eu rhannu gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol.

 

TRAFODAETH

 

Adroddwyd ar nifer o uchafbwyntiau datblygiadol y Cynllun Twf megis cymeradwyaeth i Achos Busnes Amlinellol y prosiect Anturiaethau Cyfrifol, cymeradwyo Achosion Busnes Llawn prosiectau Cydnerth a Pharc Bryn Cegin a hefyd cyflwyno achos dros newid ar brosiect Glynllifon. Ymhelaethwyd bod gwaith adnewyddu ar safle Henfaes yn cael ei gyflawni ar amser ar gyfer Datblygu Canolfan Biotechnoleg Amgylcheddol. Mynegwyd balchder bod Cytundeb Ariannu grant wedi cael ei arwyddo ar gyfer y Rhwydwaith Talent Twristiaeth. Nodwyd hefyd bod y prosiect Cronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) bellach wedi ei gau gan edrych yn ôl ar nifer o lwyddiannau megis lansiad y portal sgiliau, prynu offer arolwg symudol a darparu grantiau i 16 o sefydliadau bach cymunedol.

 

Tynnwyd sylw bod amryw o brosiectau yn adrodd yn goch ar Gofrestr Risg y Portffolio ar hyn o bryd, sef Cysylltu’r Ychydig % Olaf, Ffibr Llawn, NEW H2, Trawsfynydd, Porth Caergybi a Stiwdio Kinmel.

 

Eglurwyd bod nifer o brosiectau yn weithredol erbyn hyn, gan nodi bod modd adrodd ar rai o’r manteision sy’n deillio ohonynt. Manylwyd bod £15.32miliwn o fuddsoddiad wedi cael ei wneud o fewn y Cynllun Twf yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gyda’r cyfanswm o fuddsoddiadau yn £16.61miliwn. Cydnabuwyd fod y niferoedd hyn yn is na’r targedau ond pwysleisiwyd bod y sefyllfa wedi gwella’n sylweddol ers y flwyddyn blaenorol, gan fod mwy o brosiectau wedi derbyn cymeradwyaeth.

 

Ymhelaethwyd bod y prosiectau a gymeradwywyd wedi sicrhau £4.712miliwn o refeniw yn ogystal â bod wedi creu 35 o swyddi hyd yma. Ymhelaethwyd bod 261 o unigolion yn derbyn Hyfforddiant a chwblhau cyrsiau er mwyn ennill cymwysterau.

 

Sicrhawyd bydd modd adrodd ar y math hwn o ddata yn rheolaidd wrth ystyried diweddariadau chwarterol, er mwyn adolygu’r effaith ehangach mae’r Cynllun Twf yn ei gael ar y rhanbarth.

 

Diolchwyd i’r swyddogion am eu gwaith er mwyn sicrhau gwireddu’r agweddau hyn o’r Cynllun Twf.

 

Mynegwyd pryder gan Lywodraeth Cymru ar gyflymder gwireddu’r Cynllun Twf gan fod oddeutu 10 mlynedd yn weddill ar y Cynllun a bod angen cynyddu ystadegau buddsoddi yn sylweddol er mwyn cyrraedd targedau’r Cynllun. Fodd bynnag, mynegwyd balchder bod cyrn cynnydd wedi bod ar brosiectau’r Cynllun dros y flwyddyn ddiwethaf. Mewn ymateb, pwysleisiwyd gan Brif Weithredwr dros dro Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ei fod yn hanfodol bwysig bod swyddogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cydweithio gyda’r Cyd-bwyllgor Corfforedig i ddarparu cefnogaeth i sicrhau bod targedau’r Cynllun yn cael eu gwireddu er lles economi’r Rhanbarth.

 

Dogfennau ategol: