Agenda item

I nodi a derbyn Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw Cydbwyllgor GwE am y flwyddyn 2024/25, sef sefyllfa o orwariant o £523,065, sydd i’w gyllido drwy gyfraniadau gan yr awdurdodau.

 

I gymeradwyo trosglwyddiadau ariannol o £221,310 o’r gronfa tanwariant, a £312,547 o’r gronfa Athrawon Newydd Gymhwyso (ANG) i leihau gorwariant GwE yn 2024/25.

 

I gymeradwyo sefyllfa ariannol derfynol 2024/25, fydd yn sail i’r datganiadau ariannol statudol GwE am y flwyddyn. Fydd yn cael eu cynhyrchu, eu hardystio a’u cyhoeddi gan yr Adran Gyllid yr awdurdod lletya o fewn yr amserlen statudol.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

·       Nodi a derbyn Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw Cydbwyllgor GwE am y flwyddyn 2024/25, sef sefyllfa o orwariant o £523,065, sydd i’w gyllido drwy gyfraniadau gan yr awdurdodau.

·       Cymeradwyo trosglwyddiadau ariannol o £221,310 o’r gronfa tanwariant, a £312,547 o’r gronfa Athrawon Newydd Gymhwyso (ANG) i leihau gorwariant GwE yn 2024/25.

·       Cymeradwyo sefyllfa ariannol derfynol 2024/25, fydd yn sail i’r datganiadau ariannol statudol GwE am y flwyddyn. Fydd yn cael eu cynhyrchu, eu hardystio a’u cyhoeddi gan yr Adran Gyllid yr awdurdod lletya o fewn yr amserlen statudol.

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd yn diweddaru aelodau’r Cydbwyllgor ar adolygiad ariannol terfynol cyllideb GwE am y flwyddyn gyllidol 2024/25.

 

Eglurodd Pennaeth Cyllid Cynorthwyol - Cyfrifeg a Phensiynau (Cyngor Gwynedd), bod yr adroddiad yn manylu ar sefyllfa diwedd y flwyddyn 2024/25 ar gyfer GwE. Adroddwyd bod y sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn yn amlygu gorwariant o £523k oedd yn llawer is na’r gorwariant o £919k a ragwelwyd yn adolygiad mis Ionawr 2025.

 

Tynnwyd sylw at y prif faterion:

 

Gweithwyr – yn dilyn ystyriaethau costau diswyddo a chostau pensiwn, roedd y  gorwariant yn £962 o filoedd (ffigwr Adolygiad Ionawr wedi nodi £1.1 miliwn), ond amlygwyd bod y sefyllfa yn parhau i newid a’r ffigwr yn lleihau wrth i swyddi gael eu cynnig i’r staff hynny sydd tu allan i drefn TUPE. Adroddwyd y byddai’r Datganiad o’r Cyfrifon terfynol yn adlewyrchu y gwir ffigwr ac o ganlyniad, cyfraniadau ychwanegol gan y Cynghorau. 

 

Costau Rhent a therfynu contractau swyddfeydd – y gorwariant wedi cynyddu i £121 filoedd (£90 mil yn Ionawr) oedd o ganlyniad i derfynu contractau swyddfeydd; nid oedd costau terfynu contract swyddfa Bryn Eirias yn hysbys ynghynt. (Swyddfa Yr Wyddgrug yn un arall).

 

Cludiant – tanwariant o £19 mil ac fel sydd wedi ei adrodd yn gyson efo’r tueddiad blaenorol, bu cynnydd yn yr hawliadau teithio ers yr adolygiad diwethaf.

 

Cyflenwadau a Gwasanaethau -  gorwariant o £9 mil. Nid yw'r cyfraniad arferol wedi ei wneud i gronfa adnewyddu technoleg gwybodaeth ac felly'r gorwariant yn llai.

 

Nodwyd bod y sefyllfa ariannol bresennol yn cymryd i ystyriaeth fod cronfa tanwariant o £221 o filoedd,  yn cael ei defnyddio yn llawn i leihau y gorwariant. Tynnwyd sylw at y gronfa athrawon newydd gymhwyso sydd wedi cronni, gan nodi y byddai’r gronfa yn  cael ei gwagu drwy ddefnyddio gwerth £143k o filoedd ar gyfer athrawon sydd newydd gymhwyso, a’r £313 o filoedd sydd yn weddill wedi ei ddefnyddio i leihau y gorwariant.

 

Bydd y sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn yn amlygu bwlch ariannol o £523 o filoedd ac er nad oedd disgwyliad am arian ychwanegol ar gyfer 2024/25, bod yr Adran Gyllid yn dilyn cais am arian ychwanegol ar gyfer 2025 /26, yn disgwyl cadarnhad ffurfiol gan Llywodraeth Cymru. Ategwyd, os na ddaw arian ychwanegol o’r Llywodraeth, bydd  rhaid i’r Cynghorau unigol ei gyllido, sydd yn uchafswm o £87 o filoedd fesul awdurdod. (er bod y costau diswyddo yn parhau i leihau, bydd y cyfraniad yma o ganlyniad yn debygol o leihau gyda’r darlun yn gliriach erbyn diwedd mis Mai 2025).

 

Diolchwyd am yr adroddiad a diolchwyd i’r staff am gwblhau’r gwaith o fewn cyfnod anodd.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd cymeradwyo’r adroddiad.

 

         PENDERFYNWYD:

 

·        Nodi a derbyn Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw Cydbwyllgor GwE am y flwyddyn 2024/25, sef sefyllfa o orwariant o £523,065, sydd i’w gyllido drwy gyfraniadau gan yr awdurdodau.

·        Cymeradwyo trosglwyddiadau ariannol o £221,310 o’r gronfa tanwariant, a £312,547 o’r gronfa Athrawon Newydd Gymhwyso (ANG) i leihau gorwariant GwE yn 2024/25.

·        Cymeradwyo sefyllfa ariannol derfynol 2024/25, fydd yn sail i’r datganiadau ariannol statudol GwE am y flwyddyn. Fydd yn cael eu cynhyrchu, eu hardystio a’u cyhoeddi gan yr Adran Gyllid yr awdurdod lletya o fewn yr amserlen statudol.

 

Dogfennau ategol: