Agenda item

I dderbyn a nodi’r wybodaeth

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

  • Derbyn a nodi’r drefn fydd i’w dilyn ar gyfer cyflwyno a chymeradwyo Datganiad o Gyfrifon GwE (yn amodol ar archwiliad) am 2024/25 a 2025/26.
  • Derbyn a nodi'r Cynllun Archwilio fel y cyflwynwyd gan archwilwyr Archwilio Cymru.

 

Nodyn: Cyfrifon Terfynol i’w cymeradwyo gan Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Cyngor Gwynedd Hydref 2025

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd yn diweddaru aelodau’r Cydbwyllgor ar adolygiad ariannol terfynol cyllideb GwE oedd hefyd yn amlygu trefn ar gyfer cyflwyno a chymeradwyo Datganiad o’r Cyfrifon, ar ffurf ‘statudol’, i’r dyfodol ynghyd a chyflwyniad o Gynllun Archwilio Cymru ar gyfer 2024/25.

 

Eglurodd Pennaeth Cyllid Cynorthwyol - Cyfrifeg a Phensiynau (Cyngor Gwynedd), bod Adran 12 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 yn datgan fod Cydbwyllgor o fwy nac un awdurdod (lleol) yn gorff llywodraeth leol, gydag Adran 13 o’r Ddeddf yn mynnu bod cyrff o’r fath yn cadw cyfrifon sy’n destun archwiliad gan archwiliwr annibynnol wedi’i gymeradwyo gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Ategwyd bod Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio yn mynnu bod pob Cydbwyllgor yn paratoi cyfrifon blynyddol, a gan fod trosiant GwE yn fwy na £2.5 miliwn, rhaid paratoi datganiad o’r cyfrifon yn unol â chod CIPFA.

 

Eglurwyd, mai Cyngor Gwynedd fel y Cyngor lletyol sy’n gyfrifol am gyflawni cyfrifoldebau cyfrifo ac adrodd ar faterion cyllidol Cyd-Bwyllgor GwE a gyda GwE yn dod i ben ar 31 Mai 2025, bydd cyfrifon 2024/25 a 2025/26 gael eu cyflwyno i Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Cyngor Gwynedd i’w cymeradwyo.

 

Yng nghyd-destun cyfrifon 2024/25, eglurwyd bod yr alldro a gyflwynwyd uchod yn sail i’r Datganiad o’r Cyfrifon a chyfrifon statudol 2024/25. Nodwyd y byddai’r cyfrifon terfynol yn cael eu cylchredeg i aelodau’r Cyd-bwyllgor ac yn destun archwiliad gan Archwilio Cymru. Y bwriad yw cwblhau archwiliad dros fisoedd yr haf a’u cymeradwyo yn derfynol ym Mhwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Cyngor Gwynedd ar y 9ed o Hydref 2025.

 

Ategwyd, er mwyn cydymffurfio gyda’r gofynion, bydd cyfrifon 2025/26 hefyd y cael eu paratoi am y cyfnod o ddau fis o Ebrill i ddiwedd Mai, gyda rheiny hefyd yn destun archwiliad gan Archwilio Cymru a cael eu cyflwyno i Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Cyngor Gwynedd i’w cymeradwyo.

 

Cymerodd y Pennaeth Cynorthwyol y cyfle i ddiolch yn fawr i staff GwE, i’r Tim Busnes ac i’r Cyd-Bwyllgor am y cyd-weithio da a’r holl gefnogaeth gafodd yr Adran Cyllid dros y blynyddoedd. Dymunwyd y gorau iddynt i gyd i’r dyfodol.

 

Cynllun Archwilio gan Archwilio Cymru.

 

Croesawyd Siwan Glyn (Archwilio Cymru) i’r cyfarfod i gyflwyno’r adroddiad

 

Cyflwynwyd adroddiad gan Swyddog Archwilio Cymru yn manylu ar y gwaith y mae Archwilio Cymru yn bwriadu ei wneud i fynd i’r afael a’r risgiau archwilio i Gydbwyllgor GwE 2025. Nodwyd y bydd archwiliad o’r datganiadau ariannol yn cael eu cwblhau  ynghyd a gwaith archwilio perfformiad i asesu sicrwydd a risg.

 

Yng nghyd-destun perthnasedd datganiadau ariannol nodwyd y cyfrifir perthnasedd gan ddefnyddio gwariant gros 2024-25 sef £17.8 miliwn a chyfeiriwyd at y risg sylweddol i ddatganiadau archwilio ynghyd â’r risgiau archwilio. Ategwyd bod y risg sylweddol o wrthwneud rheolaethau gan reolwyr yn un oedd yn cael ei gynnwys yng nghynllun manwl pob Awdurdod. Nodwyd hefyd bod y risg archwilio o rwymedigaeth net cronfa bensiwn hefyd wedi ei gynnwys mewn nifer o gynlluniau ac nid yn benodol i GwE.

 

Atgoffwyd y Cydbwyllgor nad yw’r un archwiliad yn gallu rhoi sicrwydd cyflawn bod y cyfrifon wedi’u datgan yn gywir a bod yr archwilwyr yn gweithio i lefel faterol. Tynnwyd sylw bod diddymu'r Cyd-bwyllgor ar 31 Mai 2025 wedi arwain at ddiswyddo rhai staff ar 31 Mai 2025 ac fe gymeradwywyd y rhain yn ystod 2024-25. Nodwyd y bydd croniad ar gyfer costau amcangyfrifedig ar gyfer diswyddiadau ar 31 Mai 2025 yn cael ei ddatgelu yn natganiadau ariannol 2024-25 gyda risg o gamddatganiad materol gan fod gwerth y taliadau yn debygol o fod yn sylweddol. Nodwyd y byddai Archwilio Cymru yn asesu rhesymoldeb y rhagdybiaethau a wnaed gan y Cyd-bwyllgor wrth gyfrifo'r croniad a chynnal profion manwl ar sampl o drafodion.

 

Tynnwyd sylw at y ffioedd, oedd wedi cynyddu yn sylweddol eleni, ond nodwyd na fydd Archwilio Cymru yn gwneud dim elw o’r gwaith ac os y byddai y ffigwr yn is wedi cwblhau’r gwaith, bydd ad-daliad yn cael ei weithredu.

 

Diolchwyd i Swyddogion Cyllid Cyngor Gwynedd am eu cefnogaeth a’r cydweithio da.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd cymeradwyo’r Cynllun

 

PENDERFYNWYD:

 

  • Derbyn a nodi’r drefn fydd i’w dilyn ar gyfer cyflwyno a chymeradwyo Datganiad o Gyfrifon GwE (yn amodol ar archwiliad) am 2024/25 a 2025/26.
  • Derbyn a nodi'r Cynllun Archwilio fel y cyflwynwyd gan archwilwyr Archwilio Cymru.

 

Nodyn: Cyfrifon Terfynol i’w cymeradwyo gan Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Cyngor Gwynedd Hydref 2025

 

 

                                                       ********

 

 

Cymerodd Cadeirydd y cyfarfod hwn, y Cyng Phil Wynn, y cyfle i ddiolch i bawb am fynychu cyfarfod olaf y Cydbwyllgor. Diolchwyd i bawb am eu hymrwymiad i’r gwaith dros y 18 mis diwethaf gan dderbyn bod y cyfnod wedi bod yn un heriol ac ansicr i nifer.

 

Ategwyd y diolchiadau gan Aelodau eraill o’r Cydbwyllgor gyda phawb yn derbyn bod y cyfnod wedi bod yn un cythryblus, ac roeddynt yn dymuno'r gorau i'r holl staff.

 

Diolchodd Euros Davies (Pennaeth Gwasanaeth GwE – Gwella Ysgolion) i holl staff GwE  am eu gwydnwch a’u proffesiynoldeb drwy’r cyfnod anodd. Diolchodd i’r Uwch Dîm am y gefnogaeth ac am fod yn ymroddgar yn eu gwaith o gefnogi holl ysgolion y rhanbarth. Diolchodd hefyd am gefnogaeth staff cefnogol Cyngor Gwynedd dros y 13 mlynedd ddiwethaf.

 

 

 

Dogfennau ategol: