Cyflwyno:
· Adroddiad Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw 2024/25
· Ffurflen Swyddogol Flynyddol o’r Cyfrifon, wedi’i ardystio, ond cyn Archwiliad
I dderbyn a chymeradwyo’r cyfrifon
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad
Cymeradwyo:
• Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw 2024/25
• Ffurflen Flynyddol ar gyfer
y Flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2025, yn amodol ar archwiliad
gan Archwilio Cymru
• Cadeirydd i arwyddo’r ffurflen yn electroneg
Cofnod:
The report was submitted by the Assistant Head of Finance - Accountancy and Pensions. It was explained, in accordance with the statutory requirements under the Harbours Act 1964, as a harbour authority, that Cyngor Gwynedd was required to provide an annual accounts statement relating to the activities of Barmouth, Aberdyfi, Pwllheli and Porthmadog harbours. As the turnover of the harbours was below £2.5m, it was deemed to be a smaller local government body, and therefore an annual return provided by Audit Wales must be prepared in accordance with statutory requirements.
Reference was made to the out-turn report, which clarified the Harbours' final income and expenditure position for 2024/25 and highlighted that there was £24k underspend at the end of the year. Of this amount, it was reported that underspend on staffing was £14k while overspend was £18k on building maintenance which included one-off expenditure in Aberdyfi and Porthmadog and Barmouth. It was reiterated that there was an overspend of £10k on supplies and services and specifically on signs and warnings. In terms of income, it was reported that fee levels were very close to the budget and £3k below target with the use of the renewal fund made to fund the one-off expenditure that had been implemented.
Attention was drawn to the external auditors' standard form together with the Annual Governance Statement, which ensured a robust internal control system. It was highlighted that the accounts had already been the subject of an internal audit and had now been sent to the external Auditor, Audit Wales for audit. It was added that only if changes were required following the audit would an amended version be submitted to the Committee in the autumn.
The Governance and Audit Committee was asked to accept and approve the Accounts for 2024/25 and for the Chair to sign the form electronically.
Gratitude was expressed for the report.
RESOLVED
To accept the report
To approve:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol - Cyfrifeg a Phensiynau. Eglurwyd, yn unol â’r gofynion statudol o dan
Ddeddf Harbyrau 1964 bod rhaid i Cyngor Gwynedd, fel awdurdod harbyrau, ddarparu datganiad cyfrifon blynyddol sy’n ymwneud â
gweithgareddau harbyrau Abermaw, Aberdyfi, Pwllheli a Porthmadog. Gyda throsiant yr
harbyrau yn is na £2.5m, fe’i hystyriwyd yn gorff llywodraeth leol
llai o faint ac felly bod gofyn cwblhau ffurflen
datganiadau cyfrifon a ddarparwyd gan Archwilio Cymru i gwrdd â’r gofynion statudol.
Cyfeiriwyd at yr adroddiad alldro, oedd yn
egluro sefyllfa derfynol incwm a gwariant yr Harbyrau ar gyfer 2024/25, ac amlygwyd bod £24k o danwariant ar
ddiwedd y flwyddyn. O’r swm yma, adroddwyd bod tanwariant ar staffio yn
£14k tra bod gorwariant o £18k ar gynnal adeiladau oedd yn cynnwys
gwariant un-tro yn Aberdyfi a Phorthmadog ac Abermaw. Ategwyd bod gorwariant o £10k ar gyflenwadau a
gwasanaethau ac yn benodol ar arwyddion a rhybuddion. O ran yr incwm, adroddwyd
bod y lefelau ffioedd yn agos iawn i’r gyllideb ac yn £3k yn is na’r targed
gyda defnydd o’r gronfa adnewyddu wedi ei wneud i gyllido’r gwariant un-tro
sydd wedi ei weithredu.
Tynnwyd sylw at ffurflen safonol yr archwilwyr
allanol ynghyd a’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol, sydd yn sicrhau system
rheolaeth fewnol gadarn. Amlygwyd bod y cyfrifon eisoes wedi bod yn destun
archwiliad mewnol a bellach wedi eu hanfon at yr Archwiliwr allanol, Archwilio
Cymru i’w harchwilio. Ategwyd, dim ond os bydd angen gweithredu newidiadau yn
dilyn archwiliad y bydd fersiwn ddiwygiedig yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn
yr Hydref.
Gofynnwyd i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio dderbyn a
chymeradwyo’r Cyfrifon am 2024/25 ac i’r Cadeirydd arwyddo’r ffurflen yn electroneg.
Diolchwyd am yr adroddiad.
PENDERFYNWYD
Derbyn yr adroddiad
Cymeradwyo:
·
Cyfrif Incwm a Gwariant
Refeniw 2024/25
·
Ffurflen Flynyddol ar
gyfer y Flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2025, yn amodol ar archwiliad gan
Archwilio Cymru
·
Cadeirydd i arwyddo’r
ffurflen yn electroneg
Dogfennau ategol: