I nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt
cyllidebau’r Cyngor a’i
adrannau a sylwebu fel bo angen.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad a nodi’r risgiau perthnasol
Cofnod:
Nodwyd
bod yr adroddiad yn manylu ar wariant y Cyngor yn 2024/25, sefyllfa alldro tanwariant neu orwariant yr adrannau
unigol, a’r rhesymau am hynny. Cyfeiriwyd at dalfyriad o sefyllfa derfynol yr holl adrannau sy’n amlygu’r symiau
i’w parhau ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ynghyd â’r prif faterion a meysydd ble fu gwahaniaethau sylweddol.
·
Fod y sefyllfa ariannol
wedi gwella ers rhagolygon Adolygiad Awst a Thachwedd.
·
Bod derbyniadau
grantiau sylweddol yn hwyr yn y flwyddyn i nifer o feysydd gan gynnwys
Oedolion, Addysg, Economi a Chorfforaethol wedi gwella’r sefyllfa ariannol
erbyn diwedd y flwyddyn.
·
Fod gorwariant yn
parhau yn y maes lleoliadau all-sirol plant, gwasanaeth Derwen, gofal cartref a
gwastraff.
·
Sefyllfa ffafriol ar
nifer o gyllidebau corfforaethol yn cynorthwyo i leddfu'r sefyllfa ariannol ar
gyfer y Cyngor yn ei gyfanrwydd.
·
Yr Ymarferiad cynaeafu
cronfeydd yn rhyddhau £1.65 miliwn o gronfeydd i’w rhoi yn y Gronfa
Trawsffurfio ar gyfer blaenoriaethau’r Cyngor.
Amlygwyd,
·
Adran Oedolion Iechyd a
Llesiant: Gorwariant ar ddiwedd y flwyddyn yn £857 mil, sy’n lleihad o’r
rhagolygon o £3 miliwn a gafwyd yn gynharach yn y flwyddyn. Eglurwyd, ers yr
adolygiad diwethaf bu i’r adran dderbyn grantiau ac incwm sylweddol sydd wedi
cynorthwyo’r sefyllfa. Ategwyd bod pwysau amlwg yn parhau yn y maes Gofal
Cartref, gyda chostau staffio uwch a lefelau salwch a chyfraddau oriau
digyswllt yn uchel, tra bod pwysau sylweddol hefyd ar y gyllideb darparwyr
gofal cartref preifat a defnydd o staff asiantaeth yn un o’r materion yng
ngofal preswyl mewnol.
·
Adran Plant: Ers adolygiad Tachwedd, gorwariant yr Adran wedi cynyddu o
£3.7 miliwn i £3.8 miliwn, oherwydd cynnydd yng nghostau lleoliadau all-sirol
o ganlyniad i gymhlethdodau pecynnau a defnydd cynyddol ddiweddar o leoliadau
heb eu cofrestru, sy’n fwy costus. Pwysau hefyd i’w weld ar gyllideb y Gwasanaeth Derwen.
·
Adran Addysg: Yn sgil derbyn bid ariannol ar
gyfer y maes cludiant ysgolion, nodwyd bod y sefyllfa ariannol yn y maes wedi gwella. Bu i’r adran hefyd
dderbyn nifer o grantiau ynghyd â chwtogi ar wariant sy’n golygu bod tanwariant o £191 mil ar ddiwedd y flwyddyn.
·
Adran Economi / Byw’n
Iach. Dros y blynyddoedd diwethaf mae Cwmni Byw’n Iach wedi derbyn
cefnogaeth ariannol gan y Cyngor uwchlaw’r taliad cytundebol. Er bod y swm yn is na’r flwyddyn
ddiwethaf, mae’r swm gofynnol wedi cynyddu i £281 mil erbyn diwedd y flwyddyn.
·
Adran Priffyrdd a
Bwrdeistrefol; Gorwariant o £656 mil. Ym maes bwrdeistrefol, pwysau
ychwanegol ar gyllidebau staff glanhau strydoedd a glanhau toiledau cyhoeddus,
tra bod colledion incwm yn faterion ym meysydd cynnal tiroedd a thoiledau cyhoeddus. Er hynny, bu gwelliant yn
incwm gwasanaethau priffyrdd ac Ymgynghoriaeth Gwynedd.
·
Adran Amgylchedd: Tueddiad o orwariant yn y maes casglu gwastraff ac ailgylchu
yn parhau, ac wedi cynyddu i £1.1 miliwn. Mater arall o fewn yr Adran yw bod diffyg o £826 mil mewn incwm parcio erbyn diwedd y flwyddyn.
·
Adran Tai ac Eiddo: Tueddiad o bwysau sylweddol ar lety dros dro digartrefedd yn
parhau gyda gwariant yn y maes yn £6 miliwn eleni, o gymharu â £6.8 miliwn y llynedd. Cyllideb ychwanegol o £3 miliwn wedi ei ddyrannu o bremiwm
treth cyngor, cyllideb un-tro ychwanegol a ddyrannwyd fel rhan o'r drefn bidiau
ac ymhellach i hyn, derbyniad grant ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar ddiwedd
Mawrth 2025 i gynorthwyo gyda'r pwysau ychwanegol.
Am nifer o resymau adroddwyd ar danwariant un
tro ar benawdau Corfforaethol gan gynnwys Treth Cyngor. Bu i’r holl gynghorau
dderbyn grant sylweddol gan Lywodraeth Cymru ar ddiwedd Mawrth tuag at y pwysau
ychwanegol sydd yn wynebu Llywodraeth Leol, sydd wedi cynorthwyo i leddfu'r
sefyllfa ariannol.
·
Ysgolion; Balansau’r ysgolion wedi gweld gostyngiad bychan o £0.26 miliwn, gan
leihau o £8.5 miliwn yn 2023/24 i £8.3 miliwn yn 2024/25. Ar ddechrau’r
flwyddyn ariannol roedd rhagolygon o leihad sylweddol ym malansau ysgolion, ond yn dilyn derbyn grantiau gwerth £4.4 miliwn
gan Lywodraeth Cymru ar ddiwedd y flwyddyn, golyga fod lefelau'r balansau wedi eu cynnal.
Cymeradwywyd yr holl argymhellion a’r
trosglwyddiadau ariannol gan y Cabinet ar y 13eg o Fai 2025 ac o ran y camau nesaf, nodwyd bod gwaith ar y gweill i gwblhau
datganiadau ariannol statudol 2024/25 i Archwilio Cymru eu harchwilio
Diolchwyd am yr adroddiad, am waith yr Adran
Cyllid dros y flwyddyn ac am iddynt gwblhau’r gwaith o fewn yr amserlen.
Cydnabuwyd bod derbyn gwybodaeth reolaidd dros y flwyddyn o gymorth i’r Aelodau
fod yn gyfarwydd â’r sefyllfaoedd.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y
sylwadau canlynol gan Aelodau:
·
Byddai gorwariant yr
Adran Oedolion wedi bod yn bur wael oni bai am y grant sylweddol a dderbyniwyd.
Pwysig felly dysgu cadw at gyllidebau.
PENDERFYNWYD
·
Derbyn yr adroddiad a nodi’r risgiau perthnasol
Dogfennau ategol: