Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan
Adran 4.18 o’r Cyfansoddiad.
Cofnod:
(Cyhoeddwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau
Cabinet i’r cwestiynau ymlaen llaw.)
(1)
Cwestiwn
Y Cynghorydd Elin Hywel
Rwyf yn llongyfarch yn ddiffuant swyddogion am greu adnodd
mor werthfawr, defnyddiol
a chlodwiw â phodlediad Mam, Dad a
Magu.
Rwyf yn falch o glywed bod barn defnyddwyr yn cael ei gyrchu
yn rheolaidd.
Nodir fod pryder wedi ei godi parthed priodoldeb y teitl
‘Mam, Dad a Magu’ ar sawl
achlysur. Rwyf yn
derbyn y rhesymeg fod angen cynyddu ymgysylltiad tadau. Gwyddom
fod tadau, fel mamau, yn llwyddiannus wrth gynnal teuluoedd
sydd ddim yn dilyn y
patrwm traddodiadol, heteronormatif,
a gynigir yn y teitl, yn deilwng ein cefnogaeth ac i
gael eu dathlu.
Serch hynny, mae’r pryder bod teitl y podlediad
yn cyfleu neges heteronormatif yn parhau,
ac y gellid ei ddarllen i fod yn waharddol. Canlyniad hyn fyddai methiant i fod yn
gynhwysol
o’r amrywiaeth o deuluoedd sydd yn ein cymdeithas.
Nodir nad yw methiant y teitl yn adlewyrchu llwyddiant y
cynnwys a gwaith caled ein
swyddogion.
Mae ysgolion Gwynedd yn sôn am “y teulu” ers tro. Gwnawn hyn
er mwyn sicrhau eu bod
yn gynhwysol. A
wneith Cyngor Gwynedd ddilyn yr enghraifft yma, sydd wedi ei ddangos
i fod yn effeithiol, a newid y teitl a sôn am “Magu teulu”?
Ateb yr Aelod Cabinet Plant a Chefnogi Teuluoedd, Y
Cynghorydd Menna Trenholme.
Diolch am y cwestiwn, Elin, a diolch am gymryd diddordeb yng
ngwaith yr Adran Plant ac yng ngwaith penodol y gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar.
Rwy’n falch iawn hefyd o’r ganmoliaeth ar y gwaith da sydd yn mynd rhagddo ac
mae’n braf gallu datgan bod llawer o sylw cadarnhaol ac ymateb da wedi bod i’r podlediad. Mae gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar Gwynedd yn
arwain yn genedlaethol ar ddatblygu'r math hwn o bodlediad
cyffrous ac mae’n hyfryd ein bod yn cael y cyfle i ddathlu hynny.
Yng nghyd-destun y cwestiwn, mae'n werth cadarnhau ein bod
yng Nghyngor Gwynedd yn croesawu ac yn rhoi gwasanaeth i bob math o deuluoedd
nid jyst rhai traddodiadol, heteronormatif, ac ein
bod yn credu bod amrywiaeth a chymdeithas groesawgar yn rhan hanfodol o'r sir
ac o waith y Cyngor Nid oes bwriad o gwbl i hybu syniadau heteronormatif
yn y teitl, dim ond bwriad i sicrhau fod tadau yn cael eu cynnwys, yn ogystal â
mamau.
Bu cryn drafod gyda grwpiau ffocws o ddefnyddwyr gwasanaeth
ar y pynciau trafod, holl syniad y podlediad, a’r enw
yn gyffredinol. Drwy hynny daeth pynciau amrywiol i’r fei, fel bronfwydo, cwsg a pharatoi plant ar gyfer yr ysgol. Un pwnc
pwysig, yn ôl y grwpiau trafod hyn, oedd cysylltiad tadau gyda magu a materion
iechyd meddwl tadau ac yn y blaen. Yn ogystal daethpwyd at yr enw gwreiddiol,
sef “Mam a dad a magu”.
Codwyd mater yr enw eisoes, gan godi materion cyffelyb i’r
hyn yr wyt ti’n eu codi heddiw. Yn sgil hynny, bu trafod pellach gyda grwpiau
defnyddwyr a chytunwyd y byddai newid yr enw yn briodol, drwy dynnu’r “a” a’i
newid o “Mam a dad a magu” i “Mam, dad a magu”. Newid bach, ond un oedd
galluogi cynhwysiad ehangach. Ers hynny, nid oes neb o’r cyhoedd na’r
defnyddwyr wedi tynnu sylw at yr enw, ar wahân i ambell i dad yn croesawu’r
ffaith bod tadau yn cael eu cynnwys.
Fel rhan o’n gwaith pellach gyda thadau, sylweddolwyd bod
pob un o’n swyddogion cefnogi teuluoedd yn fenywaidd, ac o’r herwydd rydym ar
fin cyflogi Swyddog Tadau i gyd fynd gyda’r gwaith o gefnogi grwpiau tadau yn
ein Sir.
Mae’r gyfres hon o bodlediadau
(chwech ohonynt) ar fin dod i ben ac mae’n rhy hwyr i newid y gyfres hon. Ond
rhoddaf y gwarant hwn i’m cyd-gynghorwyr, sef y byddwn yn trafod hyn eto efo’r
grwpiau defnyddwyr cyn dechrau ail gyfres a chymryd y cyfle i ystyried enw
newydd. Nid oes sicrwydd y bydd ail gyfres, gan fod y costau’n sylweddol, ond
os bydd mi wnawn sicrhau adolygiad trylwyr o’r enw.
Cwestiwn Atodol Y Cynghorydd Elin Hywel
Diolch am yr ateb a pharatoi ateb trylwyr. Dwi’n ymwybodol
fod sgyrsiau wedi mynd ymlaen rhwng etholwyr a chynghorwyr ac felly fod
sgyrsiau yn mynd ymlaen yn ein cymunedau ni, ond yn cydnabod nad ydynt wedi
cyrraedd yr adran.
Felly sut y byddwch chi, fel Cyngor Gwynedd, ar adran yn
mynd ati i ail adeiladu pontydd sydd wedi cael ei difrodi rhyw fymryn oherwydd
yr argraff mae teitl y podlediad yn ei roi?
Ateb yr Aelod
Cabinet dros Blant a Chefnogi Teuluoedd, Y Cynghorydd Menna Trenholme.
Diolchwyd
a nodwyd efallai fod etholwyr wedi mynd at rai
Cynghorwyr ond nad ydynt wedi ehangu’r neges. Y peth olaf oedd yr adran
eisiau ei wneud oedd eithrio unrhyw un, a byddant yn ceisio ffeindio ffyrdd
newydd i chwalu tabŵ ynghylch heriau cyffredin mae teuluoedd babis a
phlant bach yn ei wynebu. Daeth y syniad am bodlediad
wrth weld yr angen o ffordd newydd i siarad am broblemau cyffredin wrth fagu
teuluoedd. Trwy gydol yr amser maent wedi bod yn casglu adborth gan y teuluoedd
ac ar ddiwedd y gyfres byddant yn gwneud adolygiad trylwyr o’r podlediad gan gynnwys y teitl.
(2)
Cwestiwn
Y Cynghorydd Beca Roberts
Yn sgil y cynnydd diweddar mewn tensiynau rhyngwladol ac
agweddau cynyddol filwrol Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac o ystyried y ffaith
fod safleoedd niwclear yn cael eu hystyried yn dargedau blaenllaw mewn unrhyw
wrthdaro milwrol – gan gynnwys safleoedd fel Trawsfynydd – pa sicrwydd sydd gan
bobl Gwynedd fod y Cyngor yn gweithredu i sicrhau na fydd unrhyw ddatblygiad
pellach sy’n gysylltiedig â niwclear ar safle Trawsfynydd, ac y caiff y safle
ei ddadgomisiynu ar unwaith er mwyn diogelu’r ardal
ar gyfer y dyfodol?
Ateb –Yr Aelod Cabinet Economi a Chymuned, Y Cynghorydd
Medwyn Hughes
Mae’r gwaith dadgomisiynu yn
parhau ar safle Trawsfynydd. Mae’r gwastraff ymbelydrol lefel uchel i gyd wedi
cael ei gludo o safle Trawsfynydd er mwyn cael ei drin a’i ail brosesu yn Sellafield yn Cumbria ers dros
ugain mlynedd. Mae’r safle wedi bod yn canolbwyntio ar brosesu gwastraff
ymbelydrol canolraddol ers hynny ac maent bron a cyrraedd pen y daith drwy
brosesu’r gweddillion gwastraff o’r celloedd o fewn adeilad y pyllau a’u cludo
i’r storfa bwrpasol ar safle. Bydd y gwastraff hwn yn cael ei storio yn ddiogel
ar y safle tan bydd storfa gwastraff ymbelydrol y DU yn cael ei adeiladu dros y
degawdau nesaf. Mae ymbelydredd lefel isel yn parhau yn ffabrig strwythur yr
adweithyddion, ac mae rhaglen waith mewn lle i drin a gwaredu’r gwastraff yma
er mwyn cyrraedd y nod o adael y safle yn ddiogel i’r cyhoedd a’r amgylchedd.
Mae gwaith dadgomisiynu wedi cael ei raglennu ar y
safle hyd at 2060 yn ôl y cynlluniau diweddaraf gan NRS.
Mae Cyngor Gwynedd yn rhan o Grŵp Rhanddeiliaid Safle
(SSG) lle mae NRS, sydd yn rheoli’r safle ar ran Awdurdod Dadgomisiynu
Niwclear, yn adrodd ar y gwaith dadgomisiynu; a
diogelwch safle ydi’r flaenoriaeth ym mhob trafodaeth. Nodwyd fod datganiad i’w
weld yn rhan o’r papurau.
Byddem yn hapus iawn i hwyluso ymweliad safle i Drawsfynydd i unrhyw Gynghorydd sydd yn awyddus i weld y
gwaith sydd yn mynd rhagddo ac i gyfarfod y tîm sydd yn gwneud y gwaith.
Mae 190 yn gweithio i NRS ar safle Trawsfynydd ar hyn o
bryd. Mae 100 yn ychwanegol yn cael eu comisiynu drwy gytundebau. Disgwylir i
oddeutu 120 ychwanegol o weithiwyr fod ar y safle dros y tair blynedd nesaf tra
bydd uchder adeilad yr adweithydd yn cael ei ostwng. Mae 93% o’r rhai sydd yn
gweithio i NRS ar safle Trawsfynydd yn byw yn unai Gwynedd, Môn, neu Sir Conwy.
Mae cyfleoedd cyflogaeth amgen i’r gweithwyr hyn yn brin iawn yng Ngwynedd.
Mae’r sgiliau a thechnegau arbenigol sydd wedi cael eu
datblygu ar safle Trawsfynydd wedi derbyn cydnabyddiaeth Safle Arwain a Dysgu
ar gyfer gwaith Dadgomisiynu Niwclear ar draws
Prydain. Er fod y gweithlu wedi arbenigo yn y maes dadgomisiynu
niwclear, ystyrir fod modd trosglwyddo llawer o’r sgiliau i wahanol swyddi o
fewn y maes peirianneg, technoleg, gwyddoniaeth, adeiladu a rheoli. Oherwydd yr
ansicrwydd am ddyfodol y safle a’r swyddi, dwi’n falch o ddweud fod Cyngor
Gwynedd yn cydweithio efo partneriaid ar hyn o bryd er mwyn ceisio sefydlu parc
gwyddoniaeth ar safle fyddai’n sicrhau fod gwaith o ansawdd yn parhau yn ardal
Meirionnydd am genedlaethau. Datblygu Canolfan Arloesi tu allan i ffin y safle
trwyddedig ydi’r bwriad, fyddai’n cynnwys gofod gwaith a dysgu gyda’r bwriad o
sbarduno syniadau a chyfleoedd gwaith newydd i’r dyfodol. Er bydd yr achos
busnes yn canolbwyntio ar uchafu’r cyfleoedd yn deillio o’r gwaith dadgomisiynu yn y tymor byr, mae diddordeb gan wahanol
sectorau, sydd yn awyddus i wneud defnydd o’r sgiliau ac isadeiledd arbennig y
safle, eisoes wedi cael ei ddatgan, megis Canolfan AI, Canolfan Ddata a
chanolfan sgiliau galwedigaethol i gefnogi buddsoddiadau sylweddol yn y
rhanbarth.
Nid Cyngor Gwynedd fyddai’n gwneud penderfyniad os bydd
gweithgaredd niwclear newydd yn digwydd ar safle Trawsfynydd yn y dyfodol. Mae
cryn ansicrwydd am gyfeiriad polisi, cyllid a blaenoriaethau’r Llywodraeth yn
golygu ei bod yn annhebygol iawn y bydd safle Trawsfynydd yn cael ei ystyried
gan y Llywodraeth a’r sector breifat ar gyfer datblygiad niwclear newydd yn y
dyfodol agos. Dyma pam fod cael cynlluniau am gyfleoedd gwaith amgen, fyddai o
fewn ein rheolaeth i’r dyfodol yn allweddol.
Cwestiwn Atodol y Cynghorydd Beca Roberts
Ydi’r Cyngor felly yn gallu cadarnhau nad oes bwriad i
ddatblygu adweithydd modwlar bychan neu adweithydd technoleg niwclear uwch fel
rhan o’r cynlluniau ar gyfer y Parc Gwyddoniaeth rydych yn crybwyll yn eich
ateb.
Ateb –Yr Aelod Cabinet Economi a Chymuned, Y Cynghorydd
Medwyn Hughes
Mae ffiniau'r parc gwyddoniaeth arfaethedig ‘Traws Barc’ y
tu allan i safle niwclear trwyddedig Trawsfynydd, ac felly gallaf gadarnhau nad
ydi codi adweithydd modiwlar bychan ac adweithydd
niwclear technoleg uwch yn rhan o’r cynllun.
Y bwriad ydi datblygu canolfan arloesi, dysgu a datblygu er mwyn sefydlu
parc gwyddoniaeth er mwyn diogelu a chreu swyddi newydd i’r dyfodol yn yr ardal.
(3)
Cwestiwn Y Cynghorydd Gwynfor
Owen
Oes posib’ cael diweddariad
ynglŷn ag unrhyw drafodaethau mae'r Cyngor wedi cael gyda'r
Llywodraeth ynglŷn â Ffordd Osgoi Llanbedr?
Ateb
– Arweinydd y Cyngor, Y Cynghorydd
Nia Jeffreys
Hoffwn ddiolch yn fawr
i Gynghorydd Gwynfor Owen
am gyflwyno'r cwestiwn. Rydym yn deall
ac yn cydnabod yn llawn y diddordeb
sylweddol yn y mater hir sefydlog hwn y mae Cyngor Gwynedd wedi bod yn ceisio ei
symud ymlaen yn rhagweithiol dros gyfnod o flynyddoedd.
Mae swyddogion o’r Cyngor yn parhau i
arwain a chwarae rhan flaenllaw yn y gweithgor aml-asiantaeth sy’n cynnwys swyddogion o Lywodraeth Cymru i adnabod datrysiad trafnidiaeth i leddfu problemau traffig Llanbedr.
Mae ymateb llawn wedi
ei ddarparu yn ysgrifenedig sydd ar gael i’w
Cynghorwyr a’r cyhoedd sydd yn
ymhelaethu yn Bellach ar
broses WelTAG ayyb.
Ond yn fwy diweddar
fe wnaeth y Prif Weithredwr a minnau, ynghyd â Mabon ap Gwynfor
AS, ar fore Mawrth y 17 o Fehefin gwrdd
gyda Ken Skates yr Ysgrifennydd
Cabinet dros Ogledd Cymru a
Thrafnidiaeth i drafod y cynllun ac yn fwy penodol
y sefyllfa gyllidol i’w ariannu. Yn dilyn hyn mae
llythyr wedi ei anfon ar y cyd
gan y Prif Weithredwr a minnau at yr Ysgrifennydd Cabinet, ac rydym wedi rhannu copi
gyda chi.
Mae’r llythyr yn mynegi
pryder cyffredinol fod lefel buddsoddiad
Llywodraeth Cymru yng nghynlluniau trafnidiaeth mewn ardaloedd gwledig fel Gwynedd yn hollol annigonol
ac annheg. Nid yw hyn mewn
unrhyw ffordd yn bodloni disgwyliadau
na gofynion ein cymunedau lleol
nac yn wir
yr uchelgais a nodir gan Lywodraeth Cymru ei hun mewn
dogfennau strategol fel Llwybr Newydd. Yn benodol mae’r cwestiwn
wedi ei ofyn,
beth yw’r sefyllfa o ran argaeledd y cyllid a’r llwybr
i gyflawni cynllun trafnidiaeth
Llanbedr.
Fe wnaf sicrhau eich
bod yn derbyn diweddariad pan rydym yn derbyn ymateb.
Cwestiwn Atodol Y Cynghorydd Gwynfor Owen
Diolchwyd
i’r Arweinydd ac i swyddogion Cyngor Gwynedd am yr
holl amser a gwaith maent wedi
ei fuddsoddi yn y Ffordd Osgoi.
Diolchwyd i’r cyn-arweinydd am ei holl waith a roddodd
i’r cynllun. Datganwyd siom o glywed nad oes
gwarant gan Lywodraeth Cymru o sicrhau arian ar gyfer y cynllun yma. O gofio yn ddiweddar iawn
y dywedodd Llywodraeth y DU
fod Llywodraeth Cymru wedi cael yr holl
arian yr oeddent wedi gofyn amdano,
gyda Llywodraeth Cymru yn nodi eu bod wedi cyflwyno eu
holl gynlluniau oedd ar y silff.
Gofynnwyd
i’r Arweinydd, fynd yn ôl
at Lywodraeth Cymru a’i atgoffa fod Cynllun
Lliniaru Llanbedr wedi bod
ar y silff ers blynyddoedd, yn wir mi oedd wedi
symud o’r silff uchaf i’r
gwaelod, ac yna o’r silff gwaelod
nes bod bron iawn rawiau yn
nwylo’r gweithwyr a’r peiriannau yn barod i
gychwyn cyn i’r Llywodraeth dynnu’r plwg a gyrru £7m yn ôl
I Ewrop. A wnewch chi fel Arweinydd roi
addewid i drigolion Llanbedr y bydd Cyngor
Gwynedd yn parhau i wthio am yr arian
o ba bynnag ffynhonnell posib er mwyn diogelwch y trigolion, ond hefyd am unrhyw obaith o ddyfodol economaidd llewyrchus i Ardudwy.
Ateb
Yr Arweinydd Y Cynghorydd
Nia Jeffreys.
Nodwyd fod y sefyllfa yn scandal, nid yn unig i
Lanbedr ond i ardal Meirionydd
ac yn scandal cenedlaethol.
Meddyliwch tase nhw ddim wedi tynnu’r
plwg yn ol
yn 2021. Mi fuasai’r ffordd osgoi bron
wedi ei gwblhau
a pa wahaniaeth fasa hyn yn ei
wneud i Lanbedr,
a fuasai yn bentre’ llewyrchus, Swyddi o safon uchel, plant yn chware ac yn
crwydro o gwmpas y pentre’, a phobl hyn neu bobl anabl
yn medru teithio a theimlo yn saff yn
eu pentre’. Yn lle hynny mae
gennym ni bobl yn poeni
am swyddi, plant ddim yn teimlo yn
saff yn chware
allan, a phobl hŷn a phobl anabl yn methu
croesi dros y bont. Mae’n sgandal
beth sydd wedi digwydd, a bod y ffordd osgoi ddim
yn ei le.
Felly dwi’n cytuno bob gair gyda sylwadau’r Cynghorydd ac yn fwy na bodlon
rhoi'r addewid yna er mwyn pobl
Llanbedr a chymuned ehangach
Meirionydd.
(4)
Cwestiwn
Y Cynghorydd Dawn Lynne Jones
Mi fuaswn yn gwerthfawrogi ateb gan y ddau aelod cabinet
mwyaf perthnasol, sef y Cynghorydd Menna Trenholme a’r Cynghorydd Dewi Jones, i
adlewyrchu ysbryd y cwestiwn.
Dwi’n ymwybodol fod Cyngor Caerdydd yn ddinas sy’n
blentyn-gyfeillgar. A nifer o gynghorau eraill erbyn hyn wedi cyrraedd y nod
hwnnw neu’n gweithio tuag at y nod hwnnw. Yn amlwg mae bod yn oed-gyfeillgar yn
bwysig i Wynedd, a finnau wedi cymryd bob cyfle ar hyd y blynyddoedd i alw i ni
fod yn wirioneddol oed gyfeillgar – hynny yw yn gyfeillgar i bob oed.
Yn ysbryd y cwestiwn, mae angen i bob adran gydweithio a
blaenoriaethu hawliau plentyn wrth wneud penderfyniadau, polisïau a
strategaeth.
Lle ma’ Gwynedd yn sefyll ar y daith honno?
Ateb – Aelod Cabinet
Addysg, Y Cynghorydd Dewi Jones
Diolch yn fawr am y
cwestiwn gwerthfawr sy’n codi materion sylfaenol am rôl hawliau plant ym mywyd
cyhoeddus Gwynedd.
Fel Aelod Cabinet
dros Addysg rwyf yn cydnabod yn llwyr y pwysigrwydd o sicrhau bod hawliau plant
yn cael eu gwireddu ym mhob agwedd ar waith y Cyngor. Nid yw hyn yn ymwneud â
statws na label yn unig, ond â diwylliant o wrando, cynnwys a pharchu plant fel
dinasyddion llawn eu hawliau. Rwy’n credu bod Gwynedd ar daith gadarnhaol tuag
at fod yn sir sy’n wirioneddol oed-gyfeillgar, ac yn un sy’n rhoi hawliau plant
a phobl ifanc wrth galon popeth mae’n ei wneud.
Rydym eisoes yn
gweld enghreifftiau cadarnhaol o’r egwyddorion hyn ar waith. Rydym yn cynnwys
plant a phobl ifanc yn y broses o wneud penderfyniadau drwy’r fforymau Llais
Pobl Ifanc. Mae’r fforymau yma bellach wedi’u sefydlu ar draws y sir, gan roi
llwyfan i bobl ifanc leisio’u barn, rhannu eu profiadau a dylanwadu ar
benderfyniadau sy’n effeithio arnynt. Mae’r fforymau’n cynnwys cynrychiolwyr o
ysgolion, grwpiau ieuenctid a phartneriaid, ac yn cwrdd yn rheolaidd i drafod
materion lleol ac allweddol, megis iechyd meddwl, trafnidiaeth, diogelwch
cymunedol a’r amgylchedd. Mae’r wybodaeth a gasglwyd drwy’r fforymau hyn eisoes
wedi arwain at gamau gweithredu go iawn, gan gynnwys cynllunio gweithgareddau
penodol mewn cymunedau, dylanwadu ar gynnwys strategaethau ieuenctid, ac ehangu
partneriaethau gyda gwasanaethau eraill fel iechyd a’r trydydd sector.
Rydym yn cytuno’n
llwyr â’r egwyddor mai cyfrifoldeb pob adran yw sicrhau bod hawliau plant yn
cael eu hystyried wrth lunio polisïau, gwneud penderfyniadau a darparu
gwasanaethau. Mae hyn yn rhan annatod o’n gweledigaeth ar gyfer Gwynedd sy’n
wirioneddol gyfeillgar i blant – ac i bobl o bob oed.
Ateb – Aelod Cabinet
Plant a Chefnogi Teuluoedd, Y Cynghorydd Menna Trenholme
Diolch i'r Cynghorydd Dawn Lynne Jones am ei chwestiwn a'i
diddordeb yn y maes pwysig hwn. Gwelais ymateb fy nghyd aelod Cabinet, Dewi
Jones ac rwy'n cyd-fynd yn llwyr ag ef. Mae cynllun UNICEF, Child Friendly Cities yn un sydd yn
dwyn egwyddorion rhagorol ac yn rhai yr ydym ni yn eu harddel eisoes. Mae
rhoi'r egwyddorion ar waith yn gallu bod yn fwy heriol, wrth gwrs, ac mae'n dda
gen i allu dweud bod cynlluniau fforwm ieuenctid wedi dechrau yma yng Ngwynedd
ac ein bod yn rhoi blaenoriaeth i hynny ar hyn o bryd. Tra bod cynllun Unicef yn benodol ar gyfer dinasoedd a bwrdeistrefi, gall
Llywodraeth Leol arddel yr un gwerthoedd a gweithredu yn yr un modd ac mae'n
fraint cael y cyfle adeiladol i wneud hynny. Diolch i'r Cynghorydd am roi'r
cyfle i ni gael tynnu sylw at y gwaith hwn.
Cwestiwn Atodol y Cynghorydd Dawn Lynne Jones
Diolch yn fawr iawn i chi am eich ateb. Mi wnes di son am gynlluniau cadarnhaol ar waith, felly tybed oes 'na
sgôp yn y Panel Plant a Phobl Ifanc ac addysg i drafod llunio strategaeth
gynhwysol a fuasai yn rhoi amcanion cynllun UNICEF ar waith ar draws holl
adrannau’r Cyngor.
Ateb yr Aelod Cabinet Addysg, Y Cynghorydd Dewi Jones
Yn syml oes. Mi fedrwn ni wneud yn siŵr fod hwn yn cael
ei drafod, a bod pobl ifanc yn arwain y sgwrs ac yn dod i fyny efo strategaeth
lle da ni yn gallu bod yn enbedio’r pethau yma i’n
holl waith fel Cyngor. Nodwyd fod lle i gynghorwyr i fod yn rhan o’r sgwrs yn
ogystal gyda’r bobl ifanc er mwyn eu cefnogi ac i glywed eu lleisiau yn
uniongyrchol.
5.) Cwestiwn
y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn trafod yn ddiweddar am
greu system trafnidiaeth gyhoeddus sy’n cysylltu bysiau a threnau ar hyd Cymru,
ond y realiti yw bod yna broblemau a phryderon yn codi hefo hynny. Er
enghraifft, mae llawer iawn o drigolion yn fy ward wedi dod ataf dros y misoedd
diwethaf yn pryderu am wahanol faterion yn ymwneud gyda bysiau sy’n dod (neu
oedd yn dod i Blaenau). Mae hyn yn cynnwys newid mewn gwasanaeth y T22, lle nad
oes bws ym mynd at dafarn y Cwm ac mae hyn yn golygu taith bellach i drigolion
(yn enwedig trigolion hŷn) i gyrraedd y safle’r bws ger y stesion. Mae
newid mewn trefniant bws oedd yn arfer mynd o Flaenau i Manod o Ysgol y Moelwyn
gyda newidiadau’r T22 hefyd wedi codi pryderon rhieni, a hefyd cafwyd ergyd
mawr i bobl y dref pan waredwyd gwasanaeth bws y T19 oedd yn cysylltu Blaenau
hefo Llandudno nôl yn Chwefror 2023 - er bod gwasanaeth trên yma, tydi o ddim
yn cyflawni’r hyn oedd y bws yn gallu ei wneud, ac yn cael ei weld yn anaddas
i’r anghenion lleol.
Er yr holl son gan y Llywodraeth
am newid chwyldroadol gyda bysiau a thrafnidiaeth, gwaeth ydi pethau i bobl
Blaenau.
Oes modd trafod datrysiadau ymhellach gyda’r Aelod Cabinet
ar sut fedrwn fynd ati i ddatrys a dod o hyd i atebion i’r pryderon yma os
gwelwch yn dda?
Ateb – Aelod Cabinet Amgylchedd, Y Cynghorydd Craig ab
Iago
Hoffwn ddiolch yn fawr i'r Cynghorydd ap Elwyn am ei
gwestiwn ac am y cyswllt cyson gyda mi a swyddogion yr Adran ar ran ei etholwyr
ynglŷn â materion trafnidiaeth yn ei ward.
Drwy gydweithio gyda Thrafnidiaeth Cymru, mae rhwydwaith
bysiau lleol Gwynedd wedi bod yn destun adolygiad estynedig dros y ddwy flynedd
diwethaf. Bwriad ac allbwn yr adolygiad oedd darparu’r lefel orau a mwyaf
atyniadol posib o gyfleoedd i deithio ar y bws gan optimeiddio’r adnoddau prin
sydd ar gael. Roedd hyn yn cynnwys cyflwyno amserlenni a thocynnau teithio
safonol yn seiliedig ar bellter. Mae hyn wedi ei gyflawni yn llwyddiannus ar y
mwyafrif o’r rhwydwaith bellach, ac mae’n braf adrodd ei fod wedi arwain at
berfformiad cadarnhaol a chalonogol o ran defnydd. Mae hyn mewn cyd-destun lle
mae defnydd bysiau yn gyffredinol wedi bod yn gostwng yn barhaus ar draws Cymru
ers yr 1980au.
Rydym yn parhau yn ein hymdrechion i ddarparu a chynnal y
lefel gorau posib o wasanaethau bws cyhoeddus ar draws Gwynedd o fewn yr
adnoddau sydd ar gael i ni. Mewn cyd-destun a natur gwledig ac estynedig y Sir
rydym o’r farn fod y cyfleoedd i deithio ar draws Gwynedd yn cymharu’n dda a
ffafriol gydag ardaloedd gwledig tebyg arall.
Mae Blaenau yn cael ei wasanaethu gan wasanaeth arloesol
bysiau trydan y T22. Mae’r gwasanaeth rhwng Caernarfon-Porthmadog-Blaenau
Ffestiniog yn cynnig cyfleoedd teithio atyniadol, dibynadwy o safon gyda bysiau
trydan modern. Mae gwasanaeth bws G25 yn darparu cyfleoedd teithio lleol o fewn
y dre.
Yn ogystal â’r bysiau lleol, mae Blaenau hefyd wrth gwrs yn
cael ei wasanaethu gan reilffordd fyd-enwog Dyffryn Conwy. Mae’r rheilffordd
yma yn cael ei gydnabod, yn ogystal â dull o deithio, fel atyniad yn ei hunan i
ymwelwyr yn ogystal â thrigolion lleol drwy fod yn un o’r siwrneiau trên fwyaf
golygfaol unrhyw le yn y byd.
Yn anffodus, fel sydd wedi ei rannu eisoes, mae’r adnodd o
ran gyrwyr a bysiau sydd ar gael wedi ei optimeiddio gyda gwasanaeth y T22. Mae
cyfyngiad wrth gwrs ar beth gellir ei ddarparu gyda’r adnodd sydd ar gael ac,
wedi edrych ar y galwadau ychwanegol sydd wedi eu gwneud, does dim modd cyfarch
y rhain ar hyn o bryd. Rydym wastad yn edrych am gyfleoedd i gwrdd â dymuniadau
a dyheadau lleol ond yn anffodus ac anochel ni fydd hyn yn bosib ar bob
achlysur.
O ran y ddarpariaeth trafnidiaeth ysgolion lleol, yn unol â
Pholisi Cludiant Addysg, mae’n ofynnol i gyfeiriad cartref fod yn fwy na 3
milltir o’r ysgol uwchradd i dderbyn cludiant am ddim. Yn anffodus, mae’r
pellter o Manod i Ysgol y Moelwyn yn llai na 3 milltir ac o’r herwydd does dim
disgwyliad fod yr Awdurdod yn trefnu cludiant ar gyfer y siwrne yma. Mae’n
bosib defnyddio bws T22 i’r ysgol yn y boreau, ond nifer fechan iawn sydd yn
manteisio ar y gwasanaeth yma ar hyn o hyn. Doedd gan y Cyngor yma ddim dylanwad
ar y penderfyniad gan gwmni preifat i ddileu gwasanaeth y T19 rhwng Blaenau
Ffestiniog a Llandudno a oedd yn cael ei weithredu ar sail fasnachol. Ar y
pryd, fe wnaeth y cwmni ddatgan mai’r rheswm am ddod a’r gwasanaeth i ben oedd
gan nad oedd yn gynaliadwy ar sail defnydd a bod hyn, yn anffodus, wedi bod yn
gostwng.
Fel Cyngor, rydym yn gwneud yr achos yn barhaus i Lywodraeth
Cymru fod angen i’r buddsoddiad maen nhw’n ei wneud mewn cludiant cyhoeddus, yn
enwedig mewn ardaloedd gwledig fel Gwynedd, fod yn llawer mwy er mwyn dod
unrhyw le yn agos i gwrdd â chyfarch eu gweledigaeth ac uchelgais. Yn anffodus,
mae strategaethau a chynlluniau fel Llwybr Newydd (2021), y strategaeth
trafnidiaeth genedlaethol, yn codi disgwyliadau ond mae’r baich o ymateb,
esbonio a chyfiawnhau be gellid ei ddarparu gyda’r arian mae Llywodraeth Cymru
yn ei ddarparu yn aml iawn yn cwympo ar awdurdodau lleol.
Mae’r diwydiant bysiau a sut mae gwasanaethau bws yng
Nghymru yn cael eu darparu, cynnal a rheoli yn newid gan fod Trafnidiaeth
Cymru, ar ran Llywodraeth Cymru, yn edrych i gyflwyno system sydd wedi ei
gynnal drwy fodel masnachfraint. Y bwriad yw cael rhwydwaith cydlynol
cenedlaethol sydd wedi ei reoli yn ei gyfanrwydd. Mae’n aneglur eto sut effaith
neu ddylanwad yn ymarferol fydd hyn yn ei gael. Y gwirionedd yw, gan fod hi’n
debygol fod lefel y buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn debygol o fod yn gymharol
gyda graddau cyfredol nad yw’r newid, o safbwynt defnyddwyr a
darpar-ddefnyddwyr o leiaf, yn debygol o fod yn drawsnewidiol. Fe fydd y Cyngor
yma yn ymgysylltu gydag ymagwedd gadarnhaol a gobeithiol i’r newid ond hefyd a
disgwyliadau realistig o ran beth sy’n debygol o gael ei gyflawni.
Mae natur rhwydweithiau bysiau yn golygu ei fod yn ddeinamig
ac yn destun newid. Ond, yn dilyn adolygiad cynhwysfawr diweddar, does dim
bwriad na sgôp yn y tymor byr i ystyried neu gyflwyno newidiadau sylweddol i’r
rhwydwaith mae Cyngor Gwynedd yn gyfrifol amdano. Y gwirionedd anffodus ydi fod
yr arian ychwanegol fyddai angen i gyflawni hyn ddim ar gael.
Cynnydd mewn defnydd yw'r sail fwyaf dylanwadol a
chadarnhaol i gefnogi achosion busnes i gynnal a gwella darpariaeth. Mae’n
anodd iawn neud yr achos os yw lefel y defnydd yn isel neu isel iawn. Dyw
gwasanaethau bws yn y senario yma ddim yn amgylcheddol nag ychwaith ariannol
gynaliadwy. . Er mwyn cynnal y lefel presennol o wasanaeth ac edrych i wella
mae’n bwysig uchafu defnydd y gwasanaethau a chyfleoedd teithio sydd yn cael eu
darparu. Mae’r dywediad Saesneg use it or lose it yn wir a perthnasol iawn yn y cyd-destun yma.
Mae rhwydweithiau cludiant cyhoeddus yn dibynnu ar lefel
critigol o ddefnydd ar sail barhaus. Ble dyw hyn ddim yn bodoli mae’n annhebyg
mae cludiant cyhoeddus yw'r datrysiad priodol. Mae hyn yn her amlwg mewn
ardaloedd gwledig wrth gwrs pan, yn aml, does dim o’r galw critigol yna o bobl
sydd am deithio ar yr un pryd ar yr un trywydd. Gyda hyn, wrth nodi’r ffactorau
cadarnhaol o ran y rhwydwaith bysiau lleol yng Ngwynedd rydym yn cydnabod yn
llwyr na fydd yn bosib, na debyg priodol, i gwrdd â disgwyliadau, dymuniadau ac
anghenion unigol a phawb. Ond hoffwn eich sicrhau a chalonogi byddwn, gan
barhau i gyd-weithio gyda’r rhanddeiliaid allweddol eraill sydd yn cynnwys
Trafnidiaeth Cymru, Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol cyfagos a’r cwmnïau bws
ei hunain i ddarparu'r lefel gorau o wasanaeth posib.
Byddwn yn fodlon iawn i barhau’r sgwrs gyda Cyng. Ap Elwyn
ond gobeithio fod yr uchod o ddefnydd yn cadarnhau'r sefyllfa gan osod y
cyd-destun, heriau a chyfleoedd.
Cwestiwn Atodol, Y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn
Gyda’r cynnig i gario'r sgwrs yn
ei blaen, a fuasai modd i’r Aelod Cabinet ddod i ateb cwestiynau ym Mlaenau
Ffestiniog mewn cyfarfod cyhoeddus?
Yr Ateb, gan yr Aelod Cabinet dros Amgylchedd, y
Cynghorydd Craig ab Iago.
Bydd.
6)
Cwestiwn
y Cynghorydd Rhys Tudur
O ran geiriad polisi
iaith newydd addysg, i ba raddau y mae'r Aelod Cabinet yn cytuno y byddai
Nodi mai'r ysgol
sydd i bennu beth sy'n cael ei ddysgu yn Saesneg yn drawsgwricwlaidd; Cyfeirio
at ddiffiniad o ysgolion Cymraeg yn unol â'r bil addysg yn hytrach na'r
canllawiau anstatudol;
Mynegi bod y ganran o ddarpariaeth addysg Gymraeg ar gyfer
yr holl ddisgyblion; Darparu mwy o fanylder yn yr hyn a ddisgwylir mewn
Cynlluniau Cynnydd;
A nodi fod yr holl weithgareddau allgyrsiol drwy'r Gymraeg,
yn gwneud y polisi iaith yn fwy cadarn ac eglur?
Ateb – Aelod Cabinet
Addysg, Y Cynghorydd Dewi Jones
Rwy’n croesawu’r
cyfle i gadarnhau rhai agweddau allweddol ar y Polisi Iaith Addysg drafft, ac i
sicrhau eglurder ynghylch rhai materion penodol sydd wedi codi.
Yn gyntaf, o ran
cynnwys Saesneg yn drawsgwricwlaidd, mae’r polisi yn nodi’n glir mai’r Gymraeg
yw prif gyfrwng addysg yn ysgolion Gwynedd, gyda’r Saesneg yn cael ei
gyflwyno’n fwriadus a’i ddefnyddio’n briodol yn unol â datblygiad ieithyddol
disgyblion.
Yn ail, rwy’n fodlon
nodi bod y polisi’n cyfeirio’n benodol at fwriadau’r Bil Addysg Gymraeg sydd ar
y gweill, gan baratoi’r ffordd i’r Awdurdod gydymffurfio’n llawn â’r drefn
statudol newydd o gategoreiddio ysgolion pan ddaw i rym.
Yn drydydd, mae’r
polisi’n mynegi’n glir ganrannau ar gyfer y ddarpariaeth addysg drwy gyfrwng y
Gymraeg, gan gynnwys y nod o sicrhau o leiaf 80% o weithgareddau ysgol drwy’r
Gymraeg yn y cynradd, ac o leiaf 70% yn yr uwchradd. Byddwn yn gweithio tuag at
unrhyw ofynion statudol yn unol â chynnwys Bil y Gymraeg all gymryd hyd a 5
mlynedd i ddod i rym.
O ran Cynlluniau
Cynnydd, mae’r ddogfen eisoes yn nodi'r disgwyliadau ar ysgolion unigol a’u
clystyrau i lunio cynlluniau datblygu clir a chytunedig gyda’r Awdurdod, gan
gynnwys cyfnodau trosiannol a mesurau llwyddiant. Mae hyn yn sicrhau tryloywder
ac atebolrwydd.
Yn olaf, rwy’n
cydnabod bod y polisi’n gosod pwyslais cryf ar sicrhau bod gweithgareddau
ysgol, gan gynnwys y rhai allgyrsiol, ar gael drwy’r iaith Gymraeg. Yn unol â’r
Siarter Iaith bydd gweithgareddau allgyrsiol yn y Gymraeg.
Byddaf yn parhau i
gefnogi’r gwaith o gryfhau’r Polisi Iaith Addysg, gan sicrhau cydbwysedd rhwng
uchelgais ieithyddol, hyblygrwydd ymarferol, a chefnogaeth i’n hysgolion wrth
iddynt weithredu’r polisi’n llwyddiannus.
Cwestiwn Atodol – Y
Cynghorydd Rhys Tudur
Nid yw’r drafft
cyfredol o’r polisi iaith yn egluro os yw’r ganran ddigwyledig
ar gyfer addysg Gymraeg i fod ar gyfer yr holl blant oni bai am blant efo
anghenion dysgu ychwanegol neu wedi ei heithrio . A yw’r polisi felly am
ddarparu eglurdeb i’r perwyl yma, a mynegi beth y dylai ddweud sef fod y
ddarpariaeth Cyfrwng Cymraeg ar gyfer yr holl blant. Os nad oes parodrwydd i fynegi hyn yn glir
onid yw’n deg dweud nad yw’r polisi drafft yn cynnig amddiffyniad cadarn i
ysgolion Gwynedd i fedru rhwystro sefyllfa ymhle fo canran o sylwedd o blant yn
ceisio osgoi addysg Gymraeg.
Yr Ateb – Aelod
Cabinet dros Addysg Y Cynghorydd Dewi Jones
Na, credaf fod y
polisi iaith yn cynnig yr amddiffyniad. Nodwyd beth oedd wedi ei nodi yn Bil
Addysg, mai dim ond un canran fydd i bawb, ac o ganlyniad mae’n system lot fwy
syml.
7)
Cwestiwn
y Cynghorydd Jina Gwyrfai
Deallaf fod newidiad
nid ansylweddol ar y gweill i’r Ffurflen gofrestru am dŷ cymdeithasol,
sy’n golygu na fydd darpar denantiaid yn gallu nodi lle maent yn dymuno byw.
Beth yw goblygiadau’r newid ? A yw hyn yn golygu troi cefn ar hawl pobl bregus
i ddewis trigfan, ac a yw yn troi cefn ar Bolisi ‘lleol’ Gwynedd?
Ateb – Aelod Cabinet
Tai ac Eiddo, Y Cynghorydd Paul Rowlinson
Nid oes unrhyw
fwriad i newid y ffurflen gais mewn ffordd na fydd darpar denantiaid yn gallu
nodi lle maent yn dymuno byw. Er bod mân addasiad wedi'i wneud i'r ffurflen
gais yn ddiweddar i ofyn i unigolion roi tic yn erbyn lleoliad(au) y dymunent fyw (yn hytrach na’u rhifo), nid oes unrhyw
newidiadau pellach ar y gweill. Mae’r ffurflen i’w gweld ar wefan y Cyngor ac
fe welwch fod cwestiwn 15 yn gofyn i ddarpar denantiaid nodi lle maent yn
dymuno byw. Mae ein polisi gosod tai hefyd i’w weld ar y wefan ac nid yw wedi
newid o gwbl.
Cwestiwn Atodol Y
Cynghorydd Jina Gwyrfai
Hoffwn ymddiheuro os cam ddeall, falch gweld cyfle i nodi
ardaloedd. Ond mater o farn yw man addasiad yw cau’r hawl i nodi ble ma rhywun
yn dymuno byw, o roi heibio’r drefn o rifo, sef
blaenoriaethu, heb unrhyw ymgyhoriad a’r cyhoedd na
chyd-aelodau’r Cyngor, mae data pwysig yn mynd ar goll. Data sy’n rhoi darlun
o’r gwir angen am dai cymdeithasol ymhob lle. Mae’n ymddangos fel bod yr Adran
Tai yn gweithio’n groes i’r Adran Gynllunio, achos heb ddata sut mae modd
adnabod lle sydd angen datblygu a ble nad oes angen am dai. Sut mae modd
adnabod yr angen go iawn?
Ateb – Aelod Cabinet
Tai ac Eiddo, Y Cynghorydd Paul Rowlinson
Cadarnhau fod ymgeiswyr yn parhau i nodi’r ardaloedd maent
yn awyddus i fyw ynddynt, gan fod hyn yn hanfodol i wybod. Eglurwyd nad oes
awydd i newid hynny. Roedd y ffurflen gais blaenorol yn gofyn i bobl
flaenoriaethu, ond roedd pobl yn aml yn anwybyddu cyfarwyddyd ac yn rhoi tic yn
ymyl lleoliadau ble roeddent eisiau byw. Mi fuasai’r wybodaeth yn gallu bod yn
fuddiol, ond cynifer yn anwybyddu roedd y wybodaeth ddim yn gadarn ac felly yn
methu bod yn sail i bolisi. Doedd y wybodaeth am ddewisiadau dim yn chware rhan
yn y broses o osod eiddo, a dyna sy bwysicaf. Os parhau, camarwain pobl, arwain
pobl i feddwl mwy tebygol o gael eiddo yn yr ardal ble oeddent wedi ei
flaenoriaethu, nad oedd yn wir o gwbl. Ffurflen yn annog pobl i nodi ble maent
yn awyddus i roi ynddi, felly gwybodaeth yn rhoi gwybodaeth ystyriol a pendant
am ble mae’r angen ac yn cyfoethogi’r cynlluniau am dai yn y dyfodol.
Dogfennau ategol: