Agenda item

Adroddiad i’r Pwyllgor Craffu ar berfformiad yr Adran Amgylchedd.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Amgylchedd, Pennaeth Adran Amgylchedd a Phenaethiaid Cynorthwyol yr Adran Amgylchedd.

 

Adroddwyd bod yr Adran yn arwain ar bump o brosiectau Cynllun y Cyngor 2023-2028, sef ‘Rheolaeth ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr’ fel rhan o flaenoriaeth Gwynedd Glyd yn ogystal â ‘Cynllun Datblygu Lleol Newydd’, ‘Gwastraff ac Ailgylchu’, ‘Teithiau Llesol’, a ‘Trafnidiaeth Gyhoeddus’ fel rhan o flaenoriaeth Gwynedd Werdd. Ymhelaethwyd bod y wybodaeth a gyflwynwyd ar gyfer y cyfarfod hwn yn nodi cynnydd yr Adran yn erbyn cerrig milltir y prosiectau ar gyfer 2024-2025 yn ogystal â data am fesurau perfformiad gwasanaethau’r Adran.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan yr Aelodau:-

 

Gwastraff ac Ailgylchu

Tynnwyd sylw nad oedd yr Adran yn cyrraedd targedau cenedlaethol Llywodraeth Cymru  o ailgylchu 70% o holl wastraff y Sir gan nodi mai canran ailgylchu’r Cyngor ar gyfer 2024-25 oedd 65.3%. Gofynnwyd os yw’r Adran wedi ystyried addasu amlder casgliadau gwastraff er mwyn cyrraedd y targed hwn. Mewn ymateb, cadarnhaodd y Pennaeth Cynorthwyol y gobeithir cynnal ymgynghoriad er mwyn sicrhau bod llwybr clir i’r Cyngor bod yn ailgylchu 70% o holl wastraff. Fodd bynnag, pwysleisiwyd nad oes unrhyw benderfyniadau wedi cael eu gwneud ar gyfer addasu amlder casglu gwastraff ar hyn o bryd.

 

Gofynnwyd a fyddai unrhyw ddirwyon ariannol yn cael eu gosod ar y Cyngor gan y Llywodraeth am fethu a chyrraedd y targed hwn. Cadarnhaodd y Pennaeth Cynorthwyol bod dirwy o £200 yn cael ei roi am bob tunnell o wastraff sydd islaw’r targed o 70% wedi’i ailgylchu. Eglurwyd bod y Cyngor oddeutu 3,000 o dunelli islaw’r targed o fewn y flwyddyn 2024-25. Eglurwyd bod y Cyngor mewn trafodaethau parhaus gyda Llywodraeth Cymru er mwyn dangos bod camau yn cael eu cymryd i gyrraedd y targed ac y byddai hyn yn cael ei adlewyrchu wrth bennu swm unrhyw ddirwy ariannol ar y Cyngor. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn pellach am ddechrau ailgylchu plastigion meddal, cadarnhaodd y Pennaeth Cynorthwyol nad yw hyn yn digwydd ar hyn o bryd oherwydd nad oes marchnad iddo. Fodd bynnag, pwysleisiwyd bod Llywodraeth Cymru yn treialu’r math yma o gasgliadau yn ne Cymru ar hyn o bryd. Ychwanegwyd bod cynlluniau i ailgylchu mwy o nwyddau megis bagiau plastig a theclynnau electronig bychan yn y dyfodol. Ymhelaethodd y Pennaeth Cynorthwyol bod treth yn cael ei osod ar gwmnïau ar raddfa sy’n nodi faint o hawdd yw ailgylchu unrhyw wastraff o’u cynnyrch neu’r pecynnau, gan obeithio bydd hynny yn annog cwmnïau i sicrhau bod modd ailgylchu eu cynnyrch ac annog prynwyr i wneud hynny.

 

Cyfeiriwyd at lefelau salwch ymysg staff y gwasanaeth gan ofyn i’r swyddogion sut maent yn delio gyda’r achosion hyn. Mewn ymateb, cadarnhaodd y Pennaeth Cynorthwyol bod y staff yn fwy tebygol o fod i ffwrdd gyda salwch wrth iddynt fynd yn hŷn oherwydd natur gorfforol y gwaith. Adroddwyd bod lefelau salwch ymysg staff ardal Arfon wedi lleihau yn ddiweddar ond bod cynnydd wedi bod yn ardaloedd Dwyfor a Meirionnydd. Manylwyd bod 9% o holl staff y gwasanaeth dros 60 oed a bod dros hanner yr unigolion hynny i ffwrdd o’r gwaith ar hyn o bryd gyda chyflwr hirdymor. Soniwyd hefyd bod nifer o staff wedi penderfynu cymryd gwyliau rhwng y Nadolig a’r flwyddyn newydd er mwyn cael cyfle i ddathlu gyda’u teuluoedd. Pwysleisiodd y Pennaeth Adran bod swyddogion yn croesawu hyn gan fod y gwasanaeth yn weithredol ar hyd y flwyddyn gan nodi bod hwn yn gyfle i godi morâl staff, ac roedd trefniadau mewn lle i ddal i fyny gydag unrhyw gasgliadau a fethwyd wedi iddynt ddychwelyd i’r gwaith. Nodwyd hefyd nad oedd hyn yn orfodol ac roedd y staff a oedd yn dymuno gweithio wedi gwneud hynny.

 

Gofynnwyd pa gynlluniau sydd ar waith ar gyfer addysgu ac ymgysylltu gyda phobl ifanc gan ystyried bod y syniadau mwyaf newydd ac arloesol yn dod gan y to ifanc yn aml iawn. Gofynnwyd hefyd a oes ystyriaeth yn cael ei roi ar gyfer economi gylchol ble mae ailddefnyddio, caffi trwsio a chynlluniau benthyg yn cael eu normaleiddio. Mewn ymateb i’r sylwadau cadarnhaodd y Pennaeth Cynorthwyol bod yr Adran yn cydweithio gyda Phrifysgol Bangor ar y meysydd hyn gan gydnabod bod angen cwblhau mwy o waith gydag ysgolion. Er hyn, pwysleisiwyd mai dim ond 4 swyddog ymgysylltu sydd yn y gwasanaeth ar hyn o bryd. Diolchwyd i’r Aelod am drafod economi gylchol gan ei fod yn rhan o’r gwasanaeth ac mae’r Adran yn cydweithio gydag adrannau’r cyngor er mwyn ehangu ar y cyfleoedd hyn i’r dyfodol.

 

Mynegwyd balchder gan Aelodau bod niferoedd casgliadau a fethwyd eu casglu wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan ddiolch i’r Adran a’r gweithwyr am eu gwaith parhaus.

 

Prosiect: Rheolaeth ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr

Llongyfarchwyd yr Adran ar gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn ddiweddar a oedd yn ychwanegu at y premiwm ail dai fel mesur i reoli ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr. Gofynnwyd pa waith sydd yn weithredol er mwyn monitro eu heffaith a sicrhau nad yw pobl leol a’r sector dwristiaeth yn cael eu heffeithio’n negyddol. Mewn ymateb, cadarnhawyd bod fframweithiau monitro wedi’i sefydlu ar gyfer Cyfarwyddyd Erthygl 4 ond nad yw’n amserol i adrodd ar ei effeithiau ar hyn o bryd. Atgoffwyd bod y cyfarwyddyd yn weithredol ers 1af Medi 2024 a gobeithir dadansoddi’r data monitro wedi iddo fod yn weithredol am 12 mis. Ymhelaethwyd bod gwaith monitro ar lefel corfforaethol yn cael ei wneud yn y maes hwn, gan rannu enghraifft bod materion twristiaeth yn flaenoriaeth gan yr Adran Economi a Chymuned a fforddiadwyedd tai yn ystyriaeth i’r Adran Tai ac Eiddo.

 

Teithio Llesol

Derbyniwyd sylwadau cadarnhaol am y rhwydwaith Teithio Llesol ond nodwyd bod nifer o seiclwyr wedi adrodd i’r Aelodau nad ydynt yn gwneud defnydd ohonynt oherwydd nad yw’r llwybrau yn cael eu cynnal. Eglurwyd bod cerrig, gwydr a dail yn gallu bod yn beryglus ac achosi niwed i seiclwyr. Amlygwyd bod yr Adran yn nodi o fewn yr adroddiad bod cynlluniau ar y gweill i ddatblygu mwy o lwybrau a gofynnwyd pa ystyriaeth sydd yn cael ei roi ar gynnal a chadw y llwybrau hyn er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel i ddefnyddwyr.

 

Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Adran bod y rhwydwaith Teithiau Llesol yn cael eu defnyddio gan gerddwyr a seiclwyr a bod eu datblygu yn cael ei ariannu gan arian grant cyfalaf Llywodraeth Cymru. Nodwyd nad oes cyllideb o fewn y grantiau hynny ar gyfer cynnal a chadw’r llwybrau a bod y flaenoriaeth i ariannu hynny o fewn cyllideb yr Adran yn isel wrth ystyried y gwasanaethau eraill a gynigir. Fodd bynnag, tynnwyd sylw bod Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC y Cyngor yn gwasanaethu rhannau o’r rhwydwaith sydd ar ymylon ffordd. Pwysleisiwyd nad yw’r Adran eisiau gwrthod arian grant cyfalaf ar unrhyw gyfle ac yn obeithiol bydd cyllid yn dod i law drwy’r Llywodraeth ar gyfer cynnal a chadw’r llwybrau hyn yn y dyfodol. Er hyn, cydnabuwyd bod angen canfod datrysiad i’r her hon er mwyn annog seiclwyr i wneud defnydd o’r rhwydwaith.

 

Cludiant Cyhoeddus

Trafodwyd newidiadau i amserlenni bws T22 gan nodi bod y gwasanaeth yn wych tra’n weithredol ond fod yr amserlen yn gorffen ar amseroedd anghyfleus i weithwyr ac nid oedd gwasanaethau i rai trefi ar ddyddiau Sul. Mewn ymateb, cadarnhaodd y Pennaeth Adran bod data defnydd bysiau yn dangos bod mwy o ddefnyddwyr cludiant cyhoeddus eleni ac y byddai’n cysylltu gydag Aelodau er mwyn ceisio canfod datrysiadau i unrhyw her leol a ymddangosir gyda’r rhwydwaith.

 

Gofynnwyd sut all yr Adran weithio er mwyn sicrhau bod trigolion lleol yn gallu defnyddio’r rhwydwaith bysiau i fynd i’r gwaith, gan eu bod yn aml yn gweithio yn hwyrach na’r bws olaf i’w cymuned leol. Mewn ymateb, cadarnhaodd y Pennaeth Adran y cynhaliwyd adolygiad o’r rhwydwaith yn gymharol ddiweddar yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a’i fod wedi cael ei groesawu’n gyffredinol. Manylwyd bod nifer o ystyriaethau wrth ddatblygu rhwydwaith effeithiol megis twristiaeth, addysg, apwyntiadau meddygol, byw yn annibynnol, cyflogaeth ac hamdden, a tra nad yw’n bosib cyfarch anghenion pob unigolyn yn llawn ymdrechir i gyfarch anghenion y mwyafrif o bobl. Eglurwyd hefyd bod cyllidebau hefyd yn amharu ar allu’r Adran i gyflwyno bysiau ychwanegol fel rhan o’r rhwydwaith yn ogystal â gallu cwmnïau bysiau i ryddhau mwy o fysiau a staff i gynnal y gwasanaethau.

 

Canmolwyd y gwasanaeth bws Fflecsi sy’n cael ei gynnal gyda phartneriaid yr Adran gan bwysleisio ei fod yn addas i bwrpas ac yn debygol o fod yn arbed arian i’r Cyngor gan ei fod dim ond yn cael defnydd ar gais y defnyddwyr. Mewn ymateb i ymholiad os oes modd ehangu’r gwasanaeth hwn mewn rhai ardaloedd, cadarnhaodd y Pennaeth Adran bod yr Adran yn cydweithio’n barhaus gyda Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru ar gyfer datblygu’r rhwydwaith Fflecsi ond gall heriau godi wrth ystyried capasiti cwmnïau bysiau a’r galw ar y gwasanaeth. Pwysleisiwyd byddai’r Adran yn awyddus i gynnal trafodaethau pellach gydag Aelodau ar gyfer ehangu’r rhwydwaith ble’n bosibl.

 

Diolchwyd i’r Adran am gyflwyno data defnyddwyr bysiau gan fynegi balchder bod 37% o ddefnyddwyr y gwasanaeth wedi bod yn defnyddio tocynnau rhad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan ddangos bod y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio gan ystod eang o ddefnyddwyr. Gofynnwyd i’r Adran pa gynlluniau penodol sydd mewn lle ar gyfer cyflwyno bysiau trydan newydd o fewn Gwynedd. Mewn ymateb, cadarnhaodd nad oes trefniadau cadarn mewn lle ar hyn o bryd ond bod yr Adran yn cynnal trafodaethau cyson gyda Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru er mwyn sicrhau bod y datblygiadau hyn ar y gweill mor fuan â phosib.

 

Parcio

Adroddwyd bod 16,899 o docynnau dirwyon parcio wedi cael eu dosbarthu o fewn y flwyddyn 2024-25 a gofynnwyd i’r Adran am wybodaeth am ble mae’r arian a ddaw o’r dirwyon hyn yn cael ei ddefnyddio. Mewn ymateb, cadarnhaodd y Pennaeth Adran bod gofynion statudol yn rhwymo’r arian hwnnw er mwyn ei ddefnyddio yn ôl i mewn i’r gwasanaeth megis cyflogaeth staff. Eglurwyd hefyd bod ffioedd tocynnau meysydd parcio sydd ddim ar ochr lon, megis talu ac arddangos, yn incwm y gall y Cyngor ei ddefnyddio mewn unrhyw ffordd briodol.

 

Gwarchod y Cyhoedd – Bwyd a Diogelwch

Amlygwyd mai 80% o arolygiadau Safonau Bwyd a gyflawnwyd yn unol â’r rhaglen waith yn ystod 2024-25. Pryderwyd y golyga hyn bod 1 o bob 5 lleoliad a ddylai derbyn arolygiad eleni heb ei dderbyn, a all beri risg i’r cyhoedd. Mewn ymateb i’r sylwadau, cydnabuwyd bod heriau yn y maes gwaith hwn, gan sicrhau bod adnoddau ychwanegol wedi cael eu cyflwyno er mwyn cyfarch â’r gofynion a bod gwarchod y cyhoedd yn flaenoriaeth i’r Adran. Eglurwyd bod y gwasanaeth wedi colli aelodau profiadol o staff o fewn y flwyddyn ddiwethaf a bod recriwtio unigolion gyda’r arbenigedd priodol yn ogystal â sgiliau’r Gymraeg wedi bod yn heriol. Er hyn, pwysleisiwyd bod yr Adran wedi llwyddo i ddenu swyddog cynllunio’r dyfodol ac hyfforddai proffesiynol a fydd yn cymhwyso i gynnal archwiliadau. Diolchwyd i’r swyddogion presennol am eu gwaith parhaus ac am gymryd amser i fentora a rhannu gwybodaeth.

 

Tynnwyd sylw gan Aelodau bod rhai busnesau yn gallu ymddangos sgôr hylendid bwyd o 0 am gyfnodau hir, gan ofyn sut gall hyn gael ei wella a sut mae modd sicrhau bod gan y cyhoedd y wybodaeth ddiweddaraf am sgôr hylendid bwyd busnesau’r Sir. Mewn ymateb, cadarnhaodd y Pennaeth Cynorthwyol bod unrhyw fusnes sydd yn derbyn sgôr hylendid bwyd o 1 neu 0 yn dilyn arolygiad yn derbyn rhybudd i roi mesurau mewn lle er mwyn cynyddu’r lefel hylendid. Ymhelaethwyd bydd arolygiad pellach yn cael ei gynnal o fewn 3 mis er mwyn derbyn sgôr uwch. Fodd bynnag, nodwyd nad yw nifer o fusnesau yn cydweithio gyda’r Adran er mwyn sicrhau bod yr ail arolygiad hwn yn cymryd lle.

 

Gorfodaeth Cynllunio

Nodwyd pryder bod nifer uchel o achosion gorfodaeth ar agor a bod diffyg staff i wneud y gwaith. Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Cynorthwyol bod y sefyllfa wedi sefydlogi dros y deunaw mis diwethaf ond bod swmp gwaith yn parhau’n uchel. Ymhelaethodd bod dau swyddog yn gwneud y gwaith yn llawn amser a’r Tîm Erthygl 4 yn helpu gydag achosion penodol yn ogystal â swyddogion cynllunio yn gwneud archwiliadau dechreuol. Eglurodd y cymerir y camau gorfodaeth perthnasol pan fo angen gan nodi bod 9 rhybudd gorfodaeth wedi eu cyflwyno yn y deuddeg mis diwethaf.

 

        PENDERFYNWYD

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.  

 

Dogfennau ategol: