Cyfle i
Aelodau drafod a chraffu mesurau a blaenoriaethau gwella’r Adran.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn
ystod y drafodaeth.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Priffyrdd,
Peirianneg a YGC, ynghyd â Phennaeth a Phennaeth Cynorthwyol yr Adran
Priffyrdd, Peirianneg a YGC.
Adroddwyd bod yr Adran yn arwain ar dair o brosiectau
Cynllun y Cyngor 2023-2028, sef ‘Ymestyn cyfleoedd chwarae a chymdeithasu ar
gyfer plant a phobl ifanc y Sir fel rhan o flaenoriaeth Gwynedd Yfory yn
ogystal â ‘Gweithredu ar risgiau llifogydd’ a ‘Cymunedau Glân a Thaclus’ fel
rhan o flaenoriaeth Gwynedd Werdd. Ymhelaethwyd bod y wybodaeth a gyflwynwyd ar
gyfer y cyfarfod hwn yn nodi cynnydd yr Adran yn erbyn cerrig milltir y
prosiectau ar gyfer 2024-2025 yn ogystal â data am fesurau perfformiad gwasanaethau’r
Adran.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan yr
Aelodau:-
Gwasanaeth Cynnal Priffyrdd – Cyflwr Ffyrdd
Diolchwyd i’r Adran am gyflwyno data am ymchwiliadau tyllau
mewn ffordd gan ofyn am fwy o wybodaeth ar amseroedd i ymateb i ymholiadau gan
y cyhoedd am gyflwr ffyrdd. Mewn ymateb, ymddiheurodd y Pennaeth Adran nad oedd
y data hwn ar ystadegau amseroedd i ymateb wedi cael eu cynnwys yn yr Adroddiad
gan egluro bod hynny oherwydd problem gyda’r meddalwedd. Eglurwyd bydd y data
hyn yn cael ei gynnwys wrth adrodd i’r Pwyllgor hwn yn y dyfodol. Manylwyd bod
archwilwyr yn asesu galwadau am gyflwr ffyrdd yn syth gan nodi bod gwaith yn
cael ei wneud ar y ffordd o fewn 2 awr os yw wedi cael ei asesu i fod yn
broblem gritigol. Adroddwyd bod ymholiadau eraill yn cael eu datrys erbyn
diwedd y diwrnod gwaith dilynol er mwyn gallu rhaglennu a phecynnu gwaith yn
effeithiol. Mynegwyd hyder gan yr Adran eu bod yn llwyddo i gyrraedd yr
amserlenni hyn.
Mynegwyd rhwystredigaeth gan rhai Aelodau nad yw’r ailwynebu a wneir ar y ffyrdd yn dilyn adrodd ar dwll yn y
ffordd yn goroesi’n hirdymor. Mewn ymateb, eglurodd y Pennaeth Adran bod pob
ymdrech yn cael ei wneud i dorri rhan mwy o’r ffordd allan er mwyn gallu
llenwi’r twll yn well ac o safon uchel, ond nad yw hyn yn bosib ar bob
achlysur, felly bydd staff yn ailwynebu’r ffordd gan
ddefnyddio tar o fwcedi. Cydnabuwyd bod hyn yn gallu cael effaith ar ansawdd y
ffordd a byddai’r Adran yn ystyried y sylwadau ymhellach. Ymhelaethwyd bod yr
Adran wedi derbyn arian grant o £8miliwn dros gyfnod o ddwy flynedd er mwyn
delio gyda materion cyflwr ffyrdd gan nodi bod adrodd ar gyfraddau ymateb i
adroddiadau tyllau mewn ffyrdd a chanfod dulliau o’u hatal rhag ymddangos yn
allweddol ar gyfer y cais.
Gwasanaethau Stryd
Tynnwyd sylw mai dim ond 23 Hysbysiad Cosb Benodedig a
dalwyd yn ystod 2023-24 am achosion o berchnogion cŵn yn peidio codi baw
ci. Mewn ymateb, rhannodd y Pennaeth Adran ei rwystredigaeth gyda’r her hon gan
egluro bod y ffigyrau hyn yn isel oherwydd bod rhaid i swyddogion gorfodaeth
weld y ci yn baeddu ac nad yw’r perchennog yn ei gasglu. Eglurwyd bod hyn yn
heriol iawn gan ychwanegu nad oes yna nifer o swyddogion gorfodaeth yn
gyflogedig o fewn y gwasanaeth. Fodd bynnag, pwysleisiwyd bod yr Adran yn targedu
ardaloedd o bryder ac yn gweithio i addysgu perchnogion cŵn am bwysigrwydd
gwaredu â’r baw yn ddiogel. Ymhelaethwyd bod patrymau yn dangos nad yw hon yn
broblem mor fawr yn ystod tymor yr haf ond bod mwy o adroddiadau am faw
cŵn yn cael eu derbyn yn ystod y gaeaf.
Disgrifiwyd achos yn ardal Dolgellau ble mae diffygion i’w
gweld ar balmant cyfyng ers peth amser gan beri risg i’r cyhoedd ac ymwelwyr
wrth iddynt gorfod camu i’r ffordd yn hytrach na’i defnyddio. Cadarnhaodd yr
Aelod Cabinet a Phennaeth yr Adran y byddent yn cysylltu gyda’r Aelod ymhellach
er mwyn ymdrechu i ganfod datrysiad i’r sefyllfa hon.
Prosiect: Ymestyn cyfleoedd chwarae a chymdeithasu ar gyfer
plant a phobl ifanc y Sir
Canmolwyd yr Adran am gyflwyno gwelliannau i barciau
chwarae, gan ofyn pa waith sydd yn mynd rhagddo er mwyn sicrhau bod arian yn
cael ei ddyrannu i barciau chwarae y tu allan i brif drefi’r Sir. Mewn ymateb,
cadarnhaodd Pennaeth yr Adran bod gwaith yn mynd rhagddo er mwyn sicrhau bod yr
arian yn cael ei ddyrannu yn unol â’r defnydd a wnaed o’r parciau chwarae.
Anogwyd Aelodau’r Cyngor i gydweithio gyda’r Adran er mwyn sicrhau bod
buddsoddiad i’r parciau chwarae yn cael eu blaenoriaethu i’r lleoliadau cywir.
Eglurwyd mai dim ond 1 swyddog caeau chwarae sydd yn yr Adran a’i fod yn mynd o
gwmpas y meysydd chwarae er mwyn asesu eu cyflwr ac asesu’r defnydd a wnaed
ohonynt.
Tîm Tacluso Ardal Ni
Mynegwyd diolchiadau gan yr Aelodau am waith y Tîm hwn, gan
adrodd eu bod yn ymateb i ddigwyddiadau ac ymholiadau yn gyflym ac yn
effeithiol. Diolchwyd iddynt am eu gwaith parhaus.
Gwasanaeth Fflyd
Gofynnwyd a oes rheswm pam bod 38 o gerbydau disel a phetrol
yn parhau i fod yn rhan o’r fflyd pan mae cerbydau trydan neu hybrid wedi cael
eu prynu yn eu lle. Mewn ymateb, cadarnhaodd y Pennaeth Adran bod rhan helaeth
o’r fflyd yn geir trydan neu hybrid erbyn hyn. Fodd bynnag, nodwyd bod yr Adran
yn derbyn sylwadau o bryder nad yw cerbydau trydan o hyd yn addas i bwrpas
oherwydd bod angen teithio ymhell o fewn y sir ac yna gyrru milltiroedd
ychwanegol er mwyn cwblhau gwasanaethau gan beri risg nad oes pwynt gwefru
cyfleus ar gael ar pob achlysur, ac felly mae cerbydau disel a phetrol yn
parhau i gael eu defnyddio mewn rhai achosion yn hytrach na chronni costau
hurio cerbyd. Er hyn, pwysleisiwyd bod hyder y gweithlu gyda’r fflyd o geir
trydan a hybrid yn tyfu a bydd cyflwyno mwy o bwyntiau gwefru yn y dyfodol
hefyd yn arwain at ddatrys y broblem hon.
Heriwyd na ddylai’r nifer o filltiroedd all y cerbydau
trydan a hybrid ei deithio cyn gorfod ail-wefru fod yn broblem os yw’r cerbydau
cywir yn cael eu prynu. Ystyriwyd hefyd os yw’r pwyntiau gwefru yn y lleoliadau
cywir os nad ydynt yn addas ar gyfer gwasanaethau’r Cyngor. Mewn ymateb,
sicrhaodd y Pennaeth Adran bod y Cyngor yn prynu’r cerbydau cywir yn dilyn
gwaith ymchwil trylwyr. Eglurwyd bod datblygiadau cerbydau trydan ac hybrid yn
parhau i fod yn gymharol newydd, yn enwedig ar gyfer faniau a cherbydau
diwydiannol eraill, ac bod yr ystod o filltiroedd maent yn gallu ei deithio cyn
ail-wefru yn parhau i fod yn isel. Fodd bynnag, cadarnhawyd bod ceir mwy
diweddar yn gallu teithio mwy o filltiroedd cyn ail-wefru ac ystyrir bydd y
cerbydau yn parhau i ddatblygu yn y modd yma i’r dyfodol. Ymhelaethwyd bod yr
Adran hefyd yn gweithio er mwyn cyflwyno pwyntiau gwefru cyflym ar draws y Sir
er mwyn cefnogi’r staff nes eu bod yn hyderus i ddefnyddio ceir trydan a hybrid
heb boeni yn ormodol am yr angen i ail-wefru.
Nodwyd bod strategaeth newydd y Cyngor yn nodi bod rhaid i
swyddogion gael cefnogaeth rheolwr cyn prynu cerbyd newydd i’r fflyd ac bod y
Rheolwr Fflyd gyda’r penderfyniad terfynol ar y mater, gan holi’r Adran os yw’r
Adrannau eraill yn cydweithio er mwyn sicrhau mai dyma yw’r trefniant
perthnasol. Mewn ymateb, eglurodd y Pennaeth Adran bod cyllidebau fflyd yr
Adrannau yn parhau i fod o fewn rheolaeth yr Adrannau yn unigol yn hytrach na
chyllideb fflyd annibynnol. Pwysleisiwyd bod trafodaethau yn cael eu cynnal o
fewn y Cyngor er mwyn canfod y system orau ar gyfer cyllidebu’r fflyd i’r
dyfodol.
Gwasanaeth Cynnal a Chadw Strwythurau
Tynnwyd sylw bod yr adroddiad yn nodi bod 22 pont yng
Ngwynedd gyda BCI (Bridge Condition Indicators) ‘gwael’ a 10 pont bellach gyda BCI ‘gwael
iawn’. Eglurodd y Pennaeth Adran bod archwilwyr yn archwilio pontydd (boed yn
ddur, concrid neu garreg) ac yn asesu gwahanol rannau ohonynt er mwyn cynnal
sgôr BCI. Ymhelaethwyd bod BCI holl rannau’r pontydd yn cael eu cyfuno ar gyfer
creu cyfartaledd cyn mynd ati i flaenoriaethu pa bontydd sydd angen gweithredu
arnynt o fewn y strategaeth ar gyfer y flwyddyn i ddod.
PENDERFYNWYD
Derbyn yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.
Dogfennau ategol: