Cyflwyno adroddiad
Cadeirydd y Pwyllgor Pensiynau.
Penderfyniad:
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Elin Hywel, Cadeirydd y
Pwyllgor Pensiynau. Eglurwyd fod yr eitem hon yn un sydd wedi ei thrafod dros y
misoedd diwethaf. Diolchwyd am y swyddogion am eu gwaith diddiwedd ar y cynllun
hwn. Pwysleisiwyd mai hwn, yng ngolwg y Pwyllgor, yw’r opsiwn gorau sydd yn
cyrraedd yr anghenion sydd wedi ei nodi gan Lywodraeth y DU.
Eglurwyd mai Cyngor Gwynedd yw’r awdurdod gweinyddol ar
gyfer Cronfa Bensiwn Gwynedd, a olygai ei fod yn gweinyddu pensiynau ar gyfer
dros 50,000 o aelodau, bron i 50 o gyflogwyr a £3.2 biliwn o asedau. Mynegwyd
fod y Gronfa Bensiwn wedi bod yn cydweithio ers 2017 gyda’r wyth gronfa Cynllun
Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghrymu, a hynny drwy gytundeb rhyng-awdurdod
a gymeradwywyd gan y Cyngor llawn yn ôl ym Mawrth 2017, sef y pwl a sefydlwyd
sef Partneriaeth Pensiwn Cymru.
Nodwyd fod oddeutu £25biliwn o asedau dan reolaeth y Pwl, a
cheir manteision drwy arbedion cost, gwella cyfleoedd buddsoddi, gwella
perfformiad a chynyddu cyd-weithio a llywodraethu ar draws Cymru. Eglurwyd fod
hyn wedi gweithio yn dda i Wynedd, gyda 85% o gronfa Bensiwn Gwynedd wedi ei
bwlio, fod y cydweithio wedi bod yn fanteisiol iawn i’r gronfa.
Ers Hydref 2023, nodwyd fod y Llywodraeth wedi bod yn
adolygu trefniadau buddsoddi Cynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghrymu a
Lloegr. Mynegwyd fod ymgyhoriad cychwynnol wedi ei
gynnal, ac yn ddiweddar fod y Bil Pensiynau wedi ei gyhoeddi. Tynnwyd sylw at y
model gweithredu sy’n ddisgwyliedig a fydd yn bodloni’r safonau a nodwyd.
Eglurwyd yr angen olaf, sef i sefydlu cwmni rheoli
buddsoddiadau, sydd dan sylw heddiw. Nodwyd fod Partneriaeth Pensiwn Cymru yn
bwriadu sefydlu cwmni rheoli buddsoddiadau ar wahân (‘’IM Co’’) sydd wedi ei
rheoleiddio gan yr FCA yn unol â meini prawf y Llywodraeth, mae’r prosiect yma
wedi ei alw yn ‘Prosiect yr Wyddfa’ gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru.
Esboniwyd fod y penderfyniad i adeiladu cwmni rheoli
buddsoddiadau (“IM Co”) ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru yn cynnig cyfle
unigryw i sefydlu canolfan o arbenigedd mewn buddsoddiadau CPLlL
yng Nghymru. Paratôdd Partneriaeth Pensiwn Cymru achos busnes cryf i’r
Llywodraeth ym mis Chwefror 2025, a derbyniwyd llythyr o gefnogaeth i’r Achos
Busnes yn Ebrill 2025.
Bydd angen cyflwyno elfennau newydd yn y strwythur
llywodraethu, yn cynnwys Bwrdd Cyfranddalwyr gyda chynrychiolaeth o’r holl
awdurdodau gweinyddol. Yn y tymor canolig a hir, nodwyd fod y PPC yn gobeithio
darparu buddion ariannol a fydd yn uwch na chostau’r model gweithredol. Nid oes
costau trosglwyddo buddsoddiadau ond amcangyfrif bydd cost y model newydd
oddeutu £5-£5.5m - costau’r Gronfa ac nid y Cyngor. Nodwyd y penderfyniad.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig
sylwadau.
Mynegwyd o’r ddau gynnig sydd wedi ei nodi gan Lywodraeth y
DU, mai hwn yw’r opsiwn gorau. Nodwyd fod hyn yn cadw rheolaeth o fewn Cymru ac
felly yn cadw’r rheolaeth o fewn Llywodraethau Lleol Cymru. Ynghyd a sicrhau
fod y penderfyniadau yn sicrhau ei fod yn gwarchod buddion Cymru ynghyd a
sicrhau fod y Gymraeg yn cael ei defnyddio fel iaith fusnes ac yn ei gadw yn
fyw.
Amlygwyd pryder o fynd i mewn i hwn gyda risgiau os
Awdurdodau eraill yn mynd i’r wal yn ariannol, yn benodol gan fod Cyngor
Gwynedd wedi bod mor dda yn gwneud y gwaith hwn. Eglurwyd fod y rhain yn
bwyntiau sydd wedi eu codi fel Pwyllgor. Mynegwyd fod rhai pethau i’w cofio sef
fod 85% o fuddsoddiadau wedi pwlio yn barod efo
Pwyllgor Pensiynau Cymru ac felly cynnal y gwaith da sydd wedi ei wneud sydd yn
digwydd yw yn hytrach na ehangu ymhellach.
Pwysleisiwyd fod y Pwl yng Nghymru yn cael ei weld y Pwl
sy’n arwain ar y gwaith ac yn llwyddiant ysgubol ac mi fuasai pwl o Loegr yn
awyddus iawn i ymuno. Ond eglurwyd fod ei gadw yng Nghymru yn sicrhau'r elfen
Gymreig.
1. Nodi Achos busnes Partneriaeth Pensiwn
Cymru Addas i’r Dyfodol (Atodiad 3, Atodiad 4 ac adran 4 o’r adroddiad)
2. Cymeradwyo
ffurfio endid corfforaethol sy’n berchnogaeth lwyr i Awdurdodau Gweinyddu PPC a
fydd yn cael ei adnabod yn Gwmni Rheoli Buddsoddi PPC (IMCo.)
a'r holl gamau eraill sy'n angenrheidiol i gyflwyno cais i'r Awdurdod Ymddygiad
Ariannol (FCA) ar gyfer awdurdodi'r cwmni gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig
i ddewis a recriwtio Swyddogaethau Uwch Reolwyr (SMF) fel sy'n ofynnol gan yr
FCA a pharatoi a chyflwyno'r cais i'r FCA. (Adran 5 o’r adroddiad)
3. Cymeradwyo Cynllun Busnes a chyllideb
ddiwygiedig PPC 2025/28 sy'n cynnwys costau dylunio/galluogi ar gyfer Prosiect
yr Wyddfa (Atodiad 5 ac Adran 6 o’r adroddiad)
4. Dirprwyo’r
hawl i’r Swyddog Adran 151 mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor Pensiynau
i fwrw ymlaen gyda Phrosiect Wyddfa gydag Awdurdodau Gweinyddu PPC yn unol ag
amserlen y Llywodraeth o fewn y gyllideb gymeradwy.
5. Dirprwyo
cymeradwyaeth derfynol y ddogfennaeth ffurfiol derfynol sy’n ofynnol ar gyfer
gweithredu’r Cwmni Rheoli Buddsoddi, a ddisgrifir fel ‘Mynd yn Fyw’ fel yr
amlinellir yn Adran 7 o’r adroddiad, i’r Pwyllgor Pensiynau i roi effaith i
Achos Busnes PPC Addas i’r Dyfodol.
Dogfennau ategol: