Agenda item

Alwen Williams, Prif Weithredwr Dros Dro ac Iain Taylor, AMION Consulting i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

Cytunwyd i:

  • Dderbyn yr adroddiad diweddaru
  • Adolygu’r trefniadau amlinellol arfaethedig ar gyfer Bwrdd Cynghori Parth Buddsoddi Sir Fflint a Wrecsam yn cynghori ar y cynnig
  • Adolygu’r Fframwaith Dirprwyo a Phenderfyniad arfaethedig a chynghori ar y cynnig
  • Derbyn adroddiad pellach gyda chynigion manwl yn dilyn y Gweithdy Rhyng-Awdurdod
  • Gyflwyno adroddiad pellach os oes oediad yn un o’r cerrig milltir lefel uchel ar gyfer blwyddyn 1.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau a Iain Taylor, AMION Consulting.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cytunwyd i:

·       Dderbyn yr adroddiad diweddaru

·       Adolygu’r trefniadau amlinellol arfaethedig ar gyfer Bwrdd Cynghori Parth Buddsoddi Sir Fflint a Wrecsam yn cynghori ar y cynnig

·       Adolygu’r Fframwaith Dirprwyo a Phenderfyniad arfaethedig a chynghori ar y cynnig

·       Derbyn adroddiad pellach gyda chynigion manwl yn dilyn y Gweithdy Rhyng-Awdurdod

·       Gyflwyno adroddiad pellach os oes oediad yn un o’r cerrig milltir lefel uchel ar gyfer blwyddyn 1.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn rhoi diweddariad ac yn amlygu’r fframwaith ac yr amserlen ar gyfer y dyfodol. Amlygwyd fod y cynllun wedi cyflwyno Parth 4 yn ôl ym mis Mai, a'u bod yn gobeithio derbyn adborth ym mis Mehefin, ac y bydd unrhyw newidiadau sylweddol a fydd yn ofynnol i'r ymyriadau ddod yn ôl i'r CBC I'w cytuno.

 

Eglurwyd fod y tîm yn paratoi Porth 5 I'w gyflwyno, gyda’r elfennau allweddol yn cynnwys cerrig milltir Parth Buddsoddi, Rhaglen y Parth Buddsoddi a Chofrestr Risg Parth Buddsoddi. Tynnwyd sylw at y tabl cerrig milltir allweddol sydd yn amlygu dyddiadau hyd at ddiwedd Rhagfyr.

 

Wrth symud ymlaen, amlygwyd fod gan y cynllun gyllideb o £10m, a byddant yn cyd-weithio gyda Chyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru I'w wario. Nodwyd yr angen i sefydlu’r Bwrdd Cynghori, fel y nodwyd yn Mhorth 3. Nodwyd fod Bwrdd Cynghori dros dro yn ei le ar gyfer y cyfnod interim ac amlygwyd yr angen i greu is-fwrdd sgiliau yn ychwanegol, ac ei fod yn y broses o gael ei brosesu.

 

Eglurwyd yn dilyn Galwad am Brosiectau 2024, fod ystod eang o gynlluniau buddsoddi posib a galw sylweddol am raglen cymorth wedi ei hadnabod. Eglurwyd fod y broses cyfle buddsoddi wedi adnabod yr angen i fuddsoddi mewn seilwaith angenrheidiol i ddatgloi’r safleoedd datblygu mwyaf. Nodwyd y bydd angen i symud yn gyflym. Eglurwyd fod achos busnes wedi'i dderbyn ar gyfer Project Prince gan Knauf Insulation ac mae Cynllun Prosiect Amlinellol wedi'i dderbyn gan Pochin/Goodman ar gyfer eu tir yn Airfields, Glannau Dyfrdwy. Mynegwyd fod Airbus yn datblygu'r achos dros y Ganolfan Gweithgynhyrchu Uwch wrth ymyl eu campws yng Nglannau Dyfrdwy.

 

Esboniwyd fod gweithdy rhwng y CBC a Chynghorau Sir y Fflint a Wrecsam wedi’i gynllunio ar gyfer diwedd Mehefin, er mwyn gweithio drwy’r manylion sy’n ymwneud a sut y gwneir penderfyniadau a sut y bydd rhaglen yn gweithredu dan ddirprwyaethau gan y CBC. Nodwyd fod yr egwyddorion allweddol yn cynnwys fod y CBC yn dirprwyo gweithrediad cyfrifoldeb y Corff Atebol I'r Is-bwyllgor Lles Economaidd, a bod yr is-bwyllgor yn dyrannu adnoddau i gefnogi, i reoli’r broses sicrwydd ar gyfer holl brosiectau sydd uwchlaw cais grant o £5m. Mynegwyd fod goblygiadau yn ymwneud a gweinyddu £160m o Gyllid Grant Hyblyg a dyraniadau ar gyfer Rhyddhad Trethu, yn enwedig Rhyddhad Ardrethu Busnes. Eglurwyd y bydd trefniadau ariannol manwl fel y’u nodir yn y Llythyr Cyllid Grant, y Memorandwm gyda Llywodraeth Cymru a’r DU ynghyd a’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth Leol rhwng y CBC a’r Cynghorau Sir y Fflint a Wrecsam yn cael eu hystyried unwaith y byddant wedi’u paratoi.

 

Diolchwyd am yr adroddiad a nodwyd balchder o weld datblygiad rhaglen sgiliau. Holwyd os yw’r elfen rhaglen sgiliau ar gyfer y gogledd i gyd ac nid ar gyfer Sir y Fflint a Wrecsam yn unig. Pwysleisiwyd er bod y parth buddsoddi a’r swyddi ynghlwm ar gyfer Sir y Fflint a Wrecsam, ond eglurwyd yr angen i adnabod cyfleoedd a mynediad i hyfforddiant mewn siroedd ehangach er mwy i'r rhanbarth i gyd elwa o’r cynllun.

 

Nodwyd yr angen i symud ar gyflymdra a gofynnwyd os nad yw’r cerrig milltir yn cael eu cyrraedd fod adroddiad yn dod i'r CBC yn nodi’r rhesymeg dros yr oedi.

 

Dogfennau ategol: