Agenda item

Dewi Morgan, Pennaeth Cyllid (Swyddog Cyllid Statudol y CBC) a Sian Pugh, Pennaeth Cynorthwyol Cyllid i gyflwyno’r adroddiad.

 

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr adroddiad a oedd yn darparu y sefyllfa alldro terfynol Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (BUEGC) i’r Cydbwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru (CBC) ar gyfer refeniw a chyfalaf yn 2024/25.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dewi Morgan, Pennaeth Cyllid (Swyddog Statudol y CBC) a Sian Pugh, Pennaeth Cynorthwyol Cyllid i gyflwyno’r adroddiad.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyniwyd yr adroddiad a oedd yn darparu'r sefyllfa alldro terfynol Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (BUEGC) i’r Cydbwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru (CBC) ar gyfer refeniw a chyfalaf yn 2024/25.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan egluro for yr adroddiad eisoes wedi ei gyflwyno i’r Is-bwyllgor Lles Economaidd, ond yn ei gyflwyno er cymeradwyaeth. Ategwyd eu bod yn anelu i gyflwyno mewn ffurf datganiad o gyfrifon drafft ym mis Gorffennaf.

 

Eglurwyd fod y sefyllfa refeniw alldro terfynol ar gyfer y flwyddyn danwariant o bron i £386k, a'i fod yn gynnydd o’r tanwariant a ragwelwyd yn adolygiad mis Rhagfyr. Nodwyd fod hyn yn bennaf o ganlyniad i ostyngiad mewn gwariant ar sawl un o benawdau’r gyllideb. Mynegwyd fod tanwariant net terfynol ar bennawd y Swyddfa Rheoli Portffolio yn £75,140, oherwydd tanwariant ar wariant gweithwyr. Roedd hyn, eglurwyd o ganlyniad i chwyddiant is ‘na beth oedd wedi ei gyllidebu ynghyd ac estyniad ar grant Cronfa Ffyniant Cyffredin tan ddiwedd Mawrth 2025.

 

Mynegwyd fod tanwariant o Wasanaethau Cefnogol gan y Corff Atebol yn bennaf oherwydd tanwariant ar Gymorth y Gwasanaeth Cyllid. Amlygwyd tanwariant terfynol y Cyd-bwyllgor ac amlygwyd y rhesymau dros danwariant ar bob pennawd. Nodwyd fod gwariant heb ei gyllidebu o £2.8m ar Drosglwyddiadau i Gronfeydd wrth Gefn. Amlygwyd fod y Bwrdd yn ôl ym mis Chwefror wedi cymeradwyo defnyddio'r llog a dderbyniwyd ar Falansau Bargen Twf o 2024-26 i ariannu rolau ychwanegol a chostau datblygu ychwanegol, ac i gadw adnoddau cyfredol y Swyddfa Rheoli Portffolio am 2 flynedd ychwanegol tu hwnt i fis Mawrth 2026.

 

O ran y prif ffrydiau incwm, amlygwyd ei fod yn cynnwys cyfraniadau partneriaid, dyraniad refeniw grant Bargen Twf Gogledd Cymru, cyfraniad y CBC ar gyfer secondiad staff, grant ynni Llywodraeth Cymru, Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU a'r gronfa wrth gefn wedi'i glustnodi. Nodwyd fod y sefyllfa refeniw alldro terfynol ar gyfer y flwyddyn yw tanwariant o bron i £386k ac mae hyn yn gynnydd o beth y rhagwelwyd. Eglurwyd er mwyn gadael sefyllfa niwtral am y flwyddyn, nodwyd y byddan yn tynnu £714k i lawr o Grant Bargen Twf Gogledd Cymru yn hytrach nac y £1.1m oedd wedi ei nodi.

 

Wrth amlygu y cronfeydd wrth gefn nodwyd fod cyfanswm y gronfa wrth gefn ar 31 Mawrth 2025 yn £211k. Bu i’r Bwrdd, yn ei gyfarfod ym mis Chwefror ddefnyddio £61k o’r gronfa wrth gefn hon fel rhan o gyllideb 2025-26. Mynegwyd fod  balans y gronfa prosiectau yn £29k, ac eglurwyd y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i ariannu costau prosiect Ynni lleol. Amlygwyd fod balans y gronfa log yn £4.7m ac y gronfa adnoddau yn £2.8m.

 

Nodwyd fod adolygiad diwedd blwyddyn y rhaglen Gyfalaf yn dangos gostyngiad net o £13.3m, a bod hyn o ganlyniad i lithro pedwar prosiect ynghyd a chael gwared ar brosiect arall. Eglurwyd fod dechrau ar brosiectau yn ystod y flwyddyn wedi dwyn rhywfaint o’u gwariant proffil ymlaen.

 

Eglurwyd fod cais wedi ei dderbyn gan yr Is-bwyllgor i ddadansoddi proffil cyflawni’r Cynllun Twf i’r proffil cychwynnol, ac eglurwyd fod yr adran o’r farn na fyddai’n gymhariaeth ddefnyddiol o ganlyniad i nifer y newidiadau i’r cynllun Twf ers ei sefydlu. Mynegwyd os yw’r CBC yn awyddus gweld dadansoddiad manwl, argymhellwyd y dylid ei wneud yn unol â diweddariad 2025 i’r Achos Busnes Portffolio a fyddai’n ymgorffori cyfleodd diweddar.

 

Holwyd os yw rhestr wrth gefn Wylfa wedi ei gadarnhau. Nodwyd nad oes unrhyw arian wedi ei ymrwymo, ac y bydd angen penderfyniad unwaith maes achos busnes wedi ei gadarnhau.

 

Dogfennau ategol: