Adroddiad I’r
Pwyllgor Craffu ar berfformiad yr Adran Tai ac Eiddo
Penderfyniad:
Derbyn yr
adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Tai ac Eiddo,
Pennaeth Adran Tai ac Eiddo a Phenaethiaid Cynorthwyol yr Adran.
Adroddwyd bod yr Adran yn gweithredu ar Gynllun y Cyngor
2023-2028, ac ar y cynnydd hyd at ddiwedd Ebrill 2025. Nodwyd bod cynnydd yn
erbyn y cerrig milltir a osodwyd i brosiectau’r Adran o fewn blaenoriaeth wella
Gwynedd Glyd a Gwynedd Effeithlon. Adroddwyd bod y cynnydd, ar y cyfan, yn dda
gyda sawl carreg filltir wedi’i chyrraedd erbyn diwedd y flwyddyn ariannol, a
hynny o dan amgylchiadau heriol.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan yr
Aelodau:
Tynnwyd sylw at y cynllun ‘Siop un Stop’ a nodwyd yr aelod
ei fod yn siomedig gyda’r cynnydd yn y cynllun. Gofynnwyd am eglurhad am pam
bod y cynllun yma wedi cymryd amser mor hir i’w ddod mewn i weithrediad.
Cydnabuwyd fod oedi wedi bod yn dod a’r cynllun yma i mewn i weithrediad ond
eglurwyd ei fod yn falch o gyhoeddi fod y siop yn agor ar y 15fed o Fedi.
Nodwyd fod yr adroddiad yn un da a cynhwysfawr iawn. Er hyn,
nodwyd pryder gyda’r niferoedd o bobl sydd yn ddigartref ac yn byw mewn llety
anaddas yng Ngwynedd. Gofynnwyd beth yw’r cynllun i wella’r ystadegau yma.
Eglurwyd eu bod yn datblygu cynlluniau i daclo’r broblem yma gyda safleoedd yn
cael ei adeiladu ar hyn o bryd. Nodwyd fod datblygiadau mawr yn cael ei
adeiladu ar hyn o bryd yng Nghaernarfon a Bangor. Gobeithiwyd y byddai’r
adeiladau yma yn barod i’w agor yn fuan. O ran eglurdeb, esboniwyd fod dros 200
o bobl mewn llety argyfwng ar hyn o bryd gyda’r ffigwr yn codi i dros 400 wrth
gyfri'r tai sydd ar les.
Gofynnwyd cwestiwn ynglŷn â’r cysylltiad Gwynedd, y
bobl sydd ddim yn byw yng Ngwynedd ar hyn o bryd, yn benodol faint o’r bobl yma
sydd yn medru hawlio cysylltiad gyda Gwynedd a chael tŷ Cyngor. Eglurwyd
fod 97% o dai cymdeithasol Gwynedd yn mynd i bobl sydd â chysylltiad â Gwynedd
ac yn ychwanegol mae 60% yn mynd i bobl sydd yn dymuno byw yn y ward maen nhw
eisiau byw ynddo. Yn ychwanegol, adroddwyd fod y Cymdeithasau Tai wedi gwneud
arolwg diweddar o’r 9 datblygiad diwethaf maen nhw wedi cwblhau a darganfuwyd
fod 90% o’r bobl sydd wedi symud i’r tai cymdeithasol yma yn siarad Cymraeg.
Nodwyd canmoliaeth i’r adran am y nifer o gynlluniau sydd yn
ceisio mynd i’r afael ar y problemau difrifol o angen tai yng Ngwynedd. Tynnwyd
sylw i’r garreg filltir a osodwyd i ddenu 20 eiddo ychwanegol i Gynllun Lesu
Cymru – Gwynedd ond dim ond 12 sydd wedi’i ddenu gan ofyn beth yw’r problemau
sydd yn achosi hyn. Eglurwyd fod diddordeb y cynllun yma wedi dechrau pylu ac
felly ei fod yn fwriad i’r adran wneud ymgyrch sylweddol i godi'r diddordeb
eto. Nodwyd ei fod yn gynllun arbennig
sydd yn diwallu nifer o anghenion tai gwag.
Tynnwyd sylw at Eiddo 5 yr Uned Cydymffurfiaeth gan nodi fod
y nifer o adeiladau sydd wedi cwblhau wedi disgyn ac yn dal i ddisgyn.
Derbyniwyd fod Swyddog newydd wedi’i benodi a heb ei hyfforddi eto ond mynegwyd
pryder gyda’r gwaith yn cael ei gwblhau. Eglurwyd fod y nifer wedi gostwng
oherwydd lot o ffactorau gwahanol ond fod yr adran ar y trywydd iawn i
hyfforddi eto a newid cyfrifoldebau o fewn y tîm sydd yn mynd i olygu fod mwy o
ymchwiliadau cyflwr yn digwydd. Nodwyd ei bod yn ffyddiog y bydd y swyddog yn
mynd i’r afael ar y broblem yma.
Nodwyd, o ran cynyddu cyflenwad o dai i bobl leol, croesawyd
fod yr adran wedi prynu mwy oedd wedi’i dargedu gyda’r ffigwr yn 46. Er hyn,
dim ond 16 sydd gyda thenantiaid ynddynt. Holwyd beth yw’r rheswm mwyaf dros
gymaint o’r tai yma dal yn wag. Eglurwyd eu bod wedi canolbwyntio ar brynu’r
tai ar ddechrau’r cynllun gan fod amserlen ar fedru gwario’r arian grant a
dderbyniwyd. Soniwyd fod 16 wedi i’w gosod, 20 yn cael ei atgyweirio a 10 yn
barod i’w gael ei gosod. Ar ben hyn, amcanwyd y bydd 53 wedi gosod o fewn y
flwyddyn. Gobeithiwyd gweld cynnydd sylweddol yn y nifer o dai sydd yn cael ei
gosod blwyddyn yma.
PENDERFYNIAD
Derbyn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: