Adroddiad i’r
Pwyllgor Craffu ar berfformiad yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd
Penderfyniad:
Derbyn yr
adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr aelod Cabinet Plant a
Chefnogi Teuluoedd a’r Pennaeth Adran.
Adroddwyd bod yr adran yn gweithredu ar Gynllun y Cyngor
2023-2028 ac yn adrodd ar y cynnydd a wnaed hyd at ddiwedd Mawrth 2025, gan
gydnabod ei bod yn parhau’n ddyddiau cynnar yng nghyd-destun rhai o’r
addewidion sy’n newydd yn y ddogfen ers Ebrill y llynedd.
Nodwyd fod gan yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd ddau
brosiect yng Nghynllun y Cyngor sef y Cynllun Awtistiaeth a Chynllun datblygu
darpariaeth breswyl i blant mewn gofal mewn cartrefi grŵp bychan. Eglurwyd
fod y Cynllun Awtistiaeth yn ffynnu, gyda rhaglen hyfforddiant i staff rheng
flaen yn parhau gyda’r amcan o fod yn awdurdod lleol sydd yn deall ac yn
ymwybodol o awtistiaeth. Soniwyd hefyd fod y cydweithio gyda’r adran Addysg yn
parhau gyda staff mewnol ag allanol yn ymgysylltu a’r trydydd sector. Mynegwyd
balchder fod dim rhestr aros ar gyfer y Tîm Awtistiaeth ar hyn o bryd, ond
rhagdybiwyd na fydd hyn yn parhau am hir gan fod galw uchel am y gwasanaeth.
Eglurwyd fod y cynllun datblygu darpariaeth breswyl i blant
mewn gofal mewn cartref grŵp bychan wedi datblygu’n sylweddol dros y
flwyddyn ddiwethaf. Nodwyd fod staff wedi penodi i’r cartref cyntaf ym Morfa
Bychan a chroesawyd dau blentyn i’r lleoliad. Adroddwyd hefyd fod dau eiddo
ychwanegol wedi eu prynu a bod y gwaith paratoi i’w cael i’r safon cofrestriad
wedi cychwyn.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan yr
Aelodau:
Holwyd am y Gwasanaeth Derwen, yn benodol beth yw meini
prawf ar gyfer mynediad i gael gwasanaeth gan Derwen. Eglurwyd mai’r meini
prawf y os oes gan blentyn anabledd dysgu neu yn oediad sylweddol mewn mwy nag
un maes datblygiad. Nododd yr aelod ei fod yn gwerthfawrogi'r holl waith gwych
mae Derwen yn gwneud ond fod hyn yn golygu fod llawer o deuluoedd sydd gyda
phlant sydd angen gwasanaeth tebyg i’r hyn mae Derwen yn gynnig yn colli allan
oherwydd ei bod ddim yn ffitio i mewn i’r meini prawf anabledd dysgu. Credwyd
fod y Cyngor yn diffinio ar sail ‘IQ’ yn unig ac felly fod amryw o blant, er
enghraifft plant gydag awtistiaeth, yn methu allan ar y gwasanaeth maen nhw
angen. Eglurwyd nad yw’r Cyngor yn defnyddio ‘IQ’ ar gyfer meini prawf Derwen,
ond cydnabuwyd fod yna fwlch a dyna yw’r rheswm dros sefydlu’r tîm awtistiaeth
i drio cyfarch rhywfaint o’r bwlch.
Gofynnwyd a all yr adran rhoi sicrwydd fod pob un o’r
gweithwyr y tîm awtistiaeth wedi cael hyfforddiant i lefel uchel yn y maes
awtistiaeth. Nodwyd ei fod yn un o flaenoriaethau'r adran i sicrhau fod staff
sydd gyda chysylltiad efo’r cyhoedd yn derbyn hyfforddiant priodol a
pherthnasol i’r gwaith maent yn gwneud. Eglurwyd na allai ddweud gyda sicrwydd
fod pob aelod o staff wedi derbyn yr hyfforddiant ar hyn o bryd ond fod y
rhaglen yn ei le a’r bwriad i’w i holl staff y tîm dderbyn yr hyfforddiant perthnasol.
Gyda’r cynllun dechrau’n deg, cydnabuwyd fod cyfarch
ardaloedd gweledig yn heriol ble mae diffyg gwasanaethau a thlodi cefn gwlad.
Er hyn, nodwyd fod y cynllun Dechrau’n Deg wedi cynyddu a gwasgaru’r
ddarpariaeth yn ddiweddar.
Mynegwyd pryder am arian mae’r adran yn mynd ei golli yn
2027 oherwydd diffyg grantiau. Credwyd mai rŵan yw’r amser i ddweud wrth
Lywodraeth Cymru fod y cynllun yn rhoi cymorth mawr i bobl Wynedd a ni ddylai
gael ei dorri. Cytunwyd gyda geiriau’r aelod a nodwyd yr heriau sydd yn codi o
gael grantiau a Llywodraeth sydd yn gweithredu ar gefn grantiau. Eglurwyd fod
yr arian yn cael ei rhoi yn y fformat yma er mwyn i’r Cyngor allu ceisio am fwy
o gynlluniau gwahanol i ddangos os ydynt yn gweithio a bod budd yn dod ohonynt
wedyn y gall buddsoddi mwy yn y cynlluniau yma.
Tynnwyd sylw at yr adran Maethu, a eglurwyd y byddai o fydd
i gael golwg mwy manwl i weld yn union beth yw heriau’r adran maethu. Holwyd os
byddai’n bosib cael graff i ddangos os yw’r sefyllfa yn gwella neu waethygu
dros y blynyddoedd. Nodwyd fod y gwasanaeth maethu bellach yn rhan o rwydwaith
gyda gweddill awdurdodau Cymru ac yn cydweithio gyda rhain. Ynglŷn â’r
ystadegau, esboniwyd eu bod yn ystadegau sydd yn cael eu cymharu ar draws y
siroedd gwahanol. Nodwyd ei bod hi’n anodd credu, allan o’r ymholiadau
cychwynnol, dim ond 17% sydd yn troi yn rhywun yn cael eu cymeradwyo fel
gofalwr maeth.
PENDERFYNIAD
Derbyn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: