Adroddiad i’r
Pwyllgor Craffu ar berfformiad yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant
Penderfyniad:
Derbyn yr
adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a
Llesiant a’r Pennaeth Adran.
Adroddwyd bod yr adran yn gweithredu ar Gynllun y Cyngor
2023-28 a'i bod yn adrodd ar y cynnydd hyd at ddiwedd mis Mawrth 2025. Nodwyd
ei bod yn ymwybodol o’r holl heriau sydd yn wynebu’r adran a bod hyn wedi ei
amlygu fwy nag erioed fel rhan o’r adroddiad Llechen Lân. Nodwyd ei bod yn
hapus adrodd fod cynnydd sylweddol wedi ei wneud yn ystod y flwyddyn.
Rhoddwyd crynodeb o brif brosiectau sydd wedi gweld cynnydd
neu sy’n peri pryder gan nodi mai rhai esiamplau sydd yn yr adroddiad, a nad
yw’n cyfeirio at bob un llif gwaith gan fod prosiectau’r adran yn eang iawn.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan yr
Aelodau:
Diolchwyd i’r Pennaeth Adran sydd yn ymddeol am ei holl
waith caled dros y blynyddoedd a chroesawyd y pennaeth Adran newydd.
Gofynnwyd i’r aelod Cabinet i wneud yn siŵr fod y
Cyngor yn cysylltu gyda’r Llywodraeth yng Nghaerdydd i herio i wneud yn
siŵr fod y grantiau sydd ar gael i’r tîm awtistiaeth tan 2027 yn parhau tu
hwnt i hyn. Holwyd hefyd am faint sydd yn aros am asesiad gofal cartref a beth
yw’r ffigyrau ynglŷn a hyn. O ran herio’r Llywodraeth, nodwyd ei fod yn
broses parhaol i’r aelodau cabinet ac yn digwydd yn wythnosol. I ateb cwestiwn
yr aelod, eglurwyd fod y rhestr aros am ofal cartref wedi dod i lawr i 64.
Esboniwyd mai blaenoriaeth yr adran yw sicrhau fod y bobl sydd ar y rhestr aros
yn ddiogel. O ran nifer y bobl sydd yn aros am asesiad, soniwyd fod gan yr
adran y wybodaeth yma fesul mis hyd at ddiwedd mis Mawrth gyda 129 o asesiadau
wedi cael eu cynnal dros y ddau fis diwethaf. Cadarnhawyd nad oes unrhyw
unigolyn yn cael ei gwrthod am asesiad.
Gofynnwyd am beth sydd yn cael ei wneud i wella’r sefyllfa o
ran pobl hyn yn aros am gynllun gofal a chefnogaeth. Nodwyd ei fod yn bwynt
amserol iawn oherwydd bod yr adran yn gwneud llawer iawn o waith o dan y faner
ataliol ar hyn o bryd a bod pobl yn aros am asesiad mwy manwl. Adroddwyd fod
angen symud i ffwrdd o'r meddylfryd fod angen gofal cartrefi i gefnogi pobl.
Mae Gofal Cartref yn un o'r opsiynau ond mae llawer o waith yn digwydd o fewn
cymunedau i gefnogi pobl sydd angen cymorth a chefnogaeth. Nodwyd fod y Ddeddf
Gwasanaethau Cymdeithasol a llesiant yn pwysleisio'r angen i edrych ar
gryfderau unigolion yn hytrach na'r hyn nad ydynt yn gallu ei gyflawni.
Holwyd beth mae'r adran yn ei weld fel y rhwystr mwyaf i fod
yn gwneud mwy o Daliadau Uniongyrchol i gefnogi pobl. Eglurwyd fod
cymhlethdodau yn y broses o sefydlu'r trefniadau wedi bod yn rhwystr i bobl fod
yn awyddus i ystyried taliadau uniongyrchol ond fod llawer o waith wedi ei
wneud gan yr Adran i symleiddio'r broses a sicrhau swyddogion i ddarparu
cefnogaeth i bobl i roi'r trefniadau mewn lle.
Tynnwyd sylw at drefniadau ‘DOLS’. Esboniodd un aelod ei fod
yn ansicr o’r gwahaniaeth rhwng ‘DOLS’ a diffyg galluedd meddyliol. Holwyd os
fyddai’n bosib cael esboniad o’r gwahaniaeth rhwng y ddau. Eglurwyd fod rhestr
aros hir ar gyfer DOLS a bod hynny’n wir ar draws Cymru i gyd. Esboniwyd fod
DOLS yn ei hanfod yn gweithio gyda phobl sydd heb y gallu meddyliol i wneud
penderfyniadau penodol. Os yw rhywun heb y gallu i wneud penderfyniadau
ynglŷn â bod yn ddiogel mae angen gwneud penderfyniad lles gorau ar eu
rhan. Os ydi hyn yn golygu fod unigolyn o dan oruchwyliaeth cyson ac ddim yn
rhydd i adael, mae angen cwblhau asesiad DOLS. Cytunwyd i drefnu sesiwn
gwybodaeth i aelodau ar asesiadau gallu meddyliol a’r drefn DOLS.
Tynnwyd sylw at yr unedau dementia a holwyd beth oedd y
rheswm dros y llithriad a’r oedi yn agor yr unedau yma. Adroddwyd fod yr uned
Bryn Blodau wedi agor yn rhannol ac mai staffio ydy’r prif reswm dros yr oedi
yn agor. Cadarnhawyd fod pethau yn symud ymlaen rŵan a bod angen i’r uned
agor cyn gynted â phosib. Nodwyd fod Plas Hedd wedi wynebu llawer iawn o heriau
o ran gwaith adeiladu ond fod gobaith fod yr heriau yma wedi dod i ben bellach
a gorau bo’ gyntaf y gallai’r unedau yma agor.
PENDERFYNIAD
Derbyn yr adroddiad
Dogfennau ategol: