I ystyried yr adroddiad ac argymell i'r Cyngor Llawn (yn ei gyfarfod
ar 3 Gorffennaf 2025):
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad.
Argymell i'r Cyngor Llawn (yn ei
gyfarfod ar 3ydd Gorffennaf 2025):
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Cyllid a’r Rheolwr Buddsoddi
Atgoffwyd yr Aelodau, yn unol â gofynion ‘Ymgynghoriad Addas i'r
Dyfodol’ a lansiwyd ym mis Tachwedd 2024, bod gwahoddiad
i’r wyth pwl CPLlL a sefydlwyd yn genedlaethol gyflwyno achos busnes yn
amlinellu sut y buasent yn cwrdd â meini prawf angenrheidiol y Llywodraeth.
Nodwyd bod y Llywodraeth wedi amlinellu ystod o gynigion i gryfhau’r gwaith o
reoli buddsoddiadau CPLlL mewn tri maes allweddol oedd yn cynnwys diwygio
cronfeydd asedau'r CPLlL, hybu buddsoddiad y CPLlL mewn ardaloedd lleol a
rhanbarthau yn y DU, a chryfhau llywodraethiant Awdurdodau Gweinyddu y CPLlL a
chronfeydd y CPLlL.
Yn ystod yr ymgynghoriad codwyd y cwestiwn sylfaenol, a fyddai PPC yntau
yn ystyried sefydlu cwmni annibynnol ynteu yn uno â CPLlL arall yn Lloegr.
Adroddwyd bod PPC wedi dod i’r casgliad mai’r hyn fyddai orau i’r holl
randdeiliaid uniongyrchol ac ehangach yng Nghymru oedd mynd ymlaen i adeiladu ei
IMCo. ei hun a chadw ei annibyniaeth fel pŵl gyda phob un o'r 8 CPLlL yng
Nghymru fel yr unig randdeiliaid a chleientiaid.
Cyflwynwyd achos busnes PCC i’r Llywodraeth yn Chwefror 2025 ac ym mis
Ebrill 2025, derbyniwyd y newyddion calonogol bod y Llywodraeth wedi cymeradwyo
achos busnes PPC, gyda swyddogion y
Llywodraeth yn gofyn i'r PPC barhau i weithredu ei gynlluniau a pharhau i
hysbysu'r llywodraeth o'r cynnydd. Nodwyd nad oedd 2 bŵl yn Lloegr, Brunel
ac ACCESS, yn llwyddiannus wrth gyflwyno eu hachos busnes a'r AG sylfaenol
bellach wedi'u gwahodd i geisio ymuno â phŵl arall.
Ategwyd er mwyn bodloni dyddiadau cau heriol y Llywodraeth, bydd angen
cyflwyno cais yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) i sefydlu IM Co PPC yn fuan.
Nodwyd bod gofynion yr FCA yn nodi bod yr endid sy'n gwneud cais am awdurdod
(h.y. IMCo. PPC) yn gorfod cael ei ymgorffori cyn cyflwyno'r cais FCA a bod yn
rhaid i ddeiliaid rhai swyddi Uwch Reoli (SMF), gan gynnwys y Prif Swyddog
Gweithredol, gael eu hadnabod a'u cynnwys yn y cais.
Cyfeiriwyd at gamau nesaf y broses oedd yn cynnwys sefydlu Bwrdd gyda
chynrychiolaeth o gyfranddalwyr (fydd yn cymryd lle'r Cydbwyllgor) ac yn ystod
Haf 2025 bydd angen cofrestru'r cwmni gan sicrhau cydymffurfiaeth a gofynion yr
FCA.
Ystyriwyd y byddai ffurfio IM Co. PPC yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i
greu Cwmni Buddsoddi CPLlL annibynnol er budd holl randdeiliaid y 22 awdurdod
lleol yng Nghymru, fydd yn parhau i fuddsoddi ar gyfer ei aelodau a diogelu
pensiynau CPLlL, a chael y cyfle hefyd i barhau â'i rôl yn buddsoddi'n lleol
ledled Cymru a gweddill y DU, gan weithio gyda Chynghorau, Cydbwyllgorau
Corfforaethol, Banc Datblygu Cymru, Banc Busnes Prydain a Llywodraeth Cymru,
gan hyrwyddo twf economaidd, darparu cyflogaeth, diogelu ynni glân a gwella
seilwaith ehangach y wlad, er budd pobl Cymru.
Diolchwyd am yr adroddiad
Mewn ymateb i’r ymgynghoriad ac i drafodaethau ynglŷn â phenodi
‘aelod annibynnol sydd wedi ei gymhwyso’ ac os oedd hynny yn cyfeirio at aelod
wedi ei gymhwyso mewn cyllid, nodwyd nad oedd manylion pellach wedi dod i law.
Ategwyd er hynny y bydd rhaid i ddeiliaid rhai swyddi Uwch Swyddogaeth Rheoli,
gan gynnwys y Prif Swyddog Gweithredol, gael eu henwi'n benodol o fewn y cais
ffurfiol i’r FCA er mwyn i’r FCA wirio ac asesu eu bod yn addas i’r rôl.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chostau sefydlu cwmni, ac os oedd
cyllideb a swydd ddisgrifiadau wedi eu cwblhau, nodwyd y bydd cyllideb o
oddeutu £5 miliwn yn fwy na chostau presennol yn cael ei gosod. Nodwyd hefyd y
bydd bwriad cyflogi 15 - 18 o swyddogion erbyn 1af o Ebrill 20026. Bydd mwy o
fanylion yn cael eu rhannu fel bydd y broses yn symud ymlaen.
Mewn ymateb i sylw pam yr angen i addasu'r sefyllfa pan mae’r hyn sydd yn
bodoli yn barod yn llwyddiannus, nodwyd bod y newid yn un sydd yn ymateb i
ofynion Llywodraeth San Steffan ac nad oedd dewis yn y mater.
·
Mynegwyd
pryder a risg o golli arbenigedd Hymans
·
Bod y
costau gweinyddol yn llawer uwch na chostau presennol – y cyflogau yn debygol o
fod tu hwnt i raddfeydd Llywodraeth Leol
Cynigiwyd ac eiliwyd
argymell i’r Cyngor Llawn gymeradwyo Cyflwyniad CPLlL i’r Llywodraeth
PENDERFYNWYD:
Derbyn yr adroddiad.
Argymell i'r Cyngor Llawn (yn
ei gyfarfod ar 3ydd Gorffennaf 2025):
Dogfennau ategol: