Agenda item

Cais ar gyfer codi tŷ fforddiadwy gyda mynedfa a parcio a tirweddu cysylltiol (cynllun diwygiedig).

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Craig ab Iago

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gwrthod yn unol â’r argymhelliad

 

Rhesymau:

 

1.     Nid yw’r bwriad yn briodol fel estyniad rhesymegol i’r anheddle oherwydd ei leoliad a’r ffiniau presennol sy’n gwahanu’r anheddle oddi ar gefn gwlad yn y lleoliad yma. Mae’r datblygiad felly yn groes i ofynion polisïau PCYFF 1, TAI 15 ac 16 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026 a’r  Canllaw Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy sy’n sicrhau datblygiadau tai fforddiadwy addas fel eithriad ar gyrion ffiniau datblygu.

2.     Nid yw angen lleol ar gyfer tŷ fforddiadwy hunan-adeiladu wedi ei brofi. Mae maint yr eiddo a’r cwrtil bwriedig yn rhy fawr i alluogi’r eiddo fod yn fforddiadwy yn y dyfodol a chydymffurfio a graddfa dwysedd datblygu. Mae’r datblygiad felly yn groes i ofynion polisïau TAI 15, TAI 16 a PCYFF 2 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026 a’r  Canllaw Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy sy’n sicrhau datblygiad o raddfa dderbyniol ac a fyddai’n fforddiadwy i’r dyfodol.

3.     Mae’r datblygiad yn gyfystyr a chodi tŷ newydd yng nghefn gwlad agored heb unrhyw gyfiawnhad ac yn groes i ofynion polisïau PCYFF 1 a pharagraff 6.4.36 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026, a Nodyn Cyngor Technegol 6: Cynllunio ar gyfer cymunedau gwledig cynaliadwy.

Cofnod:

a)           Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer codi un tŷ fforddiadwy 2 ystafell wely gyda mynedfa a llecyn parcio ar safle wedi ei leoli o fewn cae amaethyddol ar gyrion Penygroes.

 

Eglurwyd bod penderfyniad ar y cais, ym mhwyllgor Ionawr 2024, wedi ei ohirio er mwyn derbyn tystiolaeth ysgrifenedig o sefyllfa’r ymgeisydd gyda Tai Teg, ynghyd a derbyn cadarnhad fod yr ymgeisydd yn gymwys am dŷ fforddiadwy hunan-adeiladu. Ategwyd bod y gohiriad wedi bod yn gyfle teg i’r ymgeisydd hefyd ystyried lleihau arwynebedd maint y tŷ a maint y llain.

 

Adroddwyd bod sawl ymdrech wedi ei wneud gan swyddogion i geisio gwybodaeth, ond nid oedd unrhyw gynnydd wedi bod gyda’r cais. Gyda bron i flwyddyn a hanner wedi mynd heibio, penderfynwyd dod a’r cais nol i bwyllgor am benderfyniad.

 

Tynnwyd sylw at y rhesymau gwrthod gan egluro bod un rheswm yn ymwneud a lleoliad y safle - safle sydd ei wedi ei leoli ar gyrion a thu allan i ffin ddatblygu pentref Penygroes. Nodwyd, gyda’r ffin ddatblygu wedi ei leoli ar ffin eiddo Glaslyn gyda llwybr cyhoeddus wedi ei leoli rhwng eiddo Glaslyn a safle’r cais, golyga hyn nad yw’r safle yn cyffwrdd y ffin ddatblygu ac felly yn methu cydymffurfio gyda gofynion polisi TAI 16 fel safle eithrio ar gyfer uned fforddiadwy. Yn ogystal, golygai hyn fod y safle mewn cefn gwlad agored, heb unrhyw gyfiawnhad nac angen wedi ei brofi.

 

Cyfeiriwyd at y rheswm gwrthod oedd yn ymwneud â maint yr eiddo a’r cwrtil sydd yn rhy fawr i alluogi’r eiddo i fod yn fforddiadwy yn y dyfodol ac i gydymffurfio gyda graddfa dwysedd datblygu. Ategwyd eto, nad oedd yr angen lleol ar gyfer tŷ fforddiadwy hunan-adeiladu wedi ei brofi.

 

Ystyriwyd bod yr ymgeisydd wedi cael amser digonol i addasu’r cais ac er ymdrechion swyddogion am wybodaeth, adroddwyd nad oedd unrhyw gynnydd wedi bod.

        

         Roedd y swyddogion yn argymell gwrthod y cais.

 

b)           Cynigiwyd ac eiliwyd gwrthod y cais

 

c)           Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan yr Aelodau:

·        Bod y cais gerbron y Pwyllgor ar ofyn yr Aelod Lleol, ond nid oedd yr Aelod Lleol yn bresennol

·        Bod y safle tu allan i’r ffin datblygu

·        Bod Tai Teg wedi gwrthod y cais

·        Dyma’r trydydd tro i’r cais gael ei drafod yn y pwyllgor

·        Bod cais wedi ei wneud am wybodaeth, ond dim newid yn y sefyllfa

·        Bod angen sicrhau cysondeb

·        Bod diffyg cysylltiad gan yr ymgeisydd

 

·        Yng nghyd-destun maint - a ydyw mewn gwirionedd yn fwy na thŷ fforddiadwy? Nid yw pobl leol eisiau byw mewn bocsys!

·        Y safle i weld yn ‘ymylu’ ar y ffin ac yn agos i dai eraill

·        Dim tystiolaeth ddigonol i beidio caniatáu

 

Mewn ymateb i gwestiwn am reswm penodol dros yr oediad, nododd y Rheolwr Cynllunio bod cyfarfodydd cychwynnol wedi eu cynnal gyda’r asiant ond nid oedd gwybodaeth wedi ei dderbyn er yr addewidion. Ategwyd bod Tai Teg hefyd wedi cysylltu yn uniongyrchol â’r ymgeisydd i drafod cyfiawnhad am yr angen, ond eto dim ymateb wedi ei dderbyn.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd y Pennaeth Cynorthwyol bod y pwyllgor, ddeunaw mis yn ôl wedi gofyn i’r ymgeisydd am fwy o wybodaeth ond gan nad oedd gwybodaeth wedi ei dderbyn, yr argymhelliad oedd gwrthod. Ategodd, wrth ystyried maint, rhaid ystyried a yw’n ‘fforddiadwy am byth’ ac o safbwynt maint y plot, bod lle digonol ar gyfer tri annedd. Nododd gan nad oedd tystiolaeth wedi ei gyflwyno, bod y cais yn groes i bolisïau lleol a chenedlaethol.

 

PENDERFYNWYD: Gwrthod y cais

 

Rhesymau:

 

1.     Nid yw’r bwriad yn briodol fel estyniad rhesymegol i’r anheddle oherwydd ei leoliad a’r ffiniau presennol sy’n gwahanu’r anheddle oddi ar gefn gwlad yn y lleoliad yma. Mae’r datblygiad felly yn groes i ofynion polisïau PCYFF 1, TAI 15 ac 16 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026 a’r  Canllaw Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy sy’n sicrhau datblygiadau tai fforddiadwy addas fel eithriad ar gyrion ffiniau datblygu.

 

2.     Nid yw angen lleol ar gyfer tŷ fforddiadwy hunan-adeiladu wedi ei brofi. Mae maint yr eiddo a’r cwrtil bwriedig yn rhy fawr i alluogi’r eiddo fod yn fforddiadwy yn y dyfodol a chydymffurfio a graddfa dwysedd datblygu. Mae’r datblygiad felly yn groes i ofynion polisïau TAI 15, TAI 16 a PCYFF 2 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026 a’r  Canllaw Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy sy’n sicrhau datblygiad o raddfa dderbyniol ac a fyddai’n fforddiadwy i’r dyfodol.

 

3.     Mae’r datblygiad yn gyfystyr a chodi tŷ newydd yng nghefn gwlad agored heb unrhyw gyfiawnhad ac yn groes i ofynion polisïau PCYFF 1 a pharagraff 6.4.36 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026, a Nodyn Cyngor Technegol 6: Cynllunio ar gyfer cymunedau gwledig cynaliadwy.

 

Dogfennau ategol: