Addasu adeilad yn 14
fflat
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn
Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Gwrthod yn
unol â’r argymhelliad
Nid
oes gwybodaeth ddigonol na chyfredol wedi ei gyflwyno gyda’r cais er mwyn
asesu’r bwriad yn erbyn gofynion polisïau PS1, TAI 15 a PS19 Canllaw Cynllunio
Atodol: Cynnal a Chreu Cymunedau Nodedig a Chynaliadwy a Phennod 6 Polisi
Cynllunio Cymru sy’n ymwneud ac effaith ar yr Iaith Gymraeg, darparu tai
fforddiadwy, seilwaith gwyrdd a budd net i fioamrywiaeth.
Cofnod:
Addasu adeilad yn
14 fflat
a) Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer newid defnydd ac addasu adeilad yn 14 fflat
fyddai’n cynnwys 8 fflat 1 ystafell wely a 6 fflat 2 ystafell wely gan
greu 3 ffenestr newydd i’r ochr sy’n
wynebu'r rheilffordd, cau 1 agoriad sy’n wynebu’r stryd fawr a chreu 6 agoriad
newydd i wynebu'r eglwys gyfagos.
Eglurwyd bod penderfyniad ar y cais wedi ei ohirio ym Mhwyllgor
Cynllunio Gorffennaf 2019 yn dilyn derbyn sylwadau’r Uned Iaith oedd yn nodi
diffyg gwybodaeth, ac er mwyn cynnal trafodaethau gyda’r ymgeisydd i geisio
deall y sefyllfa ieithyddol yng nghyd-destun y cais. Nodwyd bod Asesiad Effaith
Ieithyddol, Datganiad Dylunio a Mynediad ac Asesiad Hyfywedd diwygiedig wedi eu
cyflwyno yn 2020, ond yn dilyn hynny rhestrwyd yr adeilad fel Adeilad Gradd II
gan CADW ym Mehefin 2021. Ategwyd bod swyddogion wedi ceisio diweddariad a
gwybodaeth gyfredol ar gyfer y cais, ond nad oedd ymateb wedi ei dderbyn.
Yng ngnhyd-destun ffigyrau tai cyfredol,
nodwyd y gellid cefnogi’r cais ar sail y lefel cyflenwad dangosol ar gyfer
Blaenau Ffestiniog ynghyd a’r cymysgedd derbyniol o unedau sydd yn cwrdd a’r
angen yn lleol. Eglurwyd, gan na fyddai’r datblygiad arfaethedig hwn yn golygu
darparu mwy na’r ddarpariaeth tai dangosol a osodwyd ar gyfer yr anheddle, nid
oedd Datganiad Iaith Gymraeg yn ofynnol. Fodd bynnag, cyflwynwyd datganiad
gyda’r cais ac Asesiad Effaith Ieithyddol yn ddiweddarach. Dywed y Polisi bod
datganiad yn ofynnol ar gyfer datblygiad o 5 uned neu fwy os nad yw’n mynd i’r
afael a thystiolaeth o angen a galw am dai. Ar y pryd amlygywd
pryder am y math o unedau, y cymysgedd a’r effaith ieithyddol ond oherwydd y
cyfnod amser sydd bellach wedi mynd heibio, nid oedd gwybodaeth gyfredol ar
gyfer asesu’r bwriad yn erbyn gofynion polisi PS1, ac felly ni ellid cadarnhau
os byddai’r bwriad yn cydymffurfio gyda'r polisi na’r CCA.
Yng nghyd-destun Polisi TAI 15 sy’n amlinellu gofynion darpariaeth tai
fforddiadwy i fod o leiaf 10% o’r bwriad, bydd gofyn i o leiaf 1 uned fod yn
fforddiadwy. Derbyniwyd Asesiad Hyfywedd Ariannol gyda’r cais yn wreiddiol,
ynghyd a fersiwn diwygiedig yn ddiweddarach oedd yn cyfiawnhau diffyg
darpariaeth uned fforddiadwy. Fodd bynnag, oherwydd y cyfnod amser sydd wedi
mynd heibio ers yr asesiadau blaenorol ni ellid asesu’r bwriad yn erbyn
gofynion polisi TAI 15 yn gywir gan nad yw’r wybodaeth bellach yn gyfredol nac
wedi cymryd statws rhestredig yr adeilad mewn ystyriaeth.
Tynnwyd sylw at ddiweddariad i Bennod 6 Polisi Cynllunio Cymru (PCC),
sy’n ymdrin â seilwaith gwyrdd a budd net i fioamrywiaeth ac sy’n gwneud hi’n
ofynnol i bob cais cynllunio gyflwyno Datganiad Seilwaith Gwyrdd. Nodwyd nad
oedd Datganiad o’r fath wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais, ac oherwydd diffyg
ymateb gan asiant y cais, nid oedd y swyddogion wedi gwneud cais am y
wybodaeth; heb y wybodaeth ni ellid sicrhau fod y bwriad yn cydymffurfio gyda
gofynion PCC na pholisi PS19. Yn ategol, o ystyried statws rhestredig yr
adeilad, a’r ffaith nad oedd llawer o dir o amgylch y safle, ystyriwyd bod
cyfleoedd darparu gwelliannau i fioamrywiaeth yn gyfyngedig iawn. O ganlyniad,
ni ystyriwyd y byddai’n briodol gosod amod gan na fyddai o bosib modd cynnig
gwelliannau.
Ystyriwyd bod yr ymgeiswyr wedi cael amser teg i addasu’r cais ac er
ymdrechion y swyddogion ni welwyd unrhyw gynnydd. Roedd y swyddogion yn argymell gwrthod y cais ar sail diffyg
gwybodaeth gyfredol i asesu’r bwriad.
b)
Yn manteisio ar yr hawl i
siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol;
·
Ei fod yn cytuno gydag
argymhelliad y swyddogion i wrthod y cais
·
Ei fod yn cytuno gyda
phryderon Cyngor Tref Blaenau Ffestiniog
·
Nad oedd ystyriaeth
ddigonol i’r Iaith Gymraeg yn y cais
·
Nad oedd llefydd parcio
digonol ar gyfer y bwriad – parcio eisoes yn broblem yn yr ardal
·
Bod hanes i’r adeilad –
teimladau cryf yn lleol bod angen ei warchod, ond nid y datblygiad yma yw’r
ateb
c)
Cynigwyd ac eiliwyd
gwrthod y cais
ch) Yn ystod y
drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan yr aelodau:
·
Nad oedd digon o
wybodaeth i asesu’r bwriad
·
Trueni am gyflwr yr
adeilad - angen gwneud rhywbeth i’w warchod
·
Y dyluniad yn dderbyniol
·
Yn hen adeilad hanesyddol
arall sy’n adfeiliad
PENDERFYNWYD: Gwrthod yn unol â’r argymhelliad
Rheswm:
Nid oes gwybodaeth ddigonol na chyfredol wedi ei
gyflwyno gyda’r cais er mwyn asesu’r bwriad yn erbyn gofynion polisïau PS1, TAI
15 a PS19 Canllaw Cynllunio Atodol: Cynnal a Chreu Cymunedau Nodedig a
Chynaliadwy a Phennod 6 Polisi Cynllunio Cymru sy’n ymwneud ac effaith ar yr
Iaith Gymraeg, darparu tai fforddiadwy, seilwaith gwyrdd a budd net i
fioamrywiaeth.
*********
Yn dilyn penodiad diweddar Keira Sweenie yn Gyfarwyddwr Cynllunio a
Phartneriaethau, Parc Cenedlaethol Eryri, cymerodd y Cadeirydd y cyfle i
ddiolch i Keira am ei gwasanaeth, ei chyngor a’i chefnogaeth di dor i’r
Pwyllgor Cynllunio. Dymunwyd y gorau iddi yn ei swydd newydd.
Dogfennau ategol: