Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.
Cofnod:
Cydymdeimlad
Cydymdeimlwyd â
theulu Jo Cox, AS, a lofruddiwyd mewn amgylchiadau
erchyll yn Swydd Efrog yn ddiweddar a thalwyd teyrnged iddi gan y Cynghorydd
Gwen Griffith.
Cydymdeimlwyd â theulu’r
diweddar Athro Gwyn Thomas, bardd, ysgolhaig a beirniad llenyddol.
Nodwyd bod y
Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir oedd wedi colli anwyliaid
yn ddiweddar.
Safodd y Cyngor
fel arwydd o barch.
Llongyfarchiadau
Llongyfarchwyd yr
holl bobl ifanc a phlant o Wynedd fu’n cystadlu yn
Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerffili.
Llongyfarchwyd
Elin Thomas, yn enedigol o Llannor, Pen Llŷn, am gynrychioli Cymru a
chanu’r anthem genedlaethol Gymreig ar ddechrau’r tair gêm rygbi rhyngwladol
diweddar rhwng Seland Newydd a Chymru, a dymunwyd bob
llwyddiant iddi i’r dyfodol.
Materion Eraill
Ad-drefnu
Llywodraeth Leol
Adroddwyd y
cyhoeddodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd Cabinet
Llywodraeth Cymru dros Gyllid a Llywodraeth Leol, ddatganiad ar y 23ain o Fehefin yn cadarnhau:-
·
Y
bydd cynghorwyr lleol sy’n cael eu hethol yn etholiad Mai 2017 yn gwasanaethu
tymor pum mlynedd (Mai 2017 i Mai 2022) ac y bydd hyn yn cyd-fynd â chylch
etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sydd hefyd nawr yn bum mlynedd.
·
Na
fyddai unrhyw adolygiad i ffiniau etholaethau cyn yr etholiad ym mis Mai, a
olygai y byddai 75 aelod etholedig yn parhau i wasanaethu ar Gyngor Gwynedd o
Fai 2017 ymlaen.
Byddai mwy o
wybodaeth am adolygu llywodraeth leol i ddilyn erbyn tymor yr hydref.
Dadorchuddio Plac
Adroddwyd bod
croeso i bawb fod yn bresennol mewn seremoni ym Mhlas Llanwnda, Stryd y
Castell, Caernarfon am 11.45yb ar ddydd Gwener, 1 Gorffennaf, i ddadorchuddio
carreg gofeb ar gyfer yr Uwch Gapten Lionel Wilmot Brabazon Rees, sef yr unig
berson o Wynedd i dderbyn y Groes Fictoria yn ystod y
Rhyfel Byd Cyntaf.
Coffau Brwydr Coed
Mametz
I nodi canrif ers
Brwydr Coed Mametz, Brwydr Gyntaf y Somme yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, estynnwyd gwahoddiad i
bawb i Agoriad Swyddogol Gardd Goffa’r Rhyfel Mawr
yng Nghastell Caernarfon am 12.00yb ar ddydd Iau, 7 Gorffennaf. Nodwyd y cynhelir gweithgareddau eraill fel
rhan o Agoriad yr Ardd Goffa yn y Castell hefyd gyda Chôr Rygbi Gogledd Cymru a
Band y Signalau Brenhinol yn cymryd rhan.
Seremoni y Cyngor
ar ei Orau
Nodwyd:-
·
Bod
Seremoni flynyddol y Cyngor ar ei Orau yn gyfle i ddathlu holl waith ardderchog
y 7,000 o staff sy’n gweithio i Gyngor Gwynedd i ddarparu amrediad o
wasanaethau sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau trigolion y sir, aelodau staff
sy’n mynd tu hwnt i’w swydd ddisgrifiad i roi pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth
maent yn ei wneud.
·
Bod
y pum gwobr sy’n cael eu cyflwyno yn ystod y Seremoni yn ymwneud â gwerthoedd y
Cyngor sef Gwerth am Arian, Positif, Gweithio fel Tïm,
Parch a Gwasanaethu, sef pum gwerth sy’n graidd i egwyddorion y Cyngor ac yn
arwain ei ffordd o weithio gan amlygu beth sy’n bwysig os am ddarparu’r
gwasanaethau gorau i bobl Gwynedd.
·
Bod
nifer fawr o enwebiadau yn cael eu derbyn ar gyfer y gwobrau, a rheini ar gyfer
staff o bob adran o’r Cyngor, a bod yr enwebiadau yn dod gan gydweithwyr y
staff a enwebwyd.
Er mwyn rhoi blas
o’r gwaith da sy’n cael ei gyflawni, dangoswyd clip fideo byr o’r enwebwyr yn y
categori Gwerth am Arian.
Gair o Ddiolch
Nododd aelod ei
ddymuniad i ddiolch i’r mwyafrif o etholwyr Gwynedd oedd wedi pleidleisio o
blaid aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd yn y Refferendwm diweddar.