Agenda item

I dderbyn cyflwyniad gan Jennie Downs ar Gynefin a datblygiad ysbrydol ym maes y Dyniaethau.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Jennie Downes (Myfyriwr Ôl-raddedig) ar Gyfieithu’r Anghyfieithadwy. Roedd y cyflwyniad yn archwiliad o’r modd y gellir taflu goleuni ar ddatblygiad ysbrydol yn y Maes Dysgu Dyniaethau drwy lens y Cynefin, gyda ffocws arbennig ar ddysgu o fewn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg.

Yn ystod y cyflwyniad, trafodwyd y prif benawdau canlynol:

·       Cyflwyniad a chefndir byr i’r ymchwil i’r Cynefin.

·       Golwg ar ddeddfwriaeth Cymru a’r Cwricwlwm i Gymru.

·       Ceisio dealltwriaeth o’r cwestiwn: Sut y gellir, drwy ymgysylltu â’r Cynefin, gefnogi dysgwyr (Camau Cynnydd 1 i 3) i ymateb i’r elfen ysbrydol yn eu dysgu o fewn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg?

·       Cwmpas yr ymchwil ar y Cynefin.

·       Cyfieithu’r Cynefin i ymarfer cwricwlaidd.

·       Ymchwil ddyfnach yn canolbwyntio ar y Beibl Cymraeg.

·       Ymchwil bellach i ddiwygio’r cwricwlwm a’r cyd-destun byd-eang.

·       Ysbrydolrwydd a Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg.

·       Y Ffocws Byd-eang o fewn Cwricwlwm i Gymru.

I gloi, tynnwyd y canfyddiadau canlynol o’r ymchwil:

·       Bod angen amgylchedd dysgu ‘diogel’ er mwyn gallu archwilio cysyniadau heriol Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, a chydnabod a rhoi gwerth ar gynnydd ysbrydol.

·       Y gellid defnyddio pwnc y Beibl Cymraeg a’r cyfieithiadau fel cyd-destun dilys ar gyfer dysgu ar draws y cwricwlwm yng Nghymru.

·       Ei bod yn bwysig datblygu diwylliant o gydnabod a gwerthfawrogi arferion sy’n dod i’r amlwg ym maes Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg.

·       Bod angen ymchwil bellach ar naratif a’r Cynefin, ac y bydd hyn yn cael ei archwilio yn ystod y cam nesaf o’r ymchwil.

Diolchwyd am y cyflwyniad.

 

Holwyd ynghylch y ffordd orau i rannu ffrwyth yr ymchwil ag ysgolion a sut i droi'r ymchwil yn adnoddau ar gyfer dysgu’r cwricwlwm. Mewn ymateb, nodwyd bod y Bible Society wedi creu adnodd bychan ar sail yr ymchwil sy’n canolbwyntio ar hanes lleol, a bod hwn yn bwynt cychwyn cadarnhaol. Mynegwyd bod cyfle i rannu’r cyflwyniad ag ysgolion a’i bod  yn hapus i wneud hynny’n bersonol. Pwysleisiwyd pwysigrwydd sicrhau fod ysgolion yn edrych ar eu hanes a’u straeon lleol wrth drafod Cynefin a’r ymchwil. Nodwyd bod Dr Gareth Evans-Jones ym Mhrifysgol Bangor wedi cyflwyno’r ymchwil o fewn y Brifysgol, gyda’r camau nesaf yn cynnwys cyhoeddi’r ymchwil mewn cylchgrawn ym mis Tachwedd.

Holwyd a oedd y tensiwn rhwng y syniad o fod yn gysylltiedig â rhywle a bod yn or-gysylltiedig wedi’i archwilio o fewn yr ymchwil, ac os nad oedd, a oedd ymwybyddiaeth o ymchwil arall a oedd wedi archwilio’r maes hwn. Mewn ymateb, mynegwyd diddordeb personol mewn straeon a naratifau a’r modd y cânt eu trosglwyddo o un genhedlaeth i’r llall ac o un diwylliant i’r llall. Nodwyd ei bod yn bwriadu cynnal ymchwil pellach yn y maes hwn.

Holwyd pa effaith a gafodd y ffaith fod y Testament Newydd gwreiddiol wedi’i ysgrifennu yn y Groeg, ac nid yn yr Aramaeg, yn y cyd-destun hwn. Mewn ymateb, nodwyd bod William Morgan wedi gweithio o’r Ysgrythurau Groeg gwreiddiol, nid o gyfieithiad Aramaeg. Mynegwyd y farn bod gwaith William Morgan yn anhygoel, a bod ystyr llawer dyfnach i gyfieithiad Cymraeg y Beibl o ganlyniad.

Nodwyd bod angen gwahaniaethu rhwng gwahanol gyfieithiadau o’r Beibl - rhai sy’n ceisio cadw at gyfieithiad dilys a rhai sy’n ceisio rhoi sylwebaeth drwy aralleirio’r testun. Nodwyd ymhellach ei bod yn debygol fod gwahaniaethau yn y modd y caiff yr un ystyr ei gyflwyno rhwng y Beibl Cymraeg a’r Beibl Saesneg. Mynegwyd bod astudio hyn o fewn cyd-destun AG yn hynod ddiddorol ac yn wers werthfawr i ddysgwyr.

Nodwyd bod y cyflwyniad yn hynod ddiddorol. Mynegwyd gobaith y gellid integreiddio’r ymchwil yma ar Gynefin i mewn i wersi ysgolion gyda thema bro. .

Penderfynwyd anfon copi o gyflwyniad Jennie Downes at athrawon CGM/AG yng Ngwynedd.