Agenda item

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad.

 

Cofnod:

(1)       Cwestiwn gan y Cynghorydd Sion Wyn Jones

 

A oes modd i’r Aelod Cabinet wneud datganiad ynglŷn â’r diffyg torri gwair yng Ngwynedd?

 

Ateb gan y Cynghorydd John Wynn Jones, Aelod Cabinet Amgylchedd

 

“Mae’r Aelod yn ymwybodol o’r sefyllfa ariannol anodd iawn sy’n wynebu’r Awdurdod hwn ac o benderfyniad y Cyngor hwn ar 3 Mawrth, 2016 i weithredu 49 toriad i wasanaethau oedd yn cynnwys lleihau nifer o doriadau gwair mewn rhai lleoliadau.

 

O ganlyniad bydd yn rhaid i ni, yn anffodus, dderbyn bod hyn yn golygu dirywiad mewn edrychiad rhai lleoliadau ar adegau o’r flwyddyn a pham fydd amrywiaethau yn y tymor tyfu fel yn achos eleni.

 

Mae’r Adran berthnasol yn monitro effaith gwireddu’r newid yn ofalus, yn sicrhau bod lleoliadau lle mae pryderon o ran diogelwch yn derbyn blaenoriaeth ac yn addasu’r rhaglenni torri lle yn bosib’ er mwyn ceisio lliniaru effaith y newid hwn. Bydd yr addasiadau i’r rhaglenni torri yn parhau am yr hyn sy’n weddill o’r tymor tyfu a’r flwyddyn.  Hoffwn ddiolch o ddifri’ i staff Cynnal Tiroedd am sicrhau bod y gwaith yn cael ei gyflawni er y newidiadau.”

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Sion Wyn Jones

 

“Ydi’r Aelod Cabinet yn fodlon ystyried rhoi cyfrifoldeb torri gwair i gynghorau cymuned a thref neu gael strategaeth newydd yn yr adran?”

 

Ateb gan y Cynghorydd John Wynn Jones, Aelod Cabinet Amgylchedd

 

“Mae Cyngor Gwynedd, wrth gwrs, yn fodlon gweithio hefo cynghorau cymuned ym mhob maes sy’n bosib’, ac mae hwn yn un o’r meysydd sydd yn bosib’, ond rhaid bod yn ofalus nad ydym yn ei basio drosodd heb sicrwydd gan y cynghorau cymuned ar rai materion, e.e. ynglŷn ag yswiriant atebolrwydd cyhoeddus a hefyd eu bod yn derbyn y cyfrifoldeb os bydd damwain yn digwydd ac mae hyn i mi yn rhywbeth y dylent ei ystyried o ddifri’.  Mi fyddwn i’n fodlon trafod unrhyw ddatrysiad sy’n well na’r hyn ‘rydym yn ei wneud ar hyn o bryd.  ‘Rwy’n llongyfarch yr adran oherwydd mae wedi bod yn dymor tyfu anodd iawn hefo tywydd mor gyfnewidiol ac ‘rydym i gyd wedi profi hynny yn ein gerddi yn gyffredinol ac ‘rwy’n meddwl bod yr adran a’r gweithwyr sydd wedi bod ar y rheng flaen wedi gwneud gwaith rhyfeddol yn y misoedd sydd wedi pasio.”

 

(2)       Cwestiwn gan y Cynghorydd Aled Evans

 

“A wnaiff yr Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am gynllunio adrodd ar y camau a gymerir i wneud yn siŵr y bydd datganiadau ardrawiad ieithyddol a ddarperir gyda cheisiadau cynllunio o dan y CDLL yn ddiduedd, fel na bo ymgeisydd yn darparu y fath ddatganiad fel rhan o’i gyflwyniad am ganiatâd i unrhyw ddatblygiad?”

 

Ateb gan y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cynllunio

 

(Dosbarthwyd ateb ysgrifenedig yr Aelod Cabinet i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

“Ar hyn o bryd ‘rydym yn penderfynu ceisiadau cynllunio yn ôl y Cynllun Datblygu Unedol presennol ac mae’r cwestiwn yn ymwneud â’r Cynllun Datblygu Lleol, fydd yn cael ei fabwysiadu gobeithio gan y Cyngor ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf.  Felly, beth sy’n gyrru’r asesiadau ardrawiad ieithyddol yw’r canllawiau cynllunio atodol sydd ynghlwm â’r Cynllun Datblygu Lleol.  Mae y rheini ar hyn o bryd yn cael eu haddasu ac fel ‘rydw i wedi egluro mewn erthygl yn Rhaeadr ddechrau’r mis, mae yna waith yn mynd ymlaen i ddiweddaru’r canllaw cynllunio atodol fydd ynghlwm â’r Cynllun Datblygu Lleol ac mi fydd yna broses ymgynghori ynghlwm â hynny.”

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Aled Evans

 

“Dros y 5 mlynedd ddiwethaf, mae 75 adroddiad iaith wedi’u cyflwyno, ond dim un argymhelliad i wrthod datblygiad oherwydd effaith andwyol ar yr iaith.  A wnewch chi edrych ar y 75 achos yma ac ymchwilio i beth fu’r effaith ar yr iaith Gymraeg er mwyn gweld pa mor agos ati mewn gwirionedd fu’r argymhellion yma?“

 

Ateb gan y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cynllunio

 

“’Rydym yn sôn yma am geisiadau cynllunio sydd wedi’u penderfynu o dan yr hen gynllun.  Sôn ‘rydym am symud ymlaen ac mi fydd yna fethodoleg yn cael ei datblygu o ran sut fydd yr asesiadau yn digwydd ac mi fydd hyn yng nghyd-destun y TAN 20 newydd, wrth gwrs.  Nid ydym yn siŵr iawn beth mae hwnnw’n mynd i ddweud wrthym, lle fydd yr asesiadau yma’n cael eu gwneud, ac mae’r cynghorydd wedi ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ynglŷn â hynny ac ‘rydym i gyd wedi cael cyfle i fod yn rhan o hynny.  Wedyn, mae hwn i gyd o dan drafodaeth - mae beth fydd siâp y canllaw cynllunio atodol newydd yn ddibynnol ar beth fydd yn digwydd yn yr ymgynghoriad ac mae’n rhydd i bawb gymryd rhan yn y broses honno.”

 

(3)       Cwestiwn gan y Cynghorydd Alwyn Gruffydd

 

“Yn wyneb yr oedi mewn unrhyw ddatblygiad ar fonitro effaith y sefyllfa gynllunio bresennol ac arfaethedig ar y Gymraeg yng Ngwynedd yn unol â phenderfyniad y Cyngor ar Fawrth 18fed, 2016, ydi’r deilydd portffolio yn rhannu’r ddyhead o gynnal moratoriwm ar ddatblygiadau o fwy na thri annedd hyd nes y bydd datrysiad yn y mater hwn sy’n foddhaol i’r Cyngor ac sy’n allweddol i barhad y Gymraeg fel iaith hyfyw yng nghymunedau Gwynedd?”

 

Ateb gan y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cynllunio

 

(Dosbarthwyd ateb ysgrifenedig yr Aelod Cabinet i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

“Nid wy’n cytuno bod yna oedi wedi bod mewn ymateb i’r cynnig ar y 18fed o Fawrth.  Mae yna ddwy ffrwd gwaith pwysig iawn yn mynd yn eu blaenau, un i ddatblygu’r canllaw cynllunio atodol fydd ynghlwm â’r Cynllun Datblygu Lleol newydd, a hwn fydd yn gyrru sut byddwn yn gwneud yr asesiadau iaith.  Yr ail ffrwd gwaith ydi sut y byddwn yn monitro ac yn adolygu’r cynllun yn y dyfodol felly nid wy’n cytuno bod yna oedi wedi bod.  Mae’r gwaith yn mynd yn ei flaen ac mae’r erthygl yn Rhaeadr ddechrau mis Mehefin yn egluro’n union beth yw’r camau sydd wedi eu cymryd yn y broses ymgynghori honno.  O ran moratoriwm - nid yw hynny’n ymarferol wrth gwrs oherwydd sut mae rhywun yn stopio ceisiadau rhag dod i mewn.  Ni allwn stopio ceisiadau rhag dod i mewn - rhaid i ni ddelio gyda hwy ac nid wy’n meddwl bod yna unrhyw beth yn arwyddocaol am dri thŷ.  Os ydym yn stopio unrhyw beth dros dri thŷ, ydym ni felly’n dweud bod tri thŷ pedair llofft yng nghanol y wlad yn dderbyniol a phedwar tŷ fforddiadwy bychan ar gyfer defnydd lleol ddim yn dderbyniol?  Dyna ydi pwrpas y drefn gynllunio - i asesu ceisiadau fel maent yn dod i mewn.  ‘Rydym yn eu hasesu ar hyn o bryd yn erbyn y Cynllun Datblygu Unedol ond unwaith y bydd y cynllun newydd yn cael ei fabwysiadu, byddwn yn eu hasesu yn erbyn y cynllun hwnnw.”

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Alwyn Gruffydd

 

“Yn wyneb y ffaith mod i’n gweld bod yna oedi, ydi’r Aelod Cabinet yn teimlo y dylai roi ystyriaeth ddwys i’w rôl bresennol fel ei fod yn rhoi lle i rywun sy’n mynd i barchu'r broses ddemocrataidd sy’n rhan o’r Cyngor yma?“

 

Ateb gan y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cynllunio

 

“Nid wy’n cytuno bod yna oedi wedi bod ar y broses.  Mae’r broses wedi mynd yn ei blaen yn hollol gywir.  Ar hyn o bryd, mae’r cam y mae’r Cynllun Datblygu Lleol ynddo yn nwylo’r Arolygydd ac mae’r broses honno y tu allan i ddwylo’r Cyngor nes y bydd yn dod yn ôl ym mis Mawrth i gael ei fabwysiadu gan y Cyngor ac ‘rwy’n hyderus y byddaf yma'r adeg hynny i’w gyflwyno gerbron y Cyngor.”

 

(4)       Cwestiwn gan y Cynghorydd John Pughe Roberts

 

“Y mae’r Cyngor wedi derbyn yr asesiad annibynnol hwn a gomisiynwyd gan fudiadau iaith. A ddylai’r asesiad gael ei gyflwyno i Arolygwyr y Cynllun Datblygu Lleol iddynt ei ddefnyddio ar eu disgresiwn eu hunain wrth archwilio’r Cynllun hwnnw?”

 

Ateb gan y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cynllunio

 

(Dosbarthwyd ateb ysgrifenedig yr Aelod Cabinet i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

“Mae’r cynghorau eisoes wedi cyflwyno’r holl ddogfennaeth i’r Arolygydd.  Yr Arolygydd erbyn hyn sy’n gyrru’r broses.  Os ydi’r Arolygydd yn gofyn am ddogfennau eraill gan y Cyngor, ‘rydym ninnau yn eu darparu.  Yn wir, mae wedi gofyn ambell gwestiwn ynglŷn â beth sydd yn y cynllun ac mae’r gwasanaeth yn ymateb i hynny.  Nid oes modd i’r Cyngor anfon unrhyw wybodaeth bellach ymlaen.  Mater, wrth gwrs, i unrhyw wrthwynebwyr yw penderfynu os ydynt hwy am yrru unrhyw wybodaeth ymlaen i’r Arolygydd ynglŷn ag unrhyw wrthwynebiad maent hwy eisoes wedi ei roi i mewn.”

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd John Pughe Roberts

 

“Ydi’r Aelod Cabinet yn cytuno bod pob gwybodaeth yn hanfodol bwysig fel tystiolaeth i wella sefyllfa’r iaith Gymraeg yng Ngwynedd?”

 

Ateb gan y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cynllunio

 

 

“Ydi, siŵr iawn.  Mae’r holl dystiolaeth sydd allan yna ar gael i’r Arolygydd pan fydd yr Arolygydd yn edrych ar y cynllun.  Gwaith yr Arolygydd ydi penderfynu os yw’r Cynllun Datblygu Lleol yn gadarn ac os yw’r Arolygydd eisiau mwy o wybodaeth gan unrhyw un sydd wedi bod ynghlwm â’r broses hyd yn hyn, mi fydd yr Arolygydd yn gofyn am yr wybodaeth honno.”