Adroddiad
i’r Pwyllgor Craffu ar berfformiad yr Adran Addysg.
Bwriedir cael toriad i ginio am 12.30yp – 1.30yp
Penderfyniad:
Derbyn
yr adroddiad gan nodi’r sylwadau ynghyd â gofyn am weithrediad pellach ar rai
o’r sylwadau yng nghyswllt y meysydd canlynol:
· Y Gymraeg a Chanolfannau Iaith
· Amgylchedd dysgu i blant gyda chyflyrau penodol
· Math o adeiladau o ran lleoliadau daearyddol ynghyd
â chostau trafnidiaeth
· Absenoldebau
plant a chynhwysiad ynghyd â phlant sydd wedi ei eithrio o addysg ac yn cael eu
haddysgu o adref
· Dibynadwyedd data ble mae sail y data yn fach
· Costau
yn ymwneud a mynediad i addysg yn benodol i deuluoedd incwm isel a phlant sydd
yn cael ei gwahardd o ysgol
· Penodi Penaethiaid
· Prydlondeb o ran cyflwyno’r Strategaeth Addysg.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Addysg gan nodi
fod y data yn siarad dros ei hun. Nodwyd fod llwyddiannau i’w dathlu,
cynlluniau i’w datblygu a'i fod yn edrych ymlaen at roi cyd-destun ar rai
cynlluniau gwella yn rhai meysydd.
Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-
Gofynnwyd o ran moderneiddio adeiladau a lleoliadau dysgu,
gan fod blaenoriaeth yn cael ei roi i anableddau corfforol gofynnwyd faint o
gynllunio sydd yn cael ei wneud ar gyfer anghenion sensori
plant, nid yn unig yr ystafelloedd ond o ran lliwiau ar y waliau, y bylbiau
golau sy’n cael eu defnyddio a.y.b.. Atebwyd gan nodi fod canllawiau i'w dilyn
wrth adeiladu ysgolion newydd, eglurwyd fod sicrhau darpariaeth Anghenion Dysgu
Ychwanegol (ADY) yn rhan o’r canllawiau. Eglurwyd wrth adeiladu ysgolion mae’r
adran yn dysgu o un prosiect i’r llall, ac addasiadau wedi ei gwneud o ran cadw
drysau lliw naturiol ynghyd ac edrych ar oleuadau. Nodwyd yr angen i gael mwy o
fewnbwn yr adran pan fo ysgolion yn cael eu dylunio er mwyn ystyried y mathau
yma o anghenion, ac eglurwyd fod yr adran yn defnyddio rhan o arian grant
cyfalaf ADY i edrych ar y mater yma ymhellach a’u bod yn cydweithio gyda
Therapydd Galwedigaethol.
Tynnwyd sylw yn ogystal gyda’r maes moderneiddio adeiladau a
lleoliadau dysgu fod cynlluniau yn Arfon a Dwyfor ond dim sôn am gynlluniau ym
Meirionnydd. Mewn ymateb, nodwyd fod arian cyfalaf moderneiddio addysg yn dod
mewn gweddau a bod nifer o ysgolion ym Meirionnydd wedi ei datblygu yn ystod y
wedd gyntaf gan amlygu cynlluniau ail strwythuro ysgolion yn y Bala, Tywyn a
Dolgellau. Bellach, eglurwyd, eu bod yn canolbwyntio yn benodol ar ardal
Bangor, ac yna pan fydd y wedd nesaf bydd yn symud i ardal arall o fewn
Gwynedd.
Mynegwyd wrth edrych ar gynllun lleihau cost anfon plant i’r
ysgol fod y mesuryddion yn goch, a holwyd os oedd plant yn cael eu gwahardd yn
barhaol os oes cydnabyddiaeth i’r gost ychwanegol i rieni o symud eu plant i
ysgol arall - megis gwisgoedd ysgol a.y.b. Nodwyd fod modd cefnogi teuluoedd yn
y maes yma, drwy ddargyfeirio arian gan fod angen sicrhau bod plant yn gallu
mynychu’r ysgol.
Wrth drafod yr un maes – holwyd os yw’r adran yn hyderus fod
pob cost, gan gynnwys rhai cudd yn cael sylw. Ymatebwyd gan nodi fod gan yr
adran hyder eu bod wedi rhoi llawer o sylw i’r prif faterion ac wedi gweithio i
fynd o dan groen y problemau. Nodwyd fod yr adran am lunio siarter a fydd yn
awgrym i ysgolion wrth ystyried costau megis tripiau ysgol, cost gwisg ysgol er
enghraifft.
Codwyd nifer o sylwadau am bresenoldeb gan ei fod yn fater o
bryder cenedlaethol, ac amlygwyd fod cynnydd wedi bod gyda niferoedd yn colli
ysgol yn dechrau lleihau. Gofynnwyd beth sydd yn gweithio ac os oes unrhyw
strategaeth mewn lle i wella’r sefyllfa. Atebwyd drwy nodi fod presenoldeb wedi
bod yn dalcen caled, a bod strategaethau yn ei lle. Mynegwyd mai beth sydd yn
gwneud gwir wahaniaeth yw rhoi sylw diddiwedd i’r mater. Ategwyd fod yr
ysgolion sydd wedi profi llwyddiant mewn cynyddu presenoldeb gyda phrosesau
cadarn a thynn yn ei lle. Eglurwyd fod yr uwchradd yn cael blaenoriaeth yr
adran gan ei fod yn fwy o broblem yn yr uwchradd. Eglurwyd fod y patrymau a
dorrwyd yn ystod cyfnod covid bellach yn cael eu hail
adeiladu, a gobeithio y bydd y ffigyrau yn cyrraedd y canrannau cyn covid dros y blynyddoedd nesaf.
Wrth drafod presenoldeb, nodwyd fod rhai teuluoedd yn cael
eu herlyn yn gyfreithiol oherwydd diffyg presenoldeb, gofynnwyd a oes
tystiolaeth fod y dacteg yma yn gweithio, a beth yw’r sgil effeithiau'r profiad
ar deuluoedd. Ymatebwyd drwy amlygu fod gwahanol fath o erlyniad a dirwyon.
Nodwyd fod dirwy o £120 pan disgybl yn cael absenoldeb anawdurdodedig ddim yn
un sydd yn cael ei weithredu yng Ngwynedd. Nodwyd mai erlyniad arall sy'n cael
ei weithredu gan y Tîm Lles Addysg. Esboniwyd fod proses bendant o weithio gyda
theuluoedd i annog presenoldeb. Amlygwyd fod nifer o blant sy’n cael eu
cyfeirio at y Tîm Lles yn gwneud cynnydd pendant, a bod bron i hanner gyda
rhesymau dros yr absenoldeb fuasai ddim yn arwain at erlyniad - rhesymau megis
iechyd meddwl a phroblemau cymdeithasol. Nodwyd nad yw unrhyw un eisiau erlyn
ond bod angen defnyddio pwerau i orfodi plant i fynychu ysgolion. O ran effaith
hir dymor, nodwyd fod hanner yn dod yn ôl i’r ysgol a rhai yn
dadgofrestru. Eglurwyd yn ogystal nid
dirwy yw’r cam olaf ond yn aml mae’r llys yn rhoi gofyniadau a chyfeiriad sut
i’r partïon weithio gyda’i gilydd i wella’r sefyllfa ac yn rhoi tasgau i’w
cyflawni o fewn cynllun amser.
Amlygwyd fod nifer sydd yn dewis addysg ddewisol adref ar
gynnydd a gofynnwyd a oedd yn peri pryder, ac os ydynt yn codi pryderon o ran
diogelu a lles. Ymatebwyd gan nodi fod y maes hwn yn un cymhleth tu hwnt gyda
charfannau gwahanol o fewn y 269 sy’n cael eu haddysgu adref - megis teuluoedd
yn dewis addysgu eu plant adref, eraill yn teimlo bod eu plant yn methu mynd
i’r ysgol am amrywiol resymau a rhai yn teimlo nad yw anghenion eu plant yn
cael eu cyrraedd. Mynegwyd fod holiadur yn cael ei rannu pan yn dad-gofrestru o
ysgol i gael gwybod y rheswm dros wneud hyn er mwyn cael dealltwriaeth well.
Mynegwyd fod gwaith yn cael ei wneud i weithio gyda theuluoedd i gadw
cysylltiad, a bod dau athro ar gael i’w cynorthwyo gyda’r cwricwlwm. Nodwyd nad
oes problemau lles a diogelu gan fod nifer yn aberthu eu gyrfaoedd i addysgu o
adref, a phwysleisiwyd fod nifer yn cael profiadau gwych drwy ddysgu o adref.
Tynnwyd sylw at nifer o fesuryddion gan holi am eu
dilysrwydd o ganlyniad i nifer isel o ymatebion, megis y mesurydd ar wella
cyfathrebu plant awtistig, gan mai dim ond 2 sydd wedi ymateb. Atebwyd drwy
nodi bod yr adran yn cydweld gyda’r sylw, a'i fod wedi ei amlygu gan reolwyr.
Nodwyd ei fod yn anodd cael adlewyrchiad teg ond fod mesuryddion am wasanaethau
unigol, a bod angen mireinio a sicrhau eu bod yn mesur y pethau cywir.
Wrth edrych ar wasanaeth y canolfannau trochi, amlygwyd nad
oedd data o ran faint mae ysgolion yn ei annog, a faint o blant sydd yn
gwrthod. Nodwyd y byddai’r data yma yn ddefnyddiol. Ymatebodd yr adran gan nodi
fod lleoliadau yn brin iawn yn y canolfannau, a bod yr ysgolion yn eu hannog.
Eglurwyd nad oes modd gorfodi'r plant i fynychu ac felly bod disgwyliad ar
ysgol i’w hannog. Mynegodd yr adran eu bod yn hapus i ddarparu niferoedd sydd
yn mynychu, nodwyd fod lle i wella ond fod yr adran yn gwneud popeth o fewn eu
gallu i hwyluso’r broses drwy gefnogaeth megis cludiant.
Holwyd pryd fydd y Strategaeth Addysg yn cael ei gyflwyno
i’r Pwyllgor. Nodwyd y bydd yn cael ei gyflwyno yn ystod Tymor yr Hydref,
eglurwyd fod gwaith ymgysylltu angen ei wneud ond eu bod yn gobeithio ei fod yn
mynd i’r Cabinet cyn y Nadolig i fod ar waith yn ystod tymor y Gwanwyn.
Holwyd am fesurydd Saesneg fel Iaith Ychwanegol, a gofynnwyd
pam fod Saesneg yn cael ei phwysleisio dros y Gymraeg. Eglurwyd fod y
gwasanaeth hwn ar gyfer plant sydd yn dod o wledydd tramor a’r angen i sicrhau
eu bod yn cael mynediad i addysg. Pwysleisiwyd ei fod yn dîm bach sydd wedi
dros y blynyddoedd diwethaf gefnogi nifer o blant o’r Wcráin, a fu yn trochi yn
y Gymraeg cyn hyd yn oed dysgu Saesneg. Amlygwyd mai term addysg yw teitl y
mesurydd.
Nodwyd pryder am y polisi toiledu,
gan fod efallai y gofyn i blant fod yn gallu defnyddio’r toiled cyn cychwyn
ysgol yn cael ei weld fel rhwystr i rai teuluoedd, yn enwedig plant ag
anghenion dysgu ychwanegol. Pwysleisiwyd fod canllawiau yn glir o ran
disgwyliadau ac nad yw hyn yn cynnwys plant a chyflyrau iechyd a gydag
anghenion dysgu ychwanegol. Eglurwyd drwy greu’r polisi hwn fod arweiniad cyson
ar draws y sir.
Tynnwyd sylw at waharddiadau mewn ysgolion uwchradd, nodwyd
bod 3 ysgol wedi gwahardd plant am 100 o ddyddiau neu yn fwy. Gofynnwyd a oes
cefnogaeth i’r plant yn ystod y cyfnodau yma. Atebwyd gan nodi fod yr ysgolion
ble mae gwaharddiadau yn uwch angen edrych arnynt ymhellach ac i sicrhau eu bod
yn gwneud y defnydd mwyaf o’r gyllideb cynhwysiad sydd ar gael.
Nodwyd fod arian cynhwysiad yn cael ei dderbyn gan ysgolion,
ac amlygwyd fod y problemau ar gynnydd, holwyd os yw hyn yn bryder? Nodwyd ei
fod yn bryder gan nad yw yn gyson ar draws y sir a bod rhai ysgolion yn gwneud
gwaith arbennig o dda o gefnogi plant. Cydnabuwyd fod anghenion wedi newid.
Eglurwyd fod uned newydd yn cael ei agor i ymateb i heriau ymddygiad. Nodwyd
fod yr uned yn Arfon gan fod yr angen yn uchel yn yr ardal, ac er nad oes
lleoliad pendant ym Meirionnydd ar hyn o bryd y bwriad yw ymateb yn ddeinamig
pan fyddai’r angen yn codi.
PENDERFYNWYD
Derbyn yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau ynghyd â gofyn am weithrediad pellach ar rai o’r sylwadau
yng nghyswllt y meysydd canlynol:
·
Y Gymraeg
a Chanolfannau Iaith
·
Amgylchedd
dysgu i blant gyda chyflyrau penodol
·
Math o
adeiladau o ran lleoliadau daearyddol ynghyd â chostau trafnidiaeth
·
Absenoldebau
plant a chynhwysiad ynghyd â phlant sydd wedi ei eithrio o addysg ac yn cael eu
haddysgu o adref
·
Dibynadwyedd
data ble mae sail y data yn fach
·
Costau yn
ymwneud a mynediad i addysg yn benodol i deuluoedd incwm isel a phlant sydd yn
cael ei gwahardd o ysgol
·
Penodi
Penaethiaid
·
Prydlondeb
o ran cyflwyno’r Strategaeth Addysg.
Dogfennau ategol: