Agenda item

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Statudol a Chyfarwyddwr Corfforaethol  (ynghlwm).

 

Cofnod:

Cyflwynwyd – Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2015/16.

 

Yn ei chyflwyniad, rhoddodd y Cyfarwyddwr drosolwg o berfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol yng Ngwynedd dros y flwyddyn a fu, gan amlygu’r elfennau hynny sydd wedi bod yn llwyddiannus, a chyfeirio hefyd at rai materion sydd angen sylw.  Rhoddodd flas hefyd ar gyfeiriad y Gwasanaethau Cymdeithasol i’r dyfodol gan amlinellu’r blaenoriaethau ar gyfer y blynyddoedd nesaf.

 

Manteisiodd ar y cyfle hefyd i gydnabod arweiniad a chefnogaeth yr Aelodau Cabinet yn y maes gofal, y Cynghorwyr W.Gareth Roberts a Mair Rowlands.  Diolchodd i’r holl staff, y darparwyr a’r partneriaid am eu hymrwymiad a’u gwaith caled wrth sicrhau fod plant, pobl ifanc ac oedolion bregus a’u teuluoedd yn derbyn y gwasanaethau gorau bosib’.  Diolchodd hefyd i bawb sydd yn gofalu yn anffurfiol am aelod o’r teulu neu am gymydog, gan nodi bod eu cyfraniad yn amhrisiadwy.

 

Yn dilyn y cyflwyniad, ymatebodd y Cyfarwyddwr i gyfres o gwestiynau / sylwadau gan yr aelodau mewn perthynas â:-

 

·         Chynlluniau i gwrdd â’r prinder nyrsys gofal dementia dwys yn Ne Meirionnydd.

·         Y diffyg gwasanaethau / problemau gyda’r gwasanaethau yn Ne Meirionnydd a sut i gyfarch y problemau hynny yn yr hinsawdd ariannol heriol sydd ohoni.

·         Cynlluniau i sicrhau bod y garfan o blant sydd ag anghenion cymhleth iawn, ond ddim yn derbyn gwasanaeth gan Derwen na’r Cyngor, yn derbyn y gefnogaeth briodol.

·         Siomedigaeth nad oedd cyfeiriad yn yr adroddiad at drefniadau’r Cyngor er sicrhau bod oedolion hefo awtistiaeth yn derbyn gwasanaethau digonol.  Nododd y Cyfarwyddwr nad oedd yn ymarferol cynnwys popeth yn yr adroddiad, ond y byddai’n derbyn y sylw ar gyfer y flwyddyn nesaf.

·         Pwysigrwydd y gwaith ataliol yn y maes cyfiawnder ieuenctid a’r angen i ddatgan siomedigaeth y Cyngor, drwy’r Aelod Cabinet, yn y partneriaethau statudol am leihau’r ariannu sydd ar gael ganddynt i gynnal y gwasanaeth.

·         Nifer y plant sy’n gorfod mynd allan o Wynedd i dderbyn gofal.  Nododd y Cyfarwyddwr nad oedd yn siŵr o’r union ffigurau, ond y gallai eu rhannu gyda’r aelod ar ôl y Cyngor.

·         Yr angen i aelodau sy’n llywodraethwyr ysgolion roi sylw i ddiogelu yn eu cyfarfodydd llywodraethwyr a’r gwaith da i godi ymwybyddiaeth holl staff y Cyngor am y maes diogelu a’r angen i barhau i wneud hynny.

·         Yr amser mae’n gymryd i drawsffurfio’r gwasanaethau.

·         Effaith yr heriau sy’n wynebu’r gwasanaeth ar forâl a throsiant staff.

·         Sut i gyfarch y don arall o fewnlifiad fydd yn digwydd, os bydd amod 50 o Gytundeb Lisbon yn cael ei wireddu, wrth i bobl ddychwelyd adref o’r cyfandir er mwyn parhau i dderbyn triniaeth feddygol am ddim.

·         Y sôn diweddar fod pobl ag afiechyd meddwl sy’n cyfeirio eu hunain am driniaeth i sefydliad lleol yn cael eu troi i ffwrdd.  Nododd y Cyfarwyddwr na allai ateb y sylw penodol ond y gallai drafod y mater gyda’r Bwrdd Iechyd petai’r aelod yn dod ag enghreifftiau iddi.

·         Trefn gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r broses apêl.  Nododd y Cyfarwyddwr y gallai rannu’r dogfennau hyn gyda’r aelodau.

·         Y gwaith sy’n digwydd yn y maes trwyddedu i sicrhau cyfrifoldeb gyrwyr tacsis dros blant maent yn eu cludo.  Nododd y Cyfarwyddwr ei bod yn derbyn y sylw.

·         Trefniadau staffio’r Gwasanaethau Cymdeithasol ar benwythnosau a’r angen i sicrhau nad yw cleifion yn cael eu rhwystro rhag symud yn gynt o ysbyty, neu i ysbyty.

·         Cwestiwn a ofynnwyd eisoes i’r adran ynglŷn â demograffi.  Cytunodd y Cyfarwyddwr i gael yr wybodaeth i’r aelod.

 

Nododd yr Aelod Cabinet Plant, Pobl Ifanc a Hamdden fod yna lawer o ddatblygiadau cyffrous ac arloesol yn digwydd o ran y maes ataliol, ac y bwriedid adeiladu ar hynny i’r dyfodol.  Diolchodd i staff yr adran gan nodi ei bod yn gyfnod anodd iawn ac yn faes anodd iawn i weithio ynddo a bod y staff yn aml yn mynd y tu hwnt i’w rôl er mwyn sicrhau bod plant yn ddiogel a theuluoedd bregus yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet Oedolion a Iechyd i’r Cyfarwyddwr am yr adroddiad cynhwysfawr ac eglur o’r sefyllfa sydd ohoni.  Nododd y bydd y Ddeddf Iechyd a Llesiant, fydd yn gosod cyfeiriad i’r gwaith i’r dyfodol, yn golygu newid mawr iawn ac erfyniodd ar ei gyd-aelodau i bresenoli eu hunain yn y gyfres o ddigwyddiadau sy’n cael eu trefnu gan yr adran i amlygu’r newidiadau a goblygiadau’r ddeddf.

 

Diolchwyd i’r Cyfarwyddwr a’i staff am eu holl waith yn ystod y flwyddyn.

 

 

Dogfennau ategol: