Adroddiad i’r Pwyllgor Craffu ar berfformiad yr Adran Economi.
Penderfyniad:
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet gan
nodi ei bod wedi bod yn gyfnod prysur iawn i’r adra gydag un cylch grantiau yn
dod i ben tra bod un arall ar gychwyn. Amlygwyd fod gan yr adran 4 cynllun
blaenoriaeth yng Nghynllun y Cyngor, tri yn adran Gwynedd Lewyrchus ac un fel
rhan o raglen Gwynedd Ofalgar. Nodwyd fod cynnydd da wedi ei wneud yn erbyn y
cerrig milltir, ond mai'r risg sy’n gyffredin i’r pedwar oedd ansicrwydd am
ddyfodol y cyllidebau gan eu bod yn cael eu hariannu drwy arian grant.
Tywyswyd drwy’r cynlluniau gan roi blas ar y gwaith
sydd yn mynd yn ei flaen, gan dynnu sylw at feysydd megis y gwaith sylweddol
sydd wedi ei wneud i gwblhau gwariant o brosiectau rhaglen ARFOR a Rhaglen
Ffyniant Cyffredin. Amlygwyd fod 49% yn llai o arian ar gael i Wynedd a siroedd
y Gogledd wrth edrych ar Raglen Ffyniant Cyffredin, ond fod gwaith o adnabod
blaenoriaethau 2025/26 eisoes wedi cychwyn.
O ran gwaith dydd i ddydd yr adran, amlygwyd pryder
bod nifer y disgyblion sydd yn cael gwersi nofio yng nghanolfannau hamdden yn
parhau i ostwng a sialens carthu yn Hafan a Harbwr Pwllheli. Nodwyd fod lefel
boddhad cwsmer yn uchel yn nifer o feysydd yn yr adran megis Gwasanaeth
archifau, amgueddfeydd, y celfyddydau a’r gwasanaeth llyfrgelloedd.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a
chwestiynau a ganlyn:-
Tynnwyd sylw at leihad yn nifer y disgyblion sy’n
derbyn gwersi nofio gan amlygu fod hyn yn debygol o ganlyniad i gost uchel
cludiant i’r canolfannau. Nodwyd er bod hon yn broblem sydd i’w gweld mewn
nifer o ardaloedd gwledig fod yr un darlun i’w gweld mewn ysgolion trefol yn
ogystal, yn benodol mewn ardaloedd difreintiedig. Gofynnwyd am ddadansoddiad
ystadegau nofio i weld maint y broblem. Wrth drafod nofio gofynnwyd yn ogystal
am ddadansoddiad o ddefnyddwyr canolfannau hamdden Byw’n Iach er mwyn gweld beth
yw’r patrymau o ran pa ardaloedd sydd yn defnyddio’r cyfleusterau ac ym mha
ardaloedd. Cytunwyd i rannu’r wybodaeth a’r aelodau.
Holwyd am ddatblygiadau TWF Gogledd Cymru, gan ei
fod yn ymddangos nad oedd cynnydd. Eglurodd yr adran fod nifer o bethau yn
digwydd ond fod newidiadau wedi bod i amryw o gynlluniau o ganlyniad i nifer o
resymau. O ran cynlluniau Gwynedd nodwyd fod cynllun Trawsfynydd a gyflwynwyd
gan gwmni Egino yn ôl yn 2019 bellach wedi ei dynnu yn ôl gan nad oedd y safle
yn un oedd wedi ei ffafrio gan Lywodraeth Cymru i ddatblygiadau niwclear
pellach. Er i'r Arweinydd ymgeisio i ddargyfeirio’r arian i gynllun amgen, penderfynwyd
na fuasai modd i unrhyw gynllun sy’n cael ei dynnu yn ôl i wneud hyn a gosodwyd
egwyddor bod rhaid gwneud cais o’r newydd. O ganlyniad, nodwyd fod cais newydd
i ddatblygu Parc Gwyddoniaeth ar y safle ar fin cael ei gyflwyno.
Cais arall oedd i’w gweld yng Ngwynedd yn rhan o’r
cynllun TWF oedd cais Glynllifon i ddatblygu Canolfan Arloesi Gwledig. Gan ei
bod yn gynllun mor fawr roedd angen cais cynllunio ar gyfer mynedfa newydd. O
ganlyniad i’r cais yn cael ei wrthwynebu gan sefydliadau statudol, nodwyd fod
Coleg Llandrillo Menai hefyd yn edrych i gyflwyno cynllun arall.
Er nad yw’r ddau gynllun uchod yn symud yn ei blaen
pwysleisiwyd fod dau gynllun yn symud yn ei flaen ym Mharc Glan Cegin ym Mangor
ynghyd a chynllun gan Brifysgol Bangor. Mynegwyd fod cynlluniau yn datblygu a
bod yr adran yn hyderus y bydd budd i Wynedd o fod yn rhan o’r cynllun.
Cydnabuwyd fod y cynlluniau yn symud yn arafach na ragwelwyd pan arwyddwyd y
cytundeb.
Nodwyd siomedigaeth fod cynlluniau yn symud yn eu
blaen mor araf, a mynegwyd yr awydd i’r Pwyllgor edrych yn fanylach ar y mater
gan edrych yn benodol ar ei gost a beth yw’r budd i Wynedd.
Mynegodd un aelod nad oedd yn ymwybodol o’r
cynlluniau yn Nhrawsfynydd a chytunodd yr adran i anfon y cynlluniau gwreiddio
ymlaen iddynt gan nodi eu bod wedi dyddio bellach a phwysleisiwyd nad oedd
Gwynedd yn rhan o’r cynlluniau gwreiddiol.
Amlygodd un aelod nad oedd cynlluniau TWF i’w gweld
yn Ne'r Sir ble mae gwir angen am swyddi a datblygiadau.
Tynnwyd sylw at waith da sydd yn cael ei wneud gan
Gynllun Creu’r Amgylchiadau Gorau Posib yng Ngwynedd i Fusnesau a Mentrau
Cymunedol Ffynnu, a Chefnogi Pobl Gwynedd mewn i waith, gyda 184 wedi eu
cefnogi i ddychwelyd i waith eleni a 232 wedi derbyn help i gynyddu eu gallu i
ennill cyflog da. Gofynnwyd a oes ffigyrau ar gyfer y blynyddoedd blaenorol i
weld y ffigyrau yn eu cyd-destun. Eglurodd yr adran fod y tîm yn gwneud gwaith
arbennig o dda, ond eu bod yn llwyr ddibynnol ar grant a bod y sefyllfa ariannol
yn un fregus. Mynegwyd fod ffigyrau ar gael a byddant yn cael ei rhannu â’r
pwyllgor.
Holodd y Pwyllgor am gydweithio rhwng adrannau, a
faint o drafod sydd yn cael ei wneud gydag adrannau megis Addysg o ran gwersi
nofio, cyllid gydag effaith trothwy gosod am 184 o ddyddiau ar fusnesau bychan
a thai gwyliau, yn ogystal yr adran amgylchedd gyda man welliannau i isadeiledd
Gwynedd o ran ei wneud yn lle deniadol e.e. meysydd parcio a phalmentydd.
Eglurodd yr adran fod cydweithio yn digwydd gan amlygu’r gwaith ynghlwm â’r
Gronfa Ffyniant Cyffredin. Manylwyd bod cyd-weithio agos iawn gyda’r adran Amgylchedd
a Priffyrdd er mwyn adnabod cynlluniau i wella canol trefi, a bod gweithdai
wedi eu cynnal gyda chynrychiolaeth o adrannau’r Cyngor i flaenoriaethu
cynlluniau.
Nodwyd ymdeimlad nad oedd llawer o gydweithio rhwng
yr adran Gynllunio a’r adran o ran datblygiadau cynlluniau twristiaeth gan
amlygu cynllun TWF Glynllifon fel enghraifft. Amlygwyd fod cydweithio agos yn
digwydd gyda swyddogion cynllunio yn aelodau o fyrddau prosiect, megis Cynllun
Llechi, ond fod cais cynllunio ar safle Glynllifon wedi ei wrthod yn dilyn
gwrthwynebiadau gan fudiadau statudol tu hwnt i’r Cyngor ac felly nid diffyg
cydweithio oedd y broblem yn yr achos yma.
Tynnwyd sylw at gyhoeddiad pwyllgor Gŵyl Fwyd
Caernarfon eu bod am gymryd seibiant am flwyddyn yn rhannol oherwydd y pwysau
sydd ar y pwyllgor bach, a gofynnwyd i’r adran am eu cefnogaeth i’w cynorthwyo
i’r dyfodol. Mynegwyd cefnogaeth i gynnal trafodaethau ac i weld os oes mwy
gall yr adran ei wneud.
Amlygwyd fod Llyfrgelloedd bellach yn fwy na lle i
fenthyg llyfrau ac yn hybiau cymunedol. Holwyd gyda Neuadd Dwyfor yn ffynnu,
beth oedd wedi achosi newid mor bositif. Ymatebodd yr adran gan nodi fod
llyfrgelloedd megis Tywyn yn esiampl o beth all llyfrgelloedd eu cynnig a bod
yr adran yn datblygu strategaeth newydd i’r dyfodol a fydd yn ymgorffori’r
agenda cefnogi pobl. O ran Neuadd Dwyfor, nodwyd fod y rhaglen fuddsoddi
sylweddol, ynghyd â bod yn ymatebol i anghenion yr ardal a thîm da wedi arwain
at newid positif. Amlygwyd er bod yr adeilad yn cael ei ddefnyddio llawer mwy
nad yw wedi arwain at gynnydd incwm o ganlyniad i gynnydd mewn costau. Nodwyd
fod llawer o wersi i’w dysgu ond ei fod yn amlygu fod cyd-leoli gwasanaethau yn
holl bwysig.
PENDERFYNWYD
·
Derbyn yr
adroddiad gan nodi’r sylwadau;
·
Bod angen
ystyried craffu budd y Cynllun TWF i Wynedd gan gynnwys y cynllun amgen yn
Nhrawsfynydd
·
Gofyn i’r
Adran Economi a Chymuned ddarparu data treigl tair blynedd o ran niferoedd sydd
wedi derbyn cymorth i ddychwelyd i waith
·
Gofyn i’r
Adran wneud cais i Gwmni Byw’n Iach am ddata defnyddwyr;
· Gwneud cais i’r adran edrych am gyllid a chefnogaeth ehangach
i Ŵyl Fwyd Caernarfon ac i ddangos yn gliriach yn yr adroddiad fod cyllid
i fentrau cymdeithasol.
Dogfennau ategol: