Agenda item

Adroddiad i’r Pwyllgor Craffu ar berfformiad yr Adran Cyllid.

Penderfyniad:

           Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau 

           Derbyn fod angen llunio Polisi Eithrio o ran Premiwm Treth Cyngor

           Bod angen ystyried os oes rôl i’r Pwyllgor Craffu wrth greu’r polisi

           Gofyn i’r Adran Gyllid rannu data o ran erlyniadau Treth Cyngor gyda’r aelodau.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet gan nodi mai pwrpas yr adroddiad oedd rhoi diweddariad ar y maes. Mynegwyd fod yr adran yn arwain ar 2 flaenoriaeth yng Nghynllun y Cyngor – Rheoli Effaith Toriadau Cyllidol Cenedlaethol a’r Cynllun Digidol. Adroddwyd fod cynnydd i’w weld ar y ddau gynllun.

 

Nodwyd o ran mesurau perfformiad yr holl adran fod 12% yn adrodd yn ambr, sydd yn derbyn sylw pellach fel rhan o’r trafodaethau mesur perfformiad, a 12% yn adrodd yn goch, sy’n destun pryder sydd yn cael ei diweddaru’n rheolaidd gan adolygu os oes angen cyflwyno mesurydd newydd.

 

Tynnwyd sylw at y rhai sy’n mesur yn goch. O ran y Gwasanaeth Incwm amlygwyd fod balans gwerth dyledion amrywiol dros 6 mis yn bron i £2m. Mynegwyd fod adolygiad cynhwysfawr o sefyllfa hen ddyledion ynghyd a phrosesau gweithredu yn parhau.

 

Yn y Gwasanaeth Trethi ble mae’r ddau fesur arall yn adrodd yn goch, nodwyd fod adolygiad Ffordd Gwynedd yn cael ei gynnal i gryfhau trefniadau adennill, gan fod y cyfraddau casglu ar gyfer Treth Cyngor ac Ardrethu Annomestig yn is nag y maent wedi ei bod yn hanesyddol. Eglurwyd fod gostyngiad yn y gyfradd gasglu hefyd yn rhannol oherwydd bod nifer uchel o unedau gwyliau hunan ddarpar nad oedd yn cyrraedd y meini prawf o 182 diwrnod ar gyfer Trethi Busnes wedi trosglwyddo yn ôl i Dreth Cyngor yn ystod ail hanner y flwyddyn ac wedi eu hôl ddyddio ac felly roedd canran uchel yn parhau heb eu talu erbyn diwedd Mawrth 2025.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- 

 

Derbyniwyd nifer o sylwadau am y lleihad mewn casglu treth y cyngor o ganlyniad i nifer o dai yn newid i fod yn unedau gwyliau gan dalu trethi annomestig ac effaith peidio cyrraedd y trothwy nifer o ddyddiau gosod llety gwyliau dan y rheolau newydd. Nododd y Pennaeth Adran fod hwn o ganlyniad i benderfyniadau gan Swyddfa’r Prisiwr Dosbarth a oedd wedi ei ôl ddyddio ac wedi ei gyflwyno yn hwyr yn y flwyddyn ariannol. Nodwyd fod diffyg cyfathrebu wedi bod  gan olygu biliau anferthol i unigolion o ganlyniad i’r premiwm a bod yr adran yn ymwybodol o’r poen meddwl roedd hyn wedi ei greu.

 

Nodwyd yr angen gan Aelodau’r Pwyllgor am Bolisi Eithrio gan fod hyn yn effeithio nifer o drigolion a mudiadau o fewn y sir sy’n amlygu sefyllfa annheg. Mynegwyd fod angen ei greu er mwyn miniogi’r eithrio er mwyn rhoi lefel o degwch ac i fod efo lefel o hyblygrwydd yn y biliau trethi sydd yn cael eu hanfon allan. Ymatebodd yr adran gan nodi ei bod yn sefyllfa gymhleth iawn ond fod yr adran yn gweithio i gyflwyno polisi a chanllaw yn yr Hydref, ond fod casglu trethi yn holl bwysig i ariannu gwasanaethau. Eglurwyd fod yr adran angen fod yn ofalus gan y bydd modd i unigolion ei ddefnyddio fel dihangfa i beidio talu treth. Nodwyd heb bolisi eithrio fod y drefn yn un anhyblyg. Gofynnwyd i unrhyw bolisi gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor i’w drafod.

 

Wrth drafod yr un maes nodwyd fod angen i’r adrannau fod yn trafod yn well gyda’i gilydd gan fod yr adran gynllunio yn rhoi caniatâd cynllunio i safleoedd gwersylla o bob math, fod yr adran gyllid yn anfon biliau allan i unigolion a bod yr adran economi yn ceisio datblygu twristiaeth gynaliadwy. Nodwyd yr angen i’r adrannau fod yn trafod gyda’i gilydd ymhellach.

 

Gofynnwyd am wybodaeth bellach am faint o unigolion a oedd yn y bandiau treth isaf sydd yn cael problemau talu, a faint sydd yn mynd i’r llys am fethu a thalu. Mewn ymateb, nodwyd y byddai’r wybodaeth yn cael ei rannu gyda’r Pwyllgor. Nodwyd fod trefniadau penodol mewn lle a bod cymorth ar gael ond fod yn rhaid i unigolion ofyn am y cymorth hwn.

 

Holwyd o ran y Cynllun Digidol, pa mor ffyddiog oedd yr adran y bydd system cyflogau newydd y Cyngor yn ei le pan fydd yr hen system yn dod i ben ddiwedd 2026. Ymatebodd yr adran drwy nodi nad oes dewis ac y bydd yn rhaid iddo fod yn ei le a bod camau wedi ei wneud i sicrhau fod y cynllun yn symud yn ei flaen megis dechrau’r elfen caffael ynghyd â derbyn cymeradwyaeth y Cabinet i gael arian un tro i’w ariannu.

 

PENDERFYNWYD

·       Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau

·       Derbyn fod angen llunio Polisi Eithrio o ran Premiwm Treth Cyngor

·       Bod angen ystyried os oes rôl i’r Pwyllgor Craffu wrth greu’r polisi

·       Gofyn i’r Adran Gyllid rannu data o ran erlyniadau Treth Cyngor gyda’r aelodau.

 

Dogfennau ategol: