Adroddiad i’r Pwyllgor Craffu ar berfformiad yr Adrannau Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfreithiol.
Penderfyniad:
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet gan nodi ei bod am ddechrau
gyda Gwasanaethau Corfforaethol. Mynegwyd ei bod yn braf dweud fod cynnydd
sylweddol wedi ei wneud yn y blaenoriaethau strategol y Cyngor, a bod nifer o
lwyddiannau i’w gweld yn y perfformiadau meintiol. Nodwyd fod rhai heriau yn
parhau mewn meysydd megis iechyd galwedigaethol, salwch staff a chytundebu yn
brydlon.
Amlygwyd cynnydd yn y maes caffael gyda chynnydd o 1% yn nefnydd y
Cyngor o gwmnïau lleol sydd yn dod a’r ganran i 59%. Nodwyd gwaith sydd wedi ei
wneud yn y maes cyflogaeth, ond amlygwyd fod y matrics swyddi bellach i’w
gwblhau yn 2025/26, ond amlygwyd fod fframwaith hyfforddi staff cyffredinol
bellach ar waith.
Yn y maes cydraddoldeb nodwyd fod fforwm cydraddoldeb staff wedi ei
sefydlu a bod gwaith yn cael ei wneud i wefan y Cyngor er mwyn sicrhau ei fod
yn hygyrch. Amlygwyd bellach fod hyfforddiant awtistiaeth a niwroamrwyiaeth
ar gael i staff.
Amlygwyd cynnydd yng nghynllun Merched mewn Arweinyddiaeth gyda 45% o’r
unigolion bellach wedi symud i swyddi uwch, a nodwyd fod y rhaglen ddatblygu a
sgyrsiau dros baned yn parhau ynghyd â brand newydd i’r prosiect wedi ei
lansio.
Aethpwyd ymlaen i drafod y Gwasanaeth Cyfreithiol gan amlygu fod 4 tîm -
Cyfreithiol, priodoldeb etholiadau a chofrestru a chefnogaeth i’r gwasanaeth
crwner. Amlygwyd fod y swyddogion sy’n derbyn gwasanaeth yn fodlon neu yn
fodlon iawn gyda’r gwasanaeth a bod adborth blynyddol gan benaethiaid yn adrodd
canlyniadau cadarnhaol. Eglurwyd fod sefyllfa staffio’r adran bellach yn iach
ac nad oedd locums yn cael eu defnyddio bellach.
Tynnwyd sylw fod y tîm priodoldeb yn cynnal hyfforddiant ar y cod
ymddygiad i aelodau, a bod nifer o aelodau yn parhau heb ei gwblhau sy’n fater
sy’n codi yn codi yn gyson yn y Pwyllgor Safonau.
Diolchwyd i staff y ddwy adran am eu gwaith.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-
Amlygwyd fod nifer o brosiectau yn llithro o eleni i’r flwyddyn ganlynol
a gofynnwyd a oedd hyn o ganlyniad i ddiffyg staff i gwblhau’r gwaith. Atebwyd
gan nodi nad diffyg staff oedd y broblem ond fod llwyth gwaith yn gallu bod yn
drwm ac o ganlyniad ei bod yn anodd eu cwblhau heb fod effaith ar waith dydd i
ddydd. Amlygwyd y matrics swyddi allweddol fel enghraifft gan nodi fod nifer o
gymhlethdodau wedi codi, ond bod gwaith ar y cynllun wedi ail gychwyn gyda capasiti staff uwch yn ei le i orffen y gwaith.
Mynegwyd fod nifer o fesuryddion yn cael ei hamlygu yn goch, gofynnwyd a
yw hyn yn codi pryder. Atebwyd gan nodi fod nifer yn goch o ganlyniad i her
uchel mae’r adran yn ei roi o ran mesuryddion. Er hyn nodwyd fod rhai pryderon
megis y gwasanaeth iechyd galwedigaethol ble mae cynnydd yn nifer y cyfeiriadau
ynghyd â phrinder nyrsys yn golygu fod y mesur yn goch.
Tynnwyd sylw at faes blaenoriaeth ’Gwynedd Effeithiol’ sydd yn
ymgorffori llawer o Ffordd Gwynedd, a nodwyd llawer o rwystredigaeth gyda
Ffordd Gwynedd. Amlygwyd fod nifer o enghreifftiau o adrannau yn parhau i
beidio ymateb i ymholiadau gan aelodau a’r cyhoedd sydd yn rhwystredig tu hwnt.
Gofynnwyd a oedd Ffordd Gwynedd yn gweithio gan fod llawer o arian yn cael ei
roi tuag ato, ac os oedd rhai Penaethiaid Adran ddim yn gweithredu yn unol â
‘Ffordd Gwynedd’ sut mae disgwyl i staff wneud. Atebwyd gan nodi fod cyfraniad
Ffordd Gwynedd yn llwyr ddibynnol ar gydweithrediad adrannau. Nodwyd o ran
diffyg ymateb i ohebiaeth, fod cynllun Gofal Cwsmer Newydd wedi ei ddatblygu a
fydd yn gosod safonau i ymateb i ymholiadau. Mynegwyd dealltwriaeth o’r
rhwystredigaeth a’r angen i dracio ymhellach.
Cyfeiriwyd at faes blaenoriaeth ’Gwynedd Gymraeg’ a phrosiect hybu’r
defnydd o’r Gymraeg. Nodwyd bod rhaglen waith dwy flynedd mewn lle. Holwyd beth
sydd wedi ei wneud ac oes mesuryddion. Nodwyd fod adroddiad penodol ar y mater
yn mynd i’r Pwyllgor Iaith wythnos nesaf, ac eglurwyd gydag thîm bach iawn
bellach fod galwadau yn drwm ond eu bod yn ceisio gweithio mewn ffyrdd
gwahanol.
Tynnwyd sylw at geisiadau rhyddid gwybodaeth, gan amlygu fod y
perfformiad ychydig yn is a gofynnwyd a oedd meysydd penodol neu batrwm.
Eglurodd y Pennaeth Adran fod y Cyngor yn derbyn oddeutu 1000 o geisiadau'r
flwyddyn sy’n amrywio yn eu natur. Amlygwyd fod y maes hwn wedi bod yn destun
ymchwiliad gan reoleiddwyr allanol a bod adroddiad yn mynd i’r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio bydd yn amlygu’r 20 argymhelliad i’w cyfarch a’r
rhaglen waith mewn ymateb. Nodwyd fod cynnydd ond bod angen hyfforddi staff i
ddelio a nhw yn well ynghyd a chyhoeddi mwy o wybodaeth fel bod y wybodaeth ar
gael i’r cyhoedd.
Amlygwyd fod gwaith da iawn yn cael ei wneud yn y Tim Democratiaeth gyda
dogfennau yn cael eu hanfon yn amserol.
Nodwyd o ran holiaduron gan yr adrannau yn y Gwasanaeth Cyfreithiol, mai
dim ond un rhan o dair o’r penaethiaid sydd wedi ymateb. Holwyd am y partïon
eraill megis unigolion sydd yn disgwyl am gytundebau 106 yn deillio o amodau
caniatâd cynllunio. Nodwyd fod boddlonrwydd adrannau yn dangos y gefnogaeth
maent yn ei dderbyn i gyflawni eu gwaith, ac felly ei fod yn amlygu adnodd
pwysig. O ran yr un rhan o dair yn ymateb nodwyd yr angen i ofyn i benaethiaid
ymateb i’r holiadur blynyddol. Nodwyd o ran y partïon eraill ei bod yn anodd
mynd atynt i gael ei barn a pa mor briodol fuasai gwneud.
Gofynnwyd faint o waith sy’n cael ei allanoli a faint sy’n cael ei gadw yn
lleol. Nodwyd fod yr adran yn ceisio peidio allanoli ond ei fod yn ddibynnol ar
natur a risg y gwaith. Amlygwyd eu bod yn defnyddio bargyfreithwyr ynghyd a
chyfreithwyr mewn meysydd arbenigol, ond eu bod yn ceisio cadw’r budd yn lleol.
Tynnwyd sylw at erlyniadau yn benodol rhai am ddiffyg presenoldeb plant
mewn ysgol, gofynnwyd a oes mwy o wybodaeth, os oes cynnydd yn y nifer ac oes
costau yn cael eu trosglwyddo i rieni. Eglurwyd y buasai gwell ateb gan yr
adran Addysg a bod angen edrych ar y data a gweithio gyda’r adran i roi darlun
llawn o’r broses. O ran costau cael eu trosglwyddo – mater i’r Llys oedd
dyfarnu costau nid yw hyn yn nwylo’r Cyngor.
Gofynnwyd am fwy o wybodaeth am y peilot cofrestru etholwyr yn awtomatig
sydd yn cael ei gynnal ar hyn o bryd. Nodwyd fod y cynllun ar gyfer Gwynedd
gyfan, a bod y Cyngor yn un o 5 sir yn rhan o’r peilot. Mynegwyd fod Gwynedd yn
edrych yn benodol ar grwpiau anodd eu cyrraedd ac yn gweithio gyda mudiadau fel
GISDA i gefnogi’r Cyngor i symud y cynllun yn ei flaen.
PENDERFYNWYD
·
Derbyn
yr adroddiad gan nodi’r sylwadau
·
Croesawu
bod rhaglen waith manwl yn cael ei llunio er mwyn mynd i’r afael ag
argymhellion Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn dilyn archwiliad o
drefniadau’r Cyngor o ran ceisiadau rhyddid gwybodaeth
·
Bod
y Pwyllgor yn derbyn diweddariad am y Cynllun Gofal Cwsmer fel mae’n datblygu
·
Bod
angen annog Penaethiaid Adran i ymateb i’r holiadur blynyddol gan y Gwasanaeth
Cyfreithiol
·
Gofyn
bod y Pwyllgor Craffu yn derbyn gwybodaeth am erlyniadau yn ymwneud ag
absenoldebau disgyblion.
Dogfennau ategol: