Cyflwyno argymhellion y Grŵp Tasg a Gorffen o ran geiriad y polisi drafft.
Penderfyniad:
• Nodi allbwn gwaith y Grŵp Tasg a
Gorffen ond nid oedd consensws ar yr holl addasiadau a argymhellwyd;
• Gofyn i’r Aelod Cabinet Addysg ystyried yr ystod o sylwadau a gyflwynwyd gan yr Aelodau Craffu wrth lunio’r polisi terfynol.
Cofnod:
Yn dilyn trafodaeth ar Bolisi Iaith Addysg Drafft
yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 10 Ebrill 2025, penderfynwyd ffurfio grŵp
tasg a gorffen i drafod geiriad y polisi drafft.
Bu i’r Cynghorydd Rhys Tudur, Cadeirydd y Grŵp
Tasg a Gorffen gyflwyno’r newidiadau a argymhellwyd gan y Grŵp Tasg a
Gorffen. Nodwyd bod nifer o’r argymhellion yn tynhau yn eiriol i finiogi’r
polisi ond fod rhai yn fwy arwyddocaol.
Roedd y prif bwyntiau fel a
ganlyn:
1. Mynegwyd
yr angen i nodi mai’r ysgol sydd i ddewis pa bynciau trawsgwricwlaidd sy’n cael
ei ddysgu yn Saesneg. Nodwyd y byddai hyn yn ei wneud yn fwy clir.
2. Dylid
nodi yn y polisi fod gweithgareddau allgyrsiol yn cael eu cynnal drwy’r Gymraeg
os oedd adnodd ar gael.
3. Argymhellwyd
i ddefnyddio diffiniad o Ysgol Gymraeg sydd yn Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)
2025 yn hytrach na beth sydd wedi ei nodi yn y canllawiau statudol presennol, a
drwy hyn bod yn rhagweithiol drwy gydymffurfio a’r ddeddf newydd.
4.
Nodwyd y dylai’r polisi fynegi canran darpariaeth Gymraeg yr holl
ddisgyblion.
5.
Amlygwyd yr angen i ysgolion fod yn manylu ar beth fydd eu cynlluniau
cynnydd.
6. A
holwyd beth fydd disgwyliad y polisi gydag Ysgol Uwchradd Tywyn ac Ysgol Friars, gan eu bod yn gweithredu i raddau fel ysgolion
Saesneg - holwyd os bydd polisi gwahanol neu driniaeth wahanol, gan y bydd yr
amcanion yn rhai sirol.
Mynegwyd fod sylwadau wedi ei derbyn gan yr Adran
Addysg mewn ymateb i’r newidiadau a argymhellwyd, ond eu bod wedi amlygu heriau
ac nid ymatebion i’r argymhellion.
Derbyniwyd sylwadau pellach gan aelodau’r Grŵp
Tasg a Gorffen gan fynegi eu siom yn ymatebion yr adran yn benodol gyda newid
geiriad i ddiffiniad yn y Bil Addysg yn hytrach ‘na’r canllawiau gan y byddai’n
Ddeddf yn dilyn derbyn cydsyniad Brenhinol, mynegwyd yr angen i symud ymlaen i
gydymffurfio a’r ddeddf.
Mynegwyd yn ogystal fod y Grŵp Tasg a Gorffen
o’r farn fod angen i’r polisi fod yn gryf a gydag elfen o ddeheuad yn arbennig
wrth edrych ar y shifft iaith sydd o fewn y sir. Nodwyd fod y grŵp wedi
ymgeisio i dynhau’r polisi drafft.
Bu i’r adran gael cyfle i ymateb, a mynegodd y
Swyddog Monitro o ran y ddeddf, ei bod ar y ffordd am gydsyniad Brenhinol ond
nad yw mewn grym ar hyn o bryd. Ychwanegodd y bydd amserlen gan y Llywodraeth i
elfennau ddod i rym a bydd yn oddeutu 4-5 mlynedd cyn y bydd hyn yn digwydd.
Eglurwyd y bydd cyfnod trosiannol tra bydd trefn statudol y ddeddf yn cael ei
roi mewn lle.
Ychwanegodd y Pennaeth Addysg fod yr adran o’r farn
bod y polisi drafft yn dangos ymrwymiad i’r Gymraeg a’r angen i gynyddu
niferoedd siaradwyr Cymraeg. Mynegwyd yr angen i ddod a phobl gyda nhw, wrth
roi polisïau a gweithdrefnau yn eu lle. Amlygwyd fod yr adran yn dangos
cyfeiriad i’r ysgolion ond ar ddiwedd y dydd penderfyniad y Cyrff Llywodraethol
oedd mabwysiadu’r Polisi. Nodwyd fod ymgynghoriadau wedi bod wrth greu'r polisi
drafft a bod Meirion Prys Jones wedi bod yn allweddol wrth eirio’r polisi. Diolchwyd
i’r grŵp tasg am eu gwaith gan nodi fod rhai newidiadau y gellir ei
ymgorffori, tra bod eraill am wneud y polisi yn anodd i’w weithredu ledled y
Sir. Nodwyd yr angen i fod yn ofalus gyda’r elfen ddwyieithrwydd, gan fod angen
y balans o bolisi llwyddiannus ond fod plant yn hapus a hyderus ac yn medru’r
Saesneg yn ogystal.
Rhoddwyd cyfle i Meirion Prys Jones, a gynorthwyodd
yr Adran fel ymgynghorydd allanol i eirio’r polisi drafft, i gyfrannu i’r
drafodaeth. Mynegodd wrth lunio polisi fod angen delio a seicoleg gan fod angen
meddwl sut mae rheoli materion sydd yn ymwneud ac emosiwn ieithyddol.
Pwysleisiwyd fod llwyddiant newid pethau yn ddibynnol ar gario pobl gyda chi,
gan nad oes modd deddfu iaith i fodolaeth. Eglurwyd pan yn son
am shifft iaith, bod angen cynllunio gofalus dros gyfnod hir o amser.
Ychwanegwyd fod geiriad y polisi drafft yn annog, yn rhoi arweiniad ac yn glir
fod elfen o ddewis hefyd, gan fod elfen o ddewis yn dod a phobl efo chi. Nodwyd
fod lle i dynhau mewn rhai elfennau ond ei fod yn bwysig cadw mewn cof tôn y
polisi ac felly fod angen defnyddio geiriau yn ofalus.
Yn ystod y drafodaeth penderfynwyd trafod y
newidiadau a argymhellwyd gan y Grŵp Tasg a Gorffen fesul pennawd. Nodwyd
sylwadau gan Aelodau’r Pwyllgor fel a ganlyn:-
Amlygwyd fod y cyfeiriad at y Saesneg wedi ei dynnu
o’r geiriad yn yr amcanion o dan yr ail bennawd. Esboniwyd fod tynnu’r
cyfeiriad yn gallu bod yn broblemus gan fod angen sicrhau fod pobl ifanc yn
hyderus a gydag iaith graenus yn Gymraeg a Saesneg. Mynegwyd fod cael hyder i
siarad Saesneg ddim yn golygu na fydd hyder gan y bobl ifanc i siarad Cymraeg.
Pwysleisiwyd yr angen i gyfarch deheuad pobl ifanc i gyrraedd eu potensial yn y
ddwy iaith.
Wrth drafod yr amcanion ymhellach, nodwyd wrth
drafod hwyrddyfodiad yn mynychu canolfannau trochi, bod yr argymhelliad i newid
y geiriad yn rhoi awgrym o orfodaeth. Mynegwyd fod angen i bwysleisio anogaeth,
ond ddim yn siŵr sut fydd modd gorfodi. Atebodd yr adran gan nodi fod
angen efallai rhoi mwy o gig ar yr asgwrn wrth amlygu sut mae modd i’r adran
annog teuluoedd i’w plant fynychu canolfannau trochi.
Nodwyd er bod yr amcanion yn cyfeirio at siarad
Cymraeg, bod angen cynnwys ysgrifennu yn ogystal gan mai fel hyn mae mwyafrif o
asesu yn cael ei wneud.
Pwysleisiwyd sylwadau Meirion Prys Jones fod tôn yn
holl bwysig ynghyd a seicoleg. Nodwyd yr angen i’r polisi iaith addysg ddod a
rhieni efo nhw, gan adlewyrchu barn ysgolion a denu ysgolion i fabwysiadu’r
polisi.
Nododd aelodau’r Grŵp yr argymhellwyd tynnu
dwyieithrwydd gan fod yr adran wedi nodi mai addysg Gymraeg sydd yng Ngwynedd.
Amlygwyd nad yw’r adran wedi ymateb i sut y byddent yn delio ac ysgolion sydd
yn fwy dwyieithog, ac felly fod angen amlygu dyheadau'r adran.
Wrth drafod y pennawd Ysgolion Uwchradd, nododd
Aelodau’r Grŵp, yn dechnegol ni ellir gorfodi plant i fynychu’r
canolfannau trochi ond bod angen mwy nag anogaeth. Mynegwyd fod angen mynd yn
groes i sylwadau swyddogion a chyflwyno polisi sydd rhwng anogaeth a gorfodi.
Mynegwyd o bosib fod angen polisi eithrio ar gyfer
dwy ysgol uwchradd o fewn y sir gan eu bod yn gweithio fwy fel ysgolion
Saesneg. Pwysleisiwyd fod y polisi iaith addysg yn un sirol, ac felly nad oedd
yn briodol cyfeirio at ysgolion yn benodol, ac addasu ar eu cyfer hwy yn unig.
Wrth edrych ar bennawd Anghenion Dysgu Ychwanegol
(ADY) yn y polisi diwygiedig, nodwyd fod hepgor cyfeiriadau at y Ddeddf ADY a’r
Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn creu pryderon. Mynegwyd fod angen cymryd y
ddeddf ADY i ystyriaeth a'i fod yn greiddiol i’r polisi.
Ychwanegwyd fod efallai angen ymchwil pellach i
iaith ag ADY, gan fod arbenigwyr yn aml yn annog teuluoedd i siarad Saesneg
gyda phlant ag anghenion dysgu. Mynegwyd angen i edrych i weld os oes
tystiolaeth yn gwrthddweud hyn. Nododd yr adran ei fod yn gynllun posib i’w
wneud gyda’r Brifysgol yn y dyfodol.
Esboniodd aelodau’r Grŵp fod y ddeddf wedi ei
hepgor gan nad oedd manylder o beth oedd y ddeddf yn ei ddweud, ac felly bod
angen mwy o fanylion. Nododd y Swyddog Monitro fod y paragraff yn cydnabod y
dyletswydd i gydymffurfio gyda’r ddeddf ac felly yn angenrheidiol i’r
polisi.
Cafwyd trafodaeth am eiriad penderfyniad y
Pwyllgor.
PENDERFYNWYD
·
Nodi allbwn gwaith y Grŵp Tasg a Gorffen ond nid oedd consensws ar
yr holl addasiadau a argymhellwyd;
·
Gofyn i’r Aelod Cabinet Addysg ystyried yr
ystod o sylwadau a gyflwynwyd gan yr Aelodau Craffu wrth lunio’r polisi
terfynol.
Dogfennau ategol: