Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Nia Jeffreys

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr adroddiad.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod Ffordd Gwynedd yn un o’r blaenoriaethau sydd i’w gweld yng Nghynllun y Cyngor. Mynegwyd fod yr adroddiad blynyddol yn adrodd ar gynnydd yn y cynllun, ac i godi ymwybyddiaeth o’r datblygiadau sydd i’w gweld yn y naw ffrwd gwaith.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod Ffordd Gwynedd yn ffordd o weithio, yn feddylfryd, amgylchedd gweithio a diwylliant i gyflawni a herio perfformiad. Mynegwyd fod adroddiad blynyddol wedi ei gynnwys yn y Cynllun Ffordd Gwynedd er mwyn mesur cynnydd, ag eglurwyd mai dyma’r ail i gael ei gyflwyno.

 

Esboniwyd fod y mesuryddion ym mhob gwasanaeth yn dangos arwydd clir o lefel y llwyddiant o roi pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth maent yn ei wneud. Nodwyd fod yr adroddiad hwn yn ychwanegu sicrwydd fod y sylfaen a chefnogaeth yn cael ei roi i roi'r gwasanaeth gorau i bobl Gwynedd. Amlygwyd fod rhai man newidiadau i’r drefn llywodraethu ynghyd a chynnig y prif lwyddiannau a oedd yn cynnwys dyfodiad rhaglen ddatblygu rheolwyr, fframwaith dysgu a datblygu newydd ynghyd â hyfforddiant Ffordd Gwynedd ar ei newydd wedd.

 

Pwysleisiwyd ei bod yn allweddol fod staff yn clywed am ymrwymiad arweinyddiaeth y Cyngor - yn Aelodau ac Uwch Swyddogion - i’r ffordd yma o weithio. Nodwyd fod parhad cynllun Prentisiaethau, Cynllun Yfory, Siarter a Safonau Cynllun Gofal Cwsmer yn gamau pwysig er mwyn gwireddu’r weledigaeth i sicrhau’r gwasanaeth gorau i bobl Gwynedd.

 

Er hyn, nodwyd nad yw’r diwylliant Ffordd Gwynedd ddim wedi gwreiddio ym mhob man a bod anghysondeb i’w gweld dros y Cyngor. Mynegwyd fod hyn yn flaenoriaeth dros y cyfnod nesaf. Amlygwyd fod llawer o ganmoliaeth wedi ei nodi yn y gyfres ddiweddaraf o’r Pwyllgorau Craffu ond fod beirniadaeth am y methiant i ateb ymholiadau yn rhai gwasanaethau yn amserol. Mynegwyd yn ogystal fod angen edrych ymhellach ar y gweithlu yn y tymor hir i sicrhau lefel o staff. Ond nodwyd ei fod yn grediniol fod ymrwymiad i Ffordd Gwynedd a’i ddiwylliant gwaith i’w weld am y tymor hir.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

 

·       Cymerwyd y cyfle i ddiolch i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol am dros 40 mlynedd o wasanaeth i’r Cyngor cyn ei ymddeoliad.

·       Holwyd o ran y pocedi o wasanaethau sydd heb fabwysiadu Ffordd Gwynedd, holwyd os oedd y tîm Arweinyddiaeth wedi ymrwymo i’r ffordd yma o weithio a gofynnwyd a oedd yn hyderus fod y gwaith am barhau. Mynegodd y Cyfarwydd ei fod yn gwbl hyderus fod arweinyddiaeth y Cyngor yn ymrwymedig ond nad yw hyn bob tro yn golygu ei fod wedi ei wreiddio ym mhob man.

·       Mynegwyd fod llawer o sôn am rwystredigaeth ond ei fod yn symud ymlaen i’r cyfeiriad cywir, ond holwyd beth oedd yr heriau mwyaf a’r camau sydd angen ei wneud dros dair blynedd olaf y cynllun. Nodwyd mai trosglwyddo’r sylfaeni cadarn i weithrediad cyson yw’r flaenoriaeth.

·       Amlygwyd llithriad mewn dwy ffrwd gwaith - o ran denu staff a dilyniant i swyddi allweddol, a gofynnwyd oes camau pendant i symud y cynlluniau yn eu blaen. Nodwyd fod llithriad oherwydd bod y pwyslais wedi bod ar lwyddiant cynlluniau megis Cynllun Yfory a Phrentisiaethau ac felly fod cynllunio gweithlu heb gael cymaint o sylw. Mynegwyd fod camau wedi ei wneud ers cyfnod yr adroddiad hwn a grŵp o swyddogion wedi ei sefydlu i symud y cynlluniau yn ei blaen.

·       Pwysleisiwyd fod yr adroddiad yn un sy’n darllen yn wych, ond fod angen ei rannu ymhellach i sicrhau fod pob aelod o staff yn ei dderbyn ar bob lefel. Nodwyd ei bod yn anodd cael y dogfennau i bawb ond fod camau wedi ei wneud drwy ei rannu yn y Rhwydwaith Rheolwyr ac Arweinyddion Tîm ond fod angen meddwl am ffyrdd newydd o rannu gwybodaeth er mwyn esblygu Ffordd Gwynedd ymhellach.

 

Awdur:Geraint Owen, Cyfarwyddwr Corfforaethol

Dogfennau ategol: