Cyflwynwyd gan:Cyng. Menna Trenholme
Penderfyniad:
Derbyniwyd yr adroddiad yn adrodd ar waith y Panel.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Menna Trenholme.
PENDERFYNIAD
Derbyniwyd yr adroddiad yn adrodd ar waith y Panel.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn amlygu sut mae’r
Cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau diogelu statudol. Mynegwyd drwy’r panel ac
archwiliadau allanol ei fod yn sicrhau fod trefniadau diogelu yn gadarn ar
draws y Cyngor. Amlygwyd fod cynnydd sylweddol mewn cyfeiriadau i’r adran Blant
gan nodi fod yr achosion yn fwy cymhleth nac erioed, a nodwyd fod digwyddiad
difrifol yn Ysgol Friars. Mynegwyd fod cyfeiriadau yn
y maes Oedolion wedi gweld cynnydd graddol yn ogystal, ac eto fod yr achosion
yn fwy cymhleth. Eglurwyd fod sefyllfa DOLs yn parhau
yn heriol ond fod buddsoddiad ac adnoddau ychwanegol ar waith.
Nodwyd yn ystod y flwyddyn fod camau wedi ei wneud i gryfhau
diogelwch mewn ysgolion, gyda’r mwyafrif o ysgolion yn cydymffurfio gyda
chanrannau uchel wedi mynychu’r hyfforddiant i staff a llywodraethwyr. Mynegwyd
fod cynnydd o 30% yn nifer y plant sy’n derbyn hyfforddiant adref, ond fod
cyswllt cyson gyda mwyafrif o’r teuluoedd.
Eglurwyd fod y Cyngor yn parhau i fod codi ymwybyddiaeth o’r
maes Trais yn y Cartref, a'u bod yn gweithio yn rhagweithiol drwy hyfforddiant,
partneriaethau aml-asiantaeth ac adolygiadau achos. Nodwyd cynnydd mewn nifer
achosion stelcian ac aflonyddu, ond ei fod wedi
arwain at gyd-weithio gyda’r Heddlu i ddatblygu proffil i ddysgu yn well.
Mynegwyd lleihad mewn ymddygiadau gwrthgymdeithasol, ond amlygwyd fod pryder
mewn caethwasiaeth fodern yn parhau.
Amlygwyd blaenoriaethau'r flwyddyn i ddod fel nodwyd isod
·
Deall a dysgu gwersi ddaw o Adolygiadau Ymarfer
a edrydd yn ystod y flwyddyn.
·
Adolygiadau Ymarfer a gyhoeddir yn ystod y
flwyddyn ar waith.
·
Cwblhau archwiliad mewnol ar ymwybyddiaeth a
dealltwriaeth gweithlu’r Cyngor o systemau diogelu a sut mae cyfeirio.
·
Sicrhau bod gweithlu’r Cyngor wedi cwblhau’r
cyrsiau hyfforddiant mandadol a statudol ym maes diogelu.
·
Hyrwyddo’r Polisi Diogelu diwygiedig ymysg holl
staff y Cyngor.
·
Sicrhau bod y Personau Dynodedig yn deall eu rôl
ac yn ei gymryd o ddifri.
Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod pawb mewn risg i
fod yn fregus gan fod modd i sefyllfaoedd newid dros nos. Amlygwyd egwyddorion
sylfaenol y maes a oedd y cynnwys grymuso unigolion i sicrhau eu bod yn gallu
gwneud penderfyniadau lle yn bosib, diogelu a bod holl staff y Cyngor yn
ymwybodol o’i chyfrifoldeb i sicrhau cymunedau diogel ac atebolrwydd. Mynegwyd
fod yr egwyddor o atebolrwydd wedi ei amlygu yn adroddiad cyntaf y Cabinet hwn.
Mynegwyd fod yr adroddiad Amddiffyn Plant yn fwy iawn, a'u
bod yn barod am yr adroddiad ac i ymatebion i unrhyw argymhellion fydd yn dod
ohono.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:
·
Nodwyd fod yr adroddiad yn mynd i fanylder am
ddiogelu Oedolion, ond nad yw’n faes gwaeth cyfarwydd i nifer o bobl, felly
gofynnwyd am ychydig o fanylder. Mynegwyd fod cefnogaeth ar gael i unigolion,
a'u bod yn ymyrryd pan nad oes gan unigolion y capasiti
i wneud penderfyniad er lles eu diogelwch.
Nodwyd yr angen i weld mwy o gyfeiriadau er mwyn sicrhau diogelwch pobl
a bod cymunedau yn ymwybodol o’r heriau sy’n wynebu oedolion bregus.
·
Nodwyd balchder yn gweld sylw haeddiannol i
faterion yn ymwneud a dylanwadau ar-lein, gwrywdod gwenwynig a’r effaith ar
fechgyn a dynion ifanc, ond gofynnwyd a oes cefnogaeth ddigonol i staff.
Mynegwyd fod y Cyngor yn gweithio yn agos gyda’r elusen Men
At Work, sydd yn arbenigo yn y maes.
·
Mynegwyd balchder fod yr adroddiad yn nodi fod
mwy o arian ar gyfer gweithlu gwaith cymdeithasol. Ychwanegwyd fod nifer
cyfeiriadau plant wedi cynyddu yn aruthrol dros y blynyddoedd diwethaf, ac
maent yn falch bod 5 swydd newydd bellach wedi ei llenwi, gan nad oedd lefel y
gwaith ddim yn gynaliadwy. Yn y maes Oedolion, fod gwaith DOLs
yn parhau yn heriol, a bod arian wedi ei dderbyn i fynd i’r afael a’r gwaith,
ond yn anffodus nid oedd modd penodi i’r
swyddi, ac mae’r adran yn edrych ar ffyrdd eraill o leddfu’r bwlch.
·
Codwyd ymwybyddiaeth o waith gwasanaeth
Diogelwch Cymunedol, gan amlygu’r gwaith arbennig mae’r tîm bach yn ei wneud.
Awdur:Dylan Owen, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol
Dogfennau ategol: