Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Nia Jeffreys

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cymerwyd y cyfle, cyn i’r Athro Sally Holland, fel Cadeirydd Annibynnol y Bwrdd roi ei hadroddiad, i gydnabod a diolch i’r dioddefwyr a goroeswyr am eu dewrder gan amlygu mai nhw sydd ar flaen meddyliau’r Bwrdd wrth yrru’r gwaith hwn ymlaen. Nodwyd fod y Cynllun Ymateb wedi ei fabwysiadu yn ôl ym mis Ionawr er mwyn coladu holl gefnogaeth, adolygiadau, archwiliadau a ffrydiau gwaith yn ymwneud â’r ymateb i’r troseddau. Tynnwyd sylw at amcanion y cynllun ymateb a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2025. Yn fuan wedi i’r cynllun gael ei fabwysiadu bu i aelodau annibynnol gael eu penodi i’r Bwrdd a bod yr adroddiad hwn yn adrodd ar gynnydd y gwaith sy’n cael ei wneud ynghyd a’r gwaith sy’n parhau angen ei gwblhau. 

 

Cyflwynodd yr Athro Sally Holland ei adroddiad gan atgoffa’r Cabinet fod y Cynllun Ymateb wedi dod i’r amlwg yn dilyn toriad mewn ymddiriedaeth ac ymddygiad troseddol pennaeth amlwg a gyflogwyd gan Gyngor Gwynedd. Nodwyd fod cam drin o’r natur hwn yn aml yn cynnwys un yn defnyddio ei bŵer dros eraill, ac yn yr achos hwn a oedd yn cynnwys oedran, rhyw a statws. Mynegwyd ei bod yn hanfodol fod y Cyngor yn archwilio ei holl systemau a’i ffordd o weithio i sicrhau ac atal ymddygiad o’r math hwn i ddigwydd eto, a bod diwylliant o fod yn effro a herio yn ei le. Amlygwyd fod newid mewn diwylliant am fod yn llawer yn anoddach i’w mesur na phrosesau a pholisïau.

 

Esboniwyd fod gan y Bwrdd ddwy rôl sef i gynghori ac i graffu ar gynnydd a datblygiadau’r Bwrdd Cynllun Ymateb. Eglurwyd fod y Bwrdd yn cynnwys Uwch Swyddogion, Aelodau Cabinet ac Aelodau Annibynnol. Mynegwyd fod y Cadeirydd yn cyfarfod a’r aelodau annibynnol ar wahân unwaith pob chwarter er mwyn derbyn eu barn. Amlygwyd fod y Bwrdd Ymateb wedi’i ysgrifennu cyn i’r bwrdd gael ei benodi ac yn eu cyfarfod cyntaf eglurwyd fod y Bwrdd wedi adolygu’r dulliau ymateb ynghyd a’r amcanion gan ychwanegu’r amcan pwysig o atebolrwydd, er mwyn bod yn dryloyw a mesur effaith unrhyw newidiadau. Nodwyd o ganlyniad fod mesuriadau ychwanegol wedi’u cynnwys. Mynegwyd y bydd y Bwrdd yno gystal yn tynnu sylw at unrhyw fater Cenedlaethol yn ogystal megis sut mae byrddau llywodraethu cefnogi a hyfforddi.

 

Nodwyd fod cynnydd cyson wedi ei weld ers mis Mawrth, ond fod rhan helaeth o’r rhain am gymryd amser i gael effaith. Pwysleisiwyd ei bod yn hawdd iawn i newid polisïau ond fod newid ffordd o weithio am gymryd amser. Amlygwyd fod gwaith wedi ei wneud i ddechau’r broses o gynnal ymweliadau blynyddol er mwyn monitro diogelu ym mhob ysgol yn y sir a bod cefnogaeth wedi ei roi’i arweinyddiaeth a bwrdd llywodraethu Ysgol Friars.

 

Eglurwyd fod cynnwys y cynllun ei hun wedi ei newid yn dilyn cyngor gan y Bwrdd, a bellach fod mwy o gynlluniau i dderbyn llais bobl ifanc am eu hyder mewn diogelu wedi ei gynnwys ynghyd ac argymhellion a dderbyniwyd gan ymchwiliad annibynnol. Tynnwyd sylw at barodrwydd ymhlith swyddogion ac Aelodau Cabinet i wneud newid gwirioneddol ac i wrando ar y craffu sydd yn cael ei wneud. Amlygwyd y bydd Adroddiad Adolygu Plant yn cael ei gyhoeddi ym mis Medi, ac y bydd hwn yn arwyddocaol, a bod disgwyl i’r Cynllun Ymateb newid yn sylweddol yn dilyn argymhellion gan yr adolygiad hwn, ac y bydd yr adroddiad chwarterol nesaf yn amlygu’r addasiadau yma. Eglurwyd fod y gwaith hwn yn drwm o ran adnoddau’r Cyngor ac y bydd angen adnoddau pellach yn dilyn derbyn adroddiad Adolygu Plant yn ôl.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

·       Diolchwyd am yr adroddiad, gan nodi fod adnoddau yn parhau i gael ei nodi fel un o’r prif heriau, a gofynnwyd pa adnoddau ychwanegol a fuasai’r Bwrdd yn awyddus i’w weld yn dod i mewn i’r broses. Ymatebwyd gan nodi mai pobl yw’r adnoddau sydd eu hangen, gan fod swyddogion, ac nid ar lefel uchel yn unig yn gweithio yn galed i sicrhau fod gwaith yn cael ei wneud. Eglurwyd fod adroddiad mis Medi am amlygu'r angen i wneud mwy o waith ac y bydd angen mwy o staff.

Ychwanegodd y Prif Weithredwr yn dilyn sefydlu’r Bwrdd fod newid wedi bod a diolchwyd iddynt am eu gwaith a bod eu mewnbwn wedi bod yn her gadarnhaol ynghyd a’r gefnogaeth. Amlygwyd fod derbyn adroddiad mis Medi am fod yn gam newid arall i’r Cyngor, ac na fydd parhau gyda’r adnoddau presennol ddim am fod yn ddigonol, gan fod maint y gwaith ddim am fod yn gynaliadwy. Eglurwyd fod gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd i gynllunio a bod angen mwy o ymateb pobl ac angen dod o hyd i’r bobl gywir i’r rolau.

·       Nodwyd fod yr adroddiad yn amlygu cynnydd cadarnhaol a bod 32 o’r 63 o dasgau wedi eu cwblhau, ond holwyd os yw hyn yn lle mae’r Bwrdd yn ei ddisgwyl. Ymatebodd y Cadeirydd gan nodi eu bod, gan fod y cynllun yn gyfuniad o dasgau amrywiol gyda rhai yn cael eu nodi yn glir eu bod wedi eu cwblhau - megis penodi Pennaeth newydd i’r ysgol. Nodwyd fod rhai tasgau byth am eu cwblhau gan fod angen i’r Bwrdd gadw golwg i sicrhau eu bod yn gweithredu. Amlygwyd yn ogystal, yn aml pan mae tasgau yn cael eu cwblhau fod rhai eraill yn cael eu cynnwys.

·       Gofynnwyd a yw’r adroddiad felly yn adrodd fod y Cyngor yn symud i’r cyfeiriad cywir, ond fod llawer o waith pellach angen ei wneud. Mynegwyd ei bod fod y swyddogion yn gwneud gwaith da i symud pethau ymlaen, a bod y Cyngor wedi gwneud camau syth i weithredu ond fod llawer o sialensiau ac adnoddau ychwanegol ei angen er mwyn symud ymlaen ar gyflymder.

·       Amlygwyd sylwad y Cadeirydd ar barodrwydd y Cyngor i neud newid sylweddol ynghyd a pharodrwydd swyddogion i gydweithio felly  diolchwyd  am holl waith y swyddogion.

·       Holwyd os yw’r cymorth i ddioddefwyr beth maen nhw eu hangen. Nodwyd ei fod, er ei bod yn gyfyngedig iawn ar y wybodaeth gall hi ei rannu. Mynegwyd fod y gefnogaeth yn cael ei drafod ym mhob cyfarfod, a'u bod trafod y gefnogaeth sydd ar gael ynghyd a hyd y gefnogaeth. Eglurwyd eu bod drwy bartner trydydd parti am  geisio cael gwybodaeth os yw’r gefnogaeth yn ddigonol i’r anghenion sydd eu hangen.

 

Awdur:Dafydd Gibbard, Chief Executive

Dogfennau ategol: