I ystyried
yr adroddiad.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd yn
ystod y drafodaeth.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Uwch Swyddog Gweithredol, Adran
Plant a Chefnogi Teuluoedd, Pennaeth Adran Plant Adnoddau Dros Dro, Arweinydd
Tim Cefnogi’r Gweithlu, Tim Arweinyddiaeth Corfforaethol a Phennaeth
Cynorthwyol Gwasanaethau Oedolion, Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant. Tynnwyd
sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:
Adroddwyd bod yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd ac yr
Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg ym mhob agwedd
o’u gwaith.
Tynnwyd sylw at gynllun ‘Mwy na Geiriau’, sef Fframwaith
Strategol a gyhoeddwyd yn 2016 ar gyfer Gwasanaethau Cymraeg yn y meysydd
Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol. Pwysleisiwyd bod y
fframwaith hwn yn ganolog i waith yr Adrannau er mwyn sicrhau bod cynnig
gweithredol o ofal Gymraeg ar waith yn ymarferol o fewn y gwasanaethau.
Mynegwyd balchder bod datblygiad ap ‘Niwro’ yn adnodd
arloesol ar gyfer cefnogi unigolion niwro-wahanol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Nodwyd bod defnydd o’r ap hwn yn codi statws yr iaith Gymraeg mewn maes ble nad
yw’n derbyn ystyriaeth briodol yn hanesyddol.
Cyfeiriwyd at ddatblygiad cynllun Cartrefi Grŵp Bychan
ar gyfer plant mewn gofal, gan adrodd bod y cynllun hwn yn caniatáu i blant
mewn gofal aros o fewn eu cymunedau Cymraeg a pharhau i deimlo’n perthyn i’r
iaith a’r diwylliant lleol.
Nodwyd bod cynlluniau o fewn y gwasanaeth Blynyddoedd
Cynnar, i ymestyn cyfleoedd chwarae a chynnig gweithgareddau drwy gyfrwng y
Gymraeg yn cyfrannu at greu amgylchedd naturiol ble all plant defnyddio’r iaith
heb ymdrech. Ymhelaethwyd bod cynlluniau i ddatblygu sgiliau iaith y gweithlu
hefyd yn hanfodol i sicrhau gwasanaethau cyraeddadwy a dwyieithog.
Rhannwyd enghraifft o brosiect cydweithredol trawsadrannol
‘Croesi’r Bont’. Manylwyd bod y prosiect hwn yn cadarnhau bod cyfathrebu
esmwyth yn y Gymraeg rhwng gwasanaethau. Ymhelaethwyd bod hyn yn caniatáu i’r
defnyddiwr fod yn ganolog i’r prosesau.
Atgoffwyd bod yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant yn
canolbwyntio’n gryf ar brosiectau sydd ynghlwm â phrosiect Gwynedd Ofalgar o
fewn Cynllun Cyngor Gwynedd. Ymhelaethwyd bod moderneiddio cartrefi gofal,
adnoddau cymunedol a llety i drigolion Gwynedd. Pwysleisiwyd bod defnyddio
technoleg ar gyfer dod i adnabod anghenion lleol yn hanfodol i’r gwaith, gan
gadarnhau bod cydweithio clos parhaus ar waith gyda’r Gwasanaeth Iechyd er mwyn
hyrwyddo iechyd oedolion.
Tynnwyd sylw bod yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant yn
ymdrechu i newid diwylliant yn barhaus er mwyn sicrhau gwasanaethau i’r
dyfodol. Nodwyd hefyd bod cynlluniau hyfforddi yn cael eu cynnal er mwyn
sicrhau bod y gweithlu yn gymwys i fynd i’r afael ag anghenion trigolion
Gwynedd i’r dyfodol. Eglurwyd hefyd bod system gofal cynaliadwy yn weithredol
er mwyn hyrwyddo lles oedolion, gan gadarnhau bod cynnal y system hon yn
flaenoriaeth i’r adran.
Adroddwyd bod gwaith parhaus yn cael ei wneud er mwyn
sicrhau bod technoleg addas i bwrpas yn weithredol o fewn y maes gofal, ac bod
modd ei ddefnyddio yn y Gymraeg. Rhannwyd enghraifft o holiadur ‘Percy’ sy’n
mesur ansawdd gofal o bersbectif yr unigolyn sydd yn ei dderbyn. Pwysleisiwyd
bod yr holiadur hwn wedi cael ei gyd-gynllunio gan bobl sydd gyda profiad o
dderbyn gofal. Mynegwyd balchder bod fersiwn Cymraeg o’r holiadur ar gael.
Ymhelaethwyd bod yr Adran wedi bod yn gweithio ar feddalwedd
‘AskSara’, meddalwedd ar gyfer therapi galwedigaethol rhithiol i oedolion,
plant a theuluoedd. Atgoffwyd bod y system hon yn caniatáu i ddefnyddwyr
hunanasesu eu hanghenion. Mynegwyd balchder bod y meddalwedd hwn bellach ar
gael yn y Gymraeg ar gyfer pawb yng Nghymru. Tynnwyd sylw bod y gwasanaeth yn
defnyddio’r meddalwedd hwn dan enw ‘Helpu’n Hun’.
Diweddarwyd bod y gwasanaeth yn gweithio ar offer Teleofal
newydd, sydd ar drac i gael ei gyflwyno ym mis Rhagfyr 2025. Sicrhawyd bydd y
dechnoleg hon ar gael yn y Gymraeg, gan fod swyddogion yn cydweithio gyda’r
cwmni er mwyn cyfieithu’r cod technolegol er mwyn gallu cefnogi gwasanaethau
drwy gyfrwng y Gymraeg yn effeithiol.
Eglurwyd bod system gofnodi’r gwasanaeth yn trosglwyddo o
WCCIS i Mosaic o fewn y flwyddyn nesaf. Pwysleisiwyd bod holl wasanaethau
gwasanaethau cyhoeddus yn cydweithio arno. Pwysleisiwyd bod Cyngor Gwynedd yn
sicrhau bod y system newydd hwn ar gael yn y Gymraeg ac yn ddwyieithog.
Cydnabuwyd bod rhai o heriau presennol yn cynnwys recriwtio
gweithwyr sy’n meddu â sgiliau’r Gymraeg yn ogystal â sicrhau bod technoleg
Gymraeg ar gael i weithwyr a defnyddwyr. Eglurwyd bod recriwtio gweithwyr
proffesiynol i'r maes yn her, gan gydnabod bod heriau penodol mewn ardaloedd
o’r Sir. Rhannwyd enghraifft o anhawster recriwtio therapyddion galwedigaethol
sy’n meddu ar sgiliau Cymraeg ers rhai misoedd. Eglurwyd bod hyn wedi gorfodi’r
adran i recriwtio unigolion drwy asiantaethau, gan nodi nad oes ganddynt
sgiliau ieithyddol. Cyfeiriwyd at yr Academi Gofal gan fynegi gobaith y bydd yn
denu siaradwyr Cymraeg i ddilyn gyrfa o fewn y maes gofal yn y dyfodol Fodd bynnag, mae’r Adrannau yn ymdrechu’n
barhaus i sicrhau bod y Gymraeg yn rhan annatod o ddarpariaeth yn y maes
cymdeithasol yng Ngwynedd, gan ymgymryd â phrosiectau arloesol i sicrhau
datblygiadau newydd.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y
sylwadau a ganlyn:-
Mewn ymateb i
ymholiad am anawsterau i sicrhau cyfleoedd dysgu cysylltiedig megis
prentisiaethau, cadarnhaodd Pennaeth Cynorthwyol Gwasanaethau Oedolion, Adran
Oedolion, Iechyd a Llesiant bod nifer o gynlluniau ar waith ar gyfer cynorthwyo
gweithwyr digymhwyster i ddatblygu eu sgiliau a’u profiad er mwyn cymhwyso yn y
maes. Nodwyd bod 3 prentis wedi cymhwyso eisoes gyda 2 unigolyn arall wedi
cychwyn ar y siwrne prentisiaid yn ddiweddar. Eglurwyd bod 12 o gyfleoedd i
brentisiaid yn flynyddol, yn ddibynnol ar gyllidebau’r Adrannau: 8 o
brentisiaid yn cael eu penodi drwy’r Academi Gofal yn ogystal â 2 gyfle
hyfforddi yn y meysydd therapi galwedigaethol a gweithwyr cymdeithasol. Pwysleisiwyd bod yr unigolion hyn yn derbyn
cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg. Nodwyd mai dim ond 30 ymgeisydd oedd wedi
cymryd rhan ym mhroses recriwtio’r Academi Gofal y llynedd, gyda nifer o’r
ymgeiswyr aflwyddiannus yn derbyn rolau cysgodol o fewn meysydd penodol er mwyn
ennyn hyder a phrofiad i’r dyfodol. Ymhelaethwyd bod Gofalwyr Gogledd Cymru yn
annog unigolion i gymhwyso yn y maes gan ddarparu cyngor a chymorth ariannol.
Gofynnwyd am
fanylder ynglŷn â pha ardaloedd sydd yn profi heriau recriwtio yn fwy nag
eraill ar hyn o bryd. Mewn ymateb, cadarnhaodd Pennaeth Cynorthwyol
Gwasanaethau Oedolion, Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant mai De Meirionnydd
yw’r ardal ble mae’r prif heriau yn ymddangos ar hyn o bryd. Sicrhawyd bod yr
Adran yn parhau i hysbysebu swyddi yn yr ardal hon ond bod rhaid comisiynu asiantaethau
i gynorthwyo gyda llenwi rolau yn y pen draw er mwyn sicrhau bod trigolion
Gwynedd yn derbyn y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Cydnabuwyd mai
blaenoriaeth yr asiantaethau hyn yw bod unigolion cymwysedig yn cael eu penodi
i’r swyddi gan olygu nad ydynt o reidrwydd yn meddu â sgiliau’r Gymraeg. Yn yr
un modd, cadarnhaodd Pennaeth Adran Plant Adnoddau Dros Dro bod heriau
recriwtio ar gyfer ardal De Meirionnydd o fewn yr Adran Plant a Chefnogi
Teuluoedd hefyd. Rhannwyd bod yr adran wedi bod yn cydweithio gyda Coleg
Meirion Dwyfor yn Nolgellau sydd wedi arwain at gryn diddordeb o fewn y maes
gofal yn yr ardal ac bod rhai swyddi wedi cael eu llenwi o’r herwydd. Sicrhaodd
y ddwy adran bod unrhyw unigolyn sydd yn cael ei recriwtio pan mae heriau o
fewn ardaloedd penodol o’r sir yn gweithio o fewn yr ardaloedd hynny er mwyn
sicrhau parhad gwasanaeth, a gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg ar pob cyfle
posib.
Mewn ymateb i
eglurder ar nifer ganrannol o swyddogion yr Adrannau sydd wedi cwblhau’r
hunanasesiad iaith, cadarnhaodd Swyddog Dysgu a Datblygu’r Iaith Gymraeg bod
93.6% o staff yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant ac 88.8% o saff yr Adran
Plant a Chefnogi Teuluoedd wedi ei gwblhau. Eglurwyd bod y mwyafrif o’r staff
wedi ei gwblhau yn annibynnol, gyda chyfran o’r gweithwyr yn cwblhau’r
hunanasesiad gyda’u rheolwr gan nad oes ganddynt fynediad i’r holiadur yn
annibynnol yn sgil natur rheng flaen eu swydd.
Tynnwyd sylw bod
81% o staff yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant yn cyrraedd dynodiad iaith eu
swyddi, gan holi pa gymorth sydd yn cael ei ddarparu i sicrhau bod yr Adran yn
ymrwymo i Bolisi Iaith y Cyngor drwy ddarparu cymorth i’r 19% arall o’r gweithlu
sydd ddim yn cyrraedd dynodiad iaith eu swyddi. Mewn ymateb, cadarnhaodd
Swyddog Dysgu a Datblygu’r Iaith Gymraeg bod y Cyngor yn cydweithio gyda
Chymraeg Gwaith er mwyn mynd i’r afael a’r her hon megis drwy gynnal sesiynau
hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg i weithwyr yr Adran. Fodd bynnag, nodwyd
bod hyn yn gallu bod yn anodd ei sefydlu gan fod natur shifftiau gwaith
gweithwyr yr adran yn amrywiol, gan nodi bod angen sicrhau i natur unrhyw
hyfforddiant fod yn hyblyg. Ymhelaethwyd bod adnoddau ar lein ac
hunan-astudiaethol hefyd yn cael eu hystyried. Yn yr un modd, nodwyd bod Gofal
Cymdeithasol Cymru hefyd yn cynnig hyfforddiant ar lein gyda sesiynau blasu ar
gael i weithwyr gofal. Pwysleisiwyd bod cynllun cyfeillio’r Cyngor yn bwysig
iawn o fewn y maes gofal, gan egluro bod y cynllun yn paru unigolyn sy’n dymuno
ymarfer eu sgiliau Cymraeg, gyda gweithiwr arall sydd yn barod i helpu.
Eglurwyd bod hyn yn allweddol er mwyn codi hyder dysgwyr Cymraeg ac yn cael
cyfle i ymarfer eu sgiliau yn y gweithle.
Mynegwyd balchder
bo 50% o unigolion sy’n defnyddio llinellau ffôn cenedlaethol Cynnig Gofal
Plant Cymru, gan ddefnyddio’r opsiwn i gyfathrebu yn Saesneg, yn penderfynu
troi i’r Gymraeg wedi iddynt sylweddoli bod y gweithiwr sydd wedi ateb y galwad
yn siarad Cymraeg. Nodwyd yr angen i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd bod y
gwasanaethau ffôn hyn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg fel eu bod yn ei ddewis ar
ddechrau’r alwad, gan bwysleisio bod y galwadau hyn yn cael eu gwneud gan
rieni. Ymhellach, nododd Uwch Swyddog Gweithredol, Adran Plant a Chefnogi
Teuluoedd bod Cynnig Gofal Plant Cymru yn gwneud gwaith pellach ar hyn fel rhan
o ymgyrch Llywodraeth Cymru i sicrhau bod miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn
2050.
Nododd Arweinydd
Tim Cefnogi’r Gweithlu, Tim Arweinyddiaeth Corfforaethol bod cyfresi o fideos
bychan ar gael i staff a chynghorwyr, wedi ei datblygu gan ymgyrch Mwy na
Geiriau. Eglurwyd bod y rhain yn annog pawb i gychwyn sgyrsiau yn y Gymraeg, a
rhannwyd enghraifft o un ohonynt o fewn y cyfarfod. Tynnwyd sylw gall hyn fod
yn ddefnyddiol i Gynghorwyr wrth gyfathrebu gyda thrigolion eu hetholaeth gan
bwysleisio ei fod yn ddefnyddiol ar gyfer holl weithwyr y Cyngor.
Trafodwyd addysg
drochi o fewn blynyddoedd meithrin yng Ngwynedd gan fynegi balchder bod y
gwasanaeth Croesi’r Bont yn effeithiol iawn o fewn y Mudiad Meithrin. Mynegwyd
balchder bod 17 o leoliadau meithrin Gwynedd yn llwyddo i ddarparu addysg
meithrin drwy gyfrwng y Gymraeg gan nodi llithriad mewn 2 leoliad sydd yn ei
gynnig yn ddwyieithog. Nodwyd pryder mai dim ond 41% o blant 3 oed a throsodd
oedd wedi dewis Cymraeg fel eu hiaith addysg ddewisol yn 2023/24. Gofynnwyd am
wybodaeth bellach i egluro’r sefyllfa hyn a chadarnhaodd Pennaeth Adran Plant
Adnoddau Dros Dro y byddai’n dod i gyswllt gyda’r Aelodau am wybodaeth bellach.
Manylwyd ar
drefniadau ar gyfer plant mewn gofal gan ystyried os yw’r swyddogion yn hyderus
eu bod yn derbyn gofal drwy gyfrwng y Gymraeg o fewn eu lleoliadau ac os oes
addysg Gymraeg yn cael ei gynnig ar gyfer unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli y
tu hwnt i’r Sir. Mewn ymateb, cadarnhaodd Pennaeth Adran Plant Adnoddau Dros
Dro mai’r prif flaenoriaeth mewn pob achos yw sicrhau bod y plant wedi eu
lleoli mewn leoliad sydd yn addas i’w anghenion. Nodwyd bod hyn y golygu nad
oes gofalwyr Cymraeg ar gael ond mae’r adran yn helpu i ddenu mwy o ofalwyr
maeth sy’n siarad Cymraeg er mwyn sicrhau bod gofynion ieithyddol plant mewn
gofal yn cael eu cyfarch. Cadarnhawyd bod y mwyafrif o blant mewn gofal o fewn
y sir yn derbyn gofal drwy gyfrwng y Gymraeg ond ei fod yn heriol i sicrhau hyn
ar gyfer unrhyw un sydd mewn lleoliad all-sirol, gyda problem mwy byth mewn
lleoliadau preswyl i sicrhau gofal Cymraeg. Ymhelaethwyd bod trafodaethau yn
cael eu cynnal gyda’r adran Addysg er mwyn sicrhau bod adnoddau Cymraeg ar gael
i blant mewn gofal, gan gadarnhau bod hyn yn bosib yn y mwyafrif o bynciau.
Diolchwyd am yr adroddiad.
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r
sylwadau a dderbyniwyd.
Dogfennau ategol: