Cyflwyno’r
Adroddiad Blynyddol draffft i’r aelodau er mwyn iddynt armell i’r Aelod Cabinet
gymeradwyo cyhoeddi’r Adroddiad.
Penderfyniad:
1.
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a
dderbyniwyd yn ystod y drafodaeth.
2.
Argymell i’r Aelod Cabinet Gwasanaethau
Corfforaethol a Chyfreithiol a dros y Gymraeg i gyhoeddi’r adroddiad erbyn 30
Mehefin 2025.
Cofnod:
Atgoffwyd bod
gofynion y Safonau Iaith yn ei wneud yn ofynnol i’r Cyngor lunio a chyhoeddi
adroddiad blynyddol erbyn 30 Mehefin, yn unol ag Adran 44 Mesur y Gymraeg
(Cymru) 2011. Ymhelaethwyd bod gofyn i’r adroddiad blynyddol rannu gwybodaeth
megis Safonau 151, 152, 154, 158, 164 ac 170.
Adroddwyd bod 99.1%
o staff y Cyngor yn meddu ar ryw fath o sgiliau yn y Gymraeg gan fanylu bod 90%
o holl staff y Cyngor yn cyrraedd dynodiad iaith eu swyddi.
Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-
Mewn ymateb i gais
am fanylder pellach i ddata sgiliau iaith y gweithlu, cadarnhaodd Swyddog Dysgu
a Datblygu’r Iaith Gymraeg bod unrhyw aelod o staff sydd yn meddu a sgiliau’r
Gymraeg, boed yn allu i gyfathrebu ychydig eiriau neu frawddegau yn Gymraeg
neu’n cyrraedd lefel sgiliau Cymraeg hyfedredd yn gynwysedig.
Mewn ymateb i
ymholiad ar sut mae dynodiadau iaith ar gyfer swyddi yn cael eu pennu,
cadarnhaodd Swyddog Dysgu a Datblygu’r Iaith Gymraeg bod rhain yn cael eu
penderfynu gan y rheolwr llinell. Ymhelaethwyd byddai’r rheolwr yn ystyried
ffactorau megis cyswllt gyda’r cyhoedd, gweithio mewn rhan o dim a’r angen i
gyfathrebu’n ysgrifenedig cyn penderfynu ar dynodiad iaith addas ar gyfer
swyddi. Nodwyd hefyd bod y rheolwr llinell yn nodi os bydd aelodau staff yn
cyrraedd dynodiad iaith y swydd. Atgoffwyd bod yr hunanasesiad iaith hefyd yn
rhoi cyfle i aelodau staff rannu eu barn eu hunain am eu sgiliau ieithyddol.
Ystyriwyd bod
sylwadau cyson gan Adrannau’r Cyngor yn nodi bod hyder yn amharu ar ganlyniadau
staff wrth iddynt gwblhau’r hunanasesiad ieithyddol. Mewn ymateb i gwestiwn os
ai gorhyderus neu ddihyder yw’r swyddogion yn eu gallu, pwysleisiodd Swyddog
Dysgu a Datblygu’r Iaith Gymraeg mai dihyder yn eu sgiliau yw aelodau staff.
Manylwyd bod hyn yn enwedig yn wir ar gyfer agweddau sydd yn delio â sgiliau
Cymraeg ffurfiol neu broffesiynol. Cadarnhawyd bod trefniadau mewn lle fel bod
y Swyddog Dysgu a Datblygu’r Iaith Gymraeg yn cysylltu gyda’r rheolwr llinell
berthnasol mewn achosion ble mae aelod o staff yn agos i gyrraedd dynodiad
iaith y swydd, ond bod yr hunanasesiad yn nodi nad ydynt yn hyderus, gan nodi
bod y rheolwr yn nodi bod yr aelod staff yn cyrraedd y dynodiad iaith yn y
mwyafrif o achosion. Pwysleisiwyd bod cymorth ar gael i unrhyw un sydd ei angen
er mwyn cyrraedd dynodiad iaith eu swydd. Ychwanegwyd bod y gwaith sydd yn cael
ei wneud ar y cyd gyda Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i chwalu mythoedd am anghenion
sgiliau iaith yn gymorth i gynyddu lefelau hyder staff y Cyngor.
Tynnwyd sylw bod yr
adroddiad yn nodi bod 97% o holl osodiadau tai Gwynedd a osodwyd o fewn y
Polisi Gosod Tai yn mynd i unigolion gyda chysylltiad â Gwynedd. Ymholwyd beth
oedd diffiniad y gosodiad hwn ond penderfynwyd nad oedd swyddog priodol yn
bresennol ar gael i fynd i’r afael a’r pwnc hwn.
Nodwyd bod nifer o
sesiynau hyfforddiant y Cyngor yn cael eu cynnal drwy gyfrwng y Saesneg a
gofynnwyd beth sydd yn cael ei wneud er mwyn ceisio lleihau’r niferoedd hyn i’r
dyfodol. Mewn ymateb, eglurodd yr Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu nad oedd yn
hapus bod cynifer o sesiynau hyfforddiant Saesneg a bod gwaith yn mynd rhagddo
i gysylltu gyda’r Adrannau er mwyn gweld pam bod hyfforddiant drwy gyfrwng y
Saesneg yn parhau i gael eu cynnal a pha gymorth gall gael ei gynnig iddynt er
mwyn addasu’r sesiynau hynny i fod yn rhai Cymraeg. Eglurwyd bod 447 o sesiynau
hyfforddiant Cymraeg, 254 o sesiynau Saesneg ac 123 o sesiynau dwyieithog wedi
cael eu cynnal yn ystod 2024/25.
Mewn ymateb i
ymholiad am yr hyn a ellir ei wneud er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth rheolwyr o
safonau’r Gymraeg, cadarnhaodd yr Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu bod adnoddau ar gael ar dudalennau mewnol y
Cyngor yn ogystal â diweddariadau cyson drwy gyfarfodydd timau rheoli.
Ystyriwyd y Fforwm
Iaith gan ofyn os yw’r Cyngor yn Cydweithio gyda Mudiad Ffermwyr Ifanc er mwyn
rhannu gwybodaeth o fewn yr Is-grŵp Pobl Ifanc. Mewn ymateb, cadarnhad yr
Ymgynghorydd Iaith bod Mudiadau Ffermwyr Ifanc Eryri a Meirionydd yn derbyn gohebiaeth
am yr Is-grŵp ond nid oes cynrychiolydd wedi bod yn bresennol ar hyn o
bryd. Fodd bynnag, sicrhawyd eu bod yn parhau i dderbyn y wybodaeth berthnasol
ddiweddaraf. Mynegwyd dyheadau i’r berthynas yma gyda’r mudiad barhau i wella
i’r dyfodol.
Diolchwyd am yr
adroddiad.
PENDERFYNWYD
Dogfennau ategol: