Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd dan Adran 4.19 o’r
Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Jina Gwyrfai yn cynnig fel a ganlyn:-
Wrth ystyried
a) bod Amaeth
yn un o brif ddiwydiannau Cymru, a bod canran uchel o economi Gwynedd yn
gysylltiedig â’r byd amaethyddiaeth.
b) bod
sefydlogrwydd y fferm deuluol yn gyfraniad hollbwysig ac amhrisiadwy at gadw’r
iaith Gymraeg yn ein cymunedau Cymraeg
c) bod y
diwydiant amaeth yng Nghymru ar hyn o bryd yn gallu cyfrannu’n o lew at
stoc bwyd y ‘Deyrnas Unedig’ mewn oes o ansicrwydd cynyddol, ond bod y stoc yn
isel
Noda’r Cyngor, gyda thristwch mai bygythiad
yw’r Ddeddf Treth Etifeddiaeth i’r uned ffermio draddodiadol, i economi y wlad
ac i gefn gwlad Cymru, yn enwedig i’r ardaloedd Cymraeg.
(Mae’n hysbys bod o leiaf dau ffermwr wedi
cyflawni hunanladdiad ers pasio’r Ddeddf a bod teuluoedd a gweithwyr a busnesau
lleol cysylltiedig yn wynebu chwalfa os daw y Ddeddf i rym yn 2026.)
Galwaf felly ar Gyngor Gwynedd i bwyso ar
Lywodraeth Cymru i weithredu trwy:-
i)
bwyso ar Lywodraeth San Steffan i gydnabod bod y diwydiant ffermio yn
hollbwysig i strategaeth diogelwch y DU, ac i eithrio ffermydd teuluol sy’n
cynhyrchu bwyd o’r dreth newydd pan ddaw i rym.
ii)
erfyn ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu
ymchwil i asesu effaith y Ddeddf ar economi Cymru a chymunedau Cymraeg; hefyd i
weithredu mesurau lliniarol digonol er mwyn diogelu’r diwydiant amaeth sydd mor
allweddol i ddyfodol cymunedau cefn gwlad ein gwlad.
Penderfyniad:
Wrth ystyried
a) bod Amaeth
yn un o brif ddiwydiannau Cymru, a bod canran uchel o economi Gwynedd yn
gysylltiedig â’r byd amaethyddiaeth.
b) bod
sefydlogrwydd y fferm deuluol yn gyfraniad hollbwysig ac amhrisiadwy at gadw’r
iaith Gymraeg yn ein cymunedau Cymraeg
c) bod y
diwydiant amaeth yng Nghymru ar hyn o bryd yn gallu cyfrannu’n o lew at
stoc bwyd y ‘Deyrnas Unedig’ mewn oes o ansicrwydd cynyddol, ond bod y stoc yn
isel
Noda’r Cyngor, gyda thristwch mai bygythiad
yw’r Ddeddf Treth Etifeddiaeth i’r uned ffermio draddodiadol, i economi y wlad
ac i gefn gwlad Cymru, yn enwedig i’r ardaloedd Cymraeg.
(Mae’n hysbys bod o leiaf dau ffermwr wedi
cyflawni hunanladdiad ers pasio’r Ddeddf a bod teuluoedd a gweithwyr a busnesau
lleol cysylltiedig yn wynebu chwalfa os daw y Ddeddf i rym yn 2026.)
Galwaf felly ar Gyngor Gwynedd i bwyso ar
Lywodraeth Cymru i weithredu trwy:-
i)
bwyso ar Lywodraeth San Steffan i gydnabod bod y diwydiant ffermio yn hollbwysig i strategaeth
diogelwch y DU, ac i eithrio ffermydd teuluol sy’n cynhyrchu bwyd o’r dreth
newydd pan ddaw i rym.
erfyn ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwil i asesu effaith y Ddeddf ar economi Cymru a chymunedau Cymraeg; hefyd i weithredu mesurau lliniarol digonol er mwyn diogelu’r diwydiant amaeth sydd mor allweddol i ddyfodol cymunedau cefn gwlad ein gwlad.
Cofnod:
Cyflwynwyd y rhybudd
o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Jina Gwyrfai o dan Adran 4.19 y
Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-
Wrth ystyried
a) bod Amaeth yn un o brif ddiwydiannau Cymru, a bod canran uchel o economi Gwynedd yn gysylltiedig â’r byd amaethyddiaeth.
b) bod sefydlogrwydd y fferm deuluol yn gyfraniad hollbwysig ac amhrisiadwy at gadw’r iaith Gymraeg yn ein cymunedau Cymraeg
c) bod y diwydiant amaeth yng Nghymru ar hyn o bryd yn gallu cyfrannu’n o lew at stoc bwyd y ‘Deyrnas Unedig’ mewn oes o ansicrwydd cynyddol, ond bod y stoc yn isel
Noda’r Cyngor, gyda thristwch mai bygythiad yw’r Ddeddf Treth Etifeddiaeth i’r uned ffermio draddodiadol, i economi'r wlad ac i gefn gwlad Cymru, yn enwedig i’r ardaloedd Cymraeg. (Mae’n hysbys bod o leiaf dau ffermwr wedi cyflawni hunanladdiad ers pasio’r Ddeddf a bod teuluoedd a gweithwyr a busnesau lleol cysylltiedig yn wynebu chwalfa os daw'r Ddeddf i rym yn 2026.)
Galwaf felly ar Gyngor Gwynedd i bwyso ar Lywodraeth Cymru i weithredu trwy:-
i. bwyso ar Lywodraeth San Steffan i gydnabod bod y diwydiant ffermio yn hollbwysig i strategaeth diogelwch y DU, ac i eithrio ffermydd teuluol sy’n cynhyrchu bwyd o’r dreth newydd pan ddaw i rym.
ii. erfyn ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwil i asesu effaith y Ddeddf ar economi Cymru a chymunedau Cymraeg; hefyd i weithredu mesurau lliniarol digonol er mwyn diogelu’r diwydiant amaeth sydd mor allweddol i ddyfodol cymunedau cefn gwlad ein gwlad.
Gosododd yr aelod y cyd-destun i’w gynnig, gan nodi:-
· Ateb i gynnig yn ôl ym mis Rhagfyr wedi bod yn anfoddhaol, gyda dim cynlluniau wedi cael arfaeth
· Fod 75% ffermydd am gael eu heffeithio yn andwyol gyda’r dreth yma, ac am greu llanast llwyr.
· Fod Arolwg Amaeth Prifysgol Aberystwyth wedi amlygu incwm gros fferm deuluol oddeutu 0.5% o werth y fferm. Ond gwerth y fferm sydd am gael ei drethu, ac felly mae’r bygythiad yn un anferthol.
· Amlygwyd fod buddsoddiadau wedi lleihau mewn ffermydd ers cyhoeddi’r dreth yma sy’n amlygu dim hyder yn y cynllun.
· Problemau Iechyd Meddwl wedi cynyddu yn enwedig mewn fferiwyr hŷn, oherwydd poen meddwl enfawr o feddwl am ddyfodol eu ffermydd.
· Cyswllt a chymunedau Cymreig yn amlwg, gyda 43% o weithwyr fferm yn siaradwyr Cymraeg dros Gymru gyda niferoedd yn uwch yng Ngwynedd. Amlygu fod y dreth yn fygythiad i’r iaith ac i ddiwylliant Cymreig mewn cymunedau.
· Cynhyrchu bwyd yw pwrpas ffermydd a dyna pam mae wedi ei gadw allan o dreth etifeddiaeth yn hanesyddol, ond o’i gymharu â’r 80au mae canran y bwyd sy’n dod o ffermydd wedi lleihau i 54% ac o ganlyniad mae prisiau bwyd wedi cynyddu. Angen ehangu ffermydd sydd ei angen yn economaidd ac yn amgylcheddol.
Mynegwyd cefnogaeth i’r cynnig gan aelodau gan amlygu’r pwyntiau isod:
· Llywodraeth ddim dirnad effaith hyn, a ddim yn gweld bod yr arian yn y tir ac nid yn y banc. Mae ffermydd ynghlwm ar pridd ac nid oed dim un alwedigaeth sydd wedi gwreiddio gymaint mewn cymunedau.
· Eglurwyd fod y Llywodraeth yn cyfyngu'r dreth i dros £3miliwn, sydd yn swnio fel ffigwr uchel ond yn ddim os yn ystyried gwerth tir.
· Posibiliadau y bydd ffermydd yn cael ei gwerthu er mwyn cyfarch y dreth, ac yn golygu cael ei gwerthu i gwmnïau mawr heb ddim cysylltiadau a’r cymunedau a fydd yn arwain ar effaith andwyol ar gymunedau.
PENDERFYNWYD mabwysiadu’r cynnig, sef:-
Wrth ystyried
a) bod
Amaeth yn un o brif ddiwydiannau Cymru, a bod canran uchel o economi Gwynedd yn
gysylltiedig â’r byd amaethyddiaeth.
b) bod
sefydlogrwydd y fferm deuluol yn gyfraniad hollbwysig ac amhrisiadwy at gadw’r
iaith Gymraeg yn ein cymunedau Cymraeg
c) bod
y diwydiant amaeth yng Nghymru ar hyn o bryd yn gallu cyfrannu’n o lew at stoc
bwyd y ‘Deyrnas Unedig’ mewn oes o ansicrwydd cynyddol, ond bod y stoc yn isel
Noda’r Cyngor, gyda thristwch mai bygythiad yw’r Ddeddf
Treth Etifeddiaeth i’r uned ffermio draddodiadol, i economi'r wlad ac i gefn
gwlad Cymru, yn enwedig i’r ardaloedd Cymraeg. (Mae’n hysbys bod o leiaf dau
ffermwr wedi cyflawni hunanladdiad ers pasio’r Ddeddf a bod teuluoedd a
gweithwyr a busnesau lleol cysylltiedig yn wynebu chwalfa os daw y Ddeddf i rym
yn 2026.)
Galwaf felly ar Gyngor Gwynedd i bwyso ar Lywodraeth
Cymru i weithredu trwy:-
i.
bwyso ar Lywodraeth San Steffan i
gydnabod bod y diwydiant ffermio yn hollbwysig i strategaeth diogelwch y DU, ac
i eithrio ffermydd teuluol sy’n cynhyrchu bwyd o’r dreth newydd pan ddaw i rym.
ii.
erfyn ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu
ymchwil i asesu effaith y Ddeddf ar economi Cymru a chymunedau Cymraeg; hefyd i
weithredu mesurau lliniarol digonol er mwyn diogelu’r diwydiant amaeth sydd mor
allweddol i ddyfodol cymunedau cefn gwlad ein gwlad.