Alwen Williams
(Prif Weithredwr) i gyflwyno’r Adroddiad.
Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored
ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig.
Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol awdurdod
cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi.. Byddai hyn yn
groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau gwerth am arian a’r allbwn
cyfansawdd gorau . Mae’r elfennau sydd wedi eu duo allan yn cynrychioli ymateb
gymesurol I'r gofyn yma gan warchod hawl y cyhoeddi gael gwybodaeth am gynllun
rhanbarthol pwysig yma, yn unol â Pharagraff 14 o Atdoad 12A o Ddddf
Llywodraeth Leol 1972.
Penderfyniad:
Cymeradwyo’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd
Cymru a’r ddogfennaeth ategol er mwyn i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig ei gyflwyno
i Lywodraeth Cymru er cymeradwyaeth a’i gyhoeddi gan y Gweinidog ym mis Medi
2025.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Brif Weithredwr CBC y Gogledd ac
ymgynghorydd ARUP.
PENDERFYNWYD
Cymeradwyo’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd
Cymru a’r ddogfennaeth ategol er mwyn i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig ei gyflwyno
i Lywodraeth Cymru er cymeradwyaeth a’i gyhoeddi gan y Gweinidog ym mis Medi
2025.
RHESYMAU DROS Y
PENDERFYNIAD
Yn dilyn Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021,
mae Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru 2021 yn trosglwyddo’r
swyddogaeth o ddatblygu polisïau trafnidiaeth mewn perthynas ag ardal pob un
o’r Cynghorau Cyfansoddol i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig. Mae datblygu a
gweithredu Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn swyddogaeth statudol a
weithredir gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig drwy ei Is-bwyllgor, gyda chefnogaeth
y Canllawiau i Gyd-bwyllgorau Corfforedig ar Gynlluniau Trafnidiaeth
Rhanbarthol (Fersiwn 2) 2023. Ar ôl cymeradwyo a chyhoeddi gan Lywodraeth
Cymru, bydd y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ar gyfer rhanbarth Gogledd Cymru
yn cael ei fabwysiadu gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig drwy ei broses weithredu i
gyflwyno rhaglen fuddsoddi 5 mlynedd.
TRAFODAETH
Eglurwyd bod y draft hwn o Gynllun Trafnidiaeth
Rhanbarthol Gogledd Cymru yn
ogystal ag atodiadau ategol yn cael
ei gyflwyno i’r Is-bwyllgor hwn er mwyn i’w
Aelodau ei adolygu a chyflwyno argymhelliad gwybodus i Gyd-bwyllgor
Corfforedig y Gogledd ei gyflwyno i Lywodraeth
Cymru er cymeradwyaeth y Gweinidog
perthnasol erbyn Medi 2025.
Pwysleisiwyd bod yr Adroddiad
a holl atodiadau ategol a gyflwynwyd fel rhan o’r
eitem hon yn ymateb i ganllawiau
a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ar sut y dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig lunio a Datblygu Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol.
Manylwyd ar Adroddiad yr Ymgynghoriad a gyflwynwyd fel rhan o’r
Eitem gan egluro ei fod
yn crynhoi’r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod yr 12 wythnos o ymgynghori cyhoeddus a gyflawnwyd rhwng 20 Ionawr a 14 Ebrill 2025.
Mynegwyd balchder bod 1684 ymateb wedi cael
ei gyflwyno i’r ymgynghoriad yn ystod y cyfnod
hwn. Sicrhawyd bod yr ymatebion
a dderbyniwyd wedi cyfrannu at y Cynllun, gan fod nifer
o’i atodiadau ategol wedi cael
eu haddasu yn unol â’r
sylwadau a dderbyniwyd. Manylwyd bod rhai o’r prif addasiadau
hyn yn cynnwys:
·
Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru - Mae ymrwymiad bellach i gydymffurfio
â pholisïau Rhwydwaith
Gogledd Cymru (Trafnidiaeth Cymru), gyda diweddariadau i ddyheadau rheilffordd
a’r rhwydwaith bysiau. Tynnwyd sylw bod nifer o gynlluniau yn rhan
o’r cynllun hwn a bod cydweithio gyda Thrafnidiaeth Cymru yn cynorthwyo datblygiadau
posib i’r dyfodol megis Datblygu
fflyd o drenau trydan, system ‘pay as you go’ er mwyn
sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn hawdd
i’w ddefnyddio a bod gwaith yn cael
ei wneud er mwyn sicrhau bod trenau ar gael
yn amlach ac yn gyson. Pwysleisiwyd
bod y Cynllun a pherthynas ehangach y Cyd-bwyllgor gyda Thrafnidiaeth Cymru yn un hirdymor gyda’r tebygolrwydd bydd prosiectau yn esblygu ac addasu
dros amser. Tynnwyd sylw bod nifer o addasiadau eraill wedi cael
ei wneud i’r cynllun a bod rhai o’r rhain
yn cynnwys sicrhau cymorth i drigolion a defnyddwyr
gorsaf Treffynnon (gan nad yw
uwchraddio’r orsaf hwn yn flaenoriaeth
i Drafnidiaeth Cymru ar hyn o bryd),
gwella cysylltiadau gyda’r we, i'r Iaith Gymraeg yn ogystal
ag addasiadau pellach i’r Cynllun yn
dilyn rheoliadau 20mya a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru.
·
Crynodeb Annhechnegol – sicrhawyd
bod y ddogfen hon wedi cael ei addasu
i adlewyrchu’r amrywiol newidiadau sydd wedi cael
eu gwneud i’r Cynllun Trafnidiaeth
Rhanbarthol yn dilyn sylwadau’r ymgynghoriad cyhoeddus.
·
Cynllun Cyflawni'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol - Pwysleisiwyd bod asesiad
manwl o brosiectau a chostau wedi cael
ei gyflawni ar y cyd gyda’r
Awdurdodau Lleol, Trafnidiaeth Cymru a phartneriaid
eraill. Eglurwyd bod gwybodaeth wedi cael ei gadarnhau
o fewn y ddogfen hon sydd yn nodi sut
bydd Cynllun y rhanbarth hwn yn
cydweithio gyda’r Cynllun cenedlaethol. Ymhelaethwyd bod gwybodaeth am fforddiadwyedd wedi cael ei gynnwys
o fewn y ddogfen sydd yn mynd
i’r afael a chyllidebau Llywodraeth Cymru a’r arian sydd
ar gael i
ariannu’r amrywiol brosiectau. Manylwyd bod rhai o’r addasiadau
eraill i’r ddogfen hon yn cynnwys gwybodaeth ar drefniant blaenoriaethu’r
prosiectau a chynlluniau posib i ymestyn
gwasanaethau Fflecsi megis Sherpa’r Wyddfa.
·
Arfarniad Llesiant Integredig - Nodwyd bod y ddogfen
hon wedi cael ei haddasu i
gyd-fynd a’r gofynion a osodwyd
yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn dilyn derbyn adborth
gan Lywodraeth Cymru i wneud hynny.
·
Datganiad Ôl-fabwysiadu ar gyfer yr Arfarniad
Llesiant Integredig - Eglurwyd
bod y ddogfen hon yn newydd ac yn nodi sut mae’r Cynllun
yn cydymffurfio gyda rheoliadau asesiadau amgylcheddol. Adroddwyd bod manylder yma ar sut
y cyflawnwyd yr Arfarniad a’r effaith ehangach
mae’n ei gael ar y Cynllun.
·
Adroddiad Ymgynghori - Adroddwyd
bod y ddogfen Newydd hon yn
manylu ar sut y cyflawnwyd yr Ymgynghoriad Cyhoeddus, ei effaith ar
y Cynllun ehangach a sut mae ymatebion
wedi cael eu hystyried.
·
Yr Achos dros Newid - Eglurwyd nad oes newid i’r
ddogfen hon gan ei fod yn
ddogfen gefnogol i’r Cynllun Trafnidiaeth
Rhanbarthol
Argymhellwyd y dylid sicrhau bod
y Cyd-bwyllgor yn dirprwyo’r hawl i gywiro unrhyw
fan addasiadau i’r Prif Weithredwr er mwyn sicrhau cywirdeb.
Tywyswyd
yr Aelodau drwy’r camau nesaf o ddatblygu’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol gan gadarnhau bydd y Cynllun yn cael
ei gyflwyno i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd. Cadarnhawyd
mai’r Cyd-bwyllgor bydd yn penderfynu
os ydynt yn dymuno cyflwyno’r
Cynllun drafft i Lywodraeth Cymru er cymeradwyaeth. Nodwyd, unwaith bydd y Cynllun wedi cael
ei gymeradwyo gan y llywodraeth, y byddai’n weithredol ar unwaith ac ni
fydd angen ei ail-fabwysiadu gan y Cyd-bwyllgor a’r Awdurdodau Lleol.
Tynnwyd sylw bod aelodau’r Is-bwyllgor wedi derbyn
llythyr gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd
Cymru yn amlygu seiliau penodol dros wrthwynebu trafodaeth ar y Cynllun o fewn y cyfarfod hwn, gan
nodi eu dyhead i’r Cyd-bwyllgor ymdrin â’r llythyr
fel ychwanegiad i’w hymateb i’r
ymgynghoriad cyhoeddus. Diolchwyd iddynt am eu llythyr gan
bwysleisio bod swyddogion
ac Aelodau wedi ei dderbyn a rhoi ystyriaeth ddwys iddo.
Manylwyd ar gynnwys y llythyr
er mwyn darparu eglurder, gan fanylu
ar bob sail dros wrthod y Cynllun. Mewn ymateb i’r
sail gwrthod cyntaf sy’n nodi bod dogfennaeth y cyfarfod hwn wedi
cael eu cyhoeddi
ar 25 Mehefin gan gyfyngu ar
amser Aelodau i’w hystyried, cydnabuwyd bod gwybodaeth fanwl iawn o fewn y ddogfennaeth.
Fodd bynnag, sicrhawyd bod holl aelodau’r Is-bwyllgor hwn yn wybodus
iawn am y Cynllun gan fod nifer
o drafodaethau wedi cael eu cynnal
ers Rhagfyr 2024 a bod yr
Aelodau wedi bod yn weithredol iawn yn craffu’r ddogfennaeth
o few neu awdurdodau lleol perthnasol a hefyd gydag Aelodau eraill yr Is-bwyllgor. Pwysleisiwyd nad oes penderfyniad
ffurfiol yn cael ei gymeradwyo
yn ystod y cyfarfod hwn ac ategu mai cyflwyno
argymhellion i Gyd-bwyllgor Corfforedig y
Gogledd yw pwrpas y cyfarfod. Ymhelaethwyd bod yr Ymddiriedolaeth yn nodi y dylai’r ddogfennaeth gael ei gyhoeddi
10-14 diwrnod cyn y cyfarfod. Nododd y Dirprwy Swyddog Monitro nad oedd
sail i’r gwrthwynebiad hwn am y rhesymau uchod ac mai 3 diwrnod clir cyn
dyddiad y cyfarfod yw’r dyddiad olaf
gall dogfennaeth Cyfarfodydd Cyd-bwyllgor
Corfforedig Gogledd Cymru gael
eu cyhoeddi yn unol â’r
Cyfansoddiad. Er eglurder, eglurwyd bod Aelodau wedi derbyn y ddogfennaeth ar 24 Mehefin.
Mewn ymateb i ail sail gwrthod o fewn y llythyr sy’n nodi na ddylai Atodiad
6 (dogfen atodol ryngweithiol y Cynllun Cyflawni), fod wedi cael ei golygu oherwydd, er budd
tryloywder, dylai'r modd y mae ymgynghorydd yr is-bwyllgor ARUP yn mynd i'r
afael â'r seiliau dros wrthwynebiad, gan gynnwys y seiliau cyfreithiol a wnaed
yn eu gwrthwynebiad, fod yn y parth cyhoeddus, cadarnhaodd yr ymgynghorydd
ARUP bod y ddogfen hon yn cyfeirio at nifer o gynlluniau’r awdurdodau lleol a chadarnhawyd nad yw’n ddogfen
gyhoeddus oherwydd ei fod yn
cynnwys gwybodaeth fasnachol gyfrinachol. Nodwyd bod y mwyafrif health o’r wybodaeth ar
gael o fewn y Cynllun Cyflawni ei hun.
Mewn ymateb i’r drydedd
sail dros wrthod o fewn y llythyr, sy’n nodi bod cynlluniau priffyrdd o fewn Adolygiad Ffyrdd Llywodraeth Cymru wedi dod i ben yn
hytrach na’u hoedi, cadarnhaodd yr ymgynghorydd ARUP nad oes datblygiad ar y cynlluniau ac felly nid yw’r gwahaniaeth
hwn yn y termau yn gwneud
gwahaniaeth i hynny. Tynnwyd sylw bod swyddogion wedi cynnal trafodaethau
gyda Llywodraeth Cymru gan nodi bod dogfennaeth ddiwygiedig yn cyfeirio at y ffaith nad oes datblygiad
yn y cynlluniau hyn a byddai’r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn awyddus i
gefnogi adolygiad pellach o’r cynlluniau
sydd o fewn yr Adolygiad Priffyrdd yn y dyfodol.
Eglurwyd os na fyddai’r
Aelodau yn ystyried y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol drafft gan roi argymhellion
i’r Cyd-bwyllgor, ac yn gohirio’r drafodaeth
i gyfarfod arall o’r Is-bwyllgor
hwn, byddai hynny’n arwain at oblygiadau amserlenni. Manylwyd bod y Cyd-bwyllgor yn anelu i
gyfarch terfynau amser tynn er mwyn
i Lywodraeth Cymru roi cymeradwyaeth i’r Cynllun dros
yr haf. Ymhelaethwyd byddai hyn yn
caniatáu i’r Cynllun gael ei
gyhoeddi ym mis Medi. Fodd bynnag, sicrhawyd
byddai’r drafodaeth yn cael ei
ohirio i gyfarfod arall os byddai’r Aelodau yn cytuno eu
bod yn dymuno gwneud hynny. Adroddodd
y Dirprwy Swyddog Monitro nad oedd
gofyn cyfreithiol i’w ohirio gan
fod ystyriaeth fanwl wedi cael
ei wneud i’r llythyr a gyflwynwyd
gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru gan adrodd nad oedd
eu seiliau dros wrthod y drafodaeth
hon wedi profi’n deilwng.
Diolchwyd
i’r holl bartneriaid ar draws Gogledd
Cymru am eu cydweithrediad parhaus sydd wedi
arwain at ddyfodiad y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol hyd yma. Diolchwyd hefyd i ymgynghorwyr
ARUP am gydweithio’n agos gyda’r Cyd-bwyllgor Corfforedig er mwyn sicrhau bod drafft cynhwysfawr o’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (ac atodiadau ategol) yn cael
ei gyflwyno i’r Is-bwyllgor hwn a chyfarfod o Gyd-bwyllgor Corfforedig y
Gogledd.
Dogfennau ategol: