Agenda item

Alwen Williams (Prif Weithredwr) i gyflwyno’r Adroddiad.

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol awdurdod cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi.. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau gwerth am arian a’r allbwn cyfansawdd gorau . Mae’r elfennau sydd wedi eu duo allan yn cynrychioli ymateb gymesurol I'r gofyn yma gan warchod hawl y cyhoeddi gael gwybodaeth am gynllun rhanbarthol pwysig yma, yn unol â Pharagraff 14 o Atdoad 12A o Ddddf Llywodraeth Leol 1972.

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru a’r ddogfennaeth ategol er mwyn i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru er cymeradwyaeth a’i gyhoeddi gan y Gweinidog ym mis Medi 2025.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Brif Weithredwr CBC y Gogledd ac ymgynghorydd ARUP.

 

PENDERFYNWYD

 

Cymeradwyo’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru a’r ddogfennaeth ategol er mwyn i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru er cymeradwyaeth a’i gyhoeddi gan y Gweinidog ym mis Medi 2025.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Yn dilyn Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, mae Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru 2021 yn trosglwyddo’r swyddogaeth o ddatblygu polisïau trafnidiaeth mewn perthynas ag ardal pob un o’r Cynghorau Cyfansoddol i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig. Mae datblygu a gweithredu Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn swyddogaeth statudol a weithredir gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig drwy ei Is-bwyllgor, gyda chefnogaeth y Canllawiau i Gyd-bwyllgorau Corfforedig ar Gynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol (Fersiwn 2) 2023. Ar ôl cymeradwyo a chyhoeddi gan Lywodraeth Cymru, bydd y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ar gyfer rhanbarth Gogledd Cymru yn cael ei fabwysiadu gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig drwy ei broses weithredu i gyflwyno rhaglen fuddsoddi 5 mlynedd.

 

TRAFODAETH

 

Eglurwyd bod  y draft hwn o Gynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yn ogystal ag atodiadau ategol yn cael ei gyflwyno i’r Is-bwyllgor hwn er mwyn i’w Aelodau ei adolygu a chyflwyno argymhelliad gwybodus i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru er cymeradwyaeth y Gweinidog perthnasol erbyn Medi 2025. Pwysleisiwyd bod yr Adroddiad a holl atodiadau ategol a gyflwynwyd fel rhan o’r eitem hon yn ymateb i ganllawiau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ar sut y dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig lunio a Datblygu Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol.

 

Manylwyd ar Adroddiad yr Ymgynghoriad a gyflwynwyd fel rhan o’r Eitem gan egluro ei fod yn crynhoi’r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod yr 12 wythnos o ymgynghori cyhoeddus a gyflawnwyd rhwng 20 Ionawr a 14 Ebrill 2025. Mynegwyd balchder bod 1684 ymateb wedi cael ei gyflwyno i’r ymgynghoriad yn ystod y cyfnod hwn. Sicrhawyd bod yr ymatebion a dderbyniwyd wedi cyfrannu at y Cynllun, gan fod nifer o’i atodiadau ategol wedi cael eu haddasu yn unol â’r sylwadau a dderbyniwyd. Manylwyd bod rhai o’r prif addasiadau hyn yn cynnwys:

 

·         Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru - Mae ymrwymiad bellach i gydymffurfio â pholisïau Rhwydwaith Gogledd Cymru (Trafnidiaeth Cymru), gyda diweddariadau i ddyheadau rheilffordd a’r rhwydwaith bysiau. Tynnwyd sylw bod nifer o gynlluniau yn rhan o’r cynllun hwn a bod cydweithio gyda Thrafnidiaeth Cymru yn cynorthwyo datblygiadau posib i’r dyfodol megis Datblygu fflyd o drenau trydan, system ‘pay as you go’ er mwyn sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn hawdd i’w ddefnyddio a bod gwaith yn cael ei wneud er mwyn sicrhau bod trenau ar gael yn amlach ac yn gyson. Pwysleisiwyd bod y Cynllun a pherthynas ehangach y Cyd-bwyllgor gyda Thrafnidiaeth Cymru yn un hirdymor gyda’r tebygolrwydd bydd prosiectau yn esblygu ac addasu dros amser. Tynnwyd sylw bod nifer o addasiadau eraill wedi cael ei wneud i’r cynllun a bod rhai o’r rhain yn cynnwys sicrhau cymorth i drigolion a defnyddwyr gorsaf Treffynnon (gan nad yw uwchraddio’r orsaf hwn yn flaenoriaeth i Drafnidiaeth Cymru ar hyn o bryd), gwella cysylltiadau gyda’r we, i'r Iaith Gymraeg yn ogystal ag addasiadau pellach i’r Cynllun yn dilyn rheoliadau 20mya a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru.

·         Crynodeb Annhechnegol sicrhawyd bod y ddogfen hon wedi cael ei addasu i adlewyrchu’r amrywiol newidiadau sydd wedi cael eu gwneud i’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn dilyn sylwadau’r ymgynghoriad cyhoeddus.

·         Cynllun Cyflawni'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol - Pwysleisiwyd bod asesiad manwl o brosiectau a chostau wedi cael ei gyflawni ar y cyd gyda’r Awdurdodau Lleol, Trafnidiaeth Cymru a phartneriaid eraill. Eglurwyd bod gwybodaeth wedi cael ei gadarnhau o fewn y ddogfen hon sydd yn nodi sut bydd Cynllun y rhanbarth hwn yn cydweithio gyda’r Cynllun cenedlaethol. Ymhelaethwyd bod gwybodaeth am fforddiadwyedd wedi cael ei gynnwys o fewn y ddogfen sydd yn mynd i’r afael a chyllidebau Llywodraeth Cymru a’r arian sydd ar gael i ariannu’r amrywiol brosiectau. Manylwyd bod rhai o’r addasiadau eraill i’r ddogfen hon yn cynnwys gwybodaeth ar drefniant blaenoriaethu’r prosiectau a chynlluniau posib i ymestyn gwasanaethau Fflecsi megis Sherpa’r Wyddfa.

·         Arfarniad Llesiant Integredig - Nodwyd bod y ddogfen hon wedi cael ei haddasu i gyd-fynd a’r gofynion a osodwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn dilyn derbyn adborth gan Lywodraeth Cymru i wneud hynny.

·         Datganiad Ôl-fabwysiadu ar gyfer yr Arfarniad Llesiant Integredig - Eglurwyd bod y ddogfen hon yn newydd ac yn nodi sut mae’r Cynllun yn cydymffurfio gyda rheoliadau asesiadau amgylcheddol. Adroddwyd bod manylder yma ar sut y cyflawnwyd yr Arfarniad a’r effaith ehangach mae’n ei gael ar y Cynllun.

·         Adroddiad Ymgynghori - Adroddwyd bod y ddogfen Newydd hon yn manylu ar sut y cyflawnwyd yr Ymgynghoriad Cyhoeddus, ei effaith ar y Cynllun ehangach a sut mae ymatebion wedi cael eu hystyried.

·         Yr Achos dros Newid - Eglurwyd nad oes newid i’r ddogfen hon gan ei fod yn ddogfen gefnogol i’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol

 

Argymhellwyd y dylid sicrhau bod y Cyd-bwyllgor yn dirprwyo’r hawl i gywiro unrhyw fan addasiadau i’r Prif Weithredwr er mwyn sicrhau cywirdeb.

 

Tywyswyd yr Aelodau drwy’r camau nesaf o ddatblygu’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol gan gadarnhau bydd y Cynllun yn cael ei gyflwyno i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd. Cadarnhawyd mai’r Cyd-bwyllgor bydd yn penderfynu os ydynt yn dymuno cyflwyno’r Cynllun drafft i Lywodraeth Cymru er cymeradwyaeth. Nodwyd, unwaith bydd y Cynllun wedi cael ei gymeradwyo gan y llywodraeth, y byddai’n weithredol ar unwaith ac ni fydd angen ei ail-fabwysiadu gan y Cyd-bwyllgor a’r Awdurdodau Lleol.

 

Tynnwyd sylw bod aelodau’r Is-bwyllgor wedi derbyn llythyr gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn amlygu seiliau penodol dros wrthwynebu trafodaeth ar y Cynllun o fewn y cyfarfod hwn, gan nodi eu dyhead i’r Cyd-bwyllgor ymdrin â’r llythyr fel ychwanegiad i’w hymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus. Diolchwyd iddynt am eu llythyr gan bwysleisio bod swyddogion ac Aelodau wedi ei dderbyn a rhoi ystyriaeth ddwys iddo.

 

Manylwyd ar gynnwys y llythyr er mwyn darparu eglurder, gan fanylu ar bob sail dros wrthod y Cynllun. Mewn ymateb i’r sail gwrthod cyntaf sy’n nodi bod dogfennaeth y cyfarfod hwn wedi cael eu cyhoeddi ar 25 Mehefin gan gyfyngu ar amser Aelodau i’w hystyried, cydnabuwyd bod gwybodaeth fanwl iawn o fewn y ddogfennaeth. Fodd bynnag, sicrhawyd bod holl aelodau’r Is-bwyllgor hwn yn wybodus iawn am y Cynllun gan fod nifer o drafodaethau wedi cael eu cynnal ers Rhagfyr 2024 a bod yr Aelodau wedi bod yn weithredol iawn yn craffu’r ddogfennaeth o few neu awdurdodau lleol perthnasol a hefyd gydag Aelodau eraill yr Is-bwyllgor. Pwysleisiwyd nad oes penderfyniad ffurfiol yn cael ei gymeradwyo yn ystod y cyfarfod hwn ac ategu mai cyflwyno argymhellion i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd yw pwrpas y cyfarfod. Ymhelaethwyd bod yr Ymddiriedolaeth yn nodi y dylai’r ddogfennaeth gael ei gyhoeddi 10-14 diwrnod cyn y cyfarfod. Nododd y Dirprwy Swyddog Monitro nad oedd sail i’r gwrthwynebiad hwn am y rhesymau uchod ac mai 3 diwrnod clir cyn dyddiad y cyfarfod yw’r dyddiad olaf gall dogfennaeth Cyfarfodydd Cyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru gael eu cyhoeddi yn unol â’r Cyfansoddiad. Er eglurder, eglurwyd bod Aelodau wedi derbyn y ddogfennaeth ar 24 Mehefin.

 

Mewn ymateb i ail sail gwrthod o fewn y llythyr sy’n nodi na ddylai Atodiad 6 (dogfen atodol ryngweithiol y Cynllun Cyflawni), fod wedi cael ei golygu oherwydd, er budd tryloywder, dylai'r modd y mae ymgynghorydd yr is-bwyllgor ARUP yn mynd i'r afael â'r seiliau dros wrthwynebiad, gan gynnwys y seiliau cyfreithiol a wnaed yn eu gwrthwynebiad, fod yn y parth cyhoeddus, cadarnhaodd yr ymgynghorydd ARUP bod y ddogfen hon yn cyfeirio at nifer o gynlluniau’r awdurdodau lleol a chadarnhawyd nad yw’n ddogfen gyhoeddus oherwydd ei fod yn cynnwys gwybodaeth fasnachol gyfrinachol. Nodwyd bod y mwyafrif health o’r wybodaeth ar gael o fewn y Cynllun Cyflawni ei hun.

 

Mewn ymateb i’r drydedd sail dros wrthod o fewn y llythyr, sy’n nodi bod cynlluniau priffyrdd o fewn Adolygiad Ffyrdd Llywodraeth Cymru wedi dod i ben yn hytrach na’u hoedi, cadarnhaodd yr ymgynghorydd ARUP nad oes datblygiad ar y cynlluniau ac felly nid yw’r gwahaniaeth hwn yn y termau yn gwneud gwahaniaeth i hynny. Tynnwyd sylw bod swyddogion wedi cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru gan nodi bod dogfennaeth ddiwygiedig yn cyfeirio at y ffaith nad oes datblygiad yn y cynlluniau hyn a byddai’r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn awyddus i gefnogi adolygiad pellach o’r cynlluniau sydd o fewn yr Adolygiad Priffyrdd yn y dyfodol.

 

Eglurwyd os na fyddai’r Aelodau yn ystyried y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol drafft gan roi argymhellion i’r Cyd-bwyllgor, ac yn gohirio’r drafodaeth i gyfarfod arall o’r Is-bwyllgor hwn, byddai hynny’n arwain at oblygiadau amserlenni. Manylwyd bod y Cyd-bwyllgor yn anelu i gyfarch terfynau amser tynn er mwyn i Lywodraeth Cymru roi cymeradwyaeth i’r Cynllun dros yr haf. Ymhelaethwyd byddai hyn yn caniatáu i’r Cynllun gael ei gyhoeddi ym mis Medi. Fodd bynnag, sicrhawyd byddai’r drafodaeth yn cael ei ohirio i gyfarfod arall os byddai’r Aelodau yn cytuno eu bod yn dymuno gwneud hynny. Adroddodd y Dirprwy Swyddog Monitro nad oedd gofyn cyfreithiol i’w ohirio gan fod ystyriaeth fanwl wedi cael ei wneud i’r llythyr a gyflwynwyd gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru gan adrodd nad oedd eu seiliau dros wrthod y drafodaeth hon wedi profi’n deilwng.

 

Diolchwyd i’r holl bartneriaid ar draws Gogledd Cymru am eu cydweithrediad parhaus sydd wedi arwain at ddyfodiad y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol hyd yma. Diolchwyd hefyd i ymgynghorwyr ARUP am gydweithio’n agos gyda’r Cyd-bwyllgor Corfforedig er mwyn sicrhau bod drafft cynhwysfawr o’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (ac atodiadau ategol) yn cael ei gyflwyno i’r Is-bwyllgor hwn a chyfarfod o Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd.

 

Dogfennau ategol: